Mynd i'r cynnwys

Cynradd

Negeseuon Cynnar


Addysgu a dysgu

Mae ysgolion yn gweithio i ddatblygu addysgu effeithiol i gefnogi dysgu disgyblion trwy ystod eang o brofiadau dysgu ystyrlon.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae mwyafrif yr ysgolion wedi gwneud cynnydd cryf o ran rhoi Cwricwlwm i Gymru ar waith. Yn gyffredinol, mae’r ysgolion hyn yn cynllunio ystod eang o brofiadau dysgu difyr, gan wneud defnydd da o’u hardal leol a’u cymuned.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai sydd ag ADY a’r rhai o gefndiroedd ag incwm isel, yn gwneud cynnydd da o ran datblygu eu medrau a’u gwybodaeth yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol gynradd.
  • Mae medrau llefaredd a darllen disgyblion yn parhau i ddatblygu’n dda yn y rhan fwyaf o ysgolion. Mae ychydig o ysgolion wedi datblygu darpariaeth eithriadol i ddatblygu medrau iaith a chyfathrebu disgyblion o oedran ifanc.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae athrawon yn gwerthuso’n bwrpasol pa mor dda y mae addysgu a phrofiadau dysgu yn cefnogi cynnydd disgyblion. Yn yr ysgolion hyn, maent yn defnyddio adborth llafar yn effeithiol i helpu disgyblion i wneud cynnydd yn ystod gwersi.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn lleiafrif o ysgolion, mae ansawdd yr addysgu yn rhy anghyson. Nid yw athrawon yn cynllunio’n effeithiol ac nid ydynt yn rhoi adborth pwrpasol i ddisgyblion i sicrhau eu bod yn gwneud y cynnydd y dylent.
  • Mae lleiafrif o ysgolion yn darparu cyfleoedd addas i ddisgyblion gymhwyso eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol yn annibynnol mewn cyd-destunau ystyrlon. Yn rhy aml, nid yw ysgolion wedi datblygu eu dealltwriaeth o ddilyniant yn ddigon da ac nid yw disgyblion yn cymhwyso eu medrau ar lefel ddigon uchel.
  • Mae ysgolion yn dechrau darparu ychydig o gyfleoedd i ddisgyblion ddysgu am gymeriad unigryw Cymru. Mae ychydig o ysgolion yn adlewyrchu profiadau cymunedau Pobl Ddu ac Asiaidd yn y cwricwlwm yn effeithiol ond, ar y cyfan, nid yw ysgolion yn ystyried yr ystod amrywiol o gefndiroedd a safbwyntiau a geir mewn cymdeithas yn ddigonol.
  • At ei gilydd, mae medrau llefaredd Cymraeg disgyblion yn wan o hyd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae ysgolion wedi gweithio’n effeithiol i sicrhau lefelau da o ofal, cymorth ac arweiniad i gefnogi disgyblion â’u lles.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae darpariaeth ar gyfer lles, gofal, cymorth ac arweiniad yn gyson gryf ar draws ysgolion. Mae agweddau disgyblion at ddysgu yn gadarnhaol yn y rhan fwyaf o ysgolion ac maent yn ymgysylltu’n dda â’u dysgu.
  • Yn y rhan fwyaf o achosion, mae ysgolion yn gweithio’n dda i leihau effaith tlodi a difreintedd ar bresenoldeb, ymgysylltiad a lles cyffredinol disgyblion.
  • Mae mwyafrif yr ysgolion wedi gwella ffigurau presenoldeb disgyblion ac wedi llwyddo i ddychwelyd at y cyfraddau cyn y pandemig neu wedi rhagori arnynt.
  • Mae ysgolion wedi addasu’n greadigol ac yn bwrpasol i newidiadau diwygio ADY gan ddarparu cymorth meddylgar a thargedig effeithiol i ddisgyblion ag ADY.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw ysgolion yn datblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol effeithiol bob tro. Mae hyn yn aml o ganlyniad i wersi sy’n rhy strwythuredig. Yn aml, nid yw disgyblion yn glir ynghylch diben eu dysgu, beth maent yn ei wneud yn dda a beth mae angen iddynt ei wneud i wella.
  • Lle mae presenoldeb ysgolion yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol, mae bwlch sylweddol o hyd ar gyfer y disgyblion hynny o gyd-destunau economaidd-gymdeithasol difreintiedig ac, mewn lleiafrif o ysgolion, mae presenoldeb islaw’r ffigurau cyn y pandemig o hyd. Gweld yr adnodd
  • Mae mwyafrif yr ysgolion yn cynnig profiadau cyfyngedig, ac sy’n aml yn gul, i ddisgyblion ddatblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o hanes ac amrywiaeth eu cymunedau, Cymru a’r byd ehangach.

Arwain a gwella

Mae arweinwyr wedi dangos hyblygrwydd yn eu hymagwedd at wella ysgolion i roi ystyriaeth dda i flaenoriaethau cenedlaethol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mewn llawer o achosion, mae gan arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer eu hysgolion. Yn yr ysgolion hyn, mae staff yn hynod ymatebol i anghenion eu disgyblion a’u teuluoedd ac yn gweithredu fel rhan annatod o’r gymuned.
  • Mae arweinwyr yn creu cysylltiadau effeithiol rhwng dysgu proffesiynol a gwella ansawdd addysgu. Maent yn cynllunio datblygiad staff yn ofalus i gyd-fynd â blaenoriaethau gwella’r ysgol.
  • Mae llawer o ysgolion yn cydweithio’n llwyddiannus ag ysgolion eraill i rannu arfer dda a datblygu a gwella eu gwaith, yn gysylltiedig â blaenoriaethau cenedlaethol.
  • Mae llawer o ysgolion yn cydweithio’n agos ag ystod o sefydliadau i gael gwared ar rwystrau rhag lles a dysgu i ddisgyblion ag ADY a’r rhai sydd o aelwydydd ag incwm isel.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw prosesau hunanwerthuso a gwella yn canolbwyntio’n ddigon clir ar ddeilliannau disgyblion ac nid ydynt yn nodi meysydd allweddol i’w gwella mewn addysgu a dysgu.
  • Er bod llywodraethwyr yn aml yn chwarae rhan weithredol ym mywyd yr ysgol mewn llawer o ysgolion, mae llywodraethwyr yn or-ddibynnol ar wybodaeth gan arweinwyr ysgolion o hyd. Mewn rhai achosion, nid yw llywodraethwyr yn ddigon gwybodus i nodi a mesur blaenoriaethau gwella eu hysgol. Nid ydynt yn ystyried effaith cyllid grant ar ddeilliannau disgyblion bob tro.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, arolygodd Estyn 259 o ysgolion cynradd.

83

Cafodd 83 (32%) o ysgolion cynradd argymhelliad yn ymwneud â darparu neu wella cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu neu gymhwyso eu medrau, yn enwedig eu medrau rhifedd, ysgrifennu, darllen neu ddigidol. Cafodd 46 o ysgolion argymhelliad i ddarparu neu wella cyfleoedd i ddatblygu medrau dysgu annibynnol disgyblion, ac argymhellwyd bod 21 ohonynt yn cefnogi disgyblion i gyfrannu mwy at benderfyniadau am eu dysgu eu hunain.

49

Rhoddwyd argymhelliad i 49 (18.9%) o ysgolion yn ymwneud â datblygu medrau Cymraeg, gan gynnwys 13 o ysgolion cyfrwng Cymraeg. O’r 49 hynny, cafodd naw ohonynt argymhelliad i wella darpariaeth addysgu Cymraeg.

47

Rhoddwyd argymhelliad i 47 (18.2%) o ysgolion sicrhau bod yr addysgu yn herio pob disgybl yn ddigonol. Rhoddwyd argymhelliad i 48 (18.6%) yn ymwneud â rhoi adborth priodol, gan gynnwys darparu cyfleoedd i ddisgyblion ymateb i adborth, gan sicrhau bod adborth yn helpu disgyblion i nodi a gweithio tuag at y camau nesaf yn eu dysgu neu i wella eu gwaith.

46

Cafodd 46 (17.8%) o ysgolion cynradd argymhelliad yn ymwneud â gwella effeithiolrwydd gweithgareddau hunanwerthuso a gwella’r ysgol, a oedd yn canolbwyntio’n amrywiol ar wella ansawdd addysgu a dysgu, rhoi sylw i’r blaenoriaethau pwysicaf ar gyfer gwella, a chynnydd disgyblion.

26

Rhoddwyd argymhelliad i 26 (10%) o ysgolion cynradd yn ymwneud â gwella presenoldeb. Cafodd 10 o’r darparwyr hyn ganlyniad o naill ai Adolygu gan Estyn, gwelliant sylweddol neu fesurau arbennig o’u harolygiad.

9

Cafodd 9 (3.5%) o ysgolion cynradd argymhelliad yn ymwneud â mynd i’r afael â materion iechyd a diogelwch a nodwyd yn ystod arolygiad, a rhoddwyd argymhelliad i 7 o ysgolion i fynd i’r afael â phryderon diogelu.


Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiad

Addysgu a dysgu

Ysgol Gynradd Langstone

Adroddiad arolygu

Astudiaeth achos, sut yr ymatebodd Ysgol Gynradd Langstone yng Nghasnewydd i ddiwygio’r cwricwlwm i fodloni anghenion dysgwyr.

Ysgol Gynradd Y Bont-faen

Adroddiad arolygu

Astudiaeth achos, sut y defnyddiodd Ysgol Gynradd y Bont-faen ym Mro Morgannwg ffocws creadigol cryf i wella iaith a cyfathrebu, creadigrwydd ac annibyniaeth disgyblion.

Gofal, cymorth a lles

Ysgol Cae’r Gwenyn

Darllenwch sut nododd Ysgol Cae’r Gwenyn yn Wrecsam strategaeth ysgol gyfan i ddatblygu medrau cyfathrebu disgyblion cyn iddynt ddechrau siarad.

Arweinyddiaeth

Ysgol Gynradd Dolau

Adroddiad arolygu

Astudiaeth achos: Sut y datblygodd Ysgol Gynradd Dolau ym Mhont-y-clun arweinwyr ar bob lefel i sicrhau arweinyddiaeth wydn.

Ysgol Gynradd Troed-y-rhiw

Adroddiad arolygu

Astudiaeth achos: Creodd Ysgol Gynradd Troed-y-rhiw ger Merthyr Tudful grwpiau gwella llywodraethwyr buddiol i wella gallu’r corff llywodraethol i gynorthwyo uwch arweinwyr.