Mynd i'r cynnwys

Meithrinfeydd nas cynhelir

Negeseuon cynnar


Addysgu a dysgu

Mae lleoliadau’n sicrhau bod addysgu da yn arwain at blant yn datblygu ystod eang o fedrau yn effeithiol trwy chwarae ac, o ganlyniad, gwna’r rhan fwyaf ohonynt gynnydd da o leiaf yn eu dysgu o’u mannau cychwyn unigol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae’r rhan fwyaf o blant yn datblygu eu medrau’n dda mewn ystod o gyd-destunau‑ gwahanol.
  • Mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn darparu cyfleoedd cyfoethog i blant ddatblygu ystod eang o fedrau trwy weithgareddau sydd wedi’u cynllunio’n ofalus ac ardaloedd dysgu sydd wedi’u dylunio’n dda.
  • Mae llawer o leoliadau’n rhoi’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ar waith yn llwyddiannus.
  • Yn yr enghreifftiau cryfaf, mae lleoliadau’n sicrhau cydbwysedd da o ddysgu dan arweiniad oedolion a dysgu dan arweiniad plant, gydag ymarferwyr yn nodi’n gywir pryd i ymyrryd a phryd i adael i’r plant weithio pethau allan drostyn nhw’u hunain.
  • At ei gilydd, mae ymarferwyr yn cynllunio profiadau sy’n ennyn chwilfrydedd plant yn dda. Yn yr enghreifftiau gorau, maent yn sicrhau y caiff plant eu trochi yn rhyfeddod y byd naturiol a’r ffordd y mae pethau’n datblygu ac yn tyfu.
  • Mae llawer o ymarferwyr yn darparu profiadau dysgu pwrpasol i blant wedi’u seilio ar y byd maent yn byw ynddo a’u hardal leol.
  • Yn yr arfer gryfaf, mae ymarferwyr yn darparu cyfnodau hir o chwarae i blant, lle gallant fynd yn ôl at weithgareddau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt a chaniatáu amser iddynt ymgysylltu’n ddwfn â’u dysgu.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn lleiafrif o leoliadau, dim ond megis dechrau cael ei ddatblygu y mae’r defnydd o asesiadau ac arsylwadau i ymateb i anghenion plant unigol a dyfnhau ac ymestyn eu dysgu.
  • Nid yw lleiafrif o ymarferwyr yn defnyddio arsylwadau’n effeithiol bob tro i’w helpu i gynllunio ac addysgu’r camau nesaf yng ngwybodaeth, dealltwriaeth a medrau plant yn ddigon da.
  • Mewn ychydig o leoliadau, nid yw ymarferwyr yn cynllunio’n ddigon pwrpasol bob tro i ddatblygu medrau plant, yn enwedig yn yr ardaloedd awyr agored.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae lleoliadau’n parhau i ddarparu lefelau da o ofal, cymorth ac arweiniad i blant sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu lles.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae lleoliadau’n parhau i ddarparu lefelau da o ofal, cymorth ac arweiniad i blant sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu lles.
  • Mae llawer o ymarferwyr yn cefnogi plant yn fedrus wrth iddynt chwarae ac yn ystod eu harferion dyddiol sy’n cadw plant yn ddiogel, gan annog eu hannibyniaeth a pharchu eu preifatrwydd ar yr un pryd.
  • Mae llawer o leoliadau’n sefydlu arferion rheolaidd, rhagweladwy sy’n rhoi ymdeimlad o ddiogelwch i blant, gan eu galluogi i deimlo’n gyfforddus ac yn ddibryder.
  • Mae llawer o blant yn ymgartrefu’n dda ac yn ffurfio cysylltiadau cryf â’u cyfoedion ac ymarferwyr, gan ddangos lefelau uchel o fwynhad wrth ddysgu a chwarae. Yn aml, mae’r plant hyn yn gwneud dewisiadau a phenderfyniadau hyderus am sut maent yn treulio eu hamser.
  • Bron ym mhob un o’r lleoliadau, mae ymarferwyr yn annog ffyrdd iach o fyw ac yn hybu diogelwch a lles plant yn llwyddiannus.
  • Mae gan lawer o leoliadau weithdrefnau cadarn i gefnogi plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig iawn o achosion, mae arweinwyr yn mabwysiadu asesiadau risg generig sy’n brin o fanylion penodol am y lleoliadau, neu ni chaiff asesiadau risg eu hadolygu’n rheolaidd i fyfyrio ar sefyllfa gyfredol y lleoliad.

Arwain a gwella

Mae arweinyddiaeth yn gryf yn y rhan fwyaf o leoliadau ac mae gan arweinwyr weledigaeth glir ynghylch sut i wella eu darpariaeth i sicrhau profiadau gwerthfawr i blant mewn amgylcheddau diogel ac anogol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae arweinyddiaeth yn y rhan fwyaf o leoliadau yn gryf o hyd.
  • Mae gan arweinwyr weledigaeth glir i ddarparu profiadau gwerthfawr i blant mewn amgylcheddau diogel ac anogol. Mae bron pob lleoliad yn rhoi lles wrth wraidd popeth a wnânt.
  • Yn y rhan fwyaf o achosion, mae arweinwyr llwyddiannus yn cyfleu eu gweledigaeth yn glir trwy eu gweithredoedd a thrwy berthnasoedd cryf â phlant a’u teuluoedd.
  • Mae llawer yn datblygu prosesau hunanwerthuso gwerthfawr sy’n bwydo eu cynlluniau gwella yn effeithiol. Maent yn nodi eu cryfderau a’u meysydd i’w gwella yn gywir ac yn pennu camau gweithredu priodol i sicrhau’r gwelliannau dymunol.
  • Mae gan arweinwyr mewn llawer o leoliadau ddisgwyliadau uchel ac maent yn buddsoddi’n bwrpasol yn eu staff. Maent yn cwblhau arfarniadau a goruchwyliaeth reolaidd ac effeithiol. Maent yn creu ac yn cynnal ethos tîm cryf.
  • Mae llawer o leoliadau’n deall pwysigrwydd meithrin a chynnal partneriaethau proffesiynol cryf, fel gyda theuluoedd, ysgolion cynradd ac athrawon ymgynghorol.
  • Mae llawer o leoliadau’n creu cysylltiadau da â’u cymunedau lleol sy’n galluogi plant i ddatblygu ymdeimlad o berthyn yn eu hardal.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o leoliadau, nid yw arweinwyr yn blaenoriaethu’r meysydd pwysicaf i’w gwella yn ddigon da bob tro, ac maent yn dueddol o ganolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb yn hytrach na meysydd allweddol i’w gwella.
  • Mewn ychydig o leoliadau, nid yw pob aelod staff yn derbyn arfarniadau addas. O ganlyniad, nid ydynt bob amser yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt na pha gamau y mae angen iddynt eu cymryd i sicrhau gwelliannau.
  • Mewn ychydig iawn o leoliadau, nid yw gweithdrefnau goruchwylio ac arfarnu yn cael eu rhoi ar waith na’u ffurfioli’n gyson bob tro.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, arolygodd Estyn 90 o leoliadau nas cynhelir.

38

Rhoddwyd argymhelliad i 38 (42.2%) o leoliadau i wella eu harfer mewn rhyw ffordd. O’r rheiny, rhoddwyd argymhelliad i 26 o leoliadau i ddarparu neu ehangu cyfleoedd i wella medrau plant; roedd hanner yr argymhellion hynny yn ymwneud â datblygu medrau Cymraeg plant.

23

Rhoddwyd argymhelliad i 23 (25.6%) o leoliadau i wella neu ddatblygu’r defnydd o arsylwadau. Roedd tua hanner yr argymhellion hynny’n ymwneud â defnyddio arsylwadau i helpu i gynllunio’r camau nesaf mewn datblygiad plant, a’r lleill yn canolbwyntio’n amrywiol ar sicrhau bod plant yn gwneud cynnydd, cefnogi dysgu a datblygiad plant, a defnyddio arsylwadau i gynllunio profiadau sy’n bodloni anghenion unigol pob plentyn.

16

Rhoddwyd argymhelliad i 16 (17.8%) o leoliadau yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, gan gynnwys cwblhau asesiadau risg a sicrhau bod rhieni/gofalwyr yn llofnodi ffurflenni damweiniau/digwyddiadau.

15

Rhoddwyd argymhelliad i 15 (15.6%) o leoliadau yn ymwneud â’r ardal awyr agored, sef naill ai ei defnyddio’n fwy neu ddatblygu neu wella ansawdd adnoddau awyr agored.

10

Rhoddwyd argymhelliad i 10 (11.1%) o leoliadau i fynd i’r afael â meysydd diffyg cydymffurfio.

9

Rhoddwyd argymhelliad i 9 (10%) o leoliadau yn ymwneud ag arfarniadau staff, a rhoddwyd argymhelliad i naw (10%) ohonynt yn ymwneud â datblygiad staff.


Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

Addysgu a dysgu

Tiggy’s Day Care Nursery

Adroddiad arolygu

Ym meithrinfa Tiggy’s Day Care Nursery, mae ymarferwyr yn defnyddio arsylwadau’n rhagweithiol i gofnodi diddordebau a hoffterau arbennig plant wrth iddynt chwarae. Maent yn rhoi eu nodiadau ysgrifenedig ar fwrdd cynllunio y mae’r holl ymarferwyr yn ei ddefnyddio i gynllunio profiadau ac addasu amgylcheddau i fod yn ystyrlon ac yn berthnasol i ddiddordebau plant. Er enghraifft, pan welir plant yn cymryd arnynt eu bod yn trwsio cwpwrdd yn yr ardal chwarae rôl, mae ymarferwyr yn cyfoethogi’r ardal drannoeth ag offer sy’n ymwneud â seiri, plymwyr a thrydanwyr.

Gofal, cymorth a lles

Little explorers

Adroddiad arolygu

Astudiaeth achos: Creu diwylliant o berthyn

Yn Little Explorers, mae plant yn ffynnu yn y lleoliad ac yn ymateb yn dda iawn i gyfleoedd niferus i ddatblygu annibyniaeth. Maent yn gweini eu hunain amser byrbryd, yn plicio a thorri eu ffrwythau, yn arllwys eu llaeth eu hunain ac yn mynd â’u platiau i’r sinc. Mae plant hŷn yn dod o hyd i’w cardiau enw i ysgrifennu eu henwau ar eu lluniau ac mae pob un o’r plant yn dysgu gwisgo eu dillad ac esgidiau glaw cyn chwarae y tu allan.

Arweinyddiaeth

Chuckles Day Care

Adroddiad arolygu

Astudiaeth achos: Effaith partneriaethau cryf

 

Mae arweinwyr yn Chuckles Day Care wedi sefydlu cysylltiadau eithriadol ag ystod o bartneriaid. Maent yn cydweithio’n agos ag ysgolion lleol trwy weithgareddau fel sesiynau ysgol goedwig ac ymweliadau mabolgampau. Mae arweinwyr yn cydweithio ag athro ymgynghorol blynyddoedd cynnar yr awdurdod lleol i wella safonau a rhannu arfer dda â lleoliadau eraill. Mae arweinwyr yn cynllunio gweithdai i deuluoedd a rhieni trwy gydol y flwyddyn, gan ganolbwyntio ar anghenion a blaenoriaethau’r gymuned leol, fel gweithdy bwyd iach a diwrnodau coginio. Maent yn darparu bwyd a chardiau bwydlen i deuluoedd eu defnyddio gartref. Mae gan y lleoliad ymgysylltiad agos â phrosiectau pontio, gan gefnogi plant a theuluoedd sy’n symud o’r feithrinfa i ysgolion lleol.