Mynd i'r cynnwys

Uwchradd

Negeseuon Cynnar


Addysgu a dysgu

Lle mae’r addysgu yn effeithiol, gwna disgyblion gynnydd da o’u mannau cychwyn ond mae darpariaeth drawsgwricwlaidd ar gyfer datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion yn gynyddol yn wan o hyd ym mwyafrif yr ysgolion.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mewn llawer o ysgolion, mae athrawon yn adnabod eu disgyblion yn dda ac yn meithrin perthynas waith gadarnhaol â nhw.
  • Ym mwyafrif yr achosion, mae athrawon yn cynllunio gwersi’n ofalus i fodloni anghenion disgyblion. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd addas yn eu gwybodaeth bynciol.
  • Mae mwyafrif y disgyblion ag ADY yn gwneud cynnydd cadarn yn erbyn eu targedau unigol.
  • Mae mwyafrif o ysgolion wedi cynllunio cwricwlwm ar gyfer Blynyddoedd 7 ac 8 sy’n cyd-fynd â disgwyliadau Cwricwlwm i Gymru.
  • Yn yr achosion gorau, mae datblygiadau’r cwricwlwm yn cyd-fynd yn agos â datblygu addysgu a dysgu.

Beth sydd angen ei wella

  • Yn gyffredinol, nid yw ysgolion yn datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion yn gynyddol ar draws y cwricwlwm yn ddigon effeithiol.
  • Ym mwyafrif yr ysgolion, mae cyfran yr addysgu aneffeithiol yn rhy uchel ac mae hyn yn golygu nad yw disgyblion yn gwneud cymaint o gynnydd ag y gallent.
  • Mae cynllunio gwan mewn rhai meysydd, er enghraifft ym mhynciau’r dyniaethau, yn aml yn arwain at ddiffyg dyfnder a chydlyniad. Mae hyn yn aml iawn yn wir pan fydd ysgolion wedi cyfuno pynciau yn hytrach na’u haddysgu ar wahân.
  • Mewn llawer o ysgolion cyfrwng Saesneg, nid oes digon o gyfleoedd i ddisgyblion siarad a gwrando ar Gymraeg dilys.

 


Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae ysgolion yn parhau i gynnig gofal, cymorth ac arweiniad cryf sy’n cael effaith gadarnhaol ar les disgyblion, ond nid yw strategaethau i wella presenoldeb disgyblion yn ddigon effeithiol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae llawer o ysgolion yn rhoi pwyslais mawr ar les disgyblion ac yn sicrhau bod ganddynt systemau priodol ar waith i gefnogi eu datblygiad personol ac emosiynol.
  • Mae llawer o ysgolion yn pwysleisio pwysigrwydd presenoldeb da trwy gyfathrebu’n rheolaidd â disgyblion a rhieni.
  • Mae gan lawer o ysgolion bolisi ymddygiad priodol ac ymateb graddedig addas ar gyfer ymdrin ag ymddygiad gwael.
  • Mae gan lawer o ddisgyblion agweddau da at ddysgu ac maent yn elwa ar berthynas waith gadarnhaol â staff yr ysgol. Maent yn canolbwyntio’n dda wrth gael cyfarwyddiadau gan athrawon, yn ymateb yn addas i dasgau ac yn datblygu annibyniaeth a dyfalbarhad, ar y cyfan, pan gânt gyfle i wneud hynny.
  • Mae darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn gryfder ym mwyafrif yr ysgolion.
  • Mae llawer o ysgolion yn cynnig cyfleoedd cynyddol i ddisgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi. Mae’r rhain yn cynnwys corau ysgol, cynyrchiadau theatr gerddorol, cystadlaethau chwaraeon ac eisteddfodau.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae presenoldeb yn sylweddol is o hyd nag yr oedd cyn y pandemig. Mae presenoldeb isel disgyblion o gartrefi ag incwm isel yn peri pryder arbennig.
  • Mae cyfradd yr absenoldebau cyson ymhlith disgyblion uwchradd yn rhy uchel o hyd.
  • Nid yw llawer o ysgolion yn dadansoddi data presenoldeb, yn cynnwys grwpiau gwahanol o ddisgyblion, yn ddigon gofalus i nodi patrymau ac nid ydynt ychwaith yn adolygu effeithiolrwydd eu systemau i wella presenoldeb yn ddigon trylwyr.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, mae ychydig o ddisgyblion yn ymddwyn yn wael. Nid ydynt yn ymgysylltu’n ddigon da ag athrawon ac maent yn tarfu ar eu dysgu eu hunain a dysgu eu cyfoedion.
  • Nid oes gan lawer o ysgolion arbenigaeth neu arbenigedd digonol i reoli ymddygiad gwael a chymhleth ychydig o ddisgyblion.
  • Yn gyffredinol, nid oes digon o gyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 4 a’r chweched dosbarth drafod pynciau pwysig, fel cynnal perthnasoedd iach ac iechyd meddwl.
  • Nid yw llawer o ysgolion yn ceisio barn disgyblion yn rheolaidd ar ansawdd yr addysgu neu faterion strategol eraill.

Arwain a gwella

Mae arweinwyr yn parhau i ganolbwyntio ar degwch a chynhwysiant ac yn gwneud cynnydd o ran rhoi eu Cwricwlwm o fewn Fframwaith Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru i Gymru ar waith, ond mae ansawdd hunanwerthuso yn peri pryder o hyd.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae arweinwyr wedi sefydlu diwylliant cryf o ddiogelu ym mron pob ysgol.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae arweinwyr yn cymryd camau priodol i leihau’r rhwystrau rhag dysgu i ddisgyblion y mae tlodi yn effeithio arnynt. Yn yr achosion gorau, mae disgwyliadau uchel, polisïau datblygedig a systemau cymorth cynhwysfawr yn arbennig o effeithiol o ran codi cyrhaeddiad a phresenoldeb y grŵp hwn o ddisgyblion a dysgwyr bregus eraill.
  • Mae mwyafrif yr ysgolion yn gwneud cynnydd priodol â’u trefniadau ar gyfer Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg Cymru.
  • Yn gyffredinol, mae ysgolion yn darparu ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol defnyddiol i’w staff, gan gynnwys cyfleoedd i rannu arfer dda.
  • Yn y rhan fwyaf o achosion, mae llywodraethwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau’n addas ac maent yn gefnogol i ysgolion. Lle maent yn fwyaf effeithiol, maent yn ymwneud yn weithredol â gosod cyfeiriad strategol eu hysgol.

Beth sydd angen ei wella

  • Ym mwyafrif yr ysgolion, nid oes gan arweinwyr ymagwedd ddigon strategol tuag at ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion ar draws y cwricwlwm.
  • Mae ansawdd ac effeithiolrwydd hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yn wan mewn llawer o ysgolion.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae gan arweinwyr farn rhy gadarnhaol am effeithiolrwydd eu darpariaeth; mae hyn yn arbennig o wir o ran ansawdd yr addysgu, lle nad yw arweinwyr yn canolbwyntio’n ddigon manwl ar ei effaith ar gynnydd disgyblion.
  • Mewn llawer o achosion, nid yw arweinwyr wedi gwneud cysylltiadau digon cryf rhwng gwella addysgu ac asesu a chynllunio a chyflwyno eu Cwricwlwm i Gymru.
  • Yn rhy aml, nid yw gweithgareddau dysgu proffesiynol yn cael eu targedu’n ddigon manwl ar yr agweddau penodol ar addysgu y mae angen eu gwella; dim ond ychydig o ysgolion sy’n gwerthuso eu harlwy dysgu proffesiynol yn ddigon trylwyr.
  • Mae recriwtio athrawon yn bryder sylweddol, yn enwedig ar gyfer rhai pynciau fel gwyddoniaeth a Chymraeg ac, yn fwy cyffredinol, athrawon sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mae’r rhan fwyaf o ysgolion wedi gweld toriad yn eu cyllideb. Mae arweinwyr yn poeni am eu gallu i gynnal lefelau staffio ac adnoddau cyfredol.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, arolygodd Estyn 31 o ysgolion uwchradd.

21

Rhoddwyd argymhelliad i un ar hugain (68%) o’r ysgolion uwchradd i gryfhau a mireinio eu prosesau hunanwerthuso a/neu gynllunio gwelliant. Cynghorwyd naw o’r ysgolion hyn i ganolbwyntio ar addysgu, dysgu a chynnydd disgyblion.

20

Rhoddwyd argymhelliad i ugain (65%) o’r ysgolion uwchradd ynghylch datblygu medrau disgyblion yn gynyddol. Roedd hyn trwy wella addysgu, darpariaeth, cynllunio a/neu gydlynu. O’r ysgolion hyn, roedd rhai o’r argymhellion a roddwyd yn eu cynghori i ganolbwyntio ar un neu fwy o feysydd penodol o’r cwricwlwm. Cynghorwyd deg darparwr i ganolbwyntio ar ddatblygu medrau rhifedd disgyblion, wyth ar fedrau llythrennedd disgyblion, chwech ar fedrau Cymraeg disgyblion, a phedwar ar fedrau digidol disgyblion.

16

Cafodd un ar bymtheg (52%) o’r ysgolion uwchradd argymhelliad yn ymwneud â gwella addysgu. Roedd saith o’r argymhellion hyn yn rhoi pwyslais ar gynnydd disgyblion a chwech ohonynt ar ymddygiad heriol disgyblion. Cafodd tair o’r ysgolion hyn argymhelliad a oedd yn canolbwyntio ar ansawdd addysgu ac asesu. Cafodd pump arall argymhelliad a oedd hefyd yn ymwneud ag asesu ac adborth.

15

Cafodd pymtheg (48%) o’r ysgolion uwchradd argymhelliad i wella presenoldeb.

10

Cafodd deg (32%) o’r ysgolion uwchradd argymhelliad yn ymwneud â gwella eu darpariaeth Gymraeg. O’r rhain, rhoddwyd argymhelliad penodol i chwe ysgol wella medrau Cymraeg disgyblion. Cynghorwyd dwy ysgol i wella dealltwriaeth disgyblion o ddiwylliant a threftadaeth Cymru, hefyd.

9

Rhoddwyd argymhelliad i naw (29%) o’r ysgolion uwchradd yn ymwneud ag arweinyddiaeth ac roedd yr argymhellion a roddwyd yn cynnwys themâu rôl, cyfrifoldeb, atebolrwydd, strategaeth a gwella.

3

Rhoddwyd argymhelliad i dair (10%) o’r ysgolion uwchradd yn ymwneud â chryfhau a datblygu rôl y corff llywodraethol.

Arall

Roedd yr argymhellion eraill a roddwyd i ddarparwyr yn eu cynghori ar themâu gan gynnwys iechyd a diogelwch, ymddygiad disgyblion, gwaharddiadau, darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY), lles disgyblion, cyfathrebu rhwng rhieni a disgyblion a staff, y gyllideb a sicrhau ansawdd.


Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

Addysgu a dysgu

Gofal, cymorth a lles

Ysgol Gyfun Pontarddulais

Adroddiad arolygu

Astudiaeth achos: Gwella presenoldeb.

Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog

Astudiaeth achos: Sut mae Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog yn cefnogi dysgwyr bregus.

Arwain a gwella

Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed

Adroddiad arolygu

Astudiaeth achos: Mynd i’r afael ag effaith tlodi

Ysgol Gyfun Pontarddulais

Adroddiad arolygu

Astudiaeth achos: Hunanwerthuso a chynllunio gwelliant