Addysgu a’r Cwricwlwm
Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024
Mae mwyafrif yr ysgolion a’r lleoliadau nas cynhelir wedi parhau i ddatblygu a mireinio eu gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm ac addysgu. Mewn tua hanner yr achosion, maent wedi rhoi ystyriaeth dda i sut olwg ddylai fod ar y weledigaeth hon yn ymarferol a sut y gall gefnogi disgyblion i wella eu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau.
Podlediad Sgwrs: Archwilio’r Cwricwlwm i Gymru
Gwrandewch ar ein podlediad, Sgwrs, ble rydym yn archwilio esblygiad y Cwricwlwm i Gymru a sut mae ysgolion yn siapio profiadau dysgu arloesol ac effeithiol. Mae’r bennod hon yn cynnwys enghreifftiau ymarferol o ysgolion sy’n gweithredu cwricwlwm deinamig a deniadol a chyngor i addysgwyr ar gynllunio cwricwlwm llwyddiannus.
Mae’r panel yn cynnwys Cath Evans (Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Estyn) Tony Bate (AEF, Estyn) Hannah Rowley (Cylch Meithrin Nant Dyrys) Elin Wakeham (Pennaeth, Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr) a Gwenno Davies (Pennaeth, Ysgol y Creuddyn).
Addysgu o ansawdd uchel
Lle cafodd y cwricwlwm ei roi ar waith yn fwyaf llwyddiannus, mae arweinwyr wedi cadw ffocws diwyro ar wella ansawdd yr addysgu fel elfen sylfaenol i helpu athrawon i ddeall sut i ddatblygu a chyflwyno eu cwricwlwm yn effeithiol. Yn yr achosion hyn, mae arweinwyr wedi sicrhau bod dysgu proffesiynol yn ymateb yn dda i ganfyddiadau o brosesau gwerthuso ysgolion, yn enwedig yr agweddau ar addysgu y mae angen eu gwella fwyaf.
Yn yr ysgolion mwy effeithiol, cydweithiodd arweinwyr â staff i osod disgwyliadau uchel ar gyfer ansawdd yr addysgu. Rhoddodd yr ysgolion hyn bwyslais clir ar ennyn diddordeb disgyblion mewn profiadau dysgu sy’n fwyaf tebygol o gyflymu eu cynnydd. Roedd ychydig o ysgolion yn dechrau datblygu strategaethau clir i gefnogi disgyblion i ddatrys problemau’n fwy annibynnol trwy eu hannog i ystyried eu meddylfryd a myfyrio ar eu gwaith yn feirniadol. Er enghraifft, maent yn hybu trafodaethau o ansawdd uchel yn yr ystafell ddosbarth sy’n helpu disgyblion i fynegi eu meddyliau ar lafar a gweithio trwy dasgau ar y cyd â’u cyfoedion.
Ysgol Gynradd Cyfarthfa Park
Ciplun – Ymagweddau effeithiol at lefaredd a’i effaith ar ddatblygu meddylwyr beirniadol
Mae arweinwyr a staff yn sicrhau bod ymagwedd gytûn at ddatblygu medrau siarad a gwrando disgyblion. Mae’r ymagwedd hon wedi’i hintegreiddio’n dda yn yr addysgu ym mron pob dosbarth. Mae staff yn arfogi disgyblion â’r iaith a’r eirfa sydd eu hangen arnynt i ddod yn ddysgwyr myfyriol, gan feithrin eu hyder i herio meddylfryd ei gilydd yn barchus. Mae’r ymagwedd hon wedi’i gwreiddio’n ddwfn ar draws llawer o feysydd y cwricwlwm; er enghraifft, mae disgyblion yn defnyddio eu medrau iaith i werthuso eu dysgu eu hunain, cymryd rhan mewn trafodaethau pwrpasol am eu darllen a mynegi eu syniadau ar gyfer datrys problemau mathemategol.
Mewn ysgolion lle bu arweinwyr yn fwyaf llwyddiannus o ran sicrhau gwelliannau i ansawdd yr addysgu, maent wedi:
- Sicrhau bod yr holl staff yn deall pwysigrwydd cynllunio ar gyfer dysgu mewn gwybodaeth, medrau a dealltwriaeth disgyblion
- Datblygu diwylliant o ddisgwyliadau uchel lle mae’r holl staff yn mwynhau trafod addysgu a datblygu’r cwricwlwm
- Cefnogi staff i ddatblygu dealltwriaeth glir o gynnydd ym mhob agwedd ar ddysgu disgyblion
- Annog staff ac yn eu caniatáu i wneud dewisiadau proffesiynol gwybodus
- Creu diwylliant lle mae athrawon yn cael adborth yn gyson am gryfderau a meysydd i’w gwella mewn addysgu
- Rhoi addysgu ac addysgeg fel eitemau ar agendâu pob cyfarfod staff yn rheolaidd
- Sicrhau y caiff datblygiad proffesiynol ei gynllunio’n strategol
- Defnyddio ymchwil yn synhwyrol i lywio’r penderfyniadau a’r strategaeth ar gyfer eu hysgol
Mewn ysgolion lle mae athrawon yn cynllunio’n ofalus ar gyfer dysgu, maent yn cynllunio gweithgareddau dysgu difyr sy’n cyd-fynd â’r deilliannau dysgu arfaethedig. Mae mwyafrif o ysgolion cynradd a’r lleiafrif o ysgolion uwchradd wedi cydbwyso datblygiad systematig gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion, ynghyd â’u cymhwyso. Mae hyn wedi eu helpu i greu cysylltiadau ystyrlon, lle bo hynny’n briodol, mewn ac ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDaPhau).
Mae arweinwyr ac ymarferwyr mewn llawer o leoliadau meithrin nas cynhelir wedi gwneud cynnydd cryf wrth roi Cwricwlwm i Gymru ar waith. Yn y lleoliadau hyn, mae staff yn ymgysylltu’n dda â dysgu proffesiynol ac yn datblygu dealltwriaeth dda o ddatblygiad plant ac addysgu effeithiol yn y blynyddoedd cynnar.
Little Lambs Emmanuel
Ciplun – Cynllunio ymatebol ar waith
Mae staff yn cynllunio’n effeithiol ac yn ofalus i sicrhau bod profiadau dysgu’r plant yn cyd-fynd ag egwyddorion Cwricwlwm i Gymru. Mae ymarferwyr wedi datblygu dealltwriaeth gref o ddatblygiad plant ac yn ei defnyddio i ymateb yn fedrus i anghenion unigol pob plentyn.
Er enghraifft, mae ymarferwyr yn defnyddio’r llwybrau datblygiadol yng nghwricwlwm Cymru i gynllunio’n ofalus ar gyfer cyfleoedd dysgu sy’n datblygu medrau plant, gan gynnal yr hyblygrwydd i addasu i ddiddordebau esblygol plant. Mae’r ymagwedd hon yn sicrhau cydbwysedd effeithiol rhwng meithrin medrau â ffocws a chyfleoedd digonol ar gyfer chwarae rhydd er mwyn i blant ddatblygu eu dyfalbarhad a’u hyder.
Un o gryfderau nodedig y lleoliad yw’r ffordd mae ymarferwyr yn addasu eu cwricwlwm yn barhaus i’w gadw’n ddifyr ac yn hygyrch i bob plentyn, gan feithrin amgylchedd dysgu cynhwysol a symbylol.
Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, dim ond megis dechrau datblygu oedd dylunio’r cwricwlwm o hyd. Yn yr achosion hyn, yn aml roedd dealltwriaeth wannach o ddilyniant neu roedd disgwyliadau athrawon yn rhy isel. Ar ben hynny, roedd yr ysgolion hyn yn aml wedi creu cysylltiadau arwynebol rhwng pynciau neu MDaPhau. Mewn lleiafrif o achosion, nid oedd arweinwyr wedi sicrhau bod ffocws digonol ar wella ansawdd yr addysgu ac nid oeddent wedi defnyddio prosesau gwerthuso a gwella yn ddigon trylwyr i nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu. Yn yr ysgolion hyn, nid oedd cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol, yn enwedig i wella dealltwriaeth athrawon o addysgu effeithiol, wedi’u datblygu’n ddigonol. O ganlyniad, roedd athrawon yn dueddol o ganolbwyntio ar gynllunio gweithgareddau heb sicrhau bod ganddynt ddarlun clir o sut bydd dysgu disgyblion yn symud yn ei flaen. At hynny, roedd disgwyliadau o’r hyn y gall disgyblion ei gyflawni yn aml yn rhy isel.
Mewn lleiafrif o ysgolion, nid oedd athrawon yn cefnogi disgyblion i ddatblygu eu gallu i feddwl yn annibynnol yn ddigon da. Yn yr achosion hyn, roedd ymgysylltiad disgyblion yn aml wedi’i gyfyngu gan oedolion sy’n gorgyfarwyddo’r broses ddysgu. Mae hyn yn lleihau cyfleoedd i ddisgyblion ymarfer a chymhwyso eu gwybodaeth mewn cyddestunau mwy heriol. Fodd bynnag, lle cafodd hyn ei wneud yn dda, roedd staff yn arwain disgyblion yn fedrus i gymhwyso eu gwybodaeth i ddatrys problemau ag annibyniaeth gynyddol pan fyddant yn wynebu anawsterau.
Ysgol Gynradd a Meithrin Sant Andrew
Ciplun – Rôl yr oedolyn sy’n galluogi i gefnogi amgylcheddau effeithiol a phrofiadau difyr
Mae ymarferwyr yn mabwysiadu’r dull sylwi, dadansoddi ac ymateb i arsylwi ymgysylltiad disgyblion iau â phrofiadau dysgu. Yn ystod y cam ‘sylwi’, maent yn ceisio canfod beth sy’n gyrru diddordeb neu chwilfrydedd disgyblion, yn ogystal â sut mae disgyblion yn dewis yr adnoddau sydd ar gael iddynt. Yn ystod y cam ‘dadansoddi’, mae ymarferwyr yn dehongli datblygiad medrau a gwybodaeth disgyblion, yn asesu eu cynnydd ac yn dadansoddi sgema dewisol disgybl.1 Gweithredoedd ailadroddus neu ymddygiadau penodol y mae plant yn eu defnyddio i wneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas Yn olaf, caiff arsylwadau eu defnyddio yn sbardun ar gyfer cynllunio profiadau dysgu yn y dyfodol. Gallai hyn gynnwys staff yn gwneud addasiadau i’r amgylchedd, cynllunio cyfleoedd i ddisgyblion fireinio neu atgyfnerthu medr a chyfoethogi profiadau ymhellach. O ganlyniad, mae staff yn gweithredu fel galluogwyr, gan fodelu a gwella annibyniaeth, hyder a pherchnogaeth disgyblion o’u hamgylchedd dysgu.
Mewn ysgolion lle nad oedd ansawdd yr addysgu yn ddigon effeithiol, yn gyffredinol, nid oedd arweinwyr:
- Wedi sicrhau bod gan yr holl staff ddisgwyliadau digon uchel o ddisgyblion
- Wedi sicrhau bod dylunio’r cwricwlwm a’r addysgu yn canolbwyntio ar gynllunio ar gyfer dysgu disgyblion
- Wedi rhoi blaenoriaeth i ddatblygu addysgu ochr yn ochr â dylunio’r cwricwlwm
- Wedi sicrhau bod disgyblion yn gallu manteisio ar ystod eang o brofiadau’r cwricwlwm
Cwricwlwm wedi’i arwain gan ddibenion
Mae gormod o amrywiant o hyd yn nealltwriaeth ysgolion o’r cwricwlwm wedi’i arwain gan ddibenion. Yn yr achosion gorau, roedd staff yn deall bod cwricwlwm wedi’i arwain gan ddibenion yn ymwneud â sicrhau bod diben clir i bob profiad dysgu o ran cefnogi disgyblion i ddatblygu eu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau sydd, yn ei dro, yn cefnogi eu datblygiad tuag at y pedwar diben. Yn yr ysgolion hyn, roedd staff wedi gweithio ar y cyd i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o ddylunio’r cwricwlwm a’r dulliau addysgu mwyaf effeithiol i gefnogi cynnydd cynaledig disgyblion dros gyfnod. Lle cafodd hyn ei ddeall yn dda, roedd arweinwyr a staff yn meddwl yn ofalus am ddyluniad eu cwricwlwm ac yn herio ei gilydd yn gyson i ystyried sut mae pob profiad dysgu o fudd i’w disgyblion ac yn eu cefnogi i wneud cynnydd ystyrlon.
Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe
Ciplun – Datblygu dealltwriaeth o Gwricwlwm i Gymru mewn addysg gychwynnol athrawon
Mae tiwtoriaid yn dylunio modiwlau cyrsiau yn feddylgar er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael cyfleoedd cyfoethog i ddatblygu dealltwriaeth glir o Gwricwlwm i Gymru, herio camsyniadau a datblygu’r medrau a’r wybodaeth angenrheidiol i addysgu ar draws yr ystod o grwpiau oedran a MDaPhau. Mae darpariaeth barhaus, wedi’i dylunio’n ofalus, ynghyd ag addysgu effeithiol, yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu ymagwedd feirniadol a myfyriol tuag at ymchwil ac yn ei chymhwyso i’w hymarfer.
Mewn lleiafrif o ysgolion, bu ffocws rhy gryf ar y pedwar diben wrth gynllunio ar gyfer addysgu dyddiol, yn hytrach na blaenoriaethu’r deilliannau dysgu penodol yr hoffent i ddisgyblion eu cyflawni. Weithiau, arweiniodd hyn at athrawon yn cynllunio gwersi unigol i ‘fodloni’r’ pedwar diben yn unig neu’n cynllunio ystod o weithgareddau i ddisgyblion eu cwblhau nad ydynt yn datblygu eu gwybodaeth, dealltwriaeth na’u medrau yn gynyddol.
Ysgol Sant Julian
Ciplun – datblygu arlwy cwricwlwm cryf
Mae arweinwyr yn Ysgol Sant Julian wedi canolbwyntio’n gryf ar ddatblygu eu hymagwedd at Gwricwlwm i Gymru. Maent wedi sicrhau eu bod yn cynnig ystod eang o bynciau, o bob maes dysgu a phrofiad, ar gyfer disgyblion yng nghyfnod allweddol 4. Mae gan arweinwyr a staff weledigaeth glir ar gyfer eu cwricwlwm ac mae hyn wedi’i wreiddio trwy ddatblygu addysgu o ansawdd uchel.
Mae’r ysgol wedi canolbwyntio ar gynnal arbenigedd pwnc, gan roi ymreolaeth eang i arweinwyr pwnc gynllunio sut a beth maent yn ei addysgu. Mae staff wedi parhau i ganolbwyntio ar gynllunio ar gyfer cynnydd disgyblion a sicrhau bod diben clir i’r holl ddysgu. Mae gwaith â’r ysgolion cynradd sy’n bwydo wedi cefnogi staff ar bob lefel i sicrhau bod cynllunio’n adeiladu ar ddysgu blaenorol disgyblion ac yn eu cefnogi i wneud arfer effeithiol.
Datblygu medrau
Mewn mwyafrif o ysgolion cynradd a lleiafrif o ysgolion uwchradd, roedd staff wedi cynllunio’n dda i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion ar draws y cwricwlwm. Yn yr achosion gorau, ceir ymagwedd strategol lle mae staff yn cydweithio’n bwrpasol i gynllunio’r medrau hyn yn gynyddol.
Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed
Ciplun – Cynllunio a chydlynu ar gyfer datblygiad cynyddol ym medrau disgyblion
Mae’r ysgol yn cyflogi Rheolwyr Llythrennedd, Rhifedd, Dwyieithrwydd a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfCD). Mae arweinwyr a staff ym mhob maes pwnc yn cydweithio â’r rheolwyr hyn i sicrhau bod cynllunio ar gyfer medrau yn adeiladu’n bwrpasol ar ddysgu blaenorol disgyblion a bod cyfleoedd i gymhwyso medrau yn gynyddol wrth i ddisgyblion symud trwy’r ysgol. Mae ffocws clir ar greu cysylltiadau dilys rhwng y medrau trawsgwricwlaidd a chynnwys pynciau er mwyn sicrhau bod gwersi’n ystyrlon ac yn cael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion.
Mewn llawer o leoliadau nas cynhelir, roedd staff yn cynllunio’n dda i ddatblygu medrau plant yn gyfannol ar draws y cwricwlwm. Fodd bynnag, mewn gormod o ysgolion, roedd cynllunio ar gyfer datblygu medrau disgyblion yn gynyddol yn fwy cyfyngedig. Yn yr ysgolion hyn, nid oedd athrawon yn darparu digon o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio’u medrau mewn cyd-destunau mwyfwy heriol neu ar lefel ddigon uchel. O ganlyniad, yn aml, cafodd cyfleoedd eu colli i ddisgyblion ddwysáu eu dealltwriaeth a’u medrau. Er enghraifft, roedd cyfleoedd i ddisgyblion gymhwyso’r ystod lawn o fedrau rhifedd ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion yn aml yn gyfyngedig. Hefyd, nid oedd digon o gyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion ddatblygu medrau darllen mwy soffistigedig mewn ystod o feysydd ar draws y cwricwlwm.
Datblygu ymdeimlad o Gynefin ac ymgysylltu â’r gymuned
At ei gilydd, gwnaeth mwyafrif yr ysgol a’r lleoliadau ddefnydd da o’u cymuned. Er enghraifft, roedd staff mewn lleoliadau meithrin nas cynhelir yn ystyried anghenion dysgu disgyblion yn ofalus ac yn cydweithio’n agos â rhieni i ddarparu cymorth ar gyfer dysgu eu plentyn gartref. Roedd ysgolion yn aml yn defnyddio adnoddau yn eu hardal leol a sefydliadau allanol yn feddylgar. Mewn lleiafrif o achosion, roedd ysgolion a lleoliadau’n darparu cyfleoedd buddiol i ddisgyblion ddatblygu ymdeimlad o ‘gynefin’ trwy ymgorffori hanes a daearyddiaeth yr ardal leol, Cymru a’r byd ehangach yn eu haddysgu.
Roedd mwyafrif yr ysgolion uwchradd yng Nghymru yn cynnig ystod eang a chytbwys o gyrsiau yng nghyfnod allweddol 4, gan gynnwys dewisiadau TGAU a dewisiadau galwedigaethol. Fodd bynnag, mewn lleiafrif ohonynt, roedd ystod fwy cyfyngedig o bynciau ar gael, sy’n cyfyngu ar allu disgyblion i ddilyn eu diddordebau. Roedd ychydig o ysgolion yn parhau i roi cyfnod astudio TGAU tair blynedd ar waith, er gwaethaf yr arweiniad statudol diweddar gan Lywodraeth Cymru i beidio â gwneud hynny. Mae hyn yn golygu bod disgyblion yn rhoi’r gorau i ystod ehangach o bynciau ar ddiwedd Blwyddyn 8, gan gyfyngu eu cyfle i fanteisio ar gwricwlwm ehangach. Mae hyn yn lleihau cyfleoedd iddynt archwilio pynciau amrywiol yn ddigonol cyn gwneud dewisiadau mwy gwybodus ar unrhyw oedran priodol ym Mlwyddyn 9.
Cefnogi pontio disgyblion
Roedd arweinwyr a staff mewn lleoliadau nas cynhelir yn gweithio’n dda â rhieni i gefnogi addysg gynnar eu plant. Er enghraifft, roedd y rhan fwyaf o leoliadau’n gwahodd rhieni i leoliadau yn ystod y cyfnodau ymgartrefu cychwynnol. Yn gyffredinol, roedd llawer o leoliadau ac ysgolion cynradd yn cydweithio’n briodol i sicrhau pontio llyfn. Roedd lleiafrif o ysgolion uwchradd yn dechrau cydweithio â’u hysgolion cynradd partner i ddatblygu ymagwedd ar y cyd at ddylunio cwricwlwm ac addysgu. Roedd yr ysgolion hyn yn dechrau ystyried y cynnydd yr hoffent i ddisgyblion ei wneud yn eu gwybodaeth a’u medrau ac yn cydweithio â’i gilydd i nodi sut y gellir adeiladu ar ddysgu disgyblion wrth iddynt symud o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd. Fodd bynnag, at ei gilydd, roedd diffyg cysondeb wrth bontio o addysg gynradd i addysg uwchradd ac nid oedd staff ar draws y ddau sector yn cydweithio’n ddigon da â’i gilydd bob tro i rannu ymagweddau at wella addysgu a datblygu’r cwricwlwm er mwyn sicrhau parhad pwrpasol yn nysgu disgyblion.
Datblygu ymagweddau at asesu a chynnydd
Roedd mwyafrif yr athrawon yn defnyddio dulliau asesu ffurfiannol i ddeall pa mor dda yr oedd disgyblion yn dod yn eu blaenau ac i addasu eu haddysgu. Lle mae gan athrawon fwriadau dysgu clir, roeddent yn aml yn cynllunio cwestiynau’n ofalus i wirio dealltwriaeth disgyblion a datblygu eu meddwl. Ym mwyafrif yr achosion, roedd athrawon yn rhoi adborth llafar defnyddiol yn ystod gwersi i gefnogi disgyblion ac roedd y mwyafrif ohonynt yn rhoi adborth ysgrifenedig cynorthwyol i arwain disgyblion i ddeall eu camau nesaf. Yn yr achosion gorau, roedd yr athrawon yn cynllunio tasgau dilynol effeithiol i ddisgyblion weithredu ar yr adborth hwn. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, nid oedd athrawon yn sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd digonol i ymateb yn ddigon da i adborth a gwneud gwelliannau ystyrlon i ansawdd eu gwaith.
Ysgol Gynradd Troedyrhiw
Ciplun – Cynnydd dysgwyr o ganlyniad i strategaethau asesu trylwyr a monitro cyflawniadau disgyblion a’r camau nesaf mewn dysgu
Treulir amser gwerthfawr yn sicrhau bod gan bob aelod staff ddealltwriaeth glir a chywir o gynnydd ym mhob maes dysgu. Mae staff ac arweinwyr yn triongli data o adborth yn llyfrau disgyblion, adolygiadau cynnydd carfanau a ‘Sesiynau Cyfarfod â Disgyblion’, lle caiff amser ei dreulio â phob disgybl yn trafod yr hyn y maent yn ei wneud yn dda, beth yw’r camau nesaf yn eu dysgu a sut y cânt eu cefnogi. O ganlyniad, mae adborth i ddisgyblion yn effeithiol. Mae cyfleoedd amserol i ddisgyblion adeiladu ar ddysgu blaenorol a dealltwriaeth glir o’r hyn y mae’r disgybl yn ei gyflawni mewn gwersi a’r hyn y mae angen iddynt ei wella. Mae hyn, yn ei dro, yn llywio’r camau nesaf ar gyfer cynllunio athrawon.
Mae lleiafrif o ysgolion wedi gweithio’n dda i ddatblygu dealltwriaeth staff o gynnydd ar draws pob ystod oedran. Fodd bynnag, at ei gilydd, ledled Cymru, roedd ysgolion yn ei chael hi’n anodd datblygu cyd-ddealltwriaeth o ddilyniant a chynllunio’n fanwl gywir i gefnogi cynnydd disgyblion. Roedd arweinwyr yn nodi y byddent yn croesawu eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut olwg ddylai fod ar y cynnydd gofynnol a ddisgwylir ar gamau gwahanol o ddysgu a datblygiad disgyblion.
Cwestiynau hunan fyfyrio
- Pa mor dda y mae ein staff yn deall pwysigrwydd addysgu o ansawdd uchel a’i effaith ar gynnydd eu disgyblion?
- A ydym ni fel arweinwyr wedi datblygu diwylliant o hunanwerthuso a dysgu proffesiynol, lle mae gwella addysgu yn flaenoriaeth uchel?
- Pa mor effeithiol y mae ein hathrawon yn cynllunio ar gyfer dysgu, gan ddylunio tasgau sy’n ddifyr ac yn cyd-fynd â’r deilliannau dysgu arfaethedig?
- Pa mor dda y mae ein staff yn cyflawni eu rôl fel oedolion sy’n galluogi, deall anghenion disgyblion, ac addasu eu haddysgu yn fedrus i gefnogi a symud dysgu yn ei flaen?
- Pa mor dda ydyn ni’n cynllunio i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion yn gynyddol ar draws y cwricwlwm?
- Pa mor effeithiol ydyn ni’n defnyddio ein cymuned, ein hardal leol a sefydliadau allanol i gyfoethogi profiadau dysgu?
- Pa mor dda ydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod trefniadau pontio yn datblygu ymagwedd ar y cyd at ddylunio’r cwricwlwm, yn gwella ein dealltwriaeth o addysgu effeithiol ac yn datblygu cyd-ddealltwriaeth o ddilyniant?
- Pa mor dda y mae athrawon yn cefnogi disgyblion i ddatblygu eu hannibyniaeth?
- Pa mor effeithiol y mae athrawon yn defnyddio ymagweddau ffurfiannol tuag at asesu i ddeall pa mor dda y mae disgyblion yn dod yn eu blaenau ac yn addasu eu haddysgu mewn gwersi a thros gyfnod?