Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol
Adroddiad sector 2023 - 2024
Darparwyr
22
Nifer y darparwyr yn 2024
Arolygiadau craidd
Nifer yr arolygiadau craidd: 4
Cyfrwng Cymraeg: 1
Cyfrwng Saesneg: 3
Astudiaethau achos
Nifer yr astudiaethau achos: 4
Wedi’u cyhoeddi ar y wefan: 2
Gweithgarwch dilynol
Nifer mewn categori gweithgarwch dilynol ym mis Medi 2023
Awdurdodau sy’n peri pryder sylweddol: 1
Nifer a dynnwyd yn 2023-2024: 0
Nifer a roddwyd mewn categori gweithgarwch dilynol yn 2023-2024: 0
Cyfanswm mewn categori gweithgarwch dilynol yn 2024: 1
Mae gwasanaethau addysg llywodraeth leol yn cynnwys y rhai sy’n cael eu darparu neu eu comisiynu gan un awdurdod lleol, yn ogystal â’r rhai sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill. Er enghraifft, yn ystod y flwyddyn hon, comisiynodd rhai awdurdodau lleol wasanaethau gwella ysgolion trwy gonsortia rhanbarthol. Mae’r model ar gyfer darparu gwasanaethau gwella ysgolion yn amrywio ledled Cymru ac maen mewn cyfnod o drawsnewid oherwydd adolygiad cyfredol o rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg a chyflwyno trefniadau gwella ysgolion.
Yn ogystal â’n harolygiadau craidd a’r gwaith gweithgarwch dilynol, cynhaliodd arolygwyr cyswllt awdurdodau lleol ymweliadau â phob awdurdod lleol yn ystod y flwyddyn i drafod eu gwasanaethau. Cyfrannodd y trafodaethau hyn ar bynciau penodol at ein hadroddiadau thematig ar ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a’r blynyddoedd cynnar (BC). Yn ystod 2023-2024, cynhaliom gynllun peilot o ymweliadau manylach gan arolygwyr cyswllt awdurdodau lleol, lle ymwelodd tîm bach o arolygwyr ag awdurdod lleol i edrych yn fanylach ar agweddau penodol ar eu gwaith.
Crynodeb
Pan fo awdurdodau lleol yn cefnogi ysgolion yn effeithiol, maent yn defnyddio ystod eang o wybodaeth i nodi ysgolion sydd angen cymorth ac o ansawdd yn effeithiol i sicrhau gwaith swyddogion a phartneriaid gwella ysgolion. Mae arweinwyr yn rhannu ymdeimlad cryf o bwrpas moesol ac yn sicrhau bod staff yn cydweithio i gyflawni eu blaenoriaethau.
Gweithdai Risg a Sicrwydd Blynyddol
Yn rhan o’n gwaith arolygwyr cyswllt parhaus â gwasanaethau addysg llywodraeth leol, cyfrannom at weithdai risg a sicrwydd blynyddol ochr yn ochr ag Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Ar sail y gwaith hwn, ysgrifennom at bob awdurdod lleol yn amlinellu’r risgiau a’r sicrwyddau a nodwyd gennym.
Sicrwyddau allweddol
Mewn llawer o awdurdodau lleol, nodom fod deilliannau arolygiadau yn gadarnhaol, yn gyffredinol, yn enwedig mewn ysgolion cynradd a lleoliadau meithrin nas cynhelir. Ym mwyafrif yr awdurdodau lleol, amlygom sicrwyddau yn ymwneud ag arweinyddiaeth gref gan uwch swyddogion ac aelodau etholedig. Yn yr achosion hyn, roedd gan arweinwyr weledigaeth glir a rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio’n dda, a oedd yn hybu atebolrwydd ar draws gwasanaethau. Mewn lleiafrif o awdurdodau lleol, nodom gryfderau yn y modd roedd gwasanaethau addysg llywodraeth leol yn cydweithio â chyfarwyddiaethau eraill yn eu hawdurdod lleol a’r effaith gadarnhaol roedd hyn yn ei chael ar ansawdd darpariaeth i blant a phobl ifanc.
Risgiau allweddol
Mynegodd llawer o awdurdodau lleol bryder ynghylch cyllidebau’n gostwng ar adeg pan roedd mwy o alw ar wasanaethau, yn enwedig mewn perthynas â chymorth ar gyfer lles plant a phobl ifanc. Roedd presenoldeb yn risg allweddol ar gyfer gwasanaethau addysg awdurdodau lleol gan ei fod yn sylweddol is na’r lefelau cyn y pandemig o hyd ym mron pob un o’r awdurdodau lleol yng Nghymru. Amlygom bryderon yn ymwneud ag ymddygiad dysgwyr a’r cynnydd mewn gwaharddiadau am gyfnod penodedig a gwaharddiadau parhaol mewn tua hanner yr awdurdodau lleol. Nodom risgiau yn ymwneud â deilliannau arolygu hefyd, yn enwedig lle bu ysgolion mewn categori statudol am gyfnod hir. Roedd recriwtio a chadw staff ac arweinwyr yn risg allweddol hefyd, ac fe amlygom hyn mewn ychydig o awdurdodau lleol, yn enwedig mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg.
Arolygiadau ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA)
Yn ystod 2023-2024, parhaom i weithio ochr yn ochr ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) i gynnal arolygiadau ar y cyd o drefniadau amddiffyn plant (JICPA) yn awdurdodau lleol Powys a Chaerdydd. Ein rôl yw gwerthuso trefniadau diogelu ac amddiffyn plant awdurdod lleol o safbwynt addysg.
Yn y ddau awdurdod lleol a arolygwyd, roedd diogelu yn ganolog i waith arweinwyr a swyddogion yn y gyfarwyddiaeth addysg. Roedd swyddogion yn darparu arweinyddiaeth gref ac effeithiol i sicrhau bod diogelu’n cael ei ystyried yn gyfrifoldeb i bawb. Yn y ddau awdurdod, roedd arweinwyr ysgolion ac UCDau yn hyderus ynghylch y cymorth a’r arweiniad diogelu roeddent yn eu cael. Roedd staff yn adnabod disgyblion a’u teuluoedd yn dda. Roedd arferion gwaith cryf lle’r oedd darparwyr ac asiantaethau eraill, fel gwasanaethau iechyd a phlant, yn gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth i gynllunio, gweithredu ac adolygu darpariaeth ar gyfer plant bregus. Roedd disgyblion yn cael cefnogaeth briodol ym mhob darparwr ac roedd ystod gynhwysfawr o raglenni’n cael eu defnyddio i hybu iechyd a lles. Yn y ddau awdurdod, dim ond megis dechrau cael ei datblygu oedd rôl swyddogion o ran gwerthuso arferion diogelu darparwr trwy ddefnyddio archwiliadau ac roedd angen ei chryfhau.
Arolygiadau
Rhwng mis Medi 2023 a mis Gorffennaf 2024, cwblhaom bedwar arolygiad o wasanaethau addysg llywodraeth leol. Cynhaliwyd yr arolygiad o Gyngor Bro Morgannwg fel peilot ar gyfer ein trefniadau Arolygu 2024. Gofynnwyd i bob un o’r pedwar awdurdod lunio astudiaethau achos. Amlygodd Conwy ei gefnogaeth i bobl ifanc fregus trwy weithio mewn gwasanaethau integredig. Paratôdd Bro Morgannwg astudiaeth achos ar effaith gwaith trawsgyfarwyddiaethol ar wasanaethau addysg. Gofynnom am astudiaeth achos ar waith Ceredigion i ddatblygu darpariaeth Gymraeg. Mae adroddiad arolygu Caerffili yn cynnwys astudiaeth achos ar gefnogi dysgwyr ag ADY mewn darparwyr prif ffrwd.
Deilliannau a gwasanaethau addysg
Mae arolygiadau o wasanaethau addysg awdurdodau lleol yn cynnwys cwestiynau arolygu lleol (CALlau), sy’n canolbwyntio ar agweddau penodol ar ddarpariaeth. Roedd cwestiynau arolygu lleol yn 2023-2024 yn canolbwyntio ar feysydd fel gwella ysgolion, hybu presenoldeb ac ymddygiad da, ymgysylltu â theuluoedd, darpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, lleddfu effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, ad-drefnu ysgolion a darpariaeth i ddatblygu’r Gymraeg.
Ystyriodd pob un o’n harolygiadau pa mor dda y mae awdurdodau lleol yn cefnogi ysgolion i wella, gan ganolbwyntio ar sut maent yn cefnogi addysgu a dysgu ac arweinyddiaeth. Ym mhob un o’r pedwar arolygiad, canfuom fod gan swyddogion awdurdodau lleol ddealltwriaeth gref o lawer o agweddau ar waith eu hysgolion, ar y cyfan. Ar draws y pedwar awdurdod a arolygwyd, roedd swyddogion a phartneriaid gwella ysgolion wedi meithrin perthnasoedd proffesiynol cryf ag arweinwyr mewn ysgolion. Roedd swyddogion neu bartneriaid yn ymweld â darparwyr yn rheolaidd i gasglu gwybodaeth ac i gefnogi a herio arweinwyr ysgolion. Mewn llawer o achosion, roedd swyddogion yn defnyddio systemau data awdurdodau lleol i gasglu ystod eang o wybodaeth am gyllid, adnoddau dynol, presenoldeb a gwella ysgolion. Cynhaliodd awdurdodau lleol gyfarfodydd rheolaidd i drafod problemau posibl a’r cymorth yr oedd ei angen ar ysgolion unigol i fynd i’r afael â’r agweddau hyn ar eu gwaith. Mewn ychydig o achosion, dim ond megis dechrau cael eu datblygu oedd y systemau casglu gwybodaeth hyn.
Ym mhob un o’r pedwar arolygiad, canfuom fod swyddogion yn gweithio’n gynhyrchiol â chydweithwyr yn eu gwasanaethau gwella ysgolion neu drefniadau partneriaeth. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd gan awdurdodau lleol systemau clir i sicrhau ansawdd gwaith swyddogion neu bartneriaid gwella ysgolion er mwyn sicrhau cysondeb ac ansawdd. At ei gilydd, canfuom fod swyddogion a phartneriaid yn gweithio’n fuddiol ag ysgolion i gefnogi prosesau sicrhau ansawdd yr ysgolion eu hunain, gan gasglu tystiolaeth uniongyrchol trwy graffu ar waith, gwrando ar ddysgwyr, arsylwi gwersi a theithiau dysgu. Er bod y gwaith hwn yn edrych ar ddefnyddiol ar ansawdd yr addysgu a’r ddarpariaeth, nid oedd yn canolbwyntio’n ddigon da bob tro ar y cynnydd a wnaed gan ddisgyblion mewn gwersi a thros gyfnod.
Canfuom fod awdurdodau lleol yn cynnig cymorth gwerthfawr i arweinwyr, gan gynnwys cyfleoedd dysgu proffesiynol fel cysgodi arweinwyr profiadol, hyfforddiant a mentora. Ar ben hynny, cafodd llywodraethwyr ysgolion ystod werthfawr o arweiniad a dysgu proffesiynol i’w helpu i gyflawni eu cyfrifoldebau.
Yn gyffredinol, roedd yr awdurdodau lleol a arolygwyd yn defnyddio eu pwerau statudol yn briodol, fel cyhoeddi hysbysiadau rhybuddio neu ddarparu llywodraethu ychwanegol pan nad oedd ysgolion yn mynd i’r afael â materion brys yn ymwneud â pherfformiad yn ddigon cyflym. Yn aml, roedd cymorth o amgylch ysgolion mewn unrhyw un o gategorïau gweithgarwch dilynol Estyn yn gadarn ac, yn y rhan fwyaf o achosion, yn arwain at welliannau amserol.
Yn ein harolygiadau eleni, canfuom fod gwasanaethau gwella ysgolion yn cael effaith gadarnhaol, ar y cyfan. Roedd deilliannau arolygiadau ar gyfer ysgolion a darparwyr mewn tri o’r pedwar awdurdod lleol a arolygwyd yn cyd-fynd yn fras â’r cyfartaledd cenedlaethol. Yn nodedig, dros gyfnod, bu deilliannau arolygu ysgolion yng Ngheredigion yn gryf ac ni fu angen gweithgarwch dilynol ar unrhyw ddarparwr ers i ni ailddechrau arolygu ar ôl pandemig COVID-19.
Roedd pob un o’r pedwar arolygiad yn ystyried pa mor dda roedd yr awdurdod lleol yn cefnogi presenoldeb, ymgysylltiad ag addysg neu ymddygiad. Roedd llawer o awdurdodau yn casglu data presenoldeb a gwaharddiadau ar gyfer disgyblion yn rheolaidd ac yn cynnig cymorth gwaith cymdeithasol addysgol buddiol i ysgolion. Yng Nghonwy, canfuom ddiwylliant sefydledig ac effeithiol o waith traws-wasanaeth i gynnig cymorth i deuluoedd i helpu plant a phobl ifanc i ymgysylltu ag addysg. Roedd hyn yn cynnwys gwaith gwerthfawr â’r gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau ieuenctid a chyflogadwyedd o fewn y cyngor. Yng Ngheredigion, roedd yr awdurdod yn defnyddio technoleg yn arloesol i godi ymwybyddiaeth o brofiadau trawmatig yn ystod plentyndod a all arwain at ymddygiad heriol. Roeddent yn defnyddio data’n dda i adnabod disgyblion yr oedd angen cymorth arnynt ac yn cydweithio’n dda ag ysgolion i ddarparu ystod o ymyriadau a darpariaeth i helpu disgyblion. Roedd Bro Morgannwg wedi datblygu pecyn offer o ansawdd uchel ar y cyd ag ysgolion i’w cynorthwyo i gynyddu eu cyfraddau presenoldeb. Yng Nghaerffili, canfuom fod gan yr awdurdod strategaeth glir ar gyfer gwella presenoldeb, a oedd yn cael ei chyfleu’n effeithiol i ysgolion a rhanddeiliaid eraill, fel rhieni a gofalwyr.
At ei gilydd, ym mhob un o’r awdurdodau a arolygwyd, roedd cyfraddau presenoldeb wedi gwella yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, er eu bod yn is nag oeddent cyn y pandemig o hyd, fel oedd yn wir ledled Cymru. Roedd cyfraddau absenoldeb, yn enwedig absenoldebau cyson mewn ysgolion uwchradd, yn rhy uchel o hyd. Canfu ein harolygiadau nad oedd ymyriadau i fynd i’r afael â’r diffygion hyn wedi cael digon o effaith ar wella lefelau presenoldeb hyd yn hyn. Rhoddwyd argymhelliad i ddau awdurdod lleol wella presenoldeb. Ym mis Ionawr 2024, cyhoeddom adroddiad thematig ar wella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd, sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol.
At ei gilydd, canfuom fod y pedwar awdurdod lleol a arolygwyd yn gwneud cynnydd da tuag at weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, trwy ddysgu proffesiynol, cymorth ac adnoddau i ysgolion. Nodwedd gyffredin oedd y ffordd roedd swyddogion wedi meithrin perthnasoedd cynhyrchiol a chefnogol â rhieni a gofalwyr. Roedd awdurdodau lleol yn darparu ystod eang o wasanaethau i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY, eu teuluoedd, ysgolion a lleoliadau. Roeddent yn defnyddio ystod o fodelau i gyflwyno’r cymorth hwn, gan gynnwys trwy ysgolion arbennig a darpariaeth mewn lleoliadau prif ffrwd. Roedd darpariaeth ddwyieithog yn gryfder yng Ngheredigion a Chonwy. Yng Nghaerffili, roedd y tîm cynhwysiant statudol ac athrawon ymgynghorol arbenigol yn cynnig cymorth systematig amhrisiadwy i ysgolion a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar. Roedd Caerffili, Conwy a Bro Morgannwg wedi rhoi crynodeb defnyddiol o ddisgwyliadau’r awdurdod o ran datblygu arferion ysgol cynhwysol ar gyfer darparwyr.
Roedd effeithiolrwydd prosesau sicrhau ansawdd i werthuso cryfderau a meysydd i’w gwella mewn gwasanaethau a darpariaethau ADY yn amrywio ar draws awdurdodau lleol. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd swyddogion yn dadansoddi deilliannau ar gyfer disgyblion ag ADY a data arall yn briodol i ystyried ansawdd y ddarpariaeth a nodi meysydd i’w gwella.
Yn gyffredinol, roedd yr awdurdodau lleol a arolygwyd yn datblygu eu darpariaeth yn dda i liniaru effaith tlodi ar les plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, nid oeddent yn ystyried yn ddigon da bob tro sut gallent wella dysgu, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion sy’n byw mewn aelwydydd ag incwm isel.
Cydweithio a gweithio mewn partneriaeth i liniaru effaith tlodi ar les ym Mro Morgannwg
Yn ystod ei arolygiad, canfuom fod gan Fro Morgannwg ymrwymiad moesol cryf i liniaru effaith tlodi ar les plant a phobl ifanc. Roedd gan yr awdurdod lleol ddealltwriaeth gadarn o anghenion ei gymunedau ac roedd swyddogion yn ymatebol i’r heriau. Roedd cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn nodwedd allweddol o’i waith ac wedi ei alluogi i gyfeirio ei wasanaethau i’r mannau hynny lle’r oedd yr angen mwyaf a’r brys mwyaf. At ei gilydd, roedd effaith ei waith i leihau effaith tlodi ar les plant a phobl ifanc yn gryf.
Mewn dau awdurdod lleol, canolbwyntiom ar eu trefniadau i ddatblygu’r Gymraeg. Yn y ddau awdurdod, roedd gan arweinwyr weledigaeth glir ac ymrwymiad cryf tuag at wella darpariaeth ar gyfer y Gymraeg. Roedd swyddogion yn cydweithio’n effeithiol ar draws meysydd gwasanaeth ac â phartneriaid allanol i gyflawni gwelliannau. Roedd staff yn manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol gwerthfawr i wella eu medrau Cymraeg eu hunain ac roedd ystod o adnoddau i helpu athrawon a disgyblion i ddatblygu eu medrau.
Roedd pob un o’r awdurdodau a arolygwyd yn datblygu gwaith canolfannau trochi iaith yn dda i gefnogi hwyrddyfodiaid1Hwyrddyfodiaid: dysgwyr (saith oed neu’n hŷn) nad ydynt yn siarad Cymraeg ond sydd eisiau mynychu darpariaeth cyfrwng Cymraeg i addysg cyfrwng Cymraeg. Er enghraifft, roedd Caerffili a Bro Morgannwg wedi peilota neu sefydlu canolfannau trochi newydd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ddiweddar. Yng Ngheredigion, roedd arweinwyr wedi gweithredu’n brydlon i gynllunio’n strategol sut gallent gefnogi darparwyr i symud yn llwyddiannus ar hyd y continwwm iaith. Adeg yr arolygiad, roedd pum ysgol yn newid categori iaith er mwyn ymateb i uchelgais yr awdurdod i sicrhau bod pob disgybl yn gallu cael addysg cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar. Darllenwch sut roedd yr awdurdod lleol yn gwneud cynnydd arbennig o gryf tuag at ei Gynllun Strategaeth Cymraeg mewn Addysg (CSCA) yma.
Arwain a gwella
Ar draws pob un o’r pedwar awdurdod a arolygwyd, roedd gan arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer addysg ac ymdeimlad cryf o ddiben moesol. Roeddent yn pwysleisio dyheadau uchel ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu cymunedau ac yn adlewyrchu hyn yn glir yn eu cynlluniau corfforaethol ac ariannol. Roedd awdurdodau lleol yn deall yn dda y pwysau sy’n wynebu addysg o ran cyllid ac yn cydweithio’n agos ag ysgolion i reoli’r heriau hyn. At ei gilydd, roedd aelodau etholedig yn craffu ar waith cyfarwyddiaethau addysg yn briodol, gan ofyn cwestiynau priodol i swyddogion mewn cyfarfodydd. Yn yr enghreifftiau gorau, roeddent yn nodi materion perthnasol i’w trafod, yn cynnig her dda i’r weithrediaeth ac yn sicrhau atebolrwydd priodol dros gyfnod. Mewn un awdurdod lleol, roedd aelodau’r Cyngor Ieuenctid yn cyfrannu’n gadarnhaol at gyfarfodydd craffu ac roedd arweinwyr yn rhoi ystyriaeth dda i’w safbwyntiau wrth drafod materion allweddol. Mewn awdurdod lleol arall, roedd uwch arweinwyr ac aelodau etholedig wedi annog rhanddeiliaid yn weithredol i fynegi barn ar ansawdd eu gwaith, gan gynnwys plant a phobl ifanc. O ganlyniad, roedd eu safbwyntiau wedi dylanwadu ar gyfeiriad strategol yr awdurdod mewn agweddau penodol ar ei waith.
Adeg ein harolygiadau, canfuom fod pob un o’r pedwar awdurdod yn blaenoriaethu diogelu yn briodol, gan gynnwys trefnu a hwyluso hyfforddiant ac arweiniad gwerthfawr i ddarparwyr.
Roedd pob un o’r pedwar awdurdod wedi dangos arweinyddiaeth gadarn dros amser, gan arwain at hanes o welliant. Mae uwch arweinwyr ym mhob awdurdod yn gosod disgwyliadau uchel ac yn modelu ymddygiad proffesiynol rhagorol. Roedd swyddogion yn gweithio’n strategol i hybu cydweithio rhwng ysgolion ac maent wedi datblygu gallu arweinyddiaeth yn dda ar draws pob awdurdod. O ganlyniad, ar draws yr awdurdodau a arolygwyd gennym, mae arweinwyr wedi datblygu perthnasoedd proffesiynol cryf â staff mewn ysgolion.
Roedd gan bob un o’r pedwar awdurdod lleol brosesau addas i hunanwerthuso, monitro a sicrhau ansawdd eu darpariaeth. Fodd bynnag, fel yn 2022-2023, nid oedd cynlluniau gwella yn nodi meini prawf llwyddiant clir yn gyson ac nid oedd swyddogion yn ystyried effaith camau gweithredu ar wella darpariaeth a deilliannau i blant a phobl ifanc yn ddigon da bob tro. O ganlyniad, nid oedd swyddogion yn nodi meysydd i’w gwella ymhellach yn ddigon manwl. Er enghraifft, nid oedd awdurdodau yn gwerthuso effaith dysgu proffesiynol ar gyfer staff ac ysgolion yn ddigon da bob tro.
Cynigion ad-drefnu ysgolion
Yn ystod 2023-2024, ymgynghorodd 15 awdurdod lleol ar gyfanswm o 27 o gynigion ar gyfer ad-drefnu ysgolion. Mewn ychydig iawn o achosion, cyflwynodd awdurdodau lleol ymgynghoriadau unigol a oedd yn cynnig newidiadau i fwy nag un darparwr. Yn aml, nid oedd y cynigion hyn yn rhoi digon o wybodaeth i ymgyngoreion am y newidiadau arfaethedig. At ei gilydd, daethom i’r casgliad bod llawer o gynigion yn debygol o alluogi awdurdodau lleol i gynnal neu wella darpariaeth addysg mewn ardal benodol. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion, nid oedd cynigion yn ystyried effaith newidiadau ar ddysgu disgyblion nac ansawdd yr addysgu yn ddigon manwl.
Roedd chwarter y cynigion yn gysylltiedig ag ad-drefnu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Nod y rhan fwyaf o’r ymgynghoriadau hyn oedd sefydlu darpariaeth arbenigol newydd mewn ysgol gynradd neu uwchradd. Er bod awdurdodau lleol yn aml yn darparu sail resymegol glir ar gyfer sefydlu’r ddarpariaeth, mewn llawer o achosion, nid oeddent yn rhoi ystyriaeth ddigon da i sut byddai’r ddarpariaeth arbenigol yn cael ei hintegreiddio i’r ysgol brif ffrwd a sut byddai lles disgyblion yn cael ei gefnogi.
Roedd bron i chwarter y cynigion yn ymgynghori ar newid cyfrwng iaith darparwr o’r Saesneg i’r Gymraeg i wella darpariaeth ar gyfer y Gymraeg. Ym mron pob achos, roedd yr ymgynghoriadau hyn yn cynnig newid cyfrwng iaith dysgu sylfaen mewn ysgolion cynradd. Er bod pob un o’r cynigion yn ystyried sut gallai’r newidiadau hyn gefnogi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAau) awdurdodau lleol, nid oeddent yn ystyried effaith ehangach y newidiadau arfaethedig ar yr ysgol bob tro.
Roedd tua chwarter y cynigion yn ymgynghori ar gau ysgol. Mewn lleiafrif o’r achosion hyn, cynhwysodd yr awdurdod lleol fanylion am sut y byddai’n darparu ar gyfer disgyblion o’r ysgolion hyn, er enghraifft trwy gynyddu nifer y lleoedd mewn ysgol gyfagos.
Trosolwg argymhellion
Yn y flwyddyn academaidd 2023 – 2024, arolygodd Estyn bedwar Awdurdod Lleol.
Cafodd y pedwar argymhelliad i wella neu fireinio eu hunanarfarnu a’u cynllunio ar gyfer gwelliant, gyda ffocws i dri arnynt ar ddeilliannau dysgwyr.
Rhoddwyd argymhelliad i ddau wella presenoldeb yn ysgolion yr awdurdodau, ac un i gefnogi ysgolion i leihau cyfraddau gwaharddiadau.