Mynd i'r cynnwys

GALlL

Negeseuon Cynnar


Deilliannau a gwasanaethau addysg

Lle mae awdurdodau lleol yn cefnogi ysgolion yn effeithiol, maent yn defnyddio ystod eang o wybodaeth i nodi ysgolion y mae angen cymorth arnynt a sicrhau ansawdd gwaith swyddogion a phartneriaid gwella ysgolion yn effeithiol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae gan swyddogion awdurdodau lleol a phartneriaid gwella ysgolion berthynas broffesiynol gref ag arweinwyr mewn ysgolion. Yn yr awdurdodau a arolygwyd, maent yn aml yn gweithio’n fuddiol ag ysgolion i gefnogi prosesau sicrhau ansawdd.
  • Mae awdurdodau lleol yn casglu ystod eang o wybodaeth am ysgolion, gan gynnwys gwybodaeth am gyllid, adnoddau dynol, presenoldeb a gwella ysgolion. Yn aml, maent yn defnyddio’r wybodaeth hon yn bwrpasol i nodi ysgolion y mae angen cymorth arnynt.
  • Yn yr enghreifftiau gorau, mae gan awdurdodau lleol systemau clir i sicrhau ansawdd gwaith swyddogion a phartneriaid gwella ysgolion er mwyn sicrhau cysondeb ac ansawdd.
  • Yn yr awdurdodau lleol a arolygwyd, mae systemau i gefnogi ysgolion mewn categorïau gweithgarwch dilynol Estyn yn aml yn gadarn ac, yn y rhan fwyaf o achosion, yn arwain at welliannau amserol.
  • Mae pob un o’r pedwar awdurdod yn gwneud cynnydd da o ran gwella eu gwasanaethau ADY ac yn darparu ystod eang o wasanaethau i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY, eu teuluoedd, ysgolion a lleoliadau.
  • Mae pob awdurdod a arolygwyd yn datblygu gwaith canolfannau trochi yn dda i gefnogi hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw partneriaid gwella ysgolion yn canolbwyntio’n ddigon da ar y cynnydd a wneir gan ddisgyblion mewn gwersi a thros gyfnod, bob tro, wrth gasglu tystiolaeth uniongyrchol ar ansawdd addysgu a dysgu.
  • Er bod awdurdodau lleol yn datblygu eu darpariaeth i liniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, nid ydynt bob amser yn ystyried sut y byddant yn gwella dysgu, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion sy’n byw mewn aelwydydd ag incwm isel.
  • Mewn un awdurdod, roedd gwaith i leihau gwaharddiadau yn llai effeithiol ac mae gwaharddiadau am gyfnod penodedig a gwaharddiadau parhaol yn rhy uchel.
  • Er bod presenoldeb wedi gwella yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, mae cyfraddau presenoldeb, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd, yn is na chyn y pandemig o hyd. Nid yw ymyriadau i fynd i’r afael â diffygion wedi cael digon o effaith ar wella lefelau presenoldeb hyd yn hyn, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd.

Arwain a gwella

Mae arweinwyr yn rhannu ymdeimlad cryf o ddiben moesol ac yn sicrhau bod staff yn cydweithio i gyflawni eu blaenoriaethau.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae gan bob un o’r pedwar awdurdod weledigaeth glir ar gyfer addysg ac ymdeimlad cryf o ddiben moesol.
  • Mae’r awdurdodau lleol a arolygwyd gennym yn deall y pwysau ariannol y mae darparwyr yn eu hwynebu yn dda ac yn gweithio ag ysgolion a lleoliadau i reoli hyn.
  • Yn gyffredinol, mae aelodau etholedig yn craffu ar waith gwasanaethau addysg yn briodol.
  • Yn gyffredinol, mae staff mewn gwasanaethau addysg yn cydweithio’n effeithiol i gyflawni eu blaenoriaethau. Mewn dau o’r pedwar awdurdod lleol a arolygwyd gennym, gofynnom am astudiaethau achos ar weithio trawsgyfarwyddiaethol.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw agweddau ar werthuso a chynllunio gwelliant yn ddigon miniog ac nid ydynt yn helpu awdurdodau i nodi’n union y meysydd i’w gwella. Er enghraifft, mewn un awdurdod, nid oedd gan y gwasanaeth anghenion dysgu ychwanegol ymagwedd systematig at sicrhau ansawdd ei wasanaeth.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Arolygwyd gwasanaethau addysg pedwar awdurdod lleol yn ystod 2023-2024.

  • Cafodd dau awdurdod lleol argymhelliad a oedd yn canolbwyntio ar wella presenoldeb.
  • Cafodd pedwar awdurdod lleol argymhelliad i gryfhau agweddau ar eu prosesau gwerthuso a gwella. Fe wnaeth hyn ganolbwyntio ar werthuso effaith gwaith yr awdurdod lleol ar ddeilliannau dysgwyr.
  • Rhoddwyd argymhelliad i un awdurdod lleol i wella’r prosesau a’r strategaethau i gefnogi a herio ysgolion i leihau cyfraddau gwaharddiadau am gyfnod penodedig a gwaharddiadau parhaol.
  • Rhoddwyd argymhelliad i un awdurdod lleol wella ansawdd a defnydd gwybodaeth am addysgu a dysgu mewn ysgolion i alluogi’r awdurdod i gyfeirio adnoddau yn y ffordd orau at feysydd i’w gwella.

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

Cyngor Sir Ceredigion

Inspection report

Pa mor dda y mae’r awdurdod lleol yn cefnogi ei ysgolion a’i leoliadau i wella addysgu ac arweinyddiaeth?

Mae tîm data’r awdurdod yn darparu data cynhwysfawr am berfformiad disgyblion mewn arholiadau allanol, gan gynnwys sut maent wedi perfformio wrth ateb cwestiynau unigol. Defnyddir y data lefel eitem hon i lywio trafodaethau dadansoddol mewn cyfarfodydd rhwydweithiau pwnc ôl-14. Mae hyn yn galluogi arweinwyr pwnc i adnabod cryfderau a meysydd i’w datblygu ym mherfformiad disgyblion a thrwy hyn, nodi o fewn yr awdurdod ble mae arferion cryf a pha agweddau ar addysgu sydd angen eu gwella. O ganlyniad, caiff rhannu arferion effeithiol a gwaith ysgol-i-ysgol buddiol ei hwyluso.

Pa mor effeithiol yw trefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer datblygu’r Gymraeg?

Defnyddir arbenigeddau aelodau’r Tîm Cefnogi’r Gymraeg a’r adran diwylliant yn effeithiol iawn i gefnogi ysgolion sy’n newid cyfrwng iaith. Maent yn darparu datblygiad proffesiynol buddiol iawn i staff trwy eu gwefan, ‘Câr-di-Iaith’, yn ogystal â sicrhau cefnogaeth gynhaliol sy’n ymateb yn llwyddiannus iawn i anghenion penodol rhanddeiliaid yr ysgolion. Mae swyddogion yn cydweithio’n fwriadus â phartneriaid lleol fel Dysgu Cymraeg Ceredigion a Menter Iaith Ceredigion (Cered) i ddarparu cyfleoedd i rieni ddysgu’r Gymraeg a chymryd rhan mewn sesiynau creadigol hwylus. Mae hyn yn cyfrannu’n dda iawn at baratoadau i newid cyfrwng iaith dysgu sylfaen o fewn ysgolion cynradd Saesneg.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Mae’r awdurdod yn croesawu ac ystyried yn ofalus farn rhanddeiliaid, er enghraifft penaethiaid, rhieni, plant a phobl ifanc a thrigolion, er mwyn atgyfnerthu eu dealltwriaeth o farn pobl ynglŷn ag ansawdd eu gwaith, ac yn arbennig felly er mwyn teilwra gwasanaethau i’r dyfodol. Enghraifft dda yw’r modd y mae’r awdurdod yn mynd ati’n weithredol iawn i ganfod barn disgyblion a’u cynnwys mewn penderfyniadau. Mae’r prif weithredwr, yr uwch swyddogion a’r aelodau etholedig yn ymfalchïo mewn, ac yn annog, cyfraniad plant a phobl ifanc Ceredigion, ac o ganlyniad, maent yn dylanwadu ar gyfeiriad strategol yr awdurdod mewn agweddau penodol, er enghraifft addysg ôl-16 a chynllun strategol y Gymraeg mewn addysg. Mae aelodau’r Cyngor Ieuenctid yn amlygu lefel uchel o ddealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd o fewn y gwasanaethau addysg yng Ngheredigion. Maent yn hyderus wrth enghreifftio sut mae eu sylwadau wedi dylanwadu ar wella gwasanaethau.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Mae’r Prif Swyddog Addysg yn ysbrydoli’r tîm y mae’n ei arwain, gan ddarparu arweinyddiaeth strategol, empathetig, ac eto cadarn. Mae hi’n gosod disgwyliadau uchel i bawb ac yn dangos ymddygiadau proffesiynol rhagorol. Mae’r uwch dîm yn y gwasanaeth addysg yn cefnogi’r Prif Swyddog Addysg yn fedrus a, gyda’i gilydd, maent yn ymgorffori’r ymagwedd ‘Tîm Caerffili’. Maent yn ffurfio perthnasoedd cryf ag ysgolion, lleoliadau ac UCDau, lle mae arweinwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n dda, ac eto’n cael eu herio i gyflawni eu huchelgeisiau a rennir ar gyfer llwyddiant dysgwyr. Un o gryfderau diwylliannol nodedig y gwasanaeth yw’r ffordd y mae’r Prif Swyddog Addysg yn arwain trwy esiampl trwy flaenoriaethu lles staff mewn ysgolion ac yn y gwasanaeth, ar yr un pryd â sicrhau bob amser bod anghenion plant a phobl ifanc wrth wraidd pob penderfyniad. Mae’r Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol yn ymddiried yn y gwasanaeth i gyflawni ei flaenoriaethau ac yn mynd ati i ddileu unrhyw rwystrau rhag llwyddiant. O ganlyniad, mae staff yn y gwasanaeth drwyddo draw yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn gyfrifol, ac maent yn falch o hyrwyddo’r neges bwysig na ddylai neb gael ei gyfyngu gan ei amgylchiadau.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pa mor effeithiol y mae’r awdurdod lleol yn cynllunio ar gyfer ad-drefnu ysgolion a threfniadau ffederasiwn?

Pan fydd swyddi gwag yn codi ar gyfer arweinwyr ysgolion, mae swyddogion yr awdurdod lleol yn annog cyrff llywodraethol i ystyried trefniadau cydweithredol a arweinir gan bennaeth gweithredol. Ar hyn o bryd, mae traean o’r ysgolion cynradd ledled Caerffili yn cydweithio o dan arweinyddiaeth pennaeth gweithredol, naill ai fel ffederasiwn neu fel cydweithrediad. Ceir gwerthfawrogiad a rennir ar draws yr awdurdod, gan gynnwys mewn ysgolion, o werth a buddion y strategaeth hon. Yn ogystal â’r arbedion ariannol, mae’n hyrwyddo perthynas waith dda rhwng yr awdurdod, arweinwyr ysgolion a llywodraethwyr, ac yn darparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol gwerthchweil i staff. Mae’r ymagwedd yn rhoi sefydlogrwydd i ysgolion ac yn cefnogi eu cynaliadwyedd, sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu disgyblion a’u cymunedau ar adeg o ansicrwydd. Mae penaethiaid gweithredol wedi cael eu defnyddio’n effeithiol hefyd i gefnogi ysgolion sy’n achosi pryder a sicrhau gwelliannau cyflym, lle bo angen.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Mae diwylliant o weithio’n greadigol a bodloni heriau yn ddyfeisgar yn bodoli yn yr awdurdod, gydag ymatebion arloesol, ar adegau. Mae arweinwyr yn barod i dreialu syniadau newydd ac yn awyddus i greu sefydliad sy’n flaengar, pan geir materion pwysig sy’n cyd-fynd â’u blaenoriaethau craidd a’u hegwyddorion. Mae enghreifftiau da o’r arloesedd hwn yn cynnwys datblygu system fewnol ar gyfer olrhain gwybodaeth am ddisgyblion a’u hymateb cadarn a phwyllog i argyfwng y pandemig COVID-19. At ei gilydd, mae arweinwyr yn annog eu staff, ysgolion a phartneriaid allweddol i ddefnyddio eu cryfderau a’u harbenigedd i greu datrysiadau unigryw er mwyn deilio â materion lleol, sy’n arddangos egwyddorion a pharodrwydd arweinwyr i fentro a chymryd risgiau synhwyrol.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad