Mynd i'r cynnwys

Colegau arbenigol annibynnol

Negeseuon Cynnar


Addysgu a dysgu

At ei gilydd, mae colegau’n darparu cwricwlwm hyblyg i fodloni anghenion dysgwyr, ond mewn lleiafrif o golegau, nid yw gweithgareddau dysgu yn alinio’n gyson dda i anghenion dysgwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr mewn colegau arbenigol annibynnol yn gwneud cynnydd cadarn tuag at eu targedau unigol. Mae tua hanner y colegau wedi gwella prosesau i olrhain y cynnydd hwn yn ddiweddar.
  • Mae staff cymorth yn meithrin perthnasoedd waith cadarnhaol dros ben gyda dysgwyr ac yn ddelfryd ymddwyn gadarnhaol. Mewn tua hanner y colegau yr ymwelwyd â nhw, mae’r cymorth sensitif a medrus gan weithwyr cymorth dysgu yn gryfder nodedig.
  • Mae colegau’n darparu cwricwlwm hyblyg, wedi’i lywio gan ddiddordebau dysgwyr ac anghenion y dyfodol. Mewn tua hanner y colegau yr ymwelwyd â nhw, mae’r arlwy hwn yn cael ei gryfhau trwy gysylltiadau â cholegau addysg bellach prif ffrwd.
  • At ei gilydd, mae dysgwyr yn y lleoliadau hyn yn elwa ar gyfleoedd i ddatblygu medrau ymarferol mewn lleoliadau go iawn. Mae tua hanner y colegau yr ymwelwyd â nhw eleni wedi gwneud gwelliannau i’w hamgylcheddau dysgu.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn lleiafrif o golegau, mae dysgwyr yn llenwi taflenni gwaith nad ydynt yn hybu datblygiad eu medrau na’u dysgu. Ar ben hynny, nid yw’r gweithgareddau hyn yn cyfateb yn dda i lefel gallu’r dysgwr bob tro.
  • Mewn lleiafrif o golegau, mae ansawdd y cymorth dysgu yn rhy amrywiol.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

At ei gilydd, mae staff yn y colegau hyn yn meithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol â dysgwyr wedi’u seilio ar ddealltwriaeth gref o’u hanghenion a’u diddordebau.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae pob coleg wedi sefydlu amgylcheddau dysgu golau a chroesawgar lle roedd dysgwyr yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel.
  • Ym mhob un o’r colegau yr ymwelwyd â nhw, mae staff yn datblygu dealltwriaeth gref o anghenion a diddordebau dysgwyr ac yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol ac anogol â nhw.
  • Ym mhob un o’r colegau yr ymwelwyd â nhw, mae dysgwyr yn elwa ar gymorth tîm therapi. Lle’r oedd hyn yn fwyaf effeithiol, mae dysgwyr yn defnyddio’r cymorth hwn i ddatblygu medrau pwysig.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o golegau, mae presenoldeb dysgwyr yn faes i’w wella o hyd.
  • Mewn ychydig o golegau, mae diffyg eglurder a thrylwyredd yn y prosesau i gofnodi a mynd ar drywydd absenoldebau dysgwyr.

Arwain a gwella

Mae sefydlogrwydd arweinyddiaeth yn gwella, ond mae hunanwerthuso yn faes i’w wella o hyd mewn tua hanner y colegau.

Beth sy’n mynd yn dda

  • At ei gilydd, mae arweinyddiaeth ar draws y sector yn fwy cyson nac yn yr ychydig flynyddoedd blaenorol. Mae gan fwyafrif y colegau dîm arweinyddiaeth sefydlog sydd â gweledigaeth glir sy’n canolbwyntio ar y dysgwr.
  • Ym mwyafrif y colegau yr ymwelwyd â nhw eleni, mae arweinwyr wedi sefydlu tîm staff ymroddedig. Mae staff yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol â dysgwyr wedi’u seilio ar ddealltwriaeth gref o’u hanghenion a’u diddordebau emosiynol.
  • Mewn tua hanner y colegau, cryfhawyd cysylltiadau ag uwch dîm arweinyddiaeth y rhiant-sefydliad. O ganlyniad, mae arweinwyr yn elwa ar gymorth a her briodol.
  • Mae tua hanner y colegau wedi cryfhau prosesau cynllunio gwelliant yn ddiweddar.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn tua hanner y colegau, nid yw prosesau hunanwerthuso yn canolbwyntio’n gyson ar effaith addysgu ar ddysgu.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau ac ymweliadau monitro

  • Dros y chwe ymweliad a gwblhaom eleni sydd wedi cyhoeddi adroddiadau, gadawom gyfanswm o 11 o argymhellion. Cafodd bron pob un o’r colegau argymhellion ar ôl ymweliad neu arolygiad.
  • Roedd argymhellion yn ymwneud ag addysgu a dysgu yn canolbwyntio ar ansawdd cymorth dysgu a sicrhau bod ansawdd profiadau dysgu yn cyfateb yn dda i anghenion dysgwyr.
  • Roedd mwyafrif yr argymhellion yn ymwneud ag arwain a gwella, gan ganolbwyntio’n benodol ar wella prosesau sicrhau ansawdd.

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

Addysgu a dysgu

Coleg Elidyr: Adroddiad arolygu

 

Coleg Elidyr – Dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru

Mae dysgwyr sy’n cymryd rhan yn y ‘Clwb Clonc’ yn dangos agweddau cadarnhaol tuag at y Gymraeg a diwylliant Cymru. Maent yn ymgysylltu’n dda â gweithgareddau y mae’r coleg wedi’u datblygu i wella eu medrau Cymraeg. Lle bo modd, mae’r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg rhugl yn sgwrsio’n naturiol â’u tiwtoriaid a’u cyfoedion mewn sgyrsiau un-i-un gan ddefnyddio’r Gymraeg.

Coleg Elidyr – Cyfoethogi’r cwricwlwm

Mae’r coleg yn defnyddio ystod o weithgareddau ychwanegol o ansawdd uchel i gyfoethogi’r cwricwlwm. Er enghraifft, mae’r coleg yn annog dysgwyr i gymryd rhan mewn cystadlaethau lleol a chenedlaethol i feithrin medrau galwedigaethol. Mae dysgwyr yn arddangos eu medrau’n llwyddiannus, gydag ychydig o ddysgwyr yn ennill medalau aur ac arian ar lefel genedlaethol. Ar ben hynny, mae ychydig o ddysgwyr yn ennill aur ar gyfer Gwobr Dug Caeredin a’r Wobr Arweinydd Ifanc ar ôl dangos galluoedd arwain a chwblhau alldaith pedwar diwrnod yn llwyddiannus. Mae bron pob un o’r dysgwyr yn cymryd rhan mewn lleoliadau profiad gwaith perthnasol. Mae tua hanner ohonynt yn cefnogi dysgwyr i integreiddio yn y gymuned leol, er enghraifft lleoliadau mewn ystadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, amgueddfeydd, stablau ceffylau a busnesau lleol.

Gofal, cymorth a lles

Aspris College South Wales: Adroddiad arolygu

 

The Aspris Hwb – siop goffi

Mae dysgwyr yn datblygu ystod o fedrau pwysig ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol yn siop goffi’r coleg. Mae hwn ar agor bob amser cinio i aelodau’r cyhoedd ac yn gwerthu prydau bwyd, byrbrydau a diodydd poeth. Mae arweinwyr wedi cynllunio’r ddarpariaeth hon fel cyfrwng i ddatblygu ystod o fedrau, er enghraifft medrau cymdeithasol, hylendid bwyd sylfaenol, coginio a medrau arian.

Mae dysgwyr yn llenwi cais i gael eu hystyried ar gyfer y rôl ac yna’n llofnodi contract â’r coleg wrth gael eu penodi. Wrth baratoi ar gyfer lleoliadau, maent yn cwblhau cymwysterau achrededig mewn hylendid bwyd a hyfforddiant barista, y gellid eu trosglwyddo i gyflogaeth yn y dyfodol.

Aspris College South Wales – Gweithio mewn partneriaeth er mwyn pontio’n gadarnhaol

Mae gan bob un o’r dysgwyr lwybrau pontio unigol pan fyddant yn ymuno â’r coleg, sy’n cael eu hadolygu’n rheolaidd ac yn sicrhau y cânt eu cefnogi i gyflawni eu diddordebau hirdymor, eu hamcanion addysg a’r cymorth sydd ei angen. Mae hyn yn galluogi’r coleg i ddatblygu nodau. Mae gwybodaeth werthfawr yn cael ei chasglu am ddysgwyr yn ystod eu hasesiad, sy’n cynnwys eu holrheinwyr llwybr priodol personol ar gyfer pob dysgwr.

Mae perthynas gref rhwng Aspris College a Choleg Gwent. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd rhwng arweinwyr y colegau lle caiff gwybodaeth bwysig ei rhannu am bob un o’r dysgwyr cyfredol a darpar ddysgwyr. Mae staff y coleg yn elwa ar arsylwi sesiynau yng Ngholeg Gwent i wella a datblygu eu harfer addysgu eu hunain, yn ogystal â’u galluogi i ddarparu gwybodaeth gywir am gyrsiau i’w dysgwyr. O ganlyniad, mae llawer o ddysgwyr yn pontio’n llwyddiannus o Aspris College i Goleg Gwent i barhau â’u haddysg.