Colegau arbenigol annibynnol
Adroddiad sector 2023 - 2024
7
Nifer y colegau arbenigol annibynnol yng Ngorffennaf 2023
8
Nifer y colegau arbenigol annibynnol yng Ngorffennaf 2024
2
Llythyrau lles a gyhoeddwyd ym mlwyddyn academaidd 2022-2023
Llythyrau lles a gyhoeddwyd ym mlwyddyn academaidd 2023-2024
Gweithgarwch arolygu a gynhaliwyd eleni:
- 1 arolygiad craidd
- 5 ymweliad monitro
- 4 ymweliad cofrestru cychwynnol
- 2 ymweliad newid i drefniadau
Cipluniau:
- Aspris South – siop goffi
- Aspris South – gweithio mewn partneriaeth ar gyfer pontio
Ymweliadau cofrestru cychwynnol
Pan fydd darparwr yn ceisio cael lleoliadau a ariennir gan awdurdod lleol, mae angen iddo wneud cais i Lywodraeth Cymru i gael ei gynnwys ar y rhestr o sefydliadau ôl-16 arbenigol annibynnol cymeradwy. Wrth ystyried cais i gael ei gynnwys ar y rhestr, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i Estyn adolygu’r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a darparu adroddiad ag argymhelliad.
Yn ystod 2023-2024, darparom bedwar adroddiad i Lywodraeth Cymru ar ansawdd y ddarpariaeth dysgu ychwanegol a gynigiwyd gan ymgeiswyr.
Cryfderau:
- Ym mron pob un o’r ceisiadau, roedd gan arweinwyr weledigaeth addas ar gyfer diben y ddarpariaeth, wedi’i harwain gan werthoedd clir a phrofiad o gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Roedd bron pob un o’r ymgeiswyr yn dangos dealltwriaeth gadarn o bwysigrwydd ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y dysgwr.
- Mewn un lleoliad, roedd cynlluniau’r cwricwlwm ac asesu yn canolbwyntio ar ddysgwyr yn datblygu medrau buddiol ac achredu dysgu, lle bo hynny’n briodol.
- Mewn un lleoliad, cynlluniodd arweinwyr ymagwedd wedi’i hunigoli i fodloni anghenion dysgwyr a gwneud trefniadau i ddysgwyr elwa ar allu manteisio ar ystod eang o adnoddau o ansawdd uchel.
- Mewn un lleoliad, sefydlodd arweinwyr dîm therapiwtig i gefnogi anghenion dysgwyr.
Meysydd i’w gwella:
- Mewn tri darparwr, roedd arlwy cwricwlwm cyfyngedig neu ddull cynlluniedig o asesu’r cynnydd a wnaed gan ddysgwyr.
- Mewn tri darparwr, nid oedd polisïau’n cyfeirio’n gyson at ddeddfwriaeth ac arweiniad cyfredol Cymru.
- Mewn tri lleoliad, roedd pryderon ynghylch addasrwydd y defnydd cynlluniedig o’r amgylchedd dysgu.
- Nid oedd gan ddau leoliad unrhyw arlwy clir ar gyfer darpariaeth dysgu ychwanegol ac ni nodwyd yn glir gategori’r angen roedd y darparwr yn bwriadu ei gefnogi.
Crynodeb
Yn ystod 2023-2024, parhaodd colegau arbenigol annibynnol (sydd hefyd yn cael eu galw’n sefydliadau arbenigol annibynnol ôl-16) i ddarparu cymorth addysg a lles i ddysgwyr ag ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol.
Addysgodd colegau arbenigol annibynnol tua 170 o ddysgwyr 16 oed neu’n hŷn a ariannwyd gan ledled Cymru. Darparodd y colegau ar gyfer ystod amrywiol o anghenion dysgwyr, gan gynnwys cyflyrau ar y sbectrwm awtistig; anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol; ac anawsterau dysgu dwys a lluosog. Mewn pump o’r colegau, roedd dysgwyr yn byw mewn cartrefi preswyl ynghlwm wrth y coleg.
Ar hyn o bryd, mae bron pob lleoliad mewn colegau arbenigol annibynnol yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol ar gyfer dysgwyr o Loegr. Oherwydd diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol, mae cyllid ar gyfer y lleoliadau hyn yn symud o Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol, ac mae dysgwyr newydd bellach yn cael eu hariannu trwy awdurdodau lleol.
Yn ogystal ag arolygiadau llawn, rydym yn cynnal ymweliadau monitro rheolaidd â cholegau arbenigol annibynnol. Mae’r ymweliadau hyn yn ystyried y cynnydd a wnaed gan golegau yn erbyn argymhellion penodol o arolygiadau craidd ac ymweliadau monitro blaenorol.
Eleni, cynhaliom un arolygiad craidd, pum ymweliad monitro, pedwar ymweliad cofrestru cychwynnol a dau ymweliad newid trefniadau. Mae canfyddiadau pob un o’r ymweliadau hyn wedi llywio’r adroddiad hwn.
Addysgu a dysgu
Gwnaeth y rhan fwyaf o ddysgwyr mewn colegau arbenigol annibynnol gynnydd cadarn tuag at eu targedau unigol. eli
At ei gilydd, datblygodd staff berthnasoedd cadarnhaol dros ben â dysgwyr ac ymddwyn fel delfryd ymddwyn gadarnhaol. Mewn tua hanner y colegau, roedd y gefnogaeth sensitif a medrus gan weithwyr cymorth dysgu yn gryfder nodedig ac roeddent yn caniatáu i ddysgwyr weithio’n annibynnol, lle bo hynny’n bosibl. Mewn lleiafrif o golegau, roedd ansawdd y cymorth dysgu yn rhy amrywiol. Roedd tua hanner y colegau yr ymwelom â nhw wedi gwella prosesau ar gyfer olrhain cynnydd dysgwyr yn ddiweddar ac yn dechrau defnyddio’r wybodaeth hon i lywio cynllunio.
Coleg Elidyr – Dathlu’r Gymraeg a’i diwylliant
Mae dysgwyr sy’n cymryd rhan yn y ‘Clwb Clonc’ yn dangos agweddau cadarnhaol tuag at y Gymraeg a’i diwylliant. Maent yn ymgysylltu’n dda â gweithgareddau y mae’r coleg wedi’u datblygu i wella eu medrau Cymraeg. Lle bo modd, mae’r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg rhugl yn sgwrsio’n naturiol â’u tiwtoriaid a’u cymheiriaid mewn sgyrsiau un-i-un gan ddefnyddio’r Gymraeg.
Roedd colegau arbenigol annibynnol yn darparu cwricwlwm hyblyg, wedi’i lywio gan ddiddordebau dysgwyr ac anghenion y dyfodol. Mewn tua hanner y colegau yr ymwelwyd â nhw, atgyfnerthwyd yr arlwy hwn trwy gysylltiadau â cholegau prif ffrwd.
At ei gilydd, roedd dysgwyr yn elwa ar gyfleoedd i ddatblygu medrau ymarferol mewn lleoliadau go iawn. Er enghraifft, roedd dysgwyr yn gweithio yn siop goffi’r coleg yn gweini cwsmeriaid sy’n talu o’r gymuned leol, yn gofalu am anifeiliaid ar fferm y coleg, yn tyfu llysiau yn y twnnel polythen ac yn coginio prydau bwyd yng nghegin y coleg. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o golegau, roedd dysgwyr yn cwblhau taflenni gwaith a ddyluniwyd yn wael, nad oeddent yn datblygu eu medrau na’u dysgu. Roedd tua hanner y colegau yr ymwelwyd â nhw eleni wedi gwneud gwelliannau diweddar i’w hamgylcheddau dysgu.
Hwb Aspris – Siop goffi
Mae dysgwyr yn datblygu ystod o fedrau pwysig ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol yn siop goffi’r coleg. Mae’r siop goffi ar agor i’r cyhoedd bob amser cinio gan werthu prydau bwyd, byrbrydau a diodydd poeth. Mae arweinwyr wedi cynllunio’r ddarpariaeth hon fel modd i ddatblygu ystod o fedrau, er enghraifft medrau cymdeithasol, hylendid bwyd sylfaenol, coginio a medrau rheoli a defnyddio arian.
Mae dysgwyr yn llenwi cais i gael eu hystyried ar gyfer y rôl ac wedyn yn llofnodi contract â’r coleg pan gânt eu penodi. Wrth baratoi ar gyfer lleoliadau, maent yn cwblhau cymwysterau achrededig mewn hylendid bwyd a hyfforddiant ‘barista’, y gellid eu trosglwyddo i gyflogaeth yn y dyfodol.
Gofal, cymorth ac arweiniad a’u heffaith ar les dysgwyr
Roedd pob un o’r colegau yr ymwelwyd â nhw eleni wedi sefydlu amgylcheddau dysgu golau a chroesawgar lle roedd dysgwyr yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel. Nid oedd unrhyw bryderon sylweddol ynghylch arfer diogelu yn unrhyw un o’r colegau yr ymwelwyd â nhw eleni. Ymatebodd pob un o’r colegau’n briodol i faterion a godwyd yn eu llythyrau lles o’r flwyddyn academaidd flaenorol, yn ôl yr angen.
Ym mhob un o’r colegau yr ymwelwyd â nhw, datblygodd staff ddealltwriaeth gref o anghenion a diddordebau dysgwyr. Roeddent yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol ac anogol â nhw. Mewn ychydig o golegau, roedd presenoldeb dysgwyr yn faes i’w wella o hyd. Ar ben hynny, mewn ychydig o golegau, roedd diffyg eglurder a thrylwyredd mewn prosesau i gofnodi a mynd ar drywydd absenoldebau dysgwyr.
Ym mhob un o’r colegau yr ymwelwyd â nhw, roedd dysgwyr yn elwa ar gymorth tîm therapi. Lle’r oedd hyn yn fwyaf effeithiol, roedd dysgwyr yn defnyddio’r cymorth hwn i ddatblygu medrau pwysig, fel hunanreoleiddio, medrau cymdeithasol a chyfathrebu.
Coleg Aspris – Gweithio mewn partneriaeth ar gyfer pontio’n gadarnhaol
Mae gan bob dysgwr lwybrau pontio unigol wrth ddechrau yn y coleg, sy’n cael eu hadolygu’n rheolaidd ac sy’n sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i gyflawni eu nodau hirdymor. Caiff gwybodaeth werthfawr ei chasglu am ddysgwyr yn ystod eu hasesiad, sy’n cynnwys eu diddordebau personol, amcanion addysg a’r cymorth sydd ei angen. Mae hyn yn galluogi’r coleg i ddatblygu traciwr llwybr priodol ar gyfer pob dysgwr.
Mae partneriaeth gref rhwng Coleg Aspris a Choleg Gwent. Caiff cyfarfodydd rheolaidd eu cynnal rhwng arweinwyr y colegau lle caiff gwybodaeth bwysig ei rhannu am yr holl ddysgwyr presennol a darpar ddysgwyr. Mae staff yn y coleg yn elwa ar arsylwi sesiynau yng Ngholeg Gwent i wella a datblygu eu harfer addysgu eu hunain, yn ogystal â’u galluogi i ddarparu gwybodaeth gywir am gyrsiau i’w dysgwyr. O ganlyniad, mae llawer o ddysgwyr yn pontio’n llwyddiannus o Goleg Aspris i Goleg Gwent i barhau â’u haddysg.
Arwain a gwella
Roedd arweinyddiaeth ar draws y sector yn fwy cyson yn ystod y flwyddyn academaidd hon na’r llynedd. Nodom fod gan y mwyafrif o golegau dîm arweinyddiaeth sefydlog â gweledigaeth glir sy’n canolbwyntio ar ddysgwyr. Mewn ychydig o golegau, roedd diffyg eglurder mewn prosesau goruchwylio a monitro.
Ym mwyafrif y colegau yr ymwelwyd â nhw eleni, roedd arweinwyr wedi sefydlu tîm staff ymroddedig. Yn yr achosion mwyaf effeithiol, mae staff yn elwa ar ddysgu proffesiynol sydd wedi gwella agweddau pwysig ar eu harfer, er enghraifft cyflwyno addysg bersonol a chymdeithasol.
Roedd llawer o’r colegau yr ymwelwyd â nhw eleni wedi elwa ar gefnogaeth gan staff yn eu rhiant-sefydliad. Mewn tua hanner y colegau hyn, roedd cysylltiadau ag uwch dîm arweinyddiaeth y rhiant-sefydliad wedi’u cryfhau. O ganlyniad, roedd arweinwyr yn elwa ar gymorth a her briodol.
Roedd tua hanner y colegau wedi cryfhau prosesau cynllunio gwelliant. Mewn tua hanner y colegau, nid oedd prosesau hunanwerthuso yn canolbwyntio’n gyson ar effaith addysgu ar ddysgu.
Yn ystod cylch arolygu 2016-2024, ni ddefnyddiwyd unrhyw gategori gweithgarwch dilynol yn y sector hwn gan i ni ymweld â phob coleg yn rheolaidd ar gyfer ymweliadau monitro. Fodd bynnag, o fis Medi 2024 ymlaen, bydd gweithgarwch dilynol yn cael ei gyflwyno yn y sector hwn ar gyfer y darparwyr hynny sy’n peri pryder.
Coleg Elidyr – Cyfoethogi’r cwricwlwm
Mae’r coleg yn defnyddio ystod o weithgareddau ychwanegol o ansawdd uchel i gyfoethogi’r cwricwlwm. Er enghraifft, mae’r coleg yn annog dysgwyr i gymryd rhan mewn cystadlaethau meithrin medrau galwedigaethol lleol a chenedlaethol. Mae dysgwyr yn arddangos eu medrau’n llwyddiannus ac mae ychydig o ddysgwyr yn ennill medalau aur ac arian ar lefel genedlaethol.
Yn ogystal, mae ychydig o ddysgwyr yn ennill gwobr aur ar gyfer Gwobr Dug Caeredin a Gwobr Arweinydd Ifanc, ar ôl dangos medrau arweinyddiaeth a chwblhau alldaith pedwar diwrnod yn llwyddiannus.
Mae bron pob un o’r dysgwyr yn cymryd rhan mewn lleoliadau profiad gwaith perthnasol ac mae tua hanner yn cefnogi dysgwyr i integreiddio yn y gymuned leol. Er enghraifft, mae gan ddysgwyr leoliadau yn ystadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mewn amgueddfeydd, stablau ceffylau a busnesau lleol.
Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau ac ymweliadau monitro
Yn y chwe ymweliad a gwblhawyd gennym eleni sydd wedi cyhoeddi adroddiadau, gwnaethom gyfanswm o 11 o argymhellion. Cafodd bron pob un o’r colegau argymhellion ar ôl ymweliad neu arolygiad.
Roedd yr argymhellion a wnaed mewn perthynas ag addysgu a dysgu yn canolbwyntio ar ansawdd y cymorth dysgu a sicrhau bod ansawdd y profiadau addysgu yn cyfateb yn dda i anghenion dysgwyr.
Roedd mwyafrif yr argymhellion yn ymwneud ag arwain a gwella, yn benodol, gan ganolbwyntio ar wella prosesau sicrhau ansawdd.