Addysg bellach – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Addysg bellach

Adroddiad sector 2023 - 2024



Darparwyr

Mae 12 coleg yn darparu cyrsiau addysg bellach yng Nghymru. Mae gan lawer ohonynt safleoedd lluosog ar draws ardal ddaearyddol eang a sawl awdurdod lleol.

Mae’r mwyafrif ohonynt yn gweithredu dan strwythur grŵp, gan gynnal hunaniaethau coleg ar wahân ar gyfer safleoedd unigol neu glystyrau o safleoedd rhanbarthol. Mae ychydig o golegau’n gweithredu fel is-gwmnïau sy’n eiddo llwyr i sefydliadau addysg uwch.

Mae llawer o golegau hefyd yn cynnig rhaglenni dysgu yn y gwaith a dysgu oedolion yn y gymuned. Mae rhai ohonynt hefyd yn cyflwyno rhaglenni Cymraeg i oedolion a/neu ddarpariaeth yn y sector cyfiawnder. Caiff y ddarpariaeth hon ei harolygu dan y trefniadau arolygu perthnasol ar gyfer pob un o’r sectorau hyn. Gweler yr adroddiadau sector perthnasol am ragor o fanylion am y meysydd darpariaeth eraill hyn.

Mae colegau hefyd yn darparu cyrsiau addysg uwch, y mae eu hansawdd yn cael ei sicrhau gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, QAA.


Dysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach (SABau)

105,785

Pob dysgwr AB mewn SABau: 105,785 (99,930) +5.9%

45,275

Dysgwyr AB amser llawn: 45,275 (45,250) +0.1%

60,510

Dysgwyr AB rhan-amser: 60,510 (54,680) +10.7%

Dysgwyr mewn SABau sydd â chefndir Du, Asiaidd neu Leiafrifol Ethnig: 10% (9.4%)

Dysgwyr mewn SABau y nodwyd bod ganddynt ‘anabledd ac/neu anhawster dysgu’: 13% (12.3%)

(Data: 2022-2023, (2021-2022), newid %)


Gweithgarwch dilynol:

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw golegau addysg bellach mewn categori gweithgarwch dilynol.


Arolygiadau craidd

Nifer yr arolygiadau: 1

Cynhaliwyd yr arolygiad o Grŵp Llandrillo Menai ym mis Ebrill 2024 fel arolygiad peilot ar gyfer trefniadau arolygu newydd Arolygu ar gyfer y dyfodol (2024-2030). Caiff y colegau sy’n weddill eu harolygu gan y trefniadau newydd hyn yn y cylch arolygu newydd o fis Medi 2024 ymlaen.

Astudiaethau achos

Enwau’r colegau ag astudiaethau achos: Ddim yn berthnasol

Ymweliadau ymgysylltu

Nifer yr ymweliadau: 12

Cynhaliwyd ymweliadau ymgysylltu arolygwyr cyswllt â phob coleg rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2024. 

Ymwelwyd â phum coleg hefyd fel rhan o’r adolygiad thematig o Brentisiaethau Iau.


Crynodeb

Lle mae addysgu a dysgu’n effeithiol, mae dysgwyr yn gwneud cynnydd da ac yn arddangos sgiliau pwnc neu alwedigaethol cryf. Mae gofal, cefnogaeth, arweiniad a lles yn cael eu cefnogi’n dda trwy amgylcheddau croesawgar a chynhwysol. Mae arweinwyr yn sicrhau bod gwelliannau a dysgu proffesiynol yn ymateb yn dda i anghenion sgiliau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.


Dysgu, addysgu a phrofiadau dysgu

Yn ystod ein hymweliadau ymgysylltu â cholegau addysg bellach (AB), canolbwyntiom ar ystod eu darpariaeth a deilliannau i ddysgwyr ar raglenni gwahanol. Mae’r rhan fwyaf o golegau’n cyflwyno cymysgedd o ddarpariaeth academaidd a galwedigaethol, gyda’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn astudio rhaglenni galwedigaethol. Mae nifer a chyfran y dysgwyr sy’n astudio rhaglenni Safon UG a Safon Uwch wedi cynyddu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan adlewyrchu proffiliau’r graddau TGAU uwch a gyflawnwyd mewn ysgolion yn ystod cyfnod y pandemig, pan effeithiodd graddau a aseswyd gan athrawon neu raddau a bennwyd gan athrawon ar y rhain. Dywedodd y rhan fwyaf o golegau wrthym fod y cynnydd hwn mewn recriwtio yn dueddol o gael ei wrthbwyso, o leiaf yn rhannol, gan gyfraddau cadw is gan fod cyfran uwch o ddysgwyr nag arfer yn cael trafferth addasu i ofynion rhaglenni Safon UG/Safon Uwch. 

Roedd patrymau recriwtio i raglenni galwedigaethol yn amrywio’n sylweddol rhwng meysydd galwedigaethol a rhwng colegau. Roedd athrawon a dysgwyr mewn pynciau ymarferol yn aml yn elwa ar amgylcheddau dysgu proffesiynol a realistig a oedd yn helpu dysgwyr i ddatblygu medrau perthnasol sy’n eu paratoi ar gyfer cyflogaeth. Roedd arweinwyr a staff colegau yn llawer mwy cadarnhaol am y cymwysterau a luniwyd i Gymru mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant, ac adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu nag yn ystod ymweliadau blaenorol, ac roedd colegau’n croesawu addasiadau diweddar i rai cymwysterau yn y sectorau hyn. 

Ar draws y sector, roedd cyfran y dysgwyr a enillodd raddau uwch mewn darpariaeth raddedig, ar raglenni galwedigaethol a Safon Uwch, yn rhy isel. Roedd colegau’n cydnabod yr angen i wella cyfraddau cwblhau llwyddiannus ar raglenni sy’n tanberfformio. Yn ogystal, roedd datblygiad medrau Cymraeg yn gyfyngedig ac ychydig iawn o ddysgwyr a oedd yn cwblhau eu gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg.

Yn ystod arolygiad craidd Grŵp Llandrillo Menai, canfuom fod llawer o ddysgwyr yn dangos medrau pwnc neu alwedigaethol cryf. Roedd dysgwyr y nodwyd bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys dysgwyr ar raglenni sgiliau byw’n annibynnol, yn gwneud cynnydd cadarn o leiaf yn eu dysgu. Mewn ychydig o sesiynau sgiliau byw’n annibynnol, nid oedd rhai gweithgareddau papur, fel torri a gludo, yn atgyfnerthu dysgu’n ystyrlon.

Mae adroddiad arolygu Grŵp Llandrillo Menai yn cynnwys dau ‘Sbotolau ar’ addysgu a phrofiadau dysgu yn y coleg, gan gynnwys cyflwyno’n ddwyieithog ac addysgu hybrid. Mae’r ‘Sbotolau ar gyflwyno dwyieithog’ yn amlygu sut mae iaith y dysgu yn y sesiynau hyn yn newid yn ddi-dor rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r ‘Sbotolau ar addysgu hybrid’ yn amlinellu sut mae athrawon yn cynllunio ac yn cyflwyno’r sesiynau hyn yn fedrus i wneud yn siŵr fod pob dysgwr yn cyfrannu ac yn rhannu eu syniadau trwy weithgareddau cydweithredol. 

Yn ystod ein hymweliad adolygiad thematig â’r pum coleg sy’n cyflwyno rhaglenni prentisiaethau iau ar hyn o bryd, canfuom fod rhaglenni prentisiaeth iau wedi cael effaith gadarnhaol ar ymgysylltiad, presenoldeb a dilyniant dysgwyr 14 i 16 oed.


Gofal, cymorth ac arweiniad, lles ac agweddau at ddysgu

Yn ystod ein hymweliadau cyswllt â cholegau AB, canolbwyntiom ar eu gwaith yn ymwneud â mynd i’r afael â thlodi ac anfantais a rhoi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a chod ADY (2021) ar waith.

Roedd colegau’n cynnig ystod eang o gymorth i’r dysgwyr hynny yr oedd tlodi, ADY neu rwystrau eraill rhag cynnydd a nodwyd yn effeithio arnynt. Roeddent yn defnyddio arian wrth gefn a oedd ar gael i golegau gan Lywodraeth Cymru yn effeithiol i helpu dysgwyr a allai fod yn wynebu caledi neu anawsterau ariannol. Mae dysgwyr hefyd yn gallu elwa ar Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. Crybwyllwyd bod argaeledd trefniadau cludiant am ddim neu â chymhorthdal yn fater allweddol yn y rhan fwyaf o golegau, a mynegwyd pryderon ynghylch yr effaith bosibl ar gyfranogiad yn yr ardaloedd hynny lle mae awdurdodau lleol yn bwriadu newid eu polisi teithio am ddim neu lle mae llwybrau bysiau neu amserlenni’n debygol o gael eu had-drefnu.   

Gweithiodd colegau’n galed i ddarparu amgylchedd croesawgar a chynhwysol i ddysgwyr. Er mwyn ymateb i ofynion y Ddeddf ADY, roedd colegau’n gwella eu darpariaeth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, yn parhau i hyfforddi a datblygu eu staff ac yn cryfhau partneriaethau ag ysgolion, awdurdodau lleol a byrddau iechyd. O ganlyniad i’r gwaith hwn, mae trefniadau pontio wedi gwella i lawer o ddisgyblion sy’n symud o’r ysgol i’r coleg. Mae pob coleg wedi sefydlu arlwy darpariaeth gyffredinol a darpariaeth ddysgu ychwanegol leol a defnyddiodd llawer o golegau hyn yn dda i egluro graddau a chyfyngiadau eu harlwy i awdurdodau lleol, ysgolion a rhieni/gofalwyr. 

Roedd y trefniadau hyn yn fwyaf effeithiol pan wahoddwyd staff colegau i fynychu paneli ac adolygiadau pontio a phan rannwyd gwybodaeth allweddol am ddysgwyr â cholegau mewn modd cywir ac amserol. Lle nad oedd gwybodaeth yn cael ei rhannu neu lle’r oedd oedi, roedd hyn yn rhwystro trefniadau pontio ac yn ei gwneud yn anoddach i nodi a rhoi trefniadau cymorth priodol ar waith. Er bod effaith gyffredinol y newidiadau yn gadarnhaol, mynegodd arweinwyr a staff colegau bryder ynghylch y llwyth gwaith gweinyddol uchel sy’n gysylltiedig â’r trefniadau ADY newydd, yn enwedig lle mae gwahaniaethau sylweddol yn y ddogfennaeth sydd ei hangen ar draws sawl awdurdod lleol. Mae colegau hefyd wedi dechrau rhoi addasiadau rhesymol ar waith i systemau a gweithdrefnau’r coleg, ond mae’n rhy gynnar i werthuso effeithiolrwydd cyffredinol y newidiadau hyn. Amlygodd ein hadolygiad thematig o weithwyr arweiniol ymgysylltu a dilyniant ieuenctid yr angen i gryfhau cydweithredu rhwng gweithwyr arweiniol a colegau AB i gefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) neu sydd mewn perygl o fod yn NEET.

Mae llawer o golegau’n cydnabod yr angen i wella effeithiolrwydd ac effaith gyffredinol rhaglenni tiwtorial ac roedd sawl coleg yn peilota defnyddio rolau arbenigol, fel anogwyr bugeiliol, i helpu sicrhau mwy o gysondeb o ran cyflwyno ac effaith. Roedd dulliau rheoli ymddygiad cadarnhaol yn dod yn fwy cyffredin mewn colegau, gyda ffocws clir ar ddulliau adferol yn hytrach na dibynnu ar bolisïau a gweithdrefnau disgyblu myfyrwyr blaenorol.

Tynnodd arweinwyr a staff colegau sylw at yr heriau iechyd meddwl eang y mae llawer o ddysgwyr yn eu hwynebu, gan gynnwys pryder yn ymwneud ag arholiadau. Fe wnaethant hefyd nodi fod trefniadau mynediad ar gyfer arholiadau yn arbennig o heriol, yn logistaidd ac o ran adnoddau, gan gynnwys yr angen am lawer o ystafelloedd ychwanegol a goruchwylwyr arholiadau ychwanegol, yn enwedig ar gyfer ailsefyll arholiadau TGAU. 

Mae colegau wedi sefydlu timau lles cryf dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mynegodd arweinwyr bryder ynghylch cynaliadwyedd posibl y trefniadau staffio presennol yn sgil newidiadau i gyllid, gan gynnwys cwtogi neu ddod â rhai mentrau penodol a ariennir gan brosiectau i ben.

Yn ystod arolygiad craidd Grŵp Llandrillo Menai, canfuom fod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn mwynhau dod i’r coleg ac yn teimlo’n saff a diogel. Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn hapus, yn llawn cymhelliant ac yn falch o’u cynnydd. Roedd trefniadau sefydledig o ran llais y dysgwyr, gan gynnwys arolygon dysgwyr a dulliau cynrychioli dysgwyr, yn cynnig cyfleoedd defnyddiol i ddysgwyr fynegi eu barn a’u safbwyntiau ar eu profiadau dysgu. Roedd arweinwyr wedi sefydlu diwylliant diogelu cryf a pherthynas waith dda rhwng timau addysgu, lles a diogelu ac asiantaethau allanol. Fodd bynnag, nodom fod angen mwy o gysondeb ac effeithiolrwydd o fewn ac ar draws colegau er mwyn sicrhau presenoldeb a phrydlondeb dysgwyr ar draws campysau. Roedd hefyd angen gwella cysondeb y cyngor ac arweiniad i ddysgwyr sydd bron â chwblhau eu rhaglen ar eu camau nesaf.

Mae adroddiad arolygu Grŵp Llandrillo Menai yn cynnwys dau ‘Sbotolau ar’ les, gofal, cymorth ac arweiniad yn y coleg. Mae un ohonynt yn amlygu gwerth rolau arbenigol nyrs y coleg ac ymarferydd iechyd meddwl. Mae’r llall yn amlinellu sut mae’r coleg wedi cryfhau ei berthynas â’i awdurdodau lleol partner ac ysgolion yn sylweddol i gefnogi pontio dysgwyr yn llwyddiannus i’r coleg. 

Yn ystod ein hymweliadau adolygiad thematig â’r pum coleg sy’n cyflwyno rhaglenni prentisiaeth iau ar hyn o bryd, canfuom fod dysgwyr ar y rhaglenni hyn yn gwerthfawrogi’r cymorth a gânt gan anogwyr dysgu, yn ogystal â staff addysgu ymroddedig yn fawr iawn. Fodd bynnag, roedd angen sicrhau bod cyfrifoldebau am drefniadau diogelu yn glir bob tro a bod asesiadau risg unigol yn cael eu cynnal ar gyfer pob disgybl ysgol sy’n mynychu darpariaeth bartneriaeth yn y coleg, gan gynnwys prentisiaid iau.


Arweinyddiaeth

Yn ystod ein hymweliadau ymgysylltu cyswllt â cholegau AB, canolbwyntiom ar strategaeth y coleg, hunanwerthuso a chynllunio gwelliant. Canfuom fod blaenoriaethau strategol wedi’u nodi’n glir ac yn cael eu defnyddio’n briodol i lywio cynllunio strategol a gweithredol. Roedd byrddau llywodraethu yn cynnig her a chymorth priodol i uwch arweinwyr, gan gynnwys helpu i lunio a phennu cyfeiriad strategol y coleg a goruchwylio perfformiad.

Crybwyllodd arweinwyr colegau eu bod yn cyfranogi’n weithredol mewn partneriaethau medrau rhanbarthol ac roedd hyn yn helpu i sicrhau ymatebolrwydd cyffredinol i anghenion medrau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mewn llawer o achosion, roedd datblygiadau colegau’n cyd-fynd yn dda â blaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Roedd patrymau recriwtio dysgwyr yn amrywio ar draws y sector, ynghyd â pherfformiad colegau unigol yn erbyn targedau cyflawni niferoedd dysgwyr, fel y’u pennir yn eu cytundebau dyrannu cyllid AB. Nododd llawer o golegau heriau penodol o ran recriwtio dysgwyr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a lletygarwch ac arlwyo.

Roedd trefniadau darpariaeth 14-16 cydweithredol yn arbennig o amrywiol a mynegodd sawl arweinydd coleg bryder ynghylch effaith bosibl cyflwyno cymwysterau Tystysgrif Alwedigaeth Addysg Uwchradd (TAAU) ar yr agwedd hon ar eu gwaith. At ei gilydd, nid yw cydweithio rhwng colegau, ysgolion ac awdurdodau lleol wedi’i ddatblygu’n ddigonol o hyd a, heb gyfeiriad cenedlaethol neu weithredu lleol digonol, nid yw’n manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i wella darpariaeth 16-19 leol neu ddarpariaeth bartneriaeth ar gyfer disgyblion 14 i 16 oed, gan gynnwys prentisiaethau iau. Ni ellir targedu unrhyw feirniadaeth yn y maes hwn at ddarparwyr AB yn unig.

Yn y rhan fwyaf o golegau, fel rhan o weithgareddau hunanwerthuso, bu dychweliad graddol at ddefnyddio meincnodi mewnol ac allanol er mwyn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol wrth gyhoeddi data mesurau cyson yn ymwneud â deilliannau dysgwyr a dychwelyd i drefniadau asesu arferol ar ôl y pandemig. Nododd arweinwyr colegau fod diffyg data cymharol sector-benodol ar gyfer colegau AB fel is-set mewn mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 yn cyfyngu ar y cwmpas ar gyfer meincnodi effeithiol. 

Roedd problemau â chywirdeb a dibynadwyedd dulliau colegau o fewnbynnu a gwerthuso data gwerth ychwanegol hefyd yn cyfyngu ar allu colegau i werthuso’n gadarn y pellter a deithiwyd gan ddysgwyr unigol. 

Roedd y rhan fwyaf o staff colegau’n elwa ar ystod eang o weithgareddau datblygiad proffesiynol, gydag amser wedi’i ddynodi ar gyfer hyn mewn calendrau colegau. Nododd arweinwyr colegau fod anawsterau o ran recriwtio staff ac absenoldebau salwch yn peri pryder, er enghraifft mewn rolau â chyflog is, fel cynorthwywyr cymorth dysgu a goruchwylwyr arholiadau. Roedd recriwtio staff Cymraeg eu hiaith yn her i golegau o hyd. 

Mae adroddiad arolygu Grŵp Llandrillo Menai yn cynnwys tri ‘Sbotolau ar’ arwain a gwella. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar ymgynghori â staff a dysgwyr, datblygiad proffesiynol arbenigol a chyfraniad y coleg at ffermio cynaliadwy a datblygiadau cynhyrchu bwyd lleol.

Eleni, roedd trosiant anarferol o uchel yn nifer yr uwch ddeiliaid swyddi, gan gynnwys pedwar o’r deuddeg rôl prif swyddog gweithredol yn y sector yn ymddeol. Crybwyllodd llawer o golegau hefyd fod y sefyllfa ariannol gyffredinol yn tynhau ar draws y sector yn ffactor allweddol a oedd yn dylanwadu ar ymarferion diswyddo gwirfoddol diweddar mewn addysg bellach.

Yn ystod arolygiad craidd Grŵp Llandrillo Menai, canfuom fod uwch arweinwyr ac arweinwyr canol yn defnyddio gwybodaeth yn dda fel rhan o drefniadau hunanwerthuso a monitro. Fodd bynnag, nid oedd gwerthuso addysgu, asesu a safon gwaith dysgwyr yn cael eu hystyried yn ddigon da i lywio cynllunio gwelliant a chefnogi rhannu arfer dda.


Trosolwg argymhellion

Roedd argymhellion o arolygiad Grŵp Llandrillo Menai yn cynnwys cryfhau effaith addysgu ar ansawdd y dysgu, gwella cyrhaeddiad graddau uchel a mynd i’r afael â materion yn ymwneud â phrydlondeb a phresenoldeb yn gyson.

Roedd argymhellion yr adolygiad thematig o’r rhaglen prentisiaethau iau yn cynnwys sicrhau bod trefniadau diogelu ar gyfer dysgwyr prentisiaethau iau yn glir ac yn gadarn, a darparu diweddariadau rheolaidd am unrhyw drefniadau amserlennu sy’n effeithio ar ddysgwyr unigol. Gwnaeth yr adroddiad gyfres o argymhellion hefyd ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. 

Gwnaethom argymhelliad hefyd yn ein hadroddiad Adolygiad o Weithwyr Arweiniol Ymgysylltu a Dilyniant Ieuenctid, a oedd yn canolbwyntio ar wella cymorth pontio i gyrchfannau ôl-16 ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.