Prif ffrwd annibynnol – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Prif ffrwd annibynnol

Adroddiad sector 2023 - 2024



Ysgolion

38

Ionawr 2024, gan gynnwys 10 ysgol breswyl

Cofrestriadau newydd yn 2023-2024: Ysgol Uwchradd Fwslimaidd Caerdydd (Chwefror 2024)

Ysgol a gaewyd yn 2023-2024: Castle School (Awst 2024)

Ysgolion a datgofrestrwyd gan Lywodraeth Cymru 2023-2024: Dim


Safonau ysgolion annibynnol

Mewn ysgolion annibynnol, rydym yn arolygu i ba raddau y mae’r ysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024.

Roedd pob un o’r ysgolion a arolygwyd eleni yn cydymffurfio â’r safonau hyn.


Ymweliadau ag ysgolion annibynnol

Yn ogystal â’n harolygiadau craidd, rydym hefyd yn cynnal ystod o ymweliadau eraill ag ysgolion annibynnol, sef:

Un ymweliad cofrestru cychwynnol i gofrestru ysgol annibynnol newydd

Dau ymweliad dilynol ar ôl ymweliadau cofrestru, i sicrhau bod ysgol annibynnol sydd newydd agor yn parhau i gydymffurfio â’r Safonau Ysgolion Annibynnol

Wyth o ymweliadau newid sylweddol, i roi cyngor i Lywodraeth Cymru ynghylch newid mewn amgylchiadau ysgol annibynnol


Arolygiadau craidd

Eleni, arolygom pum ysgol prif ffrwd annibynnol. Roedd tair ysgol yn ysgolion pob oed, roedd un ohonynt yn ysgol uwchradd ac roedd gan un ohonynt ddisgyblion yng nghyfnodau allweddol 4 a 5 yn unig.


Crynodeb

Cyflawnodd disgyblion yn yr ysgolion prif ffrwd annibynnol a arolygwyd eleni ganlyniadau arholiadau rhagorol, gan ragori’n gyson ar gyfartaleddau cenedlaethol. Roedd yr ysgolion hyn yn pwysleisio lles disgyblion ac yn cynnig cwricwlwm eang a chyfoethog, wedi’i unigoli’n benodol ar gyfer myfyrwyr hŷn. Roedd cymorth i gyrraedd cyrchfannau yn y dyfodol, fel prifysgolion yn y DU neu’n rhyngwladol, yn gryfder sylweddol. Fodd bynnag, ym mhob un o’r ysgolion, nid oedd gweithgareddau sicrhau ansawdd ychydig o arweinwyr yn cynnwys digon o ffocws ar effaith addysgu ar ddysgu, gan arwain at golli cyfleoedd i wella darpariaeth yr ysgol.


Addysgu a dysgu

Ar draws yr ysgolion a arolygwyd, roedd cyrhaeddiad disgyblion yn nodedig o gryf, gyda chanlyniadau arholiadau cyhoeddus yn sylweddol uwch na’r cyfartaleddau cenedlaethol. Roedd bron pob un o’r disgyblion yn dangos medrau llafaredd a chyfathrebu uchel, gan gyflwyno a dadlau’n hyderus â geirfa eang wedi’i theilwra ar gyfer cyd-destunau gwahanol. Datblygodd y rhan fwyaf o ddisgyblion fedrau darllen effeithiol, gan gymhwyso ffoneg i ddatgodio geiriau anghyfarwydd a symud ymlaen i grynhoi, dilyniannu a dod i gasgliadau o destunau. Mae llawer o ddisgyblion hefyd yn darllen er pleser ac yn gwerthfawrogi darllen er mwyn dysgu. Roedd medrau ysgrifennu yr un mor ddatblygedig, gyda disgyblion iau yn symud ymlaen yn gyflym a disgyblion hŷn yn llunio dadleuon ysgrifenedig soffistigedig at ddibenion gwahanol. Fodd bynnag, mewn dwy ysgol, roedd diffyg taclusrwydd yng nghyflwyniad gwaith lleiafrif o ddisgyblion.

Roedd medrau mathemategol yn gryf, ar y cyfan, gyda’r rhan fwyaf o ddisgyblion iau yn amgyffred cysyniadau’n dda a’r rhan fwyaf o ddisgyblion hŷn yn cymhwyso medrau uwch ar draws y cwricwlwm. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion, nid oedd disgyblion naill ai’n cymhwyso’r medrau hyn ar y lefel ddisgwyliedig y tu allan i wersi mathemateg neu nid oedd disgwyl iddynt wneud hynny. Mewn un ysgol, nid oedd medrau mathemategol llawer o ddisgyblion wedi’u datblygu’n ddigonol.

Roedd medrau digidol yn amrywio ar draws yr ysgolion, er bod disgyblion yn defnyddio technoleg yn hyderus, yn gyffredinol, i gefnogi dysgu. Mewn un ysgol, roedd datblygu medrau digidol yn arbennig o gryf oherwydd yr ystod o gyfleoedd dysgu integredig.

Roedd staff ar draws yr ysgolion yn ymroddedig, gan feithrin diwylliant o uchelgais a disgwyliadau uchel. Roedd athrawon yn meithrin perthnasoedd cryf â disgyblion, yn darparu gwersi ac adnoddau a oedd yn cyfateb yn dda ac yn cynnig cymorth ychwanegol gwerthfawr. Roedd y rhan fwyaf o athrawon yn wych am baratoi disgyblion ar gyfer arholiadau cyhoeddus er, mewn rhai achosion, roedd yr addysgu wedi’i orgyfarwyddo, gan gyfyngu ar ddysgu’n annibynnol.

Ym mhob un o’r ysgolion, roedd y cwricwlwm yn eang ac yn cefnogi caffael gwybodaeth a datblygiad personol. Roedd pedair ysgol yn cynnig cwricwlwm helaeth wedi’i unigoli ar gyfer disgyblion hŷn, a oedd yn cyd-fynd yn dda â’u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Roedd tair ysgol yn cynnig ystod arbennig o weithgareddau cydgwricwlaidd, a oedd yn cyfoethogi profiad addysgol disgyblion.


Gofal, cymorth ac arweiniad a’u heffaith ar les disgyblion

Roedd yr ysgolion a arolygwyd eleni yn dangos ymrwymiad cryf i les disgyblion, gan feithrin perthynas gadarnhaol rhwng staff a myfyrwyr. Creodd yr amgylchedd cefnogol hwn ymdeimlad cryf o berthyn ymhlith disgyblion, a oedd yn dangos balchder yn eu hysgol a pharch tuag at bawb a oedd yn gysylltiedig â hi. Roedd ymddygiad ac agweddau bron pob un o’r disgyblion yn ganmoladwy ac roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos lefelau uchel o ganolbwyntio a brwdfrydedd yn eu gwersi. Roedd cyfleoedd arweinyddiaeth yn helaeth, gan gyfrannu at gyfrifoldeb a hunanhyder disgyblion. 

Cryfder penodol ar draws yr ysgolion a arolygwyd oedd y cyngor a’r cymorth roedd disgyblion yn eu cael wrth ystyried eu cyrchfannau a’u gyrfaoedd yn y dyfodol. Rhoddodd Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd gymorth hynod effeithiol ar gyfer mynediad i’r brifysgol a chynllunio gyrfa yn y dyfodol trwy raglen gydgwricwlaidd helaeth a datblygedig.

Roedd pob un o’r ysgolion yn rhagorol o ran hybu datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion, gan gynnig cyfleoedd amrywiol ar gyfer ymglymiad cymunedol trwy weithgareddau gwirfoddol ac elusennol. Yn Monmouth School for Boys, crybwyllom fod y llyfrgell yn lle mawr, cyfeillgar a chynhwysol sy’n cyfuno adnoddau cyfoes â gwerthoedd hanesyddol, a oedd yn cefnogi darllen, llythrennedd a lles ar gyfer cymuned gyfan yr ysgol.

Roedd cymorth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn gadarn, gan nodi disgyblion yn gynnar a chynnwys strategaethau effeithiol i helpu disgyblion i lwyddo’n academaidd. Roedd arferion diogelu wedi’u sefydlu’n dda. Roedd prosesau recriwtio trylwyr a hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer staff a llywodraethwyr, a oedd yn aml yn rhagori ar y gofynion statudol.

Roedd angen mân addasiadau polisi ar ddwy o’r pum ysgol er mwyn cydymffurfio’n llawn â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, yr aethpwyd i’r afael â nhw yn ystod yr arolygiadau. At ei gilydd, roedd yr ysgolion yn cynnig amgylcheddau addysgol anogol a pharchus, wedi’u cefnogi’n dda, gan sicrhau lles a datblygiad pob disgybl.


Arwain a gwella

Ar gyfer un o’r ysgolion a arolygwyd, hwn oedd ei harolygiad craidd cyntaf ers cofrestru’n ysgol annibynnol. Ar draws pob un o’r ysgolion a arolygwyd, roedd arweinwyr wedi’u hen sefydlu, er bod un pennaeth hirsefydlog yn absennol oherwydd salwch ac roedd un arall wedi cael dyrchafiad yn ddiweddar o brifathro i bennaeth. Roedd un ysgol a arolygwyd yn mynd trwy ad-drefnu strategol sylweddol trwy uno â dwy ysgol arall yn ei ‘theulu’. Roedd pob un o’r ysgolion yn cydymffurfio’n llawn â’r Safonau Ysgolion Annibynnol.

Roedd gan arweinwyr ym mhob un o’r ysgolion a arolygwyd eleni weledigaeth glir ac uchelgeisiol ar gyfer eu hysgol ac ar gyfer datblygu gwybodaeth, medrau a chymeriad disgyblion. Roeddent yn uchel eu parch ac yn arwain trwy esiampl i adeiladu cymunedau ysgol cryf a chydlynol. O ganlyniad, roedd y rhan fwyaf o’r staff yn yr ysgolion hyn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn hynod deyrngar, gan gydweithio er lles pennaf disgyblion. 

Roedd trefniadau llywodraethu mewn pedair o’r pum ysgol a arolygwyd yn gadarn ac yn effeithiol. Yn yr ysgolion hyn, roedd llywodraethwyr yn cynnig cydbwysedd priodol o her a chefnogaeth i arweinwyr. Roeddent yn adolygu polisïau a gweithdrefnau yn gadarn ac yn rheoli cyllid yr ysgol ar lefel strategol yn briodol. 

Roedd arweinwyr ym mhob un o’r ysgolion a arolygwyd yn hybu diogelu yn weithredol ac yn rhoi ystyriaeth fawr i les pob aelod o gymuned yr ysgol, yn enwedig disgyblion a staff. Mewn pedair o’r pum ysgol a arolygwyd, roedd presenoldeb disgyblion dros gyfnod yn uchel dros ben. 

Roedd arweinwyr mewn pedair o’r pum ysgol a arolygwyd yn dadansoddi ystod o ddata, yn enwedig canlyniadau arholiadau cyhoeddus, i ddeall cyrhaeddiad disgyblion. Mewn tair o’r ysgolion a arolygwyd, nid oedd systemau a dulliau ar gyfer olrhain cynnydd disgyblion unigol dros gyfnod wedi’u datblygu’n ddigonol neu roeddent yn y camau cynnar iawn o’u rhoi ar waith. Mewn pedair o’r pum ysgol a arolygwyd, roedd arweinwyr yn cynnal ystod addas o weithgareddau sicrhau ansawdd ac wedi defnyddio’r wybodaeth hon i lywio eu cynlluniau gwella ysgol. Fodd bynnag, nid oedd arsylwadau gwersi yn canolbwyntio ar effaith addysgu ar ddysgu yn ddigon craff nac yn nodi agweddau cynnil ar arfer addysgu a allai elwa ar gael eu gwella. Mewn un ysgol, roedd arweinwyr wedi atal y trefniadau arferol ar gyfer sicrhau ansawdd, yn rhannol ac, o ganlyniad, roedd ganddynt drosolwg anghyflawn o ansawdd yr addysgu a’r dysgu ar draws yr ysgol.


Trosolwg argymhellion

Yn y flwyddyn academaidd 2023 – 2024, arolygodd Estyn bum ysgol brif ffrwd annibynnol.

Cafodd 4 darparwr argymhelliad i fireinio prosesau sicrhau ansawdd neu hunanarfarnu, yn enwedig o ran ansawdd yr addysgu.

Rhoddwyd argymhelliad i 2 ddarparwr adeiladu ar arfer bresennol i wella cysondeb ar draws yr ysgol.

Rhoddwyd argymhelliad i 2 ddarparwr am arweinyddiaeth:

– Cryfhau arferion presennol yr ysgol i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau ar lefel cyfarwyddiaeth a chorff llywodraethu wedi’u diffinio’n glir

– Sicrhau bod y tîm arwain yn casglu’r wybodaeth sydd ar gael yn effeithiol i ddatblygu trosolwg cydlynol o addysgu, dysgu, presenoldeb a’r cwricwlwm ar draws yr ysgol gyfan

Roedd argymhellion eraill a ddarparwyd i leoliadau prif ffrwd annibynnol yn cynnwys gwella presenoldeb, sicrhau bod disgwyliadau athrawon yn briodol uchel, gwneud y defnydd gorau o ddata asesu i lywio/gwella cynnydd disgyblion, a miniogi gwaith monitro a gwella i ganolbwyntio ar ddeilliannau disgyblion.