Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Adroddiad sector 2023 - 2024
Partneriaethau
Caiff dysgu oedolion yn y gymuned (DOG) ei ddarparu gan 13 o bartneriaethau anstatudol ac Addysg Oedolion Cymru.
Mae aelodaeth pob partneriaeth yn amrywio o un ardal i’r llall, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys darpariaeth sy’n cael ei chynnig gan yr awdurdod lleol, colegau addysg bellach, gan gynnwys Addysg Oedolion Cymru, a sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol.
Fel arfer, mae dysgu oedolion yn y gymuned yn digwydd mewn lleoliadau fel llyfrgelloedd, canolfannau dysgu cymunedol neu ysgolion. Er bod y rhan fwyaf o gyrsiau’n cael eu cyflwyno wyneb-yn-wyneb, mae bron pob partneriaeth yn cyflwyno rhywfaint o’u darpariaeth ar-lein neu mewn ffordd gyfunol.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu partneriaethau drwy’r Grant Dysgu Oedolion yn y Gymuned i gyflwyno cyrsiau mewn llythrennedd, rhifedd, medrau digidol, Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (SSIE) a chyrsiau eraill sy’n helpu dysgwyr i gymhwyso a datblygu’r medrau hyn.
Mae partneriaethau wedi cyfrannu’n gryf at gynigion eu hawdurdodau lleol a cholegau addysg bellach ar gyfer y fenter rhifedd oedolion a ariennir gan lywodraeth y DU, sef Lluosi. Bwriad y cyllid hwn yw datblygu ystod o ddarpariaeth newydd i ennyn diddordeb dysgwyr a datblygu medrau rhifedd.
Dysgwyr mewn partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned
Mae data diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos, yn 2022-2023, bod nifer yr oedolion unigryw sy’n dysgu a oedd yn ymgysylltu â’r ddarpariaeth hon wedi cynyddu 53% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, i 16,005. Mae’r cynnydd a welwyd ers y pwynt isel yn 2020-2021 wedi gwrthdroi yn rhannol duedd tymor hwy o ostwng. Gallai’r niferoedd is yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf fod oherwydd pandemig y coronafeirws.
Gweithgarwch dilynol
Yn ystod 2023-2024, roedd un bartneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned wedi gwneud cynnydd digonol fel nad oedd angen gweithgarwch dilynol gan Estyn mwyach. Roedd angen gweithgarwch dilynol ar ddwy bartneriaeth a arolygwyd yn ystod 2023-2024.
Arolygiadau craidd
Nifer yr arolygiadau: 6
Astudiaethau achos
Nifer yr astudiaethau achos: 4
Wedi’u cyhoeddi ar y wefan: 2
Darparwyr ag astudiaethau achos:
Sir Gaerfyrddin
Gwent Fwyaf
Rhondda Cynon Taf
Conwy a Sir Ddinbych
Ymweliadau Ymgysylltu
Cynhaliodd arolygwyr cyswllt saith o ymweliadau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein â’r partneriaethau hynny na chawsant eu harolygu yn ystod y flwyddyn.
At ddibenion ein gweithgarwch arolygu, rydym yn cydnabod y 13 partneriaeth ganlynol a’r sefydliad addysg bellach dynodedig ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, sef Addysg Oedolion Cymru:
Partneriaeth | Awdurdod lleol |
---|---|
Addysg Oedolion Cymru | Ddim yn berthnasol |
Pen-y-bont ar Ogwr | Pen-y-bont ar Ogwr |
Caerdydd a’r Fro | Caerdydd |
Caerdydd a’r Fro | Bro Morgannwg |
Sir Gaerfyrddin | Sir Gaerfyrddin |
Ceredigion | Ceredigion |
Conwy a Sir Ddinbych | Conwy |
Conwy a Sir Ddinbych | Sir Ddinbych |
Gwent Fwyaf | Blaenau Gwent |
Gwent Fwyaf | Caerffili |
Gwent Fwyaf | Sir Fynwy |
Gwent Fwyaf | Casnewydd |
Gwent Fwyaf | Torfaen |
Gwynedd and Môn | Gwynedd |
Gwynedd a Môn | Ynys Môn |
Merthyr Tudful | Merthyr Tudful |
Partneriaeth DOG Gogledd-ddwyrain Cymru | Sir y Fflint |
Partneriaeth DOG Gogledd-ddwyrain Cymru | Wrecsam |
Partneriaeth DOG Castell-nedd Port Talbot a Phowys | Castell-nedd Port Talbot |
Partneriaeth DOG Castell-nedd Port Talbot a Phowys | Powys |
Sir Benfro | Sir Benfro |
Rhondda Cynon Taf | Rhondda Cynon Taf |
Abertawe | Abertawe |
Crynodeb
Bu i ran fwyaf o ddysgwyr wneud cynnydd cadarn yn eu gwersi ac mae ganddynt berthnasoedd cadarnhaol â’u tiwtoriaid, ond nid yw partneriaethau’n gwerthuso pa mor dda y mae dysgwyr yn symud ymlaen yn y tymor hwy yn ddigon da nac yn cynnig digon o ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae dysgwyr yn mwynhau eu dysgu ac yn gwerthfawrogi’r cyfle i gael ail gyfle mewn dysgu a’r manteision i’w lles a’u hiechyd meddwl a ddaw yn ei sgil. Mae pryderon sylweddol am y sector, mewn perthynas â gweithio mewn partneriaeth, a chynhwysedd arweinyddiaeth. Mae rhai darparwyr wedi lleihau neu roi’r gorau i ddarparu, gan nodi cyfyngiadau cyllidebol. Er bod darparwyr wedi gweithio’n dda i ddefnyddio cyllid Multiply i gynnig darpariaeth rhifedd newydd, mae partneriaethau wedi wynebu heriau wrth recriwtio dysgwyr a thiwtoriaid, ac wrth gynllunio ar gyfer dychwelyd i drefniadau arferol pan fydd ariannu Multiply yn cau.
Addysgu a dysgu
Caiff sesiynau dysgu oedolion yn y gymuned eu haddysgu mewn dosbarthiadau bach, sydd â llai na deg o ddysgwyr, fel arfer. Roedd y berthynas rhwng tiwtoriaid a’u dysgwyr yn gryf ac roedd tiwtoriaid yn adnabod eu dysgwyr yn dda. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd tiwtoriaid yn addasu eu haddysgu i fodloni anghenion dysgwyr unigol yn effeithiol ac yn cynnig cymorth un-i-un i ddysgwyr wrth iddynt weithio. Yn aml, roedd tiwtoriaid yn teilwra lefel a chynnwys yr hyn yr oeddent yn ei gyflwyno yn dda i fodloni anghenion, diddordebau a hoffterau dysgwyr.
Fel arfer, mae gan oedolion sy’n dychwelyd i ddysgu mewn dosbarthiadau cymunedol broffiliau cymhleth o gryfderau a gwendidau yn eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol. Ar y cyfan, roedd tiwtoriaid yn nodi cryfderau a gwendidau unigol dysgwyr yn y medrau hyn yn effeithiol, gan ddefnyddio offer digidol fel Pecyn Offer Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) neu drwy eu profiad proffesiynol. Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn deall yr hyn yr oedd angen iddynt ei wneud i wella trwy ddefnyddio cynllun dysgu unigol neu drwy adborth gan eu tiwtoriaid.
Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cadarn yn eu sesiynau. Dros gyfnod hwy, fel tymor, roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cynnydd addas o gymharu eu mannau cychwyn ac yn cyflawni nodau eu cymhwyster. Fodd bynnag, nid oedd partneriaethau’n gwerthuso sut mae dysgwyr yn symud trwy eu darpariaeth yn ddigon da. Nid oeddent yn defnyddio gwybodaeth o systemau electronig o reoli gwybodaeth yn ddigon da i olrhain a monitro cynnydd tymor hwy dysgwyr, er enghraifft i werthuso sut mae dysgwyr yn symud ymlaen i gyrsiau neu lefelau astudio gwahanol yn y bartneriaeth neu i olrhain eu cyrchfannau i ddysgu pellach, swyddi neu’r ddau.
Yn y rhan fwyaf o’r partneriaethau a arolygwyd yn ystod 2023-2024, canfu arolygwyr gydbwysedd addas rhwng rhaglenni heb eu hachredu a rhaglenni achrededig, gan gynnig cyfleoedd i ddysgwyr ennill cymwysterau perthnasol. Fodd bynnag, mewn ychydig o bartneriaethau ac mewn ychydig o feysydd rhaglen, fel Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (SSIE), nid oedd gan ddysgwyr opsiynau achrededig addas.
At ei gilydd, hyd yn oed mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yn eang ymhlith y boblogaeth leol, roedd partneriaethau’n cynnig ychydig iawn o ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, os o gwbl, a oedd yn golygu nad oedd dysgwyr neu gymunedau Cymraeg eu hiaith yn cael cyfle i elwa ar raglenni dysgu oedolion yn y gymuned trwy gyfrwng y Gymraeg. Ar draws ein harolygiadau yn ystod 2023-2024, canfu arolygwyr fod ychydig o athrawon yn defnyddio’r Gymraeg fel iaith ddysgu, er enghraifft trwy ddefnyddio terminoleg ddwyieithog neu drwy ddefnyddio cyfarchion ac ymadroddion Cymraeg syml. Roedd ychydig o bartneriaethau’n datblygu ymagweddau arloesol, er enghraifft yn Rhondda Cynon Taf, lle’r oedd y bartneriaeth yn gweithio ar y cyd â sefydliadau fel Menter Iaith i gynnig darpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gofal, cymorth ac arweiniad, lles ac agweddau at ddysgu
Roedd yr awyrgylch mewn dosbarthiadau dysgu oedolion yn y gymuned yn gynhyrchiol ac yn gadarnhaol bron bob tro. Roedd dysgwyr yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddychwelyd i ddysgu, yn mwynhau eu profiad ac yn gwerthfawrogi gwaith eu tiwtoriaid. Roedd dysgwyr yn gefnogol i’w gilydd, gan gynnig cefnogaeth ac anogaeth i’w cymheiriaid yn gyson. Roedd llawer o ddysgwyr hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfle am gyfeillgarwch a’r rhyngweithio cymdeithasol y mae dysgu’n ei gynnig, ac yn aml yn disgrifio’r effaith gadarnhaol roedd dysgu a mynychu eu sesiynau yn ei chael ar eu hiechyd meddwl a’u lles. Lle’r oedd gweithio mewn partneriaeth yn llai cryf, roedd cyfleoedd i gynnig cymorth traws-darparwr i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn llai datblygedig ac yn llai effeithiol.
Roedd darparwyr partneriaethau yn creu amgylcheddau diogel a gofalgar a oedd yn cefnogi datblygiad addysgol a phersonol dysgwyr. Roeddent yn hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn amlygu pwysigrwydd y rhain yng nghymdeithas Cymru yn llwyddiannus.
Arweinyddiaeth
Yn ein harolygiadau a’n hymweliadau gan arolygwyr cyswllt, fel ei gilydd, canfuom ychydig o bartneriaethau lle’r oedd ad-drefnu, newidiadau o ran rolau neu fethiant i benodi personél allweddol newydd yn cael effaith negyddol ar waith y bartneriaeth a darpariaeth i ddysgwyr.
Penderfynodd un awdurdod lleol roi’r gorau i’w ddarpariaeth partneriaeth DOG yn gyfan gwbl a lleihaodd darparwr arall faint ei ddarpariaeth wyneb-yn-wyneb ar draws ei ardal ddaearyddol. Yn y ddau achos, nododd y darparwyr gyfyngiadau cyllidebol fel ffactor sylweddol yn eu penderfyniadau. Mae’r datblygiadau hyn yn peri pryder.
Roedd ansawdd gweithio mewn partneriaeth ac arweinyddiaeth yn parhau i fod yn faes ffocws ac yn peri pryder sylweddol. Yn y chwe arolygiad a gynhaliwyd gennym yn ystod 2023-2024, gwnaethom argymhellion i wella elfennau o weithio mewn partneriaeth mewn tair partneriaeth. Lle nodom feysydd i’w gwella o ran gweithio mewn partneriaeth, roedd y rhain fel arfer yn cynnwys y canlynol:
- Roedd diffyg eglurder neu gytundeb ffurfiol ynghylch rolau a chyfrifoldebau pob partner
- Roedd diffyg gweledigaeth, arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol ar gyfer y bartneriaeth
- Roedd cynllunio i gynnig llwybrau dilyniant clir i mewn i’r bartneriaeth, y tu mewn a’r tu hwnt iddi, yn aneffeithiol
- Nid oedd cynllunio darpariaeth yn gydlynol, gan olygu nad oedd dysgwyr neu ddarpar ddysgwyr mewn rhai ardaloedd daearyddol o’r bartneriaeth yn gallu manteisio’n gyfleus ar ddarpariaeth wyneb-yn-wyneb
- Nid oedd prosesau hunanwerthuso a gwella ansawdd yn cynnwys trosolwg o’r bartneriaeth, gan olygu nad oedd gan bartneriaid ddealltwriaeth glir o gryfderau a meysydd i’w gwella cyffredinol y bartneriaeth
- Roedd partneriaid yn colli cyfleoedd i rannu adnoddau, fel trwy weithgareddau dysgu proffesiynol cydweithredol neu ar y cyd neu drwy gydleoli darpariaeth
- Nid oedd deunyddiau marchnata a hyrwyddo neu wefannau partneriaethau yn galluogi dysgwyr neu ddarpar ddysgwyr i weld ystod lawn darpariaeth y bartneriaeth mewn ffordd syml
- Nid oedd partneriaethau’n cydweithio’n ddigon agos â’r ystod lawn o ddarparwyr lleol, cymunedol neu grwpiau trydydd sector i ehangu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog
Nodom hefyd agweddau cryf ar weithio mewn partneriaeth, er enghraifft ym mhartneriaeth Castell-nedd Port Talbot a Phowys, lle y lluniom giplun ar ddefnydd effeithiol o gytundebau lefel gwasanaeth a oedd yn egluro rolau a chyfrifoldebau pob partner.
Ciplun o gytundebau lefel gwasanaeth o adroddiad partneriaeth DOG Castell-nedd Port Talbot a Phowys
Mae gan y bartneriaeth gytundebau lefel gwasanaeth (CLGau), sy’n diffinio’r trefniadau rhwng Grŵp Colegau NPTC a’r naill a’r llall o’i ddau bartner awdurdod lleol, sef Castell-nedd Port Talbot a Phowys. Mae pob CLG yn amlinellu cyfrifoldebau’r ddwy ochr ac yn cynnwys trefniadau ar gyfer arlwy’r ddarpariaeth, deilliannau disgwyliedig, sicrhau ansawdd a thalu. Mae’r cytundebau ffurfiol hyn yn sicrhau bod eglurder rhwng partneriaid a pharhad rhwng sefydliadau os bydd personél allweddol yn newid rolau neu’n ymddeol.
Ar draws y sector, gwelsom rywfaint o welliant yn y ffordd y mae partneriaethau’n defnyddio eu gwefannau i roi gwybod i ddysgwyr a darpar ddysgwyr am eu darpariaeth. Roedd rhai partneriaethau wedi ailgynllunio eu gwefannau er mwyn galluogi defnyddwyr i chwilio a phori drwy’r cyrsiau sy’n cael eu cynnig gan bob darparwr yn y bartneriaeth. Roedd rhai eraill wedi gwella amlygrwydd dolenni i wefannau eu partneriaid fel bod defnyddwyr yn gallu llywio rhyngddynt yn symlach i chwilio am gyrsiau.
Roedd y cyllid a oedd ar gael trwy fenter Lluosi Llywodraeth y DU yn fawr iawn o gymharu â’r Grant Dysgu Oedolion yn y Gymuned. Roedd gan y cyllid amserlen fer a meini prawf cymhwysedd llym hefyd ar gyfer y math o ddarpariaeth y gellid ei hariannu. Roedd partneriaethau’n gweithio’n dda i gydlynu’r ddarpariaeth y maent yn ei chynnig trwy Lluosi, ond roeddent yn aml yn wynebu heriau o ran recriwtio dysgwyr a thiwtoriaid yn yr amserlenni byr sydd ar gael, ac o ran cynllunio’r ffordd orau i sicrhau pontio effeithiol yn ôl i ‘fusnes yn ôl yr arfer’ pan fydd cyfnod y cyllid yn dod i ben.
Trosolwg argymhellion
Mae’r argymhellion o’r chwe arolygiad yn disgyn i’r categorïau eang hyn:
- Arweinyddiaeth a chynllunio strategol – roedd tri argymhelliad yn ymwneud â gwella gweithio mewn partneriaeth ac arweinyddiaeth strategol
- Hunanwerthuso a gwella ansawdd – roedd tri argymhelliad yn ymwneud ag ymagweddau partneriaeth gyfan tuag at hunanwerthuso, gan gynnwys gwerthuso dilyniant dysgwyr
- Darpariaeth cyfrwng Cymraeg – roedd tri argymhelliad yn ymwneud â gwella neu gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog
- Ansawdd a chadw – roedd dau argymhelliad yn nodi’r angen i wella ansawdd neu gyfradd cadw
- Darpariaeth – roedd un argymhelliad i wella’r gallu i fanteisio ar ddarpariaeth ar draws ardal ddaearyddol lawn y bartneriaeth
- Anghenion dysgu ychwanegol – un argymhelliad oedd gwella cymorth a monitro i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
- Hyrwyddo a marchnata – un argymhelliad oedd sicrhau y gall darpar ddysgwyr a dysgwyr presennol fanteisio’n rhwydd ar drosolwg o arlwy cyrsiau llawn y bartneriaeth a’i llwybrau dilyniant
Cyfeiriadau
Llywodraeth Cymru (2023) Dyraniadau cyllid ôl-16: dysgu oedolion awdurdodau lleol.