Mynd i'r cynnwys

Dysgu oedolion yn y gymuned

Negeseuon Cynnar


Addysgu a dysgu

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cadarn yn eu gwersi ac mae ganddynt berthynas gadarnhaol â’u tiwtoriaid, ond nid yw partneriaethau’n gwerthuso pa mor dda y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd yn y tymor hwy yn ddigon da nac yn cynnig digon o ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cadarn yn eu sesiynau. Dros gyfnod hwy, gwna’r rhan fwyaf o ddysgwyr gynnydd addas o ran datblygu eu medrau yn erbyn eu mannau cychwyn ac wrth gyflawni nodau eu cymhwyster.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn deall beth mae angen iddynt ei wneud i wella trwy ddefnyddio cynllun dysgu unigol neu drwy adborth gan eu tiwtoriaid.
  • Mae’r berthynas broffesiynol rhwng tiwtoriaid a’u dysgwyr yn gryf ac mae tiwtoriaid yn adnabod eu dysgwyr yn dda. Yn aml, mae tiwtoriaid yn teilwra lefel a chynnwys yr hyn y maent yn ei gyflwyno yn dda i fodloni anghenion, diddordebau a dewisiadau dysgwyr.
  • At ei gilydd, ar draws y partneriaethau y gwnaethom eu harolygu, mae cydbwysedd addas rhwng rhaglenni heb eu hachredu a rhaglenni achrededig, sy’n cynnig cyfleoedd addas i ddysgwyr ennill cymwysterau perthnasol.

Beth sydd angen ei wella

  • Hyd yn oed mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yn eang ymhlith y boblogaeth leol, mae partneriaethau’n cynnig ychydig iawn neu ddim darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n golygu nad yw dysgwyr neu gymunedau Cymraeg eu hiaith yn cael cyfle i elwa ar raglenni dysgu oedolion yn y gymuned trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Nid yw partneriaethau’n gwerthuso sut mae dysgwyr yn symud ymlaen trwy eu darpariaeth yn ddigon da. Nid ydynt yn defnyddio gwybodaeth o systemau gwybodaeth reoli (MIS) yn ddigon da i olrhain a monitro cynnydd tymor hwy dysgwyr.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae dysgwyr yn mwynhau eu dysgu ac yn gwerthfawrogi’r cyfle am ail gyfle i ddysgu a’r manteision i’w lles a’u hiechyd meddwl a ddaw yn ei sgil.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae’r awyrgylch mewn dosbarthiadau dysgu oedolion yn y gymuned yn gynhyrchiol ac yn gadarnhaol bron bob amser.
  • Mae dysgwyr yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddychwelyd i ddysgu, yn mwynhau eu profiad ac yn gwerthfawrogi gwaith eu tiwtoriaid. Mae dysgwyr yn gefnogol i’w gilydd, gan gynnig cymorth ac anogaeth i’w cymheiriaid.
  • Mae llawer o ddysgwyr hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfle am gyfeillgarwch a’r rhyngweithio cymdeithasol y mae dysgu yn ei gynnig, ac yn aml yn disgrifio’r effaith gadarnhaol y mae dysgu a mynychu eu sesiynau yn ei chael ar eu hiechyd meddwl a’u lles.
  • Mae darparwyr yn creu amgylcheddau diogel a gofalgar sy’n cefnogi datblygiad addysgol a phersonol dysgwyr.

Beth sydd angen ei wella

  • Lle’r oedd gweithio mewn partneriaeth yn wannach, mae cyfleoedd i roi cymorth traws-darparwr i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn llai datblygedig ac yn llai effeithiol.

Arwain a gwella

Mae pryderon sylweddol ynghylch y sector o ran gweithio mewn partneriaeth, gallu arweinwyr a pharhad. Mae ychydig o ddarparwyr wedi lleihau neu roi’r gorau i gynnig darpariaeth, gan nodi cyfyngiadau cyllidebol. Er bod darparwyr wedi gweithio’n dda i ddefnyddio cyllid Lluosi i gynnig darpariaeth rhifedd newydd, mae partneriaethau wedi wynebu heriau o ran recriwtio dysgwyr a thiwtoriaid ac o ran cynllunio i ddychwelyd i’r arfer pan fydd cyfnod cyllid Lluosi yn dod i ben.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Ar draws y sector, mae rhywfaint o welliant yn y ffordd mae partneriaethau’n defnyddio eu gwefannau i roi gwybod i ddysgwyr a darpar ddysgwyr am eu darpariaeth.
  • Mae partneriaethau’n gweithio’n dda i gydlynu’r ddarpariaeth y maent yn ei chynnig trwy fenter ‘Lluosi’ Llywodraeth y DU.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae ansawdd gweithio mewn partneriaeth ac arweinyddiaeth yn parhau i fod yn faes â ffocws sy’n peri pryder sylweddol.
  • Mae un awdurdod lleol wedi penderfynu rhoi’r gorau i’w ddarpariaeth partneriaeth DOG yn gyfan gwbl ac mae darparwr arall wedi lleihau maint ei ddarpariaeth wyneb-yn-wyneb ar draws ei ardal ddaearyddol. Yn y ddau achos, mae darparwyr yn nodi cyfyngiadau cyllidebol fel ffactor sylweddol yn eu penderfyniadau. Mae’r datblygiadau hyn yn peri pryder.
  • Mewn ychydig o bartneriaethau, mae ad-drefnu, newidiadau mewn rolau neu fethiant i benodi personél allweddol newydd yn cael effaith negyddol ar waith y bartneriaeth a darpariaeth i ddysgwyr.
  • Er bod Lluosi wedi creu ffynhonnell gyllid newydd i ddarparwyr gynnig cyrsiau i wella rhifedd oedolion, mae partneriaethau’n aml yn wynebu heriau o ran recriwtio dysgwyr a thiwtoriaid yn yr amserlenni byr sydd ar gael, ac o ran cynllunio’r ffordd orau i sicrhau pontio effeithiol yn ôl i ‘fusnes fel arfer’ pan fydd cyfnod y cyllid yn dod i ben.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, arolygodd Estyn chwe darparwr DOG.

4

Cafodd bedwar ohonynt argymhellion yn ymwneud â darpariaeth cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog. Argymhellwyd bod tri ohonynt yn cynyddu cyfleoedd dysgu cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, ac un ohonynt yn datblygu ac yn hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

3

Rhoddwyd argymhelliad i dri darparwr yn ymwneud â gweithio mewn partneriaeth. Cafodd un ohonynt argymhelliad i ehangu ystod y partneriaid sy’n cyfrannu at gynllunio darpariaeth ac argymhellwyd bod un ohonynt yn sicrhau cynrychiolaeth a chyfranogiad ystyrlon gan bartneriaid allweddol ar lefel strategol a gweithredol. Rhoddwyd dau argymhelliad i’r darparwr gwannaf yn ymwneud â’r agwedd hon, sef:

  • Datblygu cynllun strategol ar gyfer y bartneriaeth, gyda gweledigaeth gyffredin yn sail iddo
  • Datblygu dull partneriaeth ar gyfer hunanwerthuso a monitro ansawdd strwythuredig er mwyn cyrraedd targedau a chofnodi effaith

2

Rhoddwyd argymhelliad i ddau ddarparwr i sicrhau bod darpar ddysgwyr a dysgwyr presennol yn gallu manteisio ar wybodaeth am gyrsiau a llwybrau dilyniant y darparwyr yn rhwydd.

Yn y ddarpariaeth wannaf, roedd yr argymhellion yn canolbwyntio ar gefnogi ac olrhain cynnydd dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd i weithio tuag at achrediad neu gymwysterau, lle bo hynny’n briodol, a gwella gweithdrefnau ac arferion arweinyddiaeth strategol.


Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

Addysgu a dysgu

Rhondda Cynon Taf

Adroddiad arolygu

Astudiaeth achos – Dydd Gwener Digidol, sef menter sy’n cyfeirio dysgwyr i ddarpariaeth, yn cefnogi dysgwyr presennol, yn hyrwyddo annibyniaeth, yn cefnogi tiwtoriaid, ac yn galluogi dysgu parhaus a datblygiad medrau.