Presenoldeb – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Presenoldeb

Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024



Beth mae’r data yn ei ddweud wrthym

Mae’r gwerthusiad canlynol wedi’i seilio ar ddata o amrywiaeth o gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru, y ceir dolenni iddynt yn Atodiad A.

Yn adroddiad blynyddol Estyn 2022-2023, amlygom y gostyngiad nodedig mewn presenoldeb ysgol ar ôl y pandemig. Roedd y gostyngiad yn arbennig o fawr ar gyfer disgyblion oed uwchradd, gyda’r gyfradd presenoldeb wedi gostwng 6.3 pwynt canran rhwng 2018-2019 a 2022-2023. Mae hyn yn cyfateb i bob disgybl, ar gyfartaledd, yn mynychu’r ysgol am 12 diwrnod yn llai yn 2022-2023 nag y gwnaethant yn ystod 2018-2019. Ar gyfer disgyblion oed cynradd, gostyngodd presenoldeb 3.1 pwynt canran dros yr un cyfnod. Mae Ffigur 1 yn dangos y duedd yn y gyfradd presenoldeb dros gyfnod, o 2013-2014 i 2023-2024. Nid oes data ar gael ar gyfer blynyddoedd academaidd 2019-2020, 2020-2021 a 2021-2022.

Ffigur 1: Ystadegau Presenoldeb Ysgolion (2013-2024)

Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiweddaraf, sef 2023-2024, mae cyfradd presenoldeb disgyblion oed cynradd wedi cynyddu 0.6 pwynt canran i 92.1% er bod y gyfradd 2.5 pwynt canran yn is na’r lefel cyn y pandemig o hyd. Ar gyfer disgyblion oed uwchradd, mae’r gyfradd presenoldeb wedi aros yn ystyfnig o isel. Dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, mae’r gyfradd presenoldeb uwchradd wedi cynyddu 0.5 pwynt canran yn unig, ac mae 5.7 pwynt canran yn is na’r hyn a welwyd yn 2018-2019 o hyd. Ar y gyfradd wella bresennol, byddai’n cymryd dros 10 mlynedd i bresenoldeb uwchradd wella i’r lefelau cyn y pandemig.

Mae dadansoddiad o gyfraddau presenoldeb ar ôl y pandemig hefyd yn dangos amrywiad llawer ehangach mewn presenoldeb na chyfraddau cyn y pandemig. Er enghraifft, mewn un ysgol uwchradd, roedd presenoldeb yn 2022-2023 1.3 pwynt canran yn unig islaw 2018-2019, tra disgynnodd presenoldeb 10 ysgol uwchradd arall 10 pwynt canran dros yr un cyfnod. Mae amrywiad hefyd yn y cyfraddau presenoldeb rhwng awdurdodau lleol ac ansawdd y cymorth a roddir gan awdurdodau lleol i gefnogi ysgolion i wella presenoldeb. Yn yr achosion mwyaf difrifol o bresenoldeb gwael, nid yw awdurdodau lleol wedi ymateb yn ddigon cyflym i ddatblygu trefniadau teilwredig i gefnogi ysgolion unigol.

Pan gaiff y data ei ystyried fesul Blwyddyn ysgol, mae Ffigur 2 yn dangos bod y gyfradd presenoldeb yn weddol debyg ar gyfer disgyblion o bob oed yn y sector cynradd. Fodd bynnag, ar gyfer disgyblion oed uwchradd, mae’r gyfradd presenoldeb yn disgyn yn sylweddol wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn. Mae’r data hefyd yn dangos, er bod presenoldeb disgyblion Blwyddyn 11 wedi cynyddu 0.9 pwynt canran rhwng 2022-2023 a 2023-2024, roedd y cynnydd yng nghyfraddau presenoldeb disgyblion ym Mlynyddoedd 8 a 9 yn fach iawn. Mae hwn yn bryder penodol.

Ffigur 2: Cyfraddau Presenoldeb yn ôl Blwyddyn (2022-23 a 2023-24)

Yn hanesyddol, bu’r gwahaniaethau rhwng presenoldeb gwrywod a benywod yn fach. Mae hyn wedi parhau i fod yn wir ers y pandemig.

Un o’r grwpiau o ddisgyblion yr effeithiodd y pandemig arno fwyaf oedd disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Yn 2018-2019, y bwlch rhwng presenoldeb disgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion oedd 3.1 pwynt canran yn y sector cynradd a 5.2 pwynt canran yn y sector uwchradd. Gostyngodd presenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gan swm sylweddol uwch na’u cyfoedion yn ystod y pandemig. O ganlyniad, cynyddodd y gwahaniaethau hyn yn sylweddol ac, yn 2022-2023, y bylchau oedd 5.8 pwynt canran ar gyfer disgyblion oed cynradd a 10.4 pwynt canran ar gyfer disgyblion oed uwchradd. Rhwng 2022-2023 a 2023-2024, roedd y gwahaniaeth rhwng presenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion yn llai, ond dim ond o ychydig bach iawn. Fodd bynnag, mae’r gwahaniaeth hwn yn sylweddol fwy na’r lefelau cyn y pandemig o hyd. Yn y sector uwchradd, mae disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn colli un diwrnod o ysgol yr wythnos o hyd, ar gyfartaledd.

Pryder arall yw’r cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion y mae eu rhieni’n dewis eu haddysgu gartref. Cyfradd y disgyblion sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref yn 2023-2024 yw 13.0 fesul 1,000 o ddisgyblion. Mae’r gyfradd hon wedi cynyddu bob blwyddyn er 2009-2010, pan roedd yn 1.6 fesul 1,000 o ddisgyblion.

Ffigur 3: Presenoldeb yn ôl Cymhwysedd Prydau Ysgol Am Ddim

Yn ystod arolygiadau ac ymgysylltiadau eraill ag arweinwyr ysgolion, nodwyd fod dau brif reswm pam y mae cyfraddau presenoldeb yn isel o hyd, sef:

  • Cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy’n absennol yn gyson neu’n gwrthod mynychu’r ysgol. Mae hyn yn cynnwys cynnydd yn nifer y disgyblion sydd â phroblemau iechyd meddwl ac felly sydd naill ai ddim yn mynychu neu sy’n absennol yn rheolaidd.  
  • Newid diwylliant ymhlith rhieni, sydd bellach yn rhoi llai o bwys ar eu plant yn mynychu ysgolion yn rheolaidd.  

Erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data ar absenoldebau cyson ar ddau drothwy gwahanol, sef y disgyblion hynny sy’n absennol am fwy na 10% o sesiynau, a’r rhai sy’n absennol am fwy nag 20% o sesiynau. Mae’r data hwn yn amlygu difrifoldeb yr heriau y mae’r system addysg yng Nghymru yn eu hwynebu o ran presenoldeb disgyblion. Rhwng 2018-2019 a 2022-2023, bu i ganran y disgyblion oed uwchradd a oedd yn absennol am fwy nag 20% o sesiynau fwy na threblu o 4.6% i 16.3%. Ar gyfer disgyblion oed cynradd, cododd y gyfradd o 1.8% i 4.5%. Mae Ffigur 4 yn dangos, yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, mai dim ond gwelliannau bach a fu yn y cyfraddau hyn, a bod cyflymder y gwelliant yn rhy araf. Mae gormod o ddisgyblion yn absennol o ysgolion yn gyson. Yn ystod ein gweithgarwch arolygu a rhyngweithiadau eraill ag arweinwyr ysgolion, dywedasant nad oes gan ysgolion ac awdurdodau lleol y gallu i ymdopi â’r cynnydd sylweddol mewn absenoldebau cyson. Mae hyn yn arbennig o wir yn y sector uwchradd. Un o’r ystadegau sy’n peri’r pryder mwyaf yw, yn 2022-2023, roedd 32.5% o ddisgyblion oed uwchradd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn absennol am o leiaf 20% o’u sesiynau. Roedd mân welliant yn 2023-2024, ond mae ychydig yn llai na thraean o’r grŵp hwn o ddisgyblion (31.5%) yn parhau i golli un diwrnod ysgol yr wythnos, ar gyfartaledd.

Ffigur 4: Cyfraddau Absenoldeb Parhaus


Tystiolaeth o arolygu ysgolion a gwaith thematig

Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, roedd gan y rhan fwyaf o ysgolion cynradd drefniadau cadarn ar gyfer monitro presenoldeb ac ymyrryd pan nad oedd disgyblion yn mynychu’n ddigon rheolaidd. Cryfderau penodol oedd y cyfathrebu rhwng yr ysgol gynradd a’i rhieni a’r ymdeimlad cryf o gymuned roedd yr ysgolion hyn wedi’i greu. Cyfrannodd y ffactorau hyn at y cynnydd 1 pwynt canran a welwyd ym mhresenoldeb disgyblion oed cynradd. Mewn ychydig o ysgolion cynradd, roedd cyfradd adfer presenoldeb yn rhy araf.

Yn y sectorau uwchradd a phob oed, cafodd tua hanner yr ysgolion argymhelliad i wella eu presenoldeb. Roedd diffygion yng ngwaith ysgolion yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Arweinwyr heb drosolwg digon manwl o’r gwaith yn y maes hwn.
  • Arweinwyr yn peidio â defnyddio data i fonitro presenoldeb disgyblion yn ddigon trylwyr neu dargedu eu hymyriadau’n ddigonol.
  • Diffyg cyfathrebu effeithiol â rhieni a gofalwyr.
  • Diffyg cydlyniad o ran ymagweddau ysgolion. Er enghraifft, nid yw arweinwyr yn ystyried y cysylltiadau rhwng strategaethau i wella presenoldeb a’r rhai sy’n cefnogi agweddau eraill ar waith yr ysgol bob tro. Mae’r agweddau hyn yn cynnwys lles disgyblion, strategaethau i ddatblygu gweithio cymunedol, a’r effaith y gall gwella addysgu a’r cwricwlwm, yn ogystal â gweithgareddau allgyrsiol, ei chael ar ymgysylltiad disgyblion yn yr ysgol.
  • Diffyg ymagwedd ysgol gyfan, gyda phresenoldeb yn cael ei ystyried yn gyfrifoldeb un unigolyn neu dîm bugeiliol bach, yn hytrach na chreu cysylltiadau rhwng agweddau ar waith yr ysgol.
  • Arweinwyr yn peidio â gosod targedau digon uchelgeisiol ar gyfer presenoldeb.
  • Arweinwyr yn rhy araf i ymyrryd pan fydd presenoldeb disgyblion yn gostwng. Er enghraifft, nid oedd rhai ysgolion yn ymyrryd nes i bresenoldeb disgybl ddisgyn o dan 80%.
  • Ysgolion ddim yn gweithio’n ddigon da mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol.

Diffyg cyffredin yn yr ysgolion hyn oedd nad oedd arweinwyr yn gwerthuso eu gwaith yn y maes hwn yn ddigon da. O ganlyniad, nid oedd ganddynt ddealltwriaeth ddigon clir o ba agweddau ar eu gwaith oedd yn cael yr effaith fwyaf a lleiaf.


Arfer effeithiol

Adroddodd arolygwyr fod gan y rhan fwyaf o ysgolion brosesau cadarn ar gyfer ymateb diwrnod cyntaf i absenoldeb disgyblion, ac roedd llawer o arweinwyr y cyfarfuom â nhw o’r farn bod hybu presenoldeb da yn flaenoriaeth. Lle’r oedd ysgolion yn effeithiol o ran sicrhau bod cyfraddau presenoldeb yn gwella, roedd nodweddion cyffredin darpariaeth yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Arweinwyr yn rhannu disgwyliadau uchel ar yr agwedd hon â chymuned yr ysgol gyfan.
  • Arweinwyr yn dadansoddi data’n drylwyr i chwilio am batrymau a thueddiadau presenoldeb. Roedd hyn yn cynnwys edrych ar y data yn ôl diwrnod ac amseroedd, yn ôl grŵp blwyddyn, yn ôl grwpiau o ddisgyblion ac yn ôl grwpiau cyfoedion.
  • Arweinwyr yn nodi’n gynnar unrhyw ddisgyblion sydd mewn perygl o beidio â mynychu ac yn rhoi camau ar waith i gefnogi’r disgyblion hyn.
  • Ysgolion yn defnyddio ymateb graddedig gan gynnwys yr holl athrawon dosbarth yn y lle cyntaf, gydag arweinwyr, uwch arweinwyr ac yna asiantaethau allanol yn delio ag achosion mwy difrifol.
  • Gwaith cryf â theuluoedd i gefnogi teuluoedd i wella eu presenoldeb.
  • Cyswllt rheolaidd â rhieni a gofalwyr, yn aml trwy ddefnyddio technoleg a chyfryngau cymdeithasol yn effeithiol.
  • Darparu mannau diogel pan fydd disgyblion yn dechrau mynychu, fel clybiau brecwast, clybiau amser cinio ac ardaloedd lle gellir cynnig cymorth ychwanegol i ddisgyblion, yn ôl yr angen.
  • Ysgolion uwchradd yn gweithio’n dda â’u hysgolion cynradd partner i sicrhau bod disgyblion yn ymgartrefu’n gyflym ar ddechrau Blwyddyn 7.
  • Ysgolion yn addasu’r cwricwlwm i fodloni anghenion disgyblion a sicrhau bod disgyblion yn cael profiadau dysgu o ansawdd uchel.
  • Arweinwyr yn ceisio barn disgyblion yn rheolaidd ar sut i sicrhau eu bod yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd.
  • Arweinwyr yn pwysleisio’r cysylltiad rhwng presenoldeb rheolaidd a chyflawniad addysgol i ddisgyblion a rhieni.
  • Ysgolion yn hybu presenoldeb da trwy wobrwyo presenoldeb rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio cynghreiriau presenoldeb dosbarth a chystadlaethau.
  • Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cyhoeddodd Estyn nifer o astudiaethau achos a cameos arfer effeithiol yn ymwneud â gwella presenoldeb, sy’n cynnwys gwaith yr ysgolion canlynol: 

Cwestiynau i’w hystyried wrth ddadansoddi data yn ymwneud â phresenoldeb

Gellid defnyddio’r cwestiynau canlynol wrth werthuso ymagweddau’r ysgol at bresenoldeb. Wrth ddadansoddi data presenoldeb, mae’n bwysig bod arweinwyr yn eu defnyddio i ddarparu trywyddau ymholi y gellir ymchwilio iddynt ymhellach.

  • Sut mae’r gyfradd presenoldeb gyffredinol wedi newid dros gyfnod? Pa mor dda y mae’r gyfradd presenoldeb gyffredinol yn cymharu ag ysgolion tebyg?
  • A yw’r duedd o ran presenoldeb yn cyd-fynd ag ysgolion eraill yn genedlaethol / ysgolion eraill yn yr ardal leol / ysgolion eraill sydd â chyd-destun tebyg, neu’n wahanol iddynt?
  • Pa mor aml ydym yn dadansoddi data mewnol ar bresenoldeb? A ydym yn dadansoddi data ar gyfer grwpiau gwahanol o ddisgyblion, er enghraifft yn ôl grŵp Blwyddyn, grŵp cyfoedion, rhywedd, cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim, diwrnod ysgol, agosrwydd eu cartref i’r ysgol ac ati? Sut ydym yn defnyddio’r canfyddiadau hyn i gynllunio ar gyfer gwella?
  • Pa dueddiadau allwn ni eu gweld ym mhresenoldeb ein disgyblion? Er enghraifft, a oes tueddiadau yn gysylltiedig ag amser o’r dydd, diwrnod o’r wythnos, adeg o’r flwyddyn?
  • A ydym yn dadansoddi data yn ôl y rhesymau dros yr absenoldeb? A ydym yn defnyddio data cymharol ar gyfer ysgolion tebyg wrth edrych ar gyfraddau absenoldebau cyson?
  • Sut mae presenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cymharu â phresenoldeb disgyblion eraill yn yr ysgol a’u cyfoedion yn genedlaethol? 
  • Sut mae presenoldeb disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cymharu â phresenoldeb disgyblion eraill yn yr ysgol? 
  • A oes unrhyw grwpiau Blwyddyn lle mae presenoldeb yn arbennig o gryf neu’n wan?
  • A oes unrhyw grwpiau eraill o ddisgyblion y mae eu presenoldeb yn peri pryder?

Cwestiynau ar gyfer ystyried y cymorth i wella presenoldeb disgyblion

  • Pa mor dda ydym yn cofnodi ac yn dadansoddi data presenoldeb ac yn nodi meysydd i’w gwella?
  • Pa mor dda ydym yn hybu presenoldeb da?
  • Pa mor dda ydym yn cydweithio â theuluoedd a’r gymuned i gefnogi disgyblion â phresenoldeb isel?
  • Pa mor dda ydym yn ymateb pan fydd disgyblion yn absennol oherwydd bod eu lles yn cael ei effeithio’n andwyol pan fyddant yn mynychu’r ysgol?
  • Pa mor effeithiol yw ein gwaith ag asiantaethau eraill i gefnogi disgyblion â phresenoldeb isel?
  • Os oes unrhyw ddisgyblion ar amserlen lai ar gyfer presenoldeb ysgol, a yw’r trefniadau ar gyfer eu haddysgu yn briodol ac yn cael eu monitro’n ofalus?

Cwestiynau i arweinwyr eu defnyddio wrth werthuso gwaith yr ysgol i wella presenoldeb

  • A oes gan arweinwyr ac athrawon drosolwg da o bresenoldeb yn eu meysydd cyfrifoldeb?
  • A oes gan arweinwyr ac athrawon drosolwg o’r meysydd i’w gwella yn ymwneud â phresenoldeb?
  • Pa mor dda ydym ni fel arweinwyr yn cynllunio ar gyfer gwella presenoldeb?
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn defnyddio ei hadnoddau i gefnogi presenoldeb da?
  • Pa effaith y mae ein gwaith wedi’i gael ar wella presenoldeb disgyblion?
  • Pa mor gywir a chadarn yw ein dadansoddiad o ddata presenoldeb?
  • Pa mor dda ydym yn defnyddio data presenoldeb i nodi meysydd i’w gwella ac i werthuso unrhyw strategaethau rydym wedi’u rhoi ar waith? A oes gennym ddealltwriaeth dda o ba strategaethau sy’n cael yr effaith fwyaf?

Atodiad A

Ffynonellau data:
Mae’r sylwebaeth ar bresenoldeb wedi’i seilio ar ddwy set ddata wahanol. Ar gyfer disgyblion oed uwchradd, rydym wedi defnyddio’r data blynyddol wedi’i ddilysu ar absenoldebau o ysgolion uwchradd (Llywodraeth Cymru, 2023d and Llywodraeth Cymru, 2024d). Ar gyfer disgyblion oed cynradd, rydym wedi defnyddio’r data blynyddol wedi’i ddilysu ar absenoldebau o ysgolion cynradd (Llywodraeth Cymru, 2023e and  Llywodraeth Cymru, 2024e). Dyma’r diweddaraf yn y gyfres o ddata blynyddol a gafodd ei hadfer yn dilyn saib o dair blynedd rhwng 2019-2020 a 2021-2022 oherwydd y tarfu a achoswyd gan y pandemig.