Cynradd
Adroddiad sector 2023 - 2024
Ysgolion
1,216
Nifer yr ysgolion 2024
1,219
Nifer yr ysgolion 2023
1,225
Nifer yr ysgolion 2022
Disgyblion
258,038
Cyfanswm y disgyblion
447
Nifer y disgyblion oed meithrin
59,717
Nifer y disgyblion dan 5 oed
197,853
Nifer y disgyblion 5-10 oed
21
Nifer y disgyblion 11 oed neu’n hŷn
21.8%
Yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (5-15 oed)
19.2%
Yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (Pob disgybl)
7.1%
Saesneg fel iaith ychwanegol A-C
11.0%
Yn gallu siarad Cymraeg
11.1%
Disgyblion ag anghenion dysgu ychwanego
Gweithgarwch dilynol
Nifer mewn categori gweithgarwch dilynol ym mis Medi 2023 MA
MA: 16
GS: 6
AE: 34
Nifer a dynnwyd yn 2023-2024
MA: 9
GS: 4
AE: 17
Nifer a roddwyd mewn categori gweithgarwch dilynol ar ôl arolygiad craidd yn 2023-2024
MA: 10
GS: 8
AE: 14
Cyfanswm mewn categori gweithgarwch dilynol ym mis Awst 2024
MA: 17
GS: 10
AE: 31
Arolygiadau craidd
Nifer yr arolygiadau: 259
Ymweliadau interim: 4
Cyfrwng Cymraeg: 92
Cyfrwng Saesneg: 171
Ffydd: 29
Astudiaethau achos
Nifer yr astudiaethau achos y gofynnwyd amdanynt: 44
Wedi’u cyhoeddi ar y wefan: 39
Ymweliadau ymgysylltu
Nifer yr ymweliadau/galwadau: 5
Cyfrwng Cymraeg: 2
Cyfrwng Saesneg: 3
Ffydd: 2
Crynodeb
Yn ystod 2023-2024, gweithiodd ysgolion cynradd yn effeithiol â theuluoedd i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau rhag dysgu neu les disgyblion o gartrefi ag incwm isel. Gwellodd y mwyafrif o ysgolion lefelau presenoldeb disgyblion. Fodd bynnag, mewn ysgolion lle mae presenoldeb islaw’r ffigurau cyn y pandemig o hyd, roedd presenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn sylweddol is na phresenoldeb y rhai nad oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Gwnaeth mwyafrif yr ysgolion gynnydd cryf wrth roi Cwricwlwm i Gymru ar waith. Bu arweinwyr ac athrawon yn treialu ac yn diwygio eu cynlluniau ar gyfer y cwricwlwm i gyfuno gwybodaeth, medrau a phrofiadau mewn modd cydlynol. Parhaodd llawer o ysgolion i ganolbwyntio ar ddatblygu eu dealltwriaeth o sut dylai dysgwyr wneud cynnydd. Fodd bynnag, ni ddatblygodd dros draean (40%) o ysgolion ddealltwriaeth ddigon cadarn o rôl dilyniant wrth gefnogi disgyblion i adeiladu ar eu dysgu mewn modd cydlynol.
Roedd arweinyddiaeth yn effeithiol mewn llawer o ysgolion ac roedd gan arweinwyr weledigaeth a strategaethau clir ar gyfer datblygu’r ysgol. Roedd eu gweithgarwch hunanwerthuso yn canolbwyntio’n fanwl ar les a chynnydd disgyblion ac roeddent yn buddsoddi mewn staff trwy gyfleoedd dysgu proffesiynol yn gysylltiedig â blaenoriaethau gwella’r ysgol a blaenoriaethau cenedlaethol. Fodd bynnag, mewn traean o ysgolion, nid oedd prosesau hunanwerthuso yn canolbwyntio’n ddigon clir ar ddeilliannau disgyblion ac nid oeddent yn nodi meysydd allweddol i’w gwella mewn addysgu a dysgu.
Addysgu a dysgu
Gan adeiladu ar y flwyddyn flaenorol, gwnaeth y mwyafrif o ysgolion gynnydd cryf wrth roi Cwricwlwm i Gymru1 ar waith, gan dreialu a mireinio eu cynlluniau ar gyfer y cwricwlwm i gyfuno gwybodaeth, medrau a phrofiadau. Ymwreiddiodd ychydig iawn o ysgolion eu cwricwlwm yn llawn yn ystod y flwyddyn a dechrau gweld ei effaith fuddiol ar ddysgu a chynnydd disgyblion. Datblygodd arweinwyr a staff yn yr ysgolion hyn weledigaeth gref a oedd yn cynnwys sicrhau addysgu ac asesu o ansawdd uchel er mwyn sicrhau bod profiadau dysgu disgyblion yn ddifyr, yn heriol ac yn deg. Darllenwch sut yr ymatebodd Ysgol Gynradd Langstone yng Nghasnewydd i ddiwygio’r cwricwlwm i fodloni anghenion dysgwyr.
Yn yr achosion gorau, roedd ysgolion yn cynllunio profiadau dysgu yn effeithiol ac yn gwerthuso pa mor dda yr oedd addysgu’n cefnogi disgyblion i wneud cynnydd. Roedd athrawon yn rhoi addysgeg effeithiol ar waith i gefnogi disgyblion i ddyfnhau eu dysgu a throsglwyddo medrau a gwybodaeth mewn ffyrdd ystyrlon a mwyfwy soffistigedig ar draws y cwricwlwm. Darllenwch sut y defnyddiodd Ysgol Gynradd y Bont-faen ym Mro Morgannwg ffocws creadigol cryf i wella iaith a chyfathrebu, creadigrwydd ac annibyniaeth disgyblion.
Roedd tua thraean o’r ysgolion a arolygwyd ar gam cynnar o ddiwygio’r cwricwlwm o hyd. Mewn lleiafrif o’r rhain, nid oedd gan arweinwyr strategaeth glir ar gyfer datblygu addysgeg neu gwricwlwm a oedd yn bodloni anghenion a diddordebau eu disgyblion. Nid oedd llawer o’r ysgolion a oedd yng nghamau cynnar datblygu’r cwricwlwm yn gwerthuso effaith addysg ac asesu ar ddeilliannau disgyblion yn ddigon da. Yn yr ysgolion hyn, roedd y cwricwlwm yn aml yn canolbwyntio ar ymdrin â chysyniadau mewn ffordd strwythuredig dros ben ac nid oeddent yn ennyn diddordeb disgyblion nac yn adlewyrchu’r gymuned leol yn ddigon da.
Cafodd tua thraean o’r ysgolion a arolygwyd argymhelliad i fynd i’r afael ag anghysondebau yn ansawdd yr addysgu. Yn aml, yn yr ysgolion hyn, nid oedd athrawon yn rhoi adborth pwrpasol i ddisgyblion i’w helpu i ddeall yr agweddau ar ddysgu sy’n ymwneud â sut a pham, yn ogystal â beth. Roedd camsyniadau yn ymwneud â chynnydd o ran Cwricwlwm i Gymru yn arwain at athrawon yn asesu disgyblion yn rhy gul yn erbyn disgrifiadau o ddysgu, yn hytrach na chynllunio dysgu a oedd yn galluogi disgyblion i ddyfnhau eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth dros gyfnod.
Dechreuodd disgyblion ddylanwadu ar yr hyn y maent yn ei ddysgu, yn aml trwy gyfrannu eu syniadau at themâu. Mewn ychydig o achosion, roeddent hefyd yn dylanwadu ar sut roeddent yn dysgu. Llwyddodd ysgolion a oedd yn rhoi gwerth uchel ar fewnbwn disgyblion i ymgorffori eu diddordebau yn eu dysgu yn llwyddiannus, yn aml gan ddefnyddio materion amserol a oedd yn atseinio â phrofiadau’r disgyblion eu hunain. Roeddent yn defnyddio gweithgareddau symbylol i ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol o oed ifanc, gan sicrhau eu bod yn deall pwrpas eu dysgu, yr hyn roeddent yn ei wneud yn dda a’r hyn roedd angen iddynt ei wella. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o achosion, nid oedd ysgolion yn darparu cyfleoedd effeithiol i ddisgyblion ddatblygu eu hannibyniaeth yn ddigon da. Roedd hyn yn aml gan fod staff yn rhoi gormod o gyfarwyddyd, gan rwystro cyfleoedd i ddisgyblion wneud penderfyniadau a gweithio pethau allan drostyn nhw’u hunain.
Roedd ychydig iawn o ysgolion yn datblygu profiadau dysgu hynod effeithiol ar gyfer y disgyblion ieuengaf. Roedd arweinwyr ac athrawon yn datblygu addysgeg wedi’i seilio ar egwyddorion datblygu plant ac yn aml yn creu profiadau dysgu a oedd yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir1 Llywodraeth Cymru (2022) Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. [Ar-lein]. Ar gael yn from https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/cwricwlwm-ar-gyfer-lleoliadau-meithrin-a-ariennir-nas-cynhelir/ , gan gydnabod rôl hanfodol oedolion sy’n galluogi dysgu, profiadau sy’n ennyn diddordeb, ac amgylcheddau effeithiol mewn addysg gynnar o ansawdd uchel.
At ei gilydd, gwnaeth llawer o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a’r rhai o aelwydydd ag incwm isel, gynnydd priodol o leiaf yn y medrau trawsgwricwlaidd yn ystod y flwyddyn. Parhaodd medrau llafaredd a darllen sylfaenol disgyblion, fel darllen â rhuglder a chywirdeb priodol, i ddatblygu’n dda. Mewn ychydig o ysgolion, roedd medrau iaith a chyfathrebu disgyblion yn rhagorol. Yn yr achosion gorau, roedd y disgyblion cynradd hynaf yn aml yn dod i gasgliad yn fedrus i ddatblygu eu dealltwriaeth o ystod eang o destunau ac i ffurfio gwybodaeth soffistigedig am gymeriadau trwy eu cymhellion, eu hemosiynau a’u gweithredoedd. Fodd bynnag, nid yw ysgolion yn cynllunio ar gyfer dilyniant mewn uwch fedrau darllen disgyblion yn ddigon da bob tro i’w galluogi i ymateb i ystod o destunau yn hyderus ac yn ddeallus. Er bod disgyblion mewn llawer o ysgolion yn gwneud cynnydd da mewn ysgrifennu, nid oedd athrawon yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion gryfhau eu gwaith yn ddigon da bob tro, er enghraifft trwy fynd i’r afael â gwallau ailadroddus neu drwy ganiatáu amser i ddisgyblion saernïo eu gwaith yn effeithiol ar gyfer cynulleidfaoedd a dibenion dilys. Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn parhau i gefnogi disgyblion i gaffael gwybodaeth a dealltwriaeth fathemategol gadarn. Mewn lleiafrif o ysgolion, nid oedd athrawon yn cynllunio cyfleoedd effeithiol i ddisgyblion ddatblygu eu medrau rhifedd yn ddigon da.
Datblygodd llawer o ddisgyblion agweddau cadarnhaol tuag at wella eu medrau Cymraeg. At ei gilydd, roedd medrau Cymraeg disgyblion yn gryf mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Darllenwch sut gwnaeth Ysgol Brynaman yn Sir Gaerfyrddin ysgogi disgyblion i siarad Cymraeg. Mewn ychydig o ysgolion cyfrwng Saesneg, roedd disgyblion yn datblygu’n siaradwyr Cymraeg hyderus. Fodd bynnag, roedd medrau llafaredd Cymraeg disgyblion yn wan mewn ysgolion cyfrwng Saesneg o hyd, gydag ychydig dros chwarter (26%) yr ysgolion yn cael argymhelliad i wella medrau Cymraeg disgyblion. Darllenwch sut gwnaeth Ysgol Gynradd Gwndy yn Sir Fynwy hyrwyddo brwdfrydedd dros ddefnyddio’r Gymraeg.
Yn gyffredinol, parhaodd ysgolion i ddatblygu addysg cydberthynas a rhywioldeb (ACRh) yn bwrpasol. Dechreuodd ychydig ohonynt blethu ACRh yn effeithiol trwy feysydd dysgu a phrofiad i gefnogi dealltwriaeth disgyblion. Dechreuodd ysgolion ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu am gymeriad unigryw Cymru. Lle’r oedd y gwaith hwn yn fwyaf effeithiol, roedd profiadau dysgu yn adlewyrchu natur amrywiol Cymru, gan gynnwys rhywedd, anabledd a hil. Roedd athrawon yn cysylltu dysgu’n llwyddiannus â hawliau dynol, gan greu ystyr i ddisgyblion, er enghraifft wrth archwilio cydraddoldeb trwy storïau pobl LHDTC+. Roedd rhai ysgolion yn y camau cynnar o ddatblygu eu cwricwlwm ACRh o hyd ac er eu bod yn canolbwyntio’n dda ar ddatblygu gwerthoedd a pherthnasoedd personol, nid oeddent yn ystyried ystod ddigon eang o ddylanwadau perthnasol. Yn aml, roedd diffyg perthnasoedd a dyfnder yn eu profiadau dysgu. Yn rhy aml, nid oedd disgyblion yn cael eu hannog i rannu eu profiadau bywyd nac i weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn eu hamgylchedd dysgu. Mae ein hadroddiad ar wrth-hiliaeth yn cynnwys enghreifftiau o arfer effeithiol.
Gofal, cymorth a lles
Yn ystod y flwyddyn, canfu arolygwyr fod lles disgyblion, eu hagweddau at ddysgu ac ansawdd y gofal a ddarparwyd gan ysgolion cynradd yn gryf. Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu ymdeimlad sicr o berthyn ac roeddent yn falch o’u hysgol. Roeddent yn aml yn awyddus i ddysgu ac yn ymgysylltu’n frwdfrydig yn ystod gwersi. Mewn ychydig o achosion, roedd disgyblion yn gwneud dewisiadau a oedd yn eu cefnogi i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu. Fodd bynnag, yn yr un modd â’r llynedd, roedd gwersi’n aml yn rhy strwythuredig. Cafodd dros draean o ysgolion (36%) argymhelliad yn ymwneud â datblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol effeithiol. Yn yr ysgolion hyn, nid oedd athrawon yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddatblygu’n feddylwyr chwilfrydig, beirniadol a chreadigol a oedd yn gallu nodi diben eu dysgu a chydnabod yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella eu gwaith.
Parhaodd y rhan fwyaf o ysgolion i ymgorffori diwygio ADY yn effeithiol. Roedd arweinwyr ysgol yn aml yn dangos ymagweddau ystwyth a hyblyg tuag at addasu i anghenion disgyblion. Roedd llawer o ysgolion yn addasu darpariaeth mewn ffyrdd creadigol, gan roi ymyrraeth feddylgar a thargedig ar waith a gwella’r amgylchedd dysgu. Roeddent yn creu darpariaeth ychwanegol i ddatblygu gallu disgyblion i reoli eu hemosiynau, gan eu helpu i deimlo’n barod i ddysgu. Darllenwch am sut nododd Ysgol Cae’r Gwenyn yn Wrecsam strategaeth ysgol gyfan i ddatblygu medrau cyfathrebu disgyblion cyn iddynt ddechrau siarad.
Parhaodd ysgolion i ddatblygu cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion gyfrannu at fywyd a gwaith yr ysgol, gan gynnwys gwerthuso ansawdd yr addysgu a’r dysgu. Roedd y cyfraniadau hyn yn galluogi arweinwyr i wneud gwelliannau i brofiadau dysgu er mwyn ymateb i adborth disgyblion. Roedd disgyblion yn aml yn defnyddio eu medrau arwain er budd eu cymuned leol, er enghraifft trwy hybu arferion cynaliadwy fel plannu coed afalau a diogelu bywyd gwyllt.
Parhaodd y rhan fwyaf o ysgolion i greu cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu am y bobl, lleoedd a’r hanes sy’n ffurfio eu hunaniaeth bersonol. Roedd disgyblion yn datblygu dealltwriaeth dda o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddinesydd moesegol a phwysigrwydd hawliau dynol a chyfiawnder, er enghraifft cymharu’r hyn sy’n debyg ac yn wahanol rhwng gweithwyr sy’n ymgyrchu dros gyflog cyfartal yng Nghymru a’r rhai sy’n brwydro dros amodau gwaith gwell yn fyd-eang. Dechreuodd ychydig o ysgolion ddatblygu gwybodaeth disgyblion am grefydd a gwerthoedd. Fodd bynnag, yn rhy aml, roedd profiadau cyfyngedig a chul i ddisgyblion ddatblygu gwerthfawrogiad ystyrlon o ddiwylliant ac amrywiaeth yn eu cymunedau, yng Nghymru a’r byd ehangach.
Roedd llawer o ysgolion yn buddsoddi mewn ymgysylltu â theuluoedd ac roedd y perthnasoedd gwerthfawr roeddent yn eu ffurfio yn helpu i wella deilliannau i ddisgyblion mewn sawl ffordd. Roedd ysgolion yn ymwybodol o effaith tlodi ar bresenoldeb a lles cyffredinol disgyblion. Roedd llawer ohonynt yn ystyried yn feddylgar sut i sicrhau profiad ysgol teg i bob disgybl ac yn defnyddio’r grant datblygu disgyblion i leihau unrhyw rwystrau. Mewn ychydig o’r achosion gorau, roedd ysgolion yn cydweithio’n agos ag ystod o asiantaethau i gefnogi disgyblion a’u teuluoedd. Er enghraifft, roedd ysgolion yn cynnal gweithdai cynllunio prydau bwyd a chyllidebu ac yn dechrau’r diwrnod â ‘dechrau meddal’ i leihau pryder. Mae ein hadroddiad thematig ar Gymorth, darpariaeth a phontio ar gyfer addysg gynnar yn cynnwys cameos ac astudiaethau achos o arfer effeithiol.
Roedd mwyafrif yr ysgolion wedi dychwelyd i lefelau presenoldeb cyn y pandemig. Rhai o’r ysgolion mwyaf llwyddiannus o ran gwella presenoldeb ar gyfer pob disgybl oedd y rhai a oedd yn darparu profiadau dysgu difyr i ddisgyblion a lle’r oedd yr addysgu o ansawdd uchel.
Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, roedd presenoldeb islaw’r ffigurau cyn y pandemig o hyd ac roedd presenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn sylweddol is na phresenoldeb y rhai nad oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Arwain a gwella
Roedd arweinyddiaeth yn effeithiol mewn llawer o ysgolion. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd gan arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer eu hysgolion ac roeddent yn ffurfio strategaethau cydlynol ar gyfer gwella’r ysgol. Roeddent yn sefydlu timau arweinyddiaeth effeithiol a oedd yn cryfhau gallu ysgolion i wella. Roedd yr ysgolion hyn yn ymatebol iawn i anghenion eu disgyblion a’u teuluoedd ac, o ganlyniad, roeddent yn gweithredu fel rhan annatod o’r gymuned leol. Darllenwch sut y datblygodd Ysgol Gynradd Dolau ym Mhont-y-clun arweinwyr ar bob lefel i sicrhau arweinyddiaeth wydn. Yn ystod blwyddyn pan gyflwynodd blaenoriaethau cenedlaethol heriau newydd i ysgolion, dangosodd ysgolion llwyddiannus ystwythder a hyblygrwydd yn eu hymateb i ddiwygio, recriwtio a’r hinsawdd gymdeithasol gyfnewidiol. Yn yr ychydig iawn o ysgolion a roddwyd wedi categori gweithgarwch dilynol ar ôl arolygiad, achos cyffredin oedd nad oedd arweinwyr yn canolbwyntio’n effeithiol ar y meysydd pwysicaf i’w gwella yn eu hysgolion.
Roedd gan lywodraethwyr rôl weithredol ym mywyd yr ysgol, gan ddefnyddio eu profiad a’u harbenigedd yn dda, yn aml, i gefnogi eu hysgolion. Mewn ychydig o achosion, roeddent yn ystyried safbwyntiau disgyblion wrth werthuso effaith unrhyw waith gwella’r ysgol. Roedd llywodraethwyr yn dyrannu cyllid grant yn briodol ond nid oeddent yn mesur effaith cyllid grant ar ddeilliannau disgyblion bob tro. Er bod llywodraethwyr yn cyfarfod yn rheolaidd, mewn ychydig o achosion, roedd llywodraethwyr yn gorddibynnu ar wybodaeth gan arweinwyr ysgolion o hyd, yn hytrach nag ar dystiolaeth uniongyrchol. Yn yr ysgolion hyn, nid oedd llywodraethwyr yn ddigon gwybodus i gefnogi a herio arweinwyr yn effeithiol wrth nodi a mesur blaenoriaethau gwella’r ysgol. Creodd Ysgol Gynradd Troedyrhiw ger Merthyr Tudful grwpiau gwella llywodraethwyr i wella gallu eu corff llywodraethol i gefnogi uwch arweinwyr.
Gweithiodd arweinwyr yn effeithiol i leihau effaith tlodi ar les disgyblion. Roeddent yn datblygu dulliau amrywiol i fynd i’r afael â rhwystrau rhag dysgu, gan ddefnyddio grantiau’n effeithiol, fel y grant datblygu disgyblion. Roedd llawer o ysgolion yn gweithio’n effeithiol i gefnogi teuluoedd yn ystod yr argyfwng ariannol, er enghraifft trwy ddarparu talebau bwyd a thanwydd a chymorthdalu cost digwyddiadau ysgol ac ymweliadau preswyl. Roedd mwyafrif yr ysgolion yn cydnabod y cysylltiad hollbwysig rhwng presenoldeb a dysgu o ran sicrhau deilliannau cadarnhaol i ddisgyblion ond, lle’r oedd arfer yn llai effeithiol, roedd presenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai o aelwydydd ag incwm isel yn rhy isel o hyd.
Roedd llawer o ysgolion yn darparu ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol defnyddiol yn gysylltiedig â blaenoriaethau gwella ysgolion a blaenoriaethau cenedlaethol. Roedd ysgolion effeithiol yn canolbwyntio ar gyflawni addysgu o ansawdd uchel trwy weithgareddau dysgu proffesiynol o ansawdd uchel wedi’u cynllunio’n ofalus, gan gynnwys ymchwil a chydweithio. Roedd arweinwyr yn neilltuo’r amser yr oedd ei angen i staff ymgymryd ag ymholi pwrpasol, a arweiniodd at ddarpariaeth a deilliannau gwell ar gyfer disgyblion. Yn aml, roedd ysgolion yn cydweithio’n llwyddiannus ag ysgolion eraill i rannu arfer a datblygu a gwella eu gwaith.
Roedd llawer o rieni yn gadarnhaol ynghylch y cyfathrebu clir ac amserol rhwng eu hysgol a’r cartref. Roeddent yn gwerthfawrogi cyfleoedd i fod yn rhan o addysg eu plentyn a’r ffordd sensitif roedd ysgolion yn ymdrin â’u hymholiadau a’u pryderon. Roedd staff yn meithrin perthnasoedd cryf â theuluoedd, gan gynnwys teuluoedd disgyblion ag ADY, i sefydlu ymagwedd gyson effeithiol tuag at ofal a chymorth. Roedd ysgolion a oedd yn gwerthuso darpariaeth yn gywir ac yn rhannu arfer dda yn effeithiol yn cefnogi disgyblion i wneud cynnydd cryf yn eu dysgu. Lle’r oedd ysgolion yn cynnig darpariaeth arbenigol, roedd staff yn deall anghenion cymhleth disgyblion ac yn rhoi strategaethau hynod effeithiol ar waith i fodloni eu hanghenion, gan roi ymdeimlad cadarn o berthyn iddynt a’u cefnogi i wneud cynnydd cryf tuag at eu targedau unigol.
Roedd gan lawer o ysgolion drefniadau cadarnhaol ar waith ar gyfer monitro, gwerthuso ac adolygu ac, yn yr enghreifftiau cryfaf, roedd arweinwyr yn cynnwys yr holl staff mewn rhaglen feddylgar o weithgareddau a oedd yn canolbwyntio’n fanwl ar les a chynnydd disgyblion. Yn ystod y flwyddyn, cafodd dros draean o’r ysgolion a arolygwyd argymhelliad i wella agweddau ar arweinyddiaeth. Yn aml, roedd yr argymhellion hyn yn ymwneud â phrosesau hunanwerthuso nad oeddent yn canolbwyntio’n ddigon clir ar ddeilliannau disgyblion ac nad oeddent yn nodi meysydd allweddol i’w gwella mewn addysgu a dysgu.
Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau
Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, arolygodd Estyn 259 o ysgolion cynradd.
- Cafodd 83 (32%) o ysgolion cynradd argymhelliad yn ymwneud â darparu neu wella cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu neu gymhwyso eu medrau, yn enwedig eu medrau rhifedd, ysgrifennu, darllen neu ddigidol. Cafodd 46 o ysgolion argymhelliad i ddarparu neu wella cyfleoedd i ddatblygu medrau dysgu annibynnol disgyblion, ac argymhellwyd bod 21 ohonynt yn cefnogi disgyblion i gyfrannu mwy at benderfyniadau am eu dysgu eu hunain.
- Rhoddwyd argymhelliad i 49 (18.9%) o ysgolion yn ymwneud â datblygu medrau Cymraeg, gan gynnwys 13 o ysgolion cyfrwng Cymraeg. O’r 49 hynny, cafodd naw ohonynt argymhelliad i wella darpariaeth addysgu Cymraeg.
- Rhoddwyd argymhelliad i 47 (18.2%) o ysgolion sicrhau bod yr addysgu yn herio pob disgybl yn ddigonol, a rhoddwyd argymhelliad i 48 (18.6%) yn ymwneud â rhoi adborth priodol, gan gynnwys darparu cyfleoedd i ddisgyblion ymateb i adborth, gan sicrhau bod adborth yn helpu disgyblion i nodi a gweithio tuag at y camau nesaf yn eu dysgu neu i wella eu gwaith.
- Cafodd 46 (17.8%) o ysgolion cynradd argymhelliad yn ymwneud â gwella effeithiolrwydd gweithgareddau hunanwerthuso a gwella’r ysgol, a oedd yn canolbwyntio’n amrywiol ar wella ansawdd addysgu a dysgu, rhoi sylw i’r blaenoriaethau pwysicaf ar gyfer gwella, a chynnydd disgyblion.
- Rhoddwyd argymhelliad i 26 (10%) o ysgolion cynradd yn ymwneud â gwella presenoldeb. Cafodd deg o’r darparwyr hyn ganlyniad naill ai Adolygu gan Estyn, gwelliant sylweddol neu fesurau arbennig o’u harolygiad.
- Cafodd naw (3.5%) o ysgolion cynradd argymhelliad yn ymwneud â mynd i’r afael â materion iechyd a diogelwch a nodwyd yn ystod arolygiad, a rhoddwyd argymhelliad i saith o ysgolion fynd i’r afael â phryderon diogelu.