Dysgu yn y gwaith: prentisiaethau – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Dysgu yn y gwaith: prentisiaethau

Adroddiad sector 2023 - 2024



Cyflwyniad 

Dechreuodd contract presennol Llywodraeth Cymru i ddarparu rhaglenni prentisiaeth ym mis Awst 2021.

Mae 10 o ddarparwyr yn gontractwyr sydd wedi’u comisiynu i ddarparu prentisiaethau.

Caiff chwech o’r contractau eu cyflwyno gan golegau addysg bellach a phedwar ohonynt gan ddarparwyr hyfforddiant annibynnol. Mae’r 10 darparwr hyn yn cydweithio ag ystod o ddarparwyr hyfforddiant eraill gan ddefnyddio trefniadau partneriaeth ac is-gontractio i gyflwyno hyfforddiant ar gyfer rhaglenni ar lefel prentisiaeth sylfaen, prentisiaeth a phrentisiaeth uwch.

Ar draws y rhan fwyaf o’r meysydd dysgu, mae deilliannau wedi gwella, er eu bod yn isel o hyd mewn iechyd, gwasanaethau cyhoeddus a gofal, a lletygarwch ac arlwyo.

O’r pedwar arolygiad a gynhaliwyd, roedd angen gweithgarwch dilynol ar un darparwr â meysydd i’w gwella sy’n peri pryder.


Dysgwyr

46,610

Nifer y dysgwyr prentisiaeth yn 2022-2023

17,480

Nifer y dysgwyr prentisiaeth sylfaen yn 2022-2023

20,070

Nifer y dysgwyr prentisiaeth lefel 3 yn 2022-2023

9,060

Nifer y dysgwyr prentisiaeth uwch yn 2022-2023


Darpariaeth 

Mae prentisiaid yn cael eu cyflogi ac yn gweithio mewn ystod eang o alwedigaethau.

Mae prentisiaethau ar gael ar lefel 2 (prentisiaeth sylfaen), lefel 3 (prentisiaeth) a lefel 4 a 5 (prentisiaeth uwch).

Mae dysgwyr sy’n ymgymryd â phrentisiaethau yn aelodau amser llawn o staff eu cyflogwr. Yn gyffredinol, mae’n cymryd dwy i dair blynedd i gwblhau rhaglenni prentisiaeth.

Mae prentisiaid yn dechrau eu hyfforddiant ar lefelau gwahanol yn amodol ar rôl y swydd, eu profiad blaenorol ac anghenion cyflogwyr. Yn ogystal â datblygu eu medrau sy’n gysylltiedig â’r swydd yn y gweithle, mae prentisiaid yn gweithio tuag at gyflawni cyfres o gymwysterau cydnabyddedig fel rhan o’u fframweithiau prentisiaeth.


Arolygiadau

Cynhaliwyd 4 arolygiad craidd yn ystod 2023-2024 : 4

Prentisiaethau Coleg Caerdydd a’r Fro
Coleg Gŵyr Abertawe
ITEC Training
Hyfforddiant Cambrian

Astudiaethau achos

Nifer yr astudiaethau achos: 5

Gweithgarwch dilynol

Darparwr mewn categori gweithgarwch dilynol : 1


Crynodeb

Bu i rhan fwyaf o ddysgwyr ddatblygu ystod eang o sgiliau ymarferol a theori yn gyflym o ganlyniad i’w profiadau yn y gweithle ac addysgu, hyfforddiant ac asesu cefnogol. Mae darparwyr yn gwella eu gweithdrefnau yn barhaus i sicrhau bod anghenion lles dysgwyr yn cael eu nodi a’u diwallu’n gyflym. Yn gyffredinol, ddaru arweinwyr flaenoriaethu’n dda a gweithio’n effeithiol gydag amrywiaeth o bartneriaid.


Dysgu, addysgu a phrofiadau dysgu

Gwnaeth llawer o ddysgwyr gynnydd cadarn, o leiaf, o ran datblygu ystod eang o wybodaeth theori a oedd yn helpu i gefnogi eu rolau gwaith. Yn y rhan fwyaf o achosion, datblygodd dysgwyr ystod gynhwysfawr o fedrau ymarferol yr oeddent yn eu cymhwyso i’w rolau gwaith yn dda. Roedd dysgwyr ar brentisiaethau lefel uwch yn aml yn cysylltu prosiectau ac aseiniadau â’u gweithleoedd, a oedd yn datblygu eu gwybodaeth lefel uwch a’u medrau meddwl ac yn arwain at arferion a gweithdrefnau newydd ar gyfer eu cyflogwyr. Daeth dysgwyr ar bob lefel yn aelodau gwerthfawr o staff eu cyflogwyr yn gyflym, gan gyfrannu’n dda at ystod eang o weithgareddau a thasgau. O ganlyniad i’w prentisiaethau, roedd dysgwyr ar bob lefel yn datblygu eu medrau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig yn dda. Yn yr achosion gorau, roedd dysgwyr yn defnyddio’r medrau hyn wrth ryngweithio â’u rheolwyr a’u cyfoedion ac wrth siarad â chwsmeriaid a chleientiaid. Fodd bynnag, yn ein hadolygiad thematig o gyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn rhaglenni prentisiaeth, nodwyd fod addysgu a dysgu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol mewn prentisiaethau wedi’u gogwyddo’n ormodol tuag at baratoi ar gyfer asesiadau allanol.

Ym mwyafrif yr achosion, roedd gan athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr ddisgwyliadau uchel o’u dysgwyr. Roedd yr aelodau staff hyn yn rhoi lefelau uchel o gymorth personol, gan annog ac ysgogi dysgwyr i gyflawni safonau uwch o waith ymarferol a theori. Roedd aseswyr yn ymweld â dysgwyr ac yn monitro eu cynnydd yn rheolaidd, gan ddiweddaru cofnodion olrhain a rhoi adborth buddiol ar waith ysgrifenedig. Yn yr achosion gorau, roedd aseswyr yn trafod targedau priodol o heriol â dysgwyr ar gyfer cwblhau gwaith ysgrifenedig. Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwybod y cynnydd roeddent yn ei wneud a’r hyn roedd angen iddynt ei wneud i gwblhau eu prentisiaethau. Datblygodd pob un o’r pedwar darparwr a arolygwyd ystod gynhwysfawr o adnoddau addysgu a dysgu i gefnogi dysgwyr.

Ym mhob un o’r pedwar darparwr, roedd athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr yn defnyddio technegau holi yn arbennig o dda. Roeddent yn defnyddio cwestiynau’n effeithiol i wirio gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr ac i brocio ac ymestyn dealltwriaeth a meddwl lefel uwch.

Roedd pob un o’r darparwyr wedi gwneud cynnydd o ran datblygu ystod fuddiol o adnoddau addysgu a dysgu dwyieithog. Roedd pob darparwr wedi cynyddu gallu eu staff i gyflwyno ac asesu rhaglenni’n ddwyieithog. Roedd dysgwyr a oedd â gallu yn y Gymraeg yn sgwrsio’n hyderus yn Gymraeg gydag aseswyr Cymraeg eu hiaith. Fodd bynnag, roedd nifer y dysgwyr a oedd yn dewis gwneud gwaith ysgrifenedig neu asesiadau trwy gyfrwng y Gymraeg yn parhau i fod yn isel o hyd.

Ar draws y rhwydwaith, roedd ychydig o ddysgwyr yn aros ar y rhaglen y tu hwnt i ddyddiadau gorffen disgwyliedig eu prentisiaeth, gyda nifer o ddysgwyr ymhell y tu hwnt i’w dyddiadau disgwyliedig. Yn gyffredinol, mae’r dysgwyr hyn yn y sectorau iechyd, gwasanaethau cyhoeddus a gofal, a lletygarwch ac arlwyo. Er eu bod yn gwella, y sectorau hyn yw’r rhai arafaf i wella’n llwyr ar ôl pandemig COVID-19, yn gyffredinol. Erbyn hyn, mae cymwysterau newydd yn y sectorau iechyd, gwasanaethau cyhoeddus a gofal wedi ymwreiddio, ond mae pwysau ar y gweithlu yn y sector yn peri pryder o hyd. Mater allweddol a nodwyd yn ein harolygiadau oedd y diffyg amser y mae cyflogwyr, yn enwedig yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ei roi i ddysgwyr i wneud gwaith ysgrifenedig neu ddysgu i ffwrdd o’r gwaith.


Gofal, cymorth ac arweiniad ac agweddau at ddysgu

Ar draws y sector, roedd gan ddarparwyr a’u hisgontractwyr ystod gynhwysfawr o weithdrefnau a phrotocolau gofal, cymorth ac arweiniad. Roedd y gefnogaeth a oedd ar gael i ddysgwyr yn eang ac roedd lles dysgwyr yn ffocws cyson. Fel eu man cyswllt cyntaf, roedd dysgwyr yn meithrin lefelau cryf o ymddiriedaeth â’u haseswyr. Ar draws y pedwar darparwr, roedd aseswyr yn ymweld yn rheolaidd â dysgwyr a oedd mewn perygl o adael eu prentisiaeth neu y tu ôl i ble y dylent fod arni gyda’r gwaith. O ganlyniad, roedd llawer o’r dysgwyr hyn yn aros mewn hyfforddiant ac yn cwblhau eu rhaglenni yn y pen draw.

Roedd gan bob un o’r pedwar darparwr ystod o wasanaethau cymorth ar gael i ddysgwyr. Roedd y rhain yn briodol i faint a natur y darparwr, yn gyffredinol, ac roedd gan ddarparwyr arweiniol addysg bellach ystod eang o wasanaethau cymorth mewnol ar gael. Roedd pob un o’r darparwyr yn defnyddio’r arbenigedd a oedd ar gael yn briodol i gefnogi dysgwyr pan nodwyd angen. Roedd y cymorth hwn yn aml ar gyfer materion personol, emosiynol neu les. Pan nodwyd angen am gymorth arbenigol, byddai darparwyr yn aml yn sicrhau cymorth gan asiantaethau allanol i roi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar ddysgwyr.

Roedd y pedwar darparwr wedi cryfhau eu gweithdrefnau ymhellach i nodi a chefnogi anghenion unigol dysgwyr. Roedd y darparwyr hyn wedi rhoi ffocws clir ar wella’r cymorth sydd ar gael i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Roeddent wedi codi ymwybyddiaeth staff, meithrin cysylltiadau ag asiantaethau cymorth arbenigol ac wedi manteisio ar adnoddau a deunyddiau addysgu a dysgu arbenigol. Mewn tri o’r darparwyr, fe wnaethant gyflogi cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol arbenigol er mwyn helpu i wneud yn siŵr fod anghenion dysgwyr yn cael eu bodloni. Mewn tri darparwr, roedd cymorth ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol wedi’i gryfhau’n sylweddol a’r canlyniad oedd bod anghenion unigol yn cael eu bodloni ynghynt ac yn fwy effeithiol. At ei gilydd, ar draws y rhwydwaith, mae’r ymwybyddiaeth gryfach hon wedi arwain at gynnydd yn nifer y dysgwyr ag anghenion dysgwyr ychwanegol a nodwyd ac a gefnogwyd. Er y cyflwynwyd radicaleiddio ac eithafiaeth trwy sesiynau ymsefydlu ac yn gyfnodol trwy’r rhaglenni prentisiaeth, nid oedd athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr yn cynnwys dysgwyr mewn gweithgareddau’n rheolaidd i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r elfennau hyn yn ddigon da.

Roedd gan bob un o’r pedwar darparwr drefniadau a hyfforddiant staff priodol i ddiogelu dysgwyr. At ei gilydd, roedd gan ddysgwyr ddealltwriaeth briodol o ddiogelu ac roeddent yn gwybod am y gweithdrefnau hysbysu, pe byddai’r angen yn codi. Nid oedd datblygu gwybodaeth dysgwyr am radicaleiddio ac eithafiaeth yn cael ei wneud yn ddigon trylwyr bob tro. O ganlyniad, nid oedd athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr bob amser yn cynnwys dysgwyr mewn gweithgareddau a oedd yn datblygu eu dealltwriaeth yn ddigon da.


Arwain a gwella

Yn ogystal â’r her o wella deilliannau dysgwyr mewn iechyd a gofal cymdeithasol a lletygarwch ac arlwyo, roedd darparwyr yn wynebu’r her ychwanegol o doriad cyllid. Mae’r toriad ar draws y sector yn golygu gostyngiad yn nifer y prentisiaid sy’n mynd i gyflogaeth a hyfforddiant.

Yn y pedwar darparwr a arolygwyd, roedd arweinwyr yn cyflwyno rhaglenni prentisiaeth mewn partneriaeth ag isgontractwyr a chyflogwyr lleol hirsefydlog. Roedd cynllunio strategol yn ystyried blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn ofalus. Ym mhob un o’r darparwyr, roedd cyfathrebu rheolaidd rhwng rheolwyr a staff ar bob lefel. Yn y pedwar darparwr, roedd arweinwyr yn rhannu ystod gynhwysfawr o wybodaeth â’u hisgontractwyr am gyflwyno eu contractau prentisiaeth, er enghraifft ar ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru, data cynnydd a deilliannau dysgwyr a diogelu.

Roedd gan bob darparwr drefniadau cadarn i hunanwerthuso ansawdd eu darpariaeth. Roedd dogfennau gwella ansawdd darparwyr yn aml yn nodi targedau defnyddiol ar gyfer gwella mewn meysydd allweddol, ond nid oedd y cynlluniau gwella’n ddigon clir a manwl bob tro i gefnogi monitro neu fesur effaith. Ar draws y darparwyr a’u harolygwyd nid oedd hunanwerthuso bob amser wedi’i gysylltu’n ddigon da â phrosesau gwella ansawdd gyda chamau clir ar gyfer gwella. Roedd hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â gwella canlyniadau dysgwyr. Her sy’n dod i’r amlwg i ddarparwyr yw sicrhau bod cyflogwyr yn cefnogi eu dysgwyr yn llawn ym mhob agwedd ar eu prentisiaethau. Yn y sefyllfaoedd hyn, nid oedd cyflogwyr yn rhoi’r amser angenrheidiol i ffwrdd o’r gweithle i’r dysgwyr fynychu sesiynau hyfforddi neu gwblhau asesiadau ysgrifenedig. Roedd gan bob un o’r pedwar darparwr weithgareddau dysgu proffesiynol buddiol ar gael i staff ac, yn yr achosion gorau, roedd y rhain yn cael eu rhannu ag isgontractwyr.


Trosolwg argymhellion

Ym mhob un o’r pedwar arolygiad a gynhaliwyd, derbyniodd pob darparwr argymhelliad i wella’r cyfraddau y mae dysgwyr yn cyflawni eu prentisiaethau. Cafodd pob darparwr hefyd argymhelliad i wella ansawdd addysgu a dysgu. Roedd hyn yn cynnwys gwella sut maeny yn gosod a chynllunio targedau, sgiliau llythrennedd a rhifedd dysgwyr, ac arferion athrawon ac aseswyr.

Derbyniodd pob darparwr argymhellion i wella hunanarfarnu a chynllunio gwelliant. Cafodd dau ddarparwr argymhelliad i sicrhau bod pob cyflogwr yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau i gefnogi hyfforddiant eu prentisiaid yn llawn.


Astudiaethau achos

Prentisiaethau Coleg Caerdydd a’r Fro

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Gofal, cymorth ac arweiniad

Mae timau cymorth Prentisiaethau Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnig ystod eang o wasanaethau i ddysgwyr. Mae trefniadau cryf ar waith i nodi anghenion cymorth dysgwyr a monitro cymorth yn briodol er mwyn datblygu dysgwyr a chefnogi eu cynnydd. Dyfeisiwyd prosesau clir ar gyfer prentisiaid a oedd â chynllun datblygu unigol, y rhai a mynegodd fod ganddynt angen dysgu ychwanegol ar ddechrau eu rhaglen a’r rhai yr oedd staff yn amau bod ganddynt ADY.

Addysgu a phrofiadau dysgu

Mae Prentisiaethau Coleg Caerdydd a’r Fro yn gweithio mewn rhanbarth sydd â’r dirwedd fwyaf amrywiol yng Nghymru o ran ffyniant economaidd ac amrywiaeth y cymunedau oddi mewn iddo. Mae’r coleg yn cydnabod yr her allweddol i fynd i’r afael â thlodi ar draws y rhanbarth a chefnogi cymunedau ffyniannus. Mae’n creu ei ymagwedd o gwmpas themâu craidd strategol, sy’n cynnwys cyflwyno prentisiaethau mewn modd ymatebol ac effeithiol, manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu â phrentisiaethau, cynyddu ymgysylltiad y tu hwnt i lefel 2 ac ymrwymiad i feysydd sector sydd â blaenoriaeth. Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, sicrhaodd fod darpariaeth yn cael ei chynllunio ar lefel strategol, ar y cyd ag ystod eang o randdeiliaid.

Coleg Gŵyr Abertawe

Byrddau cyflogwyr

Yn 2017, creodd Coleg Gŵyr Abertawe strategaeth i wella cydweithio â chyflogwyr. Er mwyn aros ar y blaen o ran anghenion medrau sy’n esblygu’n gyson a sicrhau bod gofynion cyflogwyr yn cael eu deall, creodd y coleg wyth o fyrddau cyflogwyr gan arwain at gyd-greu darpariaeth.

Cefnogaeth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol

Adolygodd a gwellodd Coleg Gŵyr Abertawe ei ymagwedd at nodi a chefnogi prentisiaid ag anableddau a’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gan hyrwyddo’r cymorth helaeth sydd ar gael i ddysgwyr ag anableddau, namau synhwyraidd, anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a chyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar waith/bywyd. Mae llawer o unigolion wedi wynebu heriau dysgu a gwaith heb ddiagnosis ffurfiol na chymorth nes iddynt ddechrau eu prentisiaethau.

Hyfforddiant Cambrian

Ymgysylltiad a dylanwad diwydiant

Mae uwch arweinwyr yn arbennig o weithgar yn y sectorau bwyd, diod a lletygarwch. Maent yn mynychu cyfarfodydd grŵp cynrychiolwyr cyflogwyr ac mae ganddynt berthynas hirsefydlog ag ystod eang o gyflogwyr ledled Cymru. Maent yn cydweithio â chyflogwyr a chyrff cynrychioliadol i fynd i’r afael â bylchau medrau ac anghenion hyfforddiant. O ganlyniad, mae’r darparwr yn datblygu ei ddarpariaeth i fodloni’r anghenion medrau hyn ar gyfer y sector bwyd, diod a lletygarwch ledled Cymru.