Cynnydd ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol o ran cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024
Cynnydd ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol o ran cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024
Cefndir
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried pa mor dda y mae’r lleoliadau nas cynhelir a ariennir, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed a gynhelir a gymerodd ran yn yr adolygiad yn gweithredu ac yn ymgorffori agweddau ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ADYTA) a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) cysylltiedig. Mae hefyd yn ystyried pa mor dda y mae awdurdodau lleol wedi cefnogi ysgolion. Mae’r adolygiad yn nodi arfer effeithiol i gefnogi addysg gynhwysol sy’n cynnwys datblygu strategaethau i gefnogi disgyblion ag ADY, ymestyn cymorth cyfrwng Cymraeg a chryfhau dysgu proffesiynol, sicrhau ansawdd a rolau’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CydADY) a Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SAADYBC).
Mae ein canfyddiadau wedi’u seilio ar ymgysylltu â sampl o wyth lleoliad nas cynhelir, 11 ysgol gynradd, saith ysgol uwchradd a dwy ysgol bob oed. Cynhaliwyd naw o’r rhain trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wyth o’r ysgolion, yn cynnwys un ysgol cyfrwng Cymraeg, yn lletya darpariaeth dosbarth arbenigol yr awdurdod lleol ar gyfer disgyblion ag ADY. Hefyd, defnyddiom dystiolaeth o’n gweithgarwch arolygu parhaus ac o drafodaethau rhwng ein harolygwyr cyswllt awdurdod lleol a swyddogion awdurdodau lleol. Ymhellach, mae’r adroddiad yn defnyddio tystiolaeth o drafodaeth gyda grŵp ffocws Swyddogion Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SAADYBC). Buom yn holi barn rhieni a gofalwyr ynglŷn â’u profiadau hefyd.
Ein hargymhellion
Dylai ysgolion a lleoliadau:
- Sicrhau bod addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn diwallu anghenion pob disgybl ac yn cefnogi addysg gynhwysol
Dylai ysgolion:
- Sicrhau bod Cydlynwyr ADY yn cael eu cynnwys yn llawn mewn dylanwadu ar gyfeiriad strategol a phroses yr ysgol ar gyfer gwneud penderfyniadau
Dylai awdurdodau lleol:
- Weithio gydag ysgolion a lleoliadau i hyrwyddo addysg gynhwysol, targedu cymorth lle mae angen a chryfhau cydlynu gwasanaethau cymorth i sicrhau addysgu o ansawdd uchel ar gyfer pob un o’r disgyblion
- Parhau i ddatblygu’r gweithlu, gwasanaethau dysgu proffesiynol a darpariaeth ar gyfer disgyblion trwy gyfrwng y Gymraeg
Dylai Llywodraeth Cymru:
- Weithio gyda phob un o’r awdurdodau lleol i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth gyffredin a chadarn o’r diffiniad o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bod awdurdodau lleol a’u hysgolion yn cymhwyso hyn yn gyson
- Parhau i ddatblygu cynllunio’r gweithlu, adnoddau a dysgu proffesiynol i sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg deg o ran ADY
- Gwerthuso effaith y gweithredu a’r galw am ddarpariaeth ychwanegol ac arbenigol ar gyfer disgyblion ag ADY; dylai’r gwerthusiad hwn arwain trefniadau ariannu yn y dyfodol, gan sicrhau bod adnoddau’n diwallu anghenion a nodwyd
Beth ddywedodd ein hadroddiad thematig?
Mae gweithredu ac ymgorffori diwygio ADY wedi bod yn gamp sylweddol i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau. Yn ystod ein hymweliadau ac yn ein cyfarfodydd â rhanddeiliaid, nododd y tîm arolygu’n gyson yr ymrwymiad cryf a’r gwydnwch a ddangosir gan staff mewn awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau. Bu staff yn gweithio’n ddiwyd i gynorthwyo plant a phobl ifanc ag ADY yng nghyd-destun heriau parhaus. Roedd y rhain yn cynnwys effaith barhaus y pandemig ar les, heriau â phresenoldeb, y cynnydd a adroddwyd ond nas gwiriwyd yn nifer y plant a’r bobl ifanc ag anghenion cymhleth, yn ogystal â phwysau o ran y gyllideb a’r gweithlu. At ei gilydd, roedd gofynion diwygio ADY yn dechrau sicrhau gwelliannau yn y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag ADY ledled y wlad. O ganlyniad, lle’r oedd diwygio ADY wedi cael ei weithredu’n llwyddiannus, roedd llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd addas o’u mannau cychwyn cychwynnol. Fodd bynnag, nid oedd gweithredu diwygio ADY yn gyson, ac o ganlyniad, nid oedd anghenion dysgu ychwanegol disgyblion yn cael eu cefnogi’n ddigon da bob amser. Ymhellach, roedd mwyafrif yr ysgolion a’r awdurdodau lleol yn y sampl wedi dechrau cryfhau sicrhau ansawdd prosesau a darpariaeth ADY. Mynegwyd pryderon gan lawer o arweinwyr am eu gallu i barhau i gyflwyno’r gwasanaethau ADY angenrheidiol, wedi i gyllid ychwanegol ddod i ben.
Roedd llawer o ysgolion a lleoliadau yn meithrin diwylliant cynhwysol, yn canolbwyntio ar ddysgu a lles pob un o’r disgyblion, ond mewn lleiafrif o achosion, nid oedd yr addysgu a’r cymorth yn ddigon effeithiol. Roedd arweiniad awdurdodau lleol ar addysgu cynhwysol yn amrywio ledled Cymru, a megis dechrau datblygu mewn llawer o feysydd oedd cymorth ar gyfer arferion cynhwysol.
Roedd nifer y disgyblion y nodwyd bod ganddynt ADY neu anghenion addysgol arbennig (AAA) wedi parhau i ostwng, ond roedd nifer y disgyblion â chynllun statudol (CDU neu ddatganiad o AAA) yn cynyddu. Ar draws awdurdodau lleol, roedd anghysondebau’n parhau o ran dehongli’r Cod ADY ac yn yr ymagweddau dilynol at CDUau a gynhelir gan ysgolion ac awdurdodau lleol.
At ei gilydd, roedd ysgolion a lleoliadau a gymerodd ran yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o’r ddarpariaeth y maent yn ei threfnu ar gyfer disgyblion ag ADY. Fodd bynnag, roedd y graddau y caiff y ddarpariaeth ei dosbarthu’n DDdY yn parhau i fod yn aneglur. Roedd y rhan fwyaf o ysgolion ac awdurdodau lleol yn cytuno y byddai’n fuddiol egluro DDdY ar lefel genedlaethol.
Cydnabuwyd bod rôl y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CydADY) yn hanfodol, ac roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn gwerthfawrogi cyfrifoldeb estynedig y rôl. Fodd bynnag, mewn rhai ysgolion, nid oedd Cydlynwyr ADY yn cael eu cynnwys yn llawn mewn gwneud penderfyniadau strategol.
Dyma yw’r tro cyntaf i ni adolygu cynnydd lleoliadau nas cynhelir a ariennir a rôl Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SAADYBC) mewn cysylltiad â diwygio ADY. Roedd llawer o’r lleoliadau nas cynhelir a ariennir yr ymwelom â nhw fel rhan o’r adolygiad hwn yn darparu profiadau dysgu effeithiol ar gyfer plant ag ADY. At ei gilydd, roeddent yn cynllunio’n ofalus i deilwra profiadau dysgu i fodloni gofynion unigol pob plentyn, yn cynnwys y rhai ag ADY. Hefyd, roedd rôl y SAADYBC wedi hen ennill ei phlwyf ledled Cymru. At ei gilydd, roedd y swyddogion hyn yn gweithio’n effeithiol i gynorthwyo rhieni a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar i sicrhau cymorth buddiol ac amserol ar gyfer plant iau ag ADY sy’n dod i’r amlwg neu ADY wedi’i nodi.
Nid oedd y graddau y mae awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau yn cynllunio ac yn darparu cymorth teg ar gyfer darpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg wedi’u datblygu’n ddigonol o hyd. Mae hyn wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ond roedd heriau sylweddol yn parhau o ran cyfraddau recriwtio a chadw mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ogystal â darparu asesiadau ac adnoddau safonedig cyfrwng Cymraeg.