Symud tuag at Gymru wrth-hiliol
Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024
Symud tuag at Gymru wrth-hiliol
Ym mis Mawrth 2021, amlygodd yr Athro Charlotte Williams yr angen i bob athro ac ysgol yng Nghymru fod â’r wybodaeth a’r adnoddau i ddatblygu cwricwlwm gwrth-hiliol yn hyderus yn ei hadroddiad i Lywodraeth Cymru (Williams, 2021). Mae ei gwaith wedi ffurfio rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut roedd darparwyr addysg yn datblygu darpariaeth i gefnogi nod Llywodraeth Cymru i gyflawni Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Mae’n defnyddio tystiolaeth o sampl o adroddiadau arolygu a gyhoeddwyd yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, data Llywodraeth Cymru ac Estyn ac ymweliadau ag ychydig o ysgolion dethol. Mae y sampl o adroddiadau arolygu yn cynnwys pob sector a arolygwyd yn ystod 2023-2024.
Podlediad Sgwrs: Tuag at Gymru Gwrth-hiliol
Gwrandewch ar ein podlediad, Sgwrs, ble rydym yn archwilio sut mae darparwyr addysg ledled Cymru yn gweithio tuag at ddyfodol gwrth-hiliol. Mae’r bennod yn cynnwys cipolwg ymarferol gan arbenigwyr ar sut mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn meithrin diwylliant gwrth-hiliol a chyngor i addysgwyr ac arweinwyr ysgolion ar weithredu’n ystyrlon.
Mae’r panel yn cynnwys Jassa Scott (Cyfarwyddwr Strategol, Estyn), Tony Bate (AEF, Estyn) Emyr George (Prif Weithredwr, Adnodd), Rhodri Evans (Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Gyfun Gwyr), Steffan Elis, (Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Gynradd Sant Baruc, Y Barri).
Profiad dysgwyr o hiliaeth
Yn y rhan fwyaf o sectorau, mae arolygu’n rhoi cyfle i ddysgwyr roi adborth ar draws ystod o bynciau trwy holiadur i ddysgwyr. Mewn ysgolion cynradd, mae hyn yn cynnwys holi disgyblion hŷn ynghylch pa mor ddiogel y maent yn teimlo ac a yw eu hysgol yn eu hannog i drin pobl eraill yn deg. Mewn ysgolion uwchradd, mae cwestiynau’n fwy penodol ac yn holi disgyblion yn uniongyrchol am wahaniaethu a hiliaeth. Mae’r data diweddaraf sydd ar gael o ddeilliannau holiaduron ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-2024. Yn ystod y cyfnod hwn, mae holiaduron ysgolion cynradd yn dangos bod llawer o ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel drwy’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser. Roeddent yn crybwyll bod eu hysgol yn eu helpu i drin pawb yn deg. Yn ystod arolygiadau ysgolion uwchradd, mae holiaduron yn gofyn yn uniongyrchol i ddisgyblion a ydynt yn teimlo eu bod wedi cael eu trin yn annheg oherwydd eu cefndir ethnig. Ym mhob ysgol uwchradd sydd â disgyblion o leiafrifoedd ethnig ar y gofrestr, roedd enghreifftiau o ddisgyblion yn rhoi gwybod am driniaeth annheg. At ei gilydd, roedd gan ysgolion â chanran uwch o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol ganran uwch o ddisgyblion yn rhoi gwybod am driniaeth annheg.
Er nad ydym yn adrodd ar gyffredinrwydd digwyddiadau hiliol yn uniongyrchol, mae tystiolaeth arolygu yn cynnwys cyfeiriadau rheolaidd at achosion o hiliaeth amlwg. Mewn lleiafrif o ddarparwyr, crybwyllodd staff, disgyblion neu rieni ddigwyddiadau hiliol fel galw enwau neu wahaniaethu. Mae’n ymddangos bod digwyddiadau hiliol yn fwyaf cyffredin mewn ysgolion uwchradd, a nodwyd y rhain mewn tua hanner yr arolygiadau o ysgolion uwchradd. Mae’n bwysig nodi, mewn ychydig o ysgolion, dywedodd disgyblion wrth arolygwyr nad ydynt wedi rhoi gwybod am ddigwyddiadau hiliol yr oeddent wedi cael profiad ohonynt. Nid yw’r senario yma’n unigryw i ysgolion. Nododd Comisiynydd Plant Cymru, yn ei hadroddiad “Tuag at Addysg Bellach Wrth-hiliol: Ymchwil Ansoddol ar Brofiadau Byw Staff a Dysgwyr” (2023), fod llawer o ddysgwyr a staff o grwpiau lleiafrifoedd ethnig wedi profi hiliaeth agored mewn addysg bellach. Fodd bynnag, canfuwyd bod mwy o ddigwyddiadau’n ymwneud â hiliaeth gudd, ac roedd yn fwy heriol i staff a dysgwyr eu hadnabod a’u hadrodd.
Storïau, hanesion a chyfraniadau Pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol
Wrth lansio Cwricwlwm i Gymru ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 16 oed, daeth addysgu hanes a phrofiadau Pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol fel rhan o hanes Cymru a’r byd ehangach yn orfodol. Er mwyn ymateb i hyn, roedd llawer o ysgolion wedi dechrau cyflwyno storïau a chyfraniadau unigolion amlwg o leiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm. Roedd hyn yn fwyfwy amlwg mewn sawl sector ac yn enwedig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Dysgodd disgyblion am gyflawniadau, heriau a phrofiadau unigolion allweddol. Fodd bynnag, roedd ystod yr unigolion a gynrychiolwyd yn aml yn gyfyngedig i ychydig o fodelau rôl adnabyddus. Roedd cynllunio effeithiol i gynrychioli lleiafrifoedd ethnig yn gadarnhaol ac yn ddilys fel rhan greiddiol o’r cwricwlwm yn dechrau datblygu mewn tua hanner yr ysgolion.
Roedd tua hanner yr holl ddarparwyr a arolygwyd (gan gynnwys sefydliadau addysg bellach) wedi croesawu digwyddiadau ymwybyddiaeth i hybu cydraddoldeb a dechrau mynd i’r afael â hiliaeth. Er enghraifft, roeddent yn cydnabod Mis Hanes Pobl Dduon neu Ddiwrnod Gwisgo Coch ac yn defnyddio’r rhain fel dulliau i hybu a gwerthfawrogi amrywiaeth. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd digwyddiadau’n ffurfio rhan o raglen ehangach ac yn cynnwys cyfleoedd i gynnwys cynulleidfa eang mewn codi ymwybyddiaeth a dwysáu dealltwriaeth disgyblion o hiliaeth. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion, roedd digwyddiadau’n cynnwys gweithgareddau ‘ychwanegol’, wedi’u gwahanu oddi wrth weddill y cwricwlwm. Mewn ychydig o achosion, nhw oedd unig strategaeth y darparwr i fynd i’r afael â hiliaeth.
Mae’n bwysig i bob dysgwr weld eu hunain, eu diwylliant, eu storïau, eu hanesion a’u profiadau yn cael eu cynrychioli’n gadarnhaol, yn gywir ac yn sensitif ar draws y cwricwlwm. Er mwyn dechrau mynd i’r afael â hyn ar lefel leol, roedd lleiafrif o ysgolion wedi cynnwys disgyblion a rhieni er mwyn hybu dealltwriaeth o amrywiaeth ar draws yr ysgol. Er enghraifft, ffurfiont bwyllgorau wedi’u harwain gan ddisgyblion i arwain gwasanaethau neu gyflwyno gwersi ABaCh (addysg bersonol a chymdeithasol) yn canolbwyntio ar amrywiaeth ar gyfer myfyrwyr iau. Ar ei orau, roedd y gwaith hwn yn helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pob disgybl o hanes, profiadau a chyfraniadau amrywiol cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Fodd bynnag, roedd yr ymagwedd hon yn aml yn cynnwys digwyddiadau untro nad oeddent yn mynd i’r afael â materion yn ymwneud ag amrywiaeth y tu hwnt i lefel arwynebol. Gallai hefyd roi’r cyfrifoldeb ar ddisgyblion o grwpiau ethnig lleiafrifol i addysgu eu cyfoedion am eu profiadau a’u diwylliant.
Mewn ychydig o achosion, roedd darparwyr yn rhoi ffocws cynaledig ar gynnwys teuluoedd mewn cyfrannu at y cwricwlwm. Mewn un ysgol annibynnol, roedd staff yn cynnig cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion a rhieni rannu eu diwylliant â phobl eraill yn rheolaidd. Er enghraifft, roeddent yn cynllunio cyfleoedd i ddisgyblion fodelu, perfformio neu ddysgu amrywiaeth o ddawnsiau traddodiadol rhyngwladol. Roedd hyn yn cefnogi pob disgybl i deimlo ymdeimlad o berthynas yng nghymuned amrywiol a gofalgar yr ysgol.
Roedd ychydig o leoliadau nas cynhelir yn gwahodd rhieni i rannu eu diwylliant, eu credoau a’u profiadau â disgyblion a staff. Er enghraifft, mewn un feithrinfa, roedd rhieni yn cefnogi ymarferwyr i rannu adnoddau a gwybodaeth am Ramadan gyda phlant yn effeithiol. Roedd yr ymagwedd hon yn galluogi pob un o’r plant i weld eu bywyd cartref yn cael ei werthfawrogi a’i adlewyrchu’n gywir yn y cwricwlwm, gan eu cefnogi i deimlo ymdeimlad o berthyn.
Recriwtio athrawon ac Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
Ym mis Medi 2022, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynllun cymhelliant AGA Cymunedau Ethnig Lleiafrifol. Mae’r cynllun yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru Wrth-hiliol a’i nod yw cynyddu nifer yr athrawon o leiafrifoedd ethnig fel bod gan ddysgwyr yng Nghymru weithlu addysg mwy amrywiol a chynrychioliadol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, cynyddodd nifer yr athrawon a nododd eu grŵp ethnig fel Cymysg, Grwpiau Ethnig Lluosog, Asiaidd, Asiaidd Prydeinig, Caribïaidd, Du Prydeinig neu grwpiau ethnig Arall o 325 i 350 (Llywodraeth Cymru, 2024). Roedd hyn yn cynrychioli cynnydd canrannol bach o 1.2% o’r holl athrawon i 1.4%, er bod ychydig dros 3.2% o staff cymorth yn dod o’r grwpiau hyn. Roedd y ffigurau hyn yn dangos tangynrychiolaeth o grwpiau ethnig lleiafrifol yn y proffesiwn, gan fod bron i 10% o boblogaeth Cymru o leiafrifoedd ethnig (Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2021).
Wrth edrych ar swyddi arweinyddiaeth mewn ysgolion, mae cynrychiolaeth o’r amrywiaeth yng Nghymru yn lleihau ymhellach. Mae data’r pedair blynedd diwethaf yn dangos, ar gyfartaledd, mai dim ond 0.4% o benaethiaid sydd o grwpiau ethnig lleiafrifol (Llywodraeth Cymru, 2024). Mae’r ffigurau hyn yn debyg neu’n is wrth edrych ar swyddi penaethiaid dros dro, dirprwy benaethiaid a phenaethiaid cynorthwyol.
Er bod pob darparwr AGA yn hyrwyddo eu cyrsiau’n weithredol i fyfyrwyr ethnig leiafrifol, mae’r data diweddaraf yn dangos bod canran yr athrawon dan hyfforddiant o grwpiau ethnig lleiafrifol rhwng 4 a 5% (Llywodraeth Cymru, 2023). Mae hyn yn awgrymu y bydd recriwtio athrawon o grwpiau ethnig lleiafrifol yn parhau i fod yn her yn y dyfodol oherwydd y niferoedd isel sy’n ymuno â’r proffesiwn.
Roedd her debyg mewn proffesiynau addysg eraill, er enghraifft gyda 3.9% o athrawon addysg bellach o grwpiau ethnig Cymysg neu luosog, Asiaidd, Asiaidd Prydeinig, Du, Affricanaidd, Caribïaidd neu Ddu Prydeinig neu grwpiau ethnig eraill yn 2024 (Cyngor y Gweithlu Addysg, 2024).
Arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol
Mewn ychydig o ddarparwyr, roedd arweinwyr yn dangos awydd cryf i fabwysiadu ymagwedd wrth-hiliol at eu harfer ac, yn benodol, eu cwricwlwm. Fe wnaethant werthuso darpariaeth gyfredol a blaenoriaethu gwelliant a dysgu proffesiynol ar gyfer staff yn effeithiol. Yn yr enghreifftiau gorau, nid oedd arweinwyr yn osgoi pynciau anodd ac roeddent yn sensitif ac yn rhagweithiol wrth hybu newid cadarnhaol. O ganlyniad, roedd staff yn dechrau cynnig profiadau perthnasol i ddisgyblion a oedd yn rhoi mewnwelediad uniongyrchol iddynt o effaith hiliaeth. Er enghraifft, mewn un ysgol, roedd staff yn cynnig cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion gyfweld â phobl amlwg o’r gymuned a gwrando ar eu profiadau bywyd. Roedd hyn yn cynnig dealltwriaeth ddyfnach i ddisgyblion o hiliaeth ac yn cryfhau eu penderfyniad i’w wrthwynebu a’i oresgyn. Roedd ychydig o ysgolion yn annog disgyblion i ddefnyddio’r celfyddydau fel modd o rannu eu safbwyntiau ac ymdrechu i newid. Er enghraifft, roedd disgyblion yn cyflwyno eu dealltwriaeth o degwch trwy farddoniaeth neu ‘gelfyddyd brotest’ i hybu gwrth-hiliaeth.
Roedd nifer gynyddol o arweinwyr ar draws sectorau yn manteisio ar ddysgu proffesiynol sydd ar gael iddynt yn ymwneud ag amrywiaeth a gwrth-hiliaeth. Er enghraifft, roeddent yn gweithio â darparwyr allanol fel ‘Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol’ (DARPL) a Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth i ddwysáu dealltwriaeth ymhlith staff a gwella darpariaeth. Roedd ychydig o arweinwyr wedi dechrau gwerthuso eu harfer yn ymwneud â gwrth-hiliaeth yn effeithiol. Er enghraifft, mewn un ysgol uwchradd, nododd arweinwyr fod cynrychiolaeth pobl o leiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm yn aml yn cwmpasu agweddau negyddol ar hanes, fel caethwasiaeth. Roeddent yn cydnabod yr angen i adolygu eu cwricwlwm er mwyn cynrychioli cyfraniadau a hanes ehangach ac felly cyflwyno darlun mwy cytbwys.
Arfer effeithiol
Dangosodd arweinwyr yn awdurdod lleol Bro Morgannwg ymrwymiad i greu diwylliant gwrth-hiliol ledled yr awdurdod. Er enghraifft, fe wnaethant gynnwys 16 o ysgolion mewn prosiect trwy’r tîm ‘Cysylltiadau Dysgu’. Roedd hyn yn cynnwys ystod o ddysgu proffesiynol ar gyfer staff ysgolion am sut i hybu ymagwedd wrth-hiliol. Fe wnaethant rannu ymchwil berthnasol ac amlygu’r arferion mwyaf effeithiol. Sefydlodd swyddogion brosiect ymchwil weithredu i helpu arweinwyr a staff ysgolion i ystyried y ffordd orau i ddatblygu diwylliant gwrth-hiliol a sicrhau bod eu cwricwlwm yn gynhwysol. Roedd yr ysgolion a gymerodd ran yn y prosiect wedi sefydlu ymagweddau defnyddiol at gynllunio ar gyfer cwricwlwm a oedd yn dathlu amrywiaeth, yn ogystal ag addysgu cymuned yr ysgol am sut i fod yn wrth-hiliol.
O ganlyniad i’w cyfraniad at y prosiect, roedd llawer o ysgolion yn dechrau cryfhau eu hymagwedd at wrth-hiliaeth. Er enghraifft, roedd arweinwyr a staff yn Ysgol Gynradd Victoria wedi dwysáu eu dealltwriaeth o ymagwedd wrth-hiliol a dad-drefedigaethu’r cwricwlwm. Roedd grŵp wedi’i arwain gan ddisgyblion yn rhagweithiol o ran edrych ar adnoddau ar draws yr ysgol, gyda’r bwriad o wella eu cynwysoldeb a pha mor dda yr oeddent yn adlewyrchu cymuned yr ysgol. Roedd llawer o ddisgyblion yn yr ysgol yn mwynhau rhannu eu treftadaeth, eu diwylliannau a’u credoau â’u cyfoedion. O ganlyniad i’r gwaith hwn, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn yr ysgol yn datblygu ymwybyddiaeth gynyddol o gydraddoldeb ac amrywiaeth a phwysigrwydd trin pawb â pharch.
Cwestiynau hunan fyfyrio
- Pa mor dda y mae arweinwyr ac ymarferwyr yn deall gwrth-hiliaeth a sut i fynd i’r afael â’r elfennau gorfodol newydd wrth ddatblygu eu cwricwlwm?
- Pa mor sensitif a chywir y mae darparwyr yn cyflwyno hanes, storïau a chyfraniadau gan bobl o grwpiau Pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig?
- Pa mor gywir y mae darparwyr yn cofnodi, adrodd a gwerthuso data ar ddigwyddiadau hiliol a phresenoldeb a gwaharddiadau dysgwyr ethnig leiafrifol? Sut mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio?
- Pa mor effeithiol y mae darparwyr yn ymateb i ddigwyddiadau hiliol?
- Pa mor dda y mae darparwyr yn gwerthuso cwmpas ac effaith eu gwaith ag asiantaethau partner?
Swyddfa Ystadegau Gwladol 2021 Cyfrifiad 2021 (Ar-lein). Ar gael o: Hafan – Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) (Cyrchwyd 20 Mehefin 2024)
Llywodraeth Cymru (2024a) Athrawon (cyfrif pennau) yn ôl ethnigrwydd a sector (Ar-lein). Ar gael o: (Athrawon (cyfrif pennau) yn ôl ethnigrwydd a sector (llyw.cymru) Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2024)
Llywodraeth Cymru (2023) Myfyrwyr blwyddyn gyntaf o Gymru ar gyrsiau AGA yn y DU yn ôl ethnigrwydd a blwyddyn (Ar-lein). Ar gael o: Myfyrwyr blwyddyn gyntaf o Gymru ar gyrsiau AGA yn y DU yn ôl ethnigrwydd a blwyddyn (llyw.cymru) (Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2024)
Williams (2021) Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd: Adroddiad terfynol (Ar-lein). Ar gael o: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-03/gweithgor-cymunedau-cyfraniadau-chynefin-pobl-dduon-asiaidd-lleiafrifoedd-ethnig-cwricwlwm-newydd-adroddiad-terfynol.pdf (Cyrchwyd 20 Mehefin 2024)