Ysgolion arbenigol ADY annibynnol
Addysgu a dysgu
Mae ysgolion wedi gweithio’n galed i sicrhau bod ganddynt gwricwlwm cyfoethogol ac addysgu effeithiol i gefnogi dysgu disgyblion a mynd i’r afael ag unrhyw fylchau sy’n deillio o unrhyw darfu ar eu haddysg.
Beth sy’n mynd yn dda
- Ar draws bron pob un o’r ysgolion, mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda ac yn defnyddio’r wybodaeth hon yn dda i ennyn eu diddordeb a’u hysgogi yn eu dysgu.
- Bron ym mhob un o’r ysgolion, gwna llawer o ddisgyblion gynnydd cryf o’u mannau cychwyn unigol â’u medrau cymdeithasol a chyfathrebu.
- Yn y rhan fwyaf o ysgolion, gwna llawer o ddisgyblion gynnydd cadarn o ran datblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd ac annibyniaeth.
- Mae’r cwricwlwm mewn llawer o ysgolion yn canolbwyntio’n briodol ar anghenion, diddordebau a galluoedd disgyblion.
- Mae llawer o ysgolion yn cyfoethogi eu cwricwlwm yn sylweddol gan ddefnyddio ystod eang o gyfleoedd dysgu dilys y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
- Mae llawer o ysgolion yn defnyddio data asesu yn dda i lywio cynllunio a sicrhau cynnydd mewn dysgu.
- Mae llawer o ddisgyblion yn symud ymlaen i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth pan fyddant yn gadael yr ysgol.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn ychydig o ysgolion, mae datblygu medrau darllen cynyddol wedi’i gyfyngu gan ddiffyg cyfleoedd.
- Mewn llawer o ysgolion, nid yw disgyblion yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu medrau digidol yn gynyddol ar draws y cwricwlwm.
- Mewn ychydig o ysgolion, mae lleiafrif o ddisgyblion yn or-ddibynnol ar staff i gyfarwyddo eu dysgu.
- Mewn ychydig o ysgolion, mae cyfleoedd cyfyngedig i ddisgyblion ennill achrediad priodol.
- Mewn ychydig o ysgolion, nid yw profiadau dysgu yn cyfateb i anghenion disgyblion yn ddigon da.
- Mewn ychydig o ysgolion, nid yw gwybodaeth asesu’n llywio cynllunio ar gyfer y dyfodol na chyflwyno ymyriadau priodol yn ddigon da i fodloni anghenion disgyblion unigol.
Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
Mae ysgolion wedi gweithio’n effeithiol i sicrhau lefelau da o ofal, cymorth ac arweiniad i fynd i’r afael ag unrhyw faterion yn ymwneud â lles disgyblion a’u paratoi’n dda ar gyfer eu camau nesaf.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae’r lefelau uchel o ofal a chymorth a ddarperir yn sicrhau bod bron pob un o’r disgyblion yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gwybod â phwy i siarad os oes ganddynt bryderon.
- Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda yn yr ysgol ac yn mwynhau eu dysgu.
- Mae llawer o ddisgyblion yn dangos presenoldeb gwell dros gyfnod.
- Mae cymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY) disgyblion yn gyffredinol briodol ac yn bodloni eu hanghenion.
- Mae mwyafrif yr ysgolion yn darparu ystod fuddiol o brofiadau i ddisgyblion i ddatblygu eu dealltwriaeth ysbrydol, foesol a chymdeithasol yn dda.
- Mae gan lawer o ysgolion ddiwylliant diogelu cadarn.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw systemau i olrhain cynnydd disgyblion yn erbyn eu targedau unigol wedi’u datblygu’n ddigonol.
- Mae presenoldeb isel ychydig o ddisgyblion yn cael effaith negyddol ar eu cynnydd, cyflawniad a lles.
- Mewn llawer o achosion, nid yw effaith therapi neu ymyriadau ar gynnydd a lles disgyblion a’u hagweddau at ddysgu yn cael ei gwerthuso’n ddigon da.
- Mewn ychydig o ysgolion, nid yw darpariaeth ar gyfer arweiniad gyrfaoedd wedi’i datblygu’n ddigonol.
- Nid yw cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu dealltwriaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth wedi’u datblygu cystal.
Arwain a gwella
Mae arweinwyr wedi parhau i ddatblygu darpariaeth ac addasu wrth iddynt sicrhau bod ganddynt dîm staff cryf, wedi’u hyfforddi’n dda a phrosesau sicrhau ansawdd cadarn i’w cynorthwyo i wella’r ysgol. Fodd bynnag, ym mwyafrif yr ysgolion, nid yw prosesau sicrhau ansawdd yn canolbwyntio’n ddigonol ar effeithiolrwydd addysgu a’i effaith ar ddysgu.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae mwyafrif yr ysgolion yn parhau i fod ag arweinyddiaeth gadarn.
- Mae arweinwyr yn y rhan fwyaf o ysgolion wedi sefydlu gweledigaeth glir ac wedi’i chyfleu’n dda i gymuned yr ysgol.
- Mae ychydig o ysgolion yn darparu arlwy dysgu proffesiynol cryf sy’n cysylltu’n dda â blaenoriaethau gwella’r ysgol.
- Mae’r amgylchedd dysgu yn y rhan fwyaf o ysgolion yn hybu dysgu’n dda.
- Mae mwyafrif yr ysgolion yn parhau i gydymffurfio â’r Safonau Ysgolion Annibynnol.
Beth sydd angen ei wella
- Ym mwyafrif yr ysgolion, nid yw prosesau sicrhau ansawdd yn canolbwyntio’n ddigonol ar effeithiolrwydd addysgu a’i effaith ar ddysgu.
- Mae newidiadau diweddar i arweinyddiaeth wedi arafu cynnydd mewn lleiafrif o ysgolion.
- Mae heriau o ran recriwtio a chadw staff yn rhwystro gallu arweinwyr i ganolbwyntio ar flaenoriaethau gwella, sy’n effeithio ar gysondeb ac ansawdd addysgu.
- Ychydig iawn o ysgolion sydd â chartrefi preswyl cysylltiedig sy’n darparu hyfforddiant i staff gofal ar sut i gefnogi disgyblion mewn addysg ac nid oes gan leiafrif o ysgolion brosesau i olrhain effaith dysgu proffesiynol.
- Nid yw’r perchenogion mewn lleiafrif o ysgolion yn sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio â’r Safonau Ysgolion Annibynnol.
Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau craidd
Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, arolygodd Estyn 12 o ysgolion arbennig annibynnol.
11
Rhoddwyd argymhelliad i 11 (91.7%) o ddarparwyr sefydlu neu fireinio eu prosesau sicrhau ansawdd a chynllunio gwelliant, yr oedd 7 ohonynt yn argymell canolbwyntio ar gynnydd disgyblion.
7
Rhoddwyd argymhelliad i 7 o ddarparwyr (58.3%) gydymffurfio’n llawn â’r Safonau Ysgolion Annibynnol, a rhoddwyd argymhelliad i un ohonynt sicrhau bod anghenion dysgu ychwanegol disgyblion yn cydymffurfio â’u categori cofrestru.
4
Rhoddwyd argymhelliad i 4 o ddarparwyr (43.3%) i gryfhau neu ddatblygu eu cwricwlwm, naill ai i wella darpariaeth ar gyfer gyrfaoedd, addysg ysbrydol, foesol, gymdeithasol a diwylliannol ac addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh), cefnogi disgyblion i ddilyn eu llwybrau dysgu dymunol, sicrhau bod rhaglenni astudio’n cael eu cefnogi gan gynlluniau gwaith ac asesu i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion yn gynyddol, neu gynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu mewn cyd-destunau go iawn a dilyn eu llwybrau dysgu dymunol.
3
Argymhellwyd bod 3 darparwr yn cryfhau’r rheolaeth ar ddiogelu ac yn mynd i’r afael â’r diffygion a nodwyd yn ystod yr arolygiad.
3
Rhoddwyd argymhelliad i 3 darparwr i gryfhau cynllunio i wella datblygiad medrau disgyblion.
3
Rhoddwyd argymhelliad i 3 darparwr i fireinio rolau a chyfrifoldebau’r staff.
2
Rhoddwyd argymhelliad i 2 ddarparwr i wella ansawdd yr addysgu.
Gwerthusom gydymffurfiaeth 15 o ysgolion â’r Safonau Ysgolion Annibynnol hefyd fel rhan o ymweliadau monitro.