Effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, cymorth, darpariaeth a phontio ar gyfer addysg gynnar
Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024
Effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, cymorth, darpariaeth a phontio ar gyfer addysg gynnar
Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024
Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddom ein hadroddiad thematig ar effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, cymorth, darpariaeth a phontio ar gyfer addysg gynnar. Mae ein hadroddiad yn defnyddio canfyddiadau o ymweliadau â lleoliadau meithrin nas cynhelir sy’n darparu addysg feithrin, ysgolion cynradd a phob oed ac un ganolfan i blant. Buom yn ymgynghori â rhieni, awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion, hefyd.
Ein hargymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- Sicrhau bod cyllid y GDDBC yn cael ei ddyrannu’n deg i awdurdodau lleol sy’n ariannu lleoliadau nas cynhelir
- Darparu arweiniad gwell ar sut caiff y cyllid ei ddosbarthu a’i ddefnyddio mewn lleoliadau ac ysgolion
Dylai awdurdodau lleol:
- Ddarparu dysgu proffesiynol penodol a gwybodaeth i ysgolion a lleoliadau am sut orau i ddiwallu anghenion cymdeithasol, emosiynol, personol a datblygiadol plant yn y blynyddoedd cynnar y mae tlodi ac amddifadedd yn cael effaith andwyol arnynt
- Sicrhau bod arweinwyr mewn ysgolion a lleoliadau yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o gyllid GDDBC er mwyn iddynt allu ei dargedu’n effeithiol ar fynd i’r afael ag effaith tlodi ac anfantais ar gyfer eu disgyblion yn y blynyddoedd cynnar
- Sicrhau cydraddoldeb o ran darpariaeth y blynyddoedd cynnar rhwng ysgolion a lleoliadau, yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn o rôl amgylcheddau effeithiol, oedolion sy’n galluogi dysgu a phrofiadau difyr
Dylai arweinwyr ysgolion a lleoliadau:
- Werthuso’r effaith a gaiff cyllid y GDDBC ar gynnydd medrau a datblygiad plant
- Sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer plant yn y blynyddoedd cynnar yn ddatblygiadol briodol
Beth ddywedodd ein hadroddiad thematig?
Dywed arweinwyr fod lefelau tlodi wedi gwaethygu ers y pandemig a’r argyfwng costau byw.
Mae arweinwyr yn treulio cryn amser yn meithrin perthnasoedd cryf a chefnogol gyda theuluoedd mewn angen. Mae llawer ohonynt yn cynnig cymorth ymarferol i rieni, er enghraifft mynediad at wasanaethau allanol, fel banciau bwyd, cymorth tai a chysylltiadau ag asiantaethau eraill y trydydd sector.
Mae ymarferwyr yn y ddau sector yn gweithio’n agos gyda rhieni, a sefydliadau amlasiantaethol pan fo’n briodol, i baratoi plant ar gyfer pontio o’r cartref i’r lleoliad neu o’r lleoliad i’r ysgol.
Mae gwahaniaethau ledled Cymru o ran sut caiff y Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar (GDDBC) ei ddyrannu i awdurdodau lleol, a’i ddirprwyo ynddynt. Caiff hyn effaith andwyol ar ychydig o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Yn yr achosion gorau, mae arweinwyr yn defnyddio cyllid y GDDBC yn effeithiol, gan flaenoriaethu meysydd i’w gwella trwy hunanwerthuso.
Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr ysgolion yn gweld bod lefelau is o gymorth a chyllid ar gael i blant ag ADY o gymharu â’r hyn a ddarperir yn y sector nas cynhelir.
Yn gyffredinol, mae lleoliadau ac ysgolion yn buddsoddi mewn dysgu proffesiynol sylweddol ar ddeall trawma yn ystod plentyndod, datblygiad lleferydd ac iaith, a chynorthwyo plant ag ADY. At ei gilydd, mae’r dysgu hwn yn galluogi staff i addasu eu darpariaeth i ddiwallu anghenion unigol yn effeithiol. Fodd bynnag, yn aml, ceir diffyg cysondeb mewn hyfforddiant a chymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar sut orau y gall pob ysgol ddiwallu anghenion cymdeithasol, emosiynol, personol a datblygiadol plant yn y blynyddoedd cynnar y mae tlodi ac anfantais yn cael effaith andwyol arnynt.
Mae gan lawer o ymarferwyr ddealltwriaeth gadarn o ddatblygiad plant. Maent yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio amgylcheddau a phrofiadau priodol sy’n gweddu i gamau datblygiadol a diddordebau plant yn dda. Maent yn gwneud addasiadau ystyriol i’w darpariaeth i sicrhau bod plant yn cael amser digonol i chwarae ac archwilio yn yr amgylcheddau dan do ac awyr agored i ddatblygu eu medrau cyfathrebu, cymdeithasol a gwybyddol.
Mewn ychydig o ysgolion, mae arweinwyr yn cyflwyno dysgu ffurfiol (er enghraifft, darllen cynnar a gwaith rhif) yn rhy gynnar. Nid oedd y dull hwn bob amser yn diwallu anghenion datblygiadol plant yn y blynyddoedd cynnar.
Caiff y rhan fwyaf o arweinwyr lleoliadau nas cynhelir eu cynorthwyo’n dda gan eu hathrawon ymgynghorol yn y blynyddoedd cynnar, sy’n darparu arweiniad teilwredig, datblygiad proffesiynol a chymorth mewn prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant.
Mae’r rhan fwyaf o leoliadau nas cynhelir yn cael cymorth gwerthfawr gan sefydliadau ymbarél.
Mae lleoliadau ac ysgolion nas cynhelir yn elwa ar gydweithio â thimau amlasiantaethol, yn cynnwys ymwelwyr iechyd a seicolegwyr addysg, i gefnogi iechyd, lles a datblygiad emosiynol plant. Mae’r partneriaethau hyn yn helpu mynd i’r afael â materion fel trawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.