Gwaith ieuenctid
Negeseuon Cynnar
Sut mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial?
h.y. pa mor dda y mae pobl ifanc yn gwneud cynnydd tuag at eu nodau sydd wedi’u hymgorffori yn egwyddorion a dibenion canlynol gwaith ieuenctid ac yn eu cyflawni (Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Grŵp Adolygu Egwyddorion a Dibenion Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, Hydref 2022).
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae llawer o bobl ifanc yn caffael y medrau, gwybodaeth, dealltwriaeth, agweddau a gwerthoedd i gefnogi eu datblygiad personol a’u lles eu hunain.
- Mae llawer o bobl ifanc mewn sesiynau ysgol targedig yn datblygu gwydnwch a medrau ymdopi yn werthfawr ac yn datblygu’r gallu i ganolbwyntio ar eu gwaith ysgol.
- Mae gweithwyr ieuenctid yn darparu llwyfan gwerthfawr sy’n galluogi pobl ifanc i ddarganfod, archwilio a mynegi eu hunain, gan feithrin twf personol a hunanfynegiant trwy weithgareddau amrywiol fel celf a chrefft i weithgareddau chwaraeon ac awyr agored.
- Trwy gyfleoedd fel fforymau ieuenctid a gweithgareddau addysg wleidyddol, mae pobl ifanc yn dysgu sut i gyfranogi’n werthfawr mewn prosesau democrataidd yng Nghymru a’r DU.
- Mae llawer o bobl ifanc yn dysgu i fynegi eu barn yn hyderus ac yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu dewisiadau personol a fydd yn effeithio ar eu bywydau yn y dyfodol.
- Mae pobl ifanc yn gwella eu dealltwriaeth o bwysigrwydd cyd-barch a goddefgarwch.
Beth sydd angen ei wella
- Nid yw pobl ifanc yn datblygu’r medrau Cymraeg y maent wedi’u hennill mewn addysg ffurfiol wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau a senarios anffurfiol. Mae hyn yn bennaf oherwydd y diffyg cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Beth gall pobl ifanc ei ddisgwyl o ddarpariaeth gwaith ieuenctid
h.y. ansawdd gwaith ieuenctid, yr arlwy cyffredinol (darpariaeth gwaith ieuenctid i bob unigolyn ifanc) a chymorth i bobl ifanc fregus.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae ansawdd ac ystod y ddarpariaeth yn gyson dda yn y ddau ddarparwr a adolygwyd.
- Mae gweithwyr ieuenctid yn y ddau ddarparwr yn ymroddedig ac yn frwdfrydig ac yn meithrin perthynas â phobl ifanc ac yn asesu eu hanghenion.
- Mae darparwyr yn cynnig gweithgareddau a chymorth ar gyfer ystod eang o bobl ifanc yn effeithiol.
- Mae gweithwyr ieuenctid yn cynnig cymorth gwerthfawr i bobl ifanc fregus, yn ôl y gofyn.
- Mae darparwyr yn ymgysylltu’n llwyddiannus â phobl ifanc mewn gweithgareddau sy’n fuddiol ac yn hwyl, gan sicrhau bod pobl ifanc yn datblygu medrau ac aeddfedrwydd emosiynol wrth fwynhau eu hunain yn ystod eu rhyngweithiadau â chyfoedion ac oedolion.
Beth sydd angen ei wella
- At ei gilydd, mae’r gallu i fanteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn rhy gyfyngedig ac, yn rhy aml, nid yw staff sy’n siarad Cymraeg yn gwneud y defnydd gorau o’u medrau Cymraeg â phobl ifanc. Mae goruchwyliaeth strategol dros ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn wan.
Arwain a gwella
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae gan ddarparwyr weledigaeth glir o ran sut caiff pobl ifanc eu cefnogi i ddod yn aelodau cyfranogol a gweithgar o gymdeithas.
- Mae arweinwyr yn sicrhau bod anghenion pobl ifanc wrth wraidd eu cynllunio, gan ystyried blaenoriaethau cenedlaethol yn briodol.
- Mae arweinwyr yn gweithio’n effeithiol i ddarparu datblygiad proffesiynol parhaus buddiol i staff. Maent yn rhoi pwyslais cadarn ar ddatblygu unigolion, sy’n helpu i ddenu a chadw gweithlu â chymwysterau proffesiynol.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn un darparwr, nid yw gwybodaeth am ansawdd darpariaeth uniongyrchol neu anghenion datblygu staff a materion sy’n dod i’r amlwg ar gyfer pobl ifanc yn cael ei chasglu’n ddigon systematig i helpu i lywio blaenoriaethau, hyfforddiant a chymorth i’r effaith orau bosibl.
Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau
Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, arolygodd Estyn ddau ddarparwr gwasanaethau ieuenctid.
Rhoddwyd dau argymhelliad i un darparwr, sef:
- Datblygu systemau i sicrhau bod gwybodaeth yn llifo’n fwy systematig rhwng clybiau cyswllt a BGC Cymru fel y gallant gynorthwyo â materion allweddol ac anghenion hyfforddi
- Gyrru gwaith yn ei flaen i gyflawni targedau a chamau gweithredu eu polisi iaith Gymraeg
Argymhellwyd bod y darparwr arall yn datblygu cyfleoedd ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.