Pob Oed – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Pob Oed

Adroddiad sector 2023 - 2024



Ysgolion

29

Nifer yr ysgolion 2024

27

Nifer yr ysgolion 2023

23

Nifer yr ysgolion 2022


Disgyblion

28,959

Cyfanswm y disgyblion

6,064

Nifer y disgyblion o oed cynradd

18,957

Nifer y disgyblion o oed uwchradd (addysg statudol)

2,031

Nifer y disgyblion chweched dosbarth

18.5%

Yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (5-15 oed)

17.0%

Yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (Pob disgybl)

2.2%

Saesneg fel iaith ychwanegol A-C (5-15 oed)

31.7%

Yn gallu siarad Cymraeg (5-15 oed)

8.6%

Disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (5-15 oed)


Arolygiadau craidd

Nifer yr arolygiadau: 5

Dwyieithog: 3

Cyfrwng Saesneg: 2

Ffydd: 1

Astudiaethau achos

Nifer yr astudiaethau achos: 1

Enwau’r ysgolion ag astudiaethau achos: Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr

Ymweliadau ymgysylltu


Crynodeb

Yn ystod 2023-2024, mae ysgolion pob oed wedi parhau i ganolbwyntio’n gryf ar les disgyblion a datblygu diwylliant o berthyn ac ethos o fod yn un ysgol. Roedd perthnasoedd gwaith cryf rhwng athrawon a disgyblion yn nodweddion nodedig yn yr ysgolion hyn. Roedd hyn yn sicrhau bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn cael eu cefnogi’n dda, yn teimlo’n ddiogel ac yn datblygu agweddau cadarnhaol at eu gwaith. Roedd ansawdd yr addysgu yn amrywio, yn bennaf oherwydd disgwyliadau gwahanol ac anghysondebau o ran lefel yr her a ddarparwyd. Mae ysgolion ar gamau datblygu gwahanol o ran cyflwyno Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig i ddisgyblion oed uwchradd. Ym mhob un o’r ysgolion a arolygwyd, nid oedd cynllunio i ddatblygu medrau disgyblion yn gynyddol ac yn systematig wedi’i gydlynu’n ddigon da. O ganlyniad, nid oedd disgyblion yn adeiladu’n ddigon da ar ddysgu blaenorol. Yn benodol, nid oedd ysgolion yn darparu digon o gyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu eu medrau ysgrifennu, eu huwch fedrau darllen na’u medrau digidol wrth iddynt symud i’r cyfnodau uwchradd. Yn gyffredinol, mae arweinwyr wedi rhoi cylch o weithgareddau priodol ar waith i werthuso gwaith yr ysgol ac wedi nodi blaenoriaethau addas ar gyfer gwella. Fodd bynnag, wrth werthuso addysgu, nid oedd arweinwyr yn canolbwyntio’n ddigon da ar yr effaith ar gynnydd disgyblion.


Dysgu, addysgu a phrofiadau dysgu

Ar draws yr ysgolion a arolygwyd yn 2023-2024, gwnaeth llawer o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, gynnydd addas o leiaf dros gyfnod. Gwnaeth ychydig ohonynt gynnydd cryf. Yn gyffredinol, gwnaeth disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol gynnydd priodol o’u mannau cychwyn. 

Roedd gan y rhan fwyaf o athrawon berthynas waith gadarnhaol â disgyblion a oedd yn helpu i greu amgylchedd dysgu dymunol. Yn yr ychydig o achosion gorau, roedd athrawon yn cynllunio ac yn addasu gwaith a oedd yn bodloni anghenion bron pob un o’r disgyblion. Roeddent yn ennyn diddordeb disgyblion yn eu dysgu trwy brofiadau gwerthfawr a oedd yn cysylltu â’u bywydau bob dydd ac yn caniatáu iddynt gymhwyso eu medrau. Roedd athrawon yn darparu gweithgareddau diddorol i ennyn chwilfrydedd disgyblion a’u helpu i ddatblygu’n ddysgwyr annibynnol. Roedd yr athrawon hyn yn sicrhau rhediad priodol i’r dysgu ac roedd ganddynt ddisgwyliadau uchel. 

Mewn lleiafrif o achosion, lle nad oedd yr addysgu’n ddigon effeithiol, nid oedd athrawon yn ystyried anghenion pob disgybl yn addas wrth gynllunio, gan gynnwys ar gyfer disgyblion ag ADY. Nid oedd ganddynt ddisgwyliadau digon uchel ac nid oeddent yn cynnig her addas, ychwaith. O ganlyniad, nid oedd disgyblion yn gwneud cymaint o gynnydd ag y gallent a gwnaethant ymddieithrio o’u dysgu. Gwnaeth y rhan fwyaf o ddisgyblion chweched dosbarth gynnydd cadarn ac roeddent yn dangos agweddau cadarnhaol dros ben tuag at eu dysgu.

Pan roddwyd cyfle iddynt, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn cymhwyso eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol yn briodol yn eu gwaith ar draws y cwricwlwm, yn enwedig yn y cyfnodau cynradd. Yn gyffredinol, roedd datblygiad medrau llafaredd a rhifedd disgyblion yn gryfach na datblygiad eu medrau darllen, ysgrifennu a digidol. Fodd bynnag, ym mron pob achos, nid oedd ysgolion yn cynllunio i ddatblygu medrau disgyblion yn gynyddol yn ddigon da. 

Creodd ychydig o ysgolion ethos Cymraeg yn llwyddiannus, a oedd yn galluogi disgyblion i wneud cynnydd cryf yn eu medrau Cymraeg. Fodd bynnag, yn gyffredinol, nid oedd ysgolion yn darparu digon o gyfleoedd dilys i ddisgyblion gymhwyso eu medrau siarad a gwrando Cymraeg. 

Roedd llawer o ysgolion yn cynnig cwricwlwm eang a chytbwys priodol i ddisgyblion ac yn bodloni anghenion unigol yn dda. Roeddent yn datblygu gweledigaeth briodol ar gyfer Cwricwlwm i Gymru a oedd yn cael ei deall yn dda gan y rhan fwyaf o staff. Cyflwynwyd hyn yn briodol ar draws y cyfnodau cynradd. Mewn lleiafrif o ysgolion, roedd cyflwyno Cwricwlwm i Gymru yn llai datblygedig yn y cyfnod uwchradd. O ganlyniad, nid yw disgyblion o Flwyddyn 7 i fyny, yn aml o ysgolion cynradd partner, yn elwa ar barhad digonol yn eu dysgu.  

Ym mwyafrif yr ysgolion, roedd y cwricwlwm yn cynnwys cyfleoedd gwerthfawr i hybu dealltwriaeth disgyblion o gydraddoldeb ac amrywiaeth. Roedd hyn yn cynnwys cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu am wahaniaethu a rhagfarn yn erbyn cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Fodd bynnag, nid oedd lleiafrif o ysgolion yn cynnig digon o gyfleoedd i ddisgyblion ystyried profiadau’r cymunedau hyn.


Gofal, cymorth, arweiniad a lles

Ym mhob un o’r ysgolion a arolygwyd, bu lles a gofal, cymorth ac arweiniad yn gryf.

Maent wedi datblygu ystod eang o ddarpariaeth i gefnogi disgyblion mewn amgylchedd cynhwysol a chefnogol. Mae hyn wedi cyfrannu at ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel a bod ganddynt agwedd gadarnhaol at eu dysgu. Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion ar draws yr ysgolion yn falch o berthyn i’w cymuned ac yn trin ei gilydd yn barchus ac yn gwrtais. Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn y chweched dosbarth, lle bo hynny’n berthnasol, yn dangos agweddau cadarnhaol ac aeddfed dros ben tuag at eu gwaith. At ei gilydd, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda iawn mewn gwersi ac o gwmpas yr ysgol.

Roedd pob un o’r ysgolion a arolygwyd yn hybu datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn addas trwy gyfuniad o weithgareddau. Roedd y rhain yn cynnwys gwasanaethau, amser myfyrio, digwyddiadau diwylliannol a gwersi iechyd a lles.

Datblygu disgyblion yn unigolion cwrtais a chydwybodol yn Ysgol Santes Ffraid

Nodwedd ragorol o Ysgol Santes Ffraid oedd yr ymdeimlad cryf o foesoldeb a charedigrwydd, a oedd yn treiddio trwy ei gwaith. Roedd yr ysgol yn annog disgyblion i ystyried eu cymuned trwy ei gwaith elusennol, fel rhoi yn ystod ‘Adfent am yn ôl’ a rhannu gwisg ysgol ail-law. Yn ogystal, cymerodd yr ysgol ran yn nigwyddiadau’r eglwys leol, er enghraifft trwy wneud 40 o weithredoedd caredig yn ystod y Grawys. Roedd gwerthoedd cryf yr ysgol yn ennyn ymdeimlad o berthyn ymhlith disgyblion.

Darparodd lleiafrif o ysgolion gyfleoedd niferus i ddisgyblion ymgymryd â rolau arweinyddiaeth. Roedd disgyblion yn yr ysgolion hyn yn elwa ar allu dylanwadu’n gadarnhaol ar waith yr ysgol. Yn gyffredinol, roedd ysgolion yn cynnig cyfleoedd addas i ddisgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys ymweliadau addysgol, clybiau a pherfformiadau.

Cyfleoedd arweinyddiaeth i ddisgyblion yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr

Mae cyfleoedd helaeth i ddisgyblion ddatblygu eu medrau arweinyddiaeth ar draws yr ysgol. Yn gyfan gwbl, mae gan ryw 400 o ddisgyblion rolau arweinyddiaeth neu lysgennad. Mae’r grwpiau’n gynhwysol ac yn amrywiol. Mae disgyblion yn ymfalchïo mewn bod yn llysgennad ac maent yn weladwy ac yn weithgar yn ystod amser egwyl ac amser cinio. Maent wedi datblygu medrau arweinyddiaeth gwerthfawr wrth gynrychioli a chynghori eu cymheiriaid. Er enghraifft, mae’r llysgenhadon hawliau plant a Ffordd Ebwy Fawr wedi cysylltu gwerthoedd craidd yr ysgol â hawliau disgyblion ac wedi sicrhau bod ystyriaeth yr wythnos yn canolbwyntio ar un o hawliau plentyn y Cenhedloedd Unedig.

Roedd pob un o’r ysgolion yn cydnabod pwysigrwydd hybu presenoldeb da ac yn cyfleu hyn yn dda i rieni a disgyblion. Fodd bynnag, er ei fod wedi gwella’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, mewn llawer o ysgolion, roedd presenoldeb adeg yr arolygiad yn is na chyn y pandemig o hyd. 

Mewn lleiafrif o ysgolion, roedd gofal a chymorth i bob disgybl, yn enwedig y rhai bregus a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, yn gryfder nodedig. Roedd staff yn deall anghenion lles disgyblion ac, o ganlyniad, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n dda a’u bod yn ddiogel. Mae ysgolion wedi datblygu diwylliant a threfniadau diogelu cadarnhaol. Roedd staff yn deall eu cyfrifoldebau o ran cadw disgyblion yn ddiogel. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, roedd angen mynd i’r afael ag ychydig o faterion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch.


Arwain a gwella

Mewn llawer o ysgolion, parhaodd arweinwyr i ddatblygu diwylliant o weithredu fel ysgolion pob oed. O ganlyniad, mae disgyblion wedi elwa ar fod yn rhan o un ysgol, er enghraifft wrth i ddisgyblion oed cynradd berfformio ochr yn ochr â’u cymheiriaid hŷn mewn cynyrchiadau ysgol. Mae’r arweinwyr hyn wedi sefydlu cymuned glòs yn llwyddiannus ac wedi meithrin perthynas gynhyrchiol â rhieni a theuluoedd. Mae penaethiaid yn yr ysgolion hyn wedi gosod gweledigaeth glir, sydd wedi’i chyfleu’n dda i staff, disgyblion a rhieni. Ym mwyafrif yr achosion, mae arweinwyr wedi dangos gwytnwch a phenderfyniad penodol wrth ddatblygu eu hysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a goresgyn rhwystrau wrth iddynt ddod yn fwy sefydledig. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o’r ysgolion a arolygwyd, ni fu arweinwyr yn ddigon strategol i sefydlu gweledigaeth glir nac ystyried anghenion yr ysgol yn y dyfodol.

Aeth llawer o arweinwyr i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol yn briodol. Er enghraifft, mae arweinwyr wedi creu diwylliant diogelu cryf yn llwyddiannus ar draws yr ysgol ac wedi sicrhau bod disgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi, at ei gilydd. Mewn ychydig o ysgolion, mae arweinwyr yn gweithio’n dda yn strategol i liniaru effaith tlodi ar les a chyrhaeddiad disgyblion. Darllenwch yr astudiaeth achos a ddarparwyd gan Gymuned Ddysgu Ebwy Fawr am effaith yr ymagwedd ysgol gyfan ar ddileu rhwystrau rhag dysgu.

Ym mwyafrif yr ysgolion, roedd cyfrifoldebau arweinwyr wedi’u dosbarthu’n deg ac roedd staff yn eu deall. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, nid oedd disgwyliadau a llinellau atebolrwydd yn ddigon clir.

Yn gyffredinol, mae arweinwyr wedi cyflwyno a sefydlu cylch addas o weithgareddau i werthuso gwaith yr ysgol ac wedi nodi blaenoriaethau priodol ar gyfer gwella. Er bod arweinwyr wedi nodi cryfderau a gwendidau yn y ddarpariaeth, ym mhob un o’r ysgolion, nid oedd prosesau hunanwerthuso yn canolbwyntio’n ddigon craff ar effaith addysgu ar ddysgu. Ar ben hynny, nid oedd prosesau cynllunio gwelliant yn ddigon clir na phenodol bob tro i sicrhau cynnydd amserol. 

Mae llawer o arweinwyr wedi sefydlu diwylliant o ddysgu proffesiynol sy’n cyfateb i anghenion yr ysgol ac yn canolbwyntio’n addas ar addysgu a dysgu. Elwodd staff ar gyfleoedd i ymgymryd ag ymchwil ar sail ymholi a chydweithio â chydweithwyr, ysgolion eraill a fforwm y sector pob oed. Yn yr achosion cryfaf, cafodd hyn effaith gadarnhaol ar ddysgu disgyblion, er enghraifft pan weithiodd athrawon ag ysgolion partner i roi gweledigaeth gytûn ar gyfer y cwricwlwm ar waith yn llwyddiannus. Roedd llywodraethwyr yn gefnogol iawn o’u hysgolion. At ei gilydd, roedd ganddynt ddealltwriaeth gadarn o gryfderau eu hysgolion a’u meysydd i’w gwella, roeddent yn gyfeillion beirniadol addas ac yn monitro cynnydd yn erbyn blaenoriaethau gwella’r ysgol yn briodol. At ei gilydd, roeddent yn rheoli cyllidebau’n ofalus ac yn deall eu rolau statudol o ran diogelu a hybu bwyta ac yfed yn iach. Mewn ychydig o achosion, nid oeddent yn ddigon gwybodus bob tro i wneud penderfyniadau strategol hirdymor er budd disgyblion. 


Gweithgarwch dilynol

Cafodd un ysgol a oedd yn y categori adolygu gan Estyn o’r flwyddyn academaidd ddiwethaf ei hadolygu mewn panel â’r awdurdod lleol ac roedd wedi gwneud digon o gynnydd i’w thynnu o’r categori gweithgarwch dilynol. Bu un ysgol pob oed yn y categori mesurau arbennig er mis Mai 2022. Mae wedi cael ei monitro bob tymor, lle canfuwyd bod cynnydd yn annigonol ac mae yn y categori mesurau arbennig o hyd.  

Arolygwyd pum ysgol pob oed eleni. Nid oedd angen gweithgarwch dilynol ar ddwy ysgol, ond roedd angen i dair ysgol a sefydlwyd yn ddiweddar gael eu hadolygu gan Estyn. Y prif resymau am y lefel hon o weithgarwch dilynol oedd nad oedd gan arweinwyr brosesau hunanwerthuso a gwella digon cadarn ac nad oedd cynllunio i ddatblygu medrau disgyblion yn gynyddol wedi’i gydlynu’n ddigon da. Roedd ffactorau ychwanegol, fel lefelau amrywiol o atebolrwydd ac anghysondebau o ran ansawdd yr addysgu, yn cyfrannu at y penderfyniadau ynghylch gweithgarwch dilynol, hefyd.


Trosolwg argymhellion

Yn y flwyddyn academaidd 2023 – 2024, arolygodd Estyn 5 ysgol pob oed.

Rhoddwyd argymhelliad i bedwar darparwr wella datblygiad sgiliau, ac un i ddarparu mwy o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau ysgrifennu.

Argymhellwyd pedwar darparwr i gryfhau neu fireinio eu safonau hunanarfarnu.

Roedd gan dri darparwr argymhellion yn ymwneud ag arweinyddiaeth.

Roedd gan un darparwr argymhelliad i gryfhau monitro a hybu lefelau presenoldeb.

Roedd gan un darparwr argymhelliad i staff weithredu strategaethau ymddygiad yn gyson.

Argymhellwyd bod un darparwr yn mynd i’r afael â diffygion mewn addysgu i wella dysgu a chynnydd disgyblion.

Rhoddwyd argymhelliad i un darparwr gryfhau effeithiolrwydd cynllunio ar gyfer gwelliant.

Argymhellwyd bod un darparwr yn mynd i’r afael â materion diogelu a godwyd yn yr arolygiad.