Unedau Cyfeirio Disgyblion – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Unedau Cyfeirio Disgyblion

Adroddiad sector 2023 - 2024



Ysgolion

22

Nifer yr ysgolion 2024

22

Nifer yr ysgolion 2023

21

Nifer yr ysgolion 2022


Disgyblion

1,077

Disgyblion â chofrestriad sengl 2023-2024

969

Disgyblion â chofrestriad sengl 2022-2023

857

Disgyblion â chofrestriad sengl 2021-2022


Arolygiadau craidd

Nifer yr arolygiadau: 3

Cyfrwng Saesneg: 3

Astudiaethau achos

Ymweliadau ymgysylltu

Nifer yr ymweliadau/galwadau: 2

Cyfrwng Saesneg: 2


Crynodeb

Ym mlwyddyn academaidd 2023-2024, roedd 2,597 o ddisgyblion yn cael eu haddysgu y tu allan i’r ysgol (AHY). Mae hynny’n 5.5 o bob 1,000 o ddisgyblion yng Nghymru, sydd wedi cynyddu o 5.1 o bob 1,000 o ddisgyblion yn 2022/23.

Mae 2,279 o ddisgyblion AHY yn cael eu haddysgu y tu allan i’r ysgol, yn bennaf. Mae hynny’n 4.9 o bob 1,000 o ddisgyblion yng Nghymru, sydd wedi cynyddu o 4.0 o bob 1,000 o ddisgyblion yn 2022/23 a’r gyfradd uchaf ers i ddata gael ei gyfrifo yn 2009/10. 

Mae’n ymddangos bod nifer y disgyblion AHY sy’n cael eu haddysg y tu allan i’r ysgol yn cynyddu, ar ôl dyblu’n gymesur er 2009/10. Canran y disgyblion AHY sy’n cael eu haddysgu y tu allan i’r ysgol yn bennaf yw 87.8%, sydd wedi cynyddu o 42% yn 2009/10. 

Yn 2023/24, yn gymesur, mae nifer sylweddol fwy o ddisgyblion ag AAA neu ADY yn cael eu haddysgu y tu allan i’r ysgol yn bennaf nag ymhlith y boblogaeth gyffredinol o ddisgyblion. Mae nifer fwyaf y cofrestriadau disgyblion (44.7%) mewn unedau cyfeirio disgyblion, wedi’i dilyn gan ysgolion annibynnol (18.4%) a thiwtora unigol (16.0%).

Eleni, arolygwyd tair UCD: dwy dan fframwaith arolygu peilot newydd, bob un ohonynt yn gwasanaethu safleoedd lluosog. Roedd dwy UCD yn cefnogi disgyblion 11-16 oed ac un yn gwasanaethu disgyblion 7-16 oed, gyda nifer y disgyblion cofrestredig yn amrywio o 33 i 76.



Gweithgarwch dilynol

Eleni, tynnwyd dwy UCD o gategorïau gweithgarwch dilynol oherwydd cynnydd cryf, tra mae un ohonynt mewn categori gweithgarwch dilynol statudol o hyd. Rhoddwyd un o’r tair UCD a arolygwyd eleni yn y categori gwelliant sylweddol.


Addysgu a dysgu

Yn yr UCDau mwyaf effeithiol, roedd y cwricwlwm a gynigir yn eang, yn gytbwys ac wedi’i deilwra i anghenion a diddordeb penodol y disgyblion. Roedd gan yr UCDau hyn gynlluniau sefydledig ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm i Gymru, gyda phwyslais cryf ar les disgyblion ac integreiddio pedwar diben y cwricwlwm mewn cynllunio ac addysgu. Roedd yr ymagwedd hon yn darparu profiadau addysgol cyfoethog i ddisgyblion. Roedd hyblygrwydd y cwricwlwm yn caniatáu ar gyfer unigoli, a arweiniodd at y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd sylweddol o’u mannau cychwyn, gydag ychydig ohonynt yn gwneud cynnydd eithriadol. Fodd bynnag, roedd anghysondebau o ran ansawdd ac effaith datblygu Cwricwlwm i Gymru ar draws UCDau gwahanol.

Roedd y cwricwlwm mewn llawer o UCDau yn berthnasol i anghenion, oedrannau a galluoedd amrywiol disgyblion, gan fynd i’r afael â materion cymdeithasol pwysig fel deall cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, yn ogystal â phobl LHDTC+. Roedd y rhan fwyaf o UCDau yn nodi a darparu ymyriadau a chymorth targedig i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn effeithiol, gan sicrhau bod pob disgybl yn gallu manteisio ar y cwricwlwm yn effeithiol. Roedd pwyslais cryf ar ddatblygu medrau cymdeithasol a bywyd disgyblion hefyd, gan eu paratoi’n dda ar gyfer eu camau yn y dyfodol. Er enghraifft, yn Gorwelion Newydd, roedd llawer o ddisgyblion yn ymgysylltu’n dda ag ystod o glybiau amser cinio, gan gynnwys gemau strategaeth ffantasi a cherddoriaeth, ynghyd â chlwb gemau ar ôl ysgol unwaith yr wythnos.

Yn yr arferion mwyaf effeithiol, roedd datblygu medrau disgyblion wedi’i ymwreiddio’n dda ar draws y cwricwlwm, gyda llwybrau dilyniant clir. Fodd bynnag, roedd datblygu medrau digidol a Chymraeg yn amrywio. Ar gyfer disgyblion uwchradd hŷn, roedd UCDau yn cynnig ystod werthfawr o gymwysterau a llwybrau galwedigaethol, wedi’u teilwra i anghenion unigol. Roedd yr UCDau hyn hefyd yn cynnal cysylltiadau cryf â Gyrfa Cymru, gan helpu disgyblion i ddeall y cyfleoedd iddynt yn y dyfodol.

Roedd gan yr UCDau mwyaf effeithiol systemau olrhain cadarn i fonitro a gwerthuso cynnydd disgyblion, gan ddefnyddio gwybodaeth waelodlin fanwl am gyrhaeddiad a lles disgyblion i lywio cyfleoedd dysgu a mynd i’r afael ag anghenion ychwanegol. Serch hynny, roedd amrywioldeb yn ansawdd yr asesu ar draws UCDau, a oedd yn cyfyngu ar allu staff i nodi cynnydd yn gywir a thargedau ymyriadau’n effeithiol.

Lle’r oedd yr addysgu yn effeithiol, roedd dysgu yn bwrpasol gyda bwriadau clir a chyd-destunau difyr ac yn meithrin medrau’n llwyddiannus dros gyfnod. Roedd cynllunio hynod drefnus ac arferion asesu pwrpasol yn cefnogi olrhain cynnydd yn effeithiol, gan sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd ystyrlon. Yn yr UCDau hyn, roedd disgyblion yn magu hyder, yn ail-ymgysylltu â’u haddysg ac yn ymateb yn gadarnhaol i ddisgwyliadau uchel gan ddatblygu gwydnwch a hunanddelwedd gadarnhaol fel dysgwyr. Yng Nghanolfan Addysgu a Dysgu Uwchradd Caerfyrddin, roedd llawer o’r staff yn defnyddio technegau holi yn fedrus i ennyn diddordeb, herio a chefnogi disgyblion. 

Mewn UCDau sydd â diwylliant cryf o arfer sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion, wedi’i gefnogi gan gydweithio ag asiantaethau allanol, roedd staff a datblygu cyd-ddealltwriaeth o anghenion cymhleth disgyblion ac yn defnyddio strategaethau priodol yn llwyddiannus i gefnogi cynnydd disgyblion.


Gofal, cymorth ac arweiniad a’u heffaith ar les disgyblion

Ym mron pob un o’r UCDau a arolygwyd, roedd llawer o ddisgyblion wedi cael profiad o absenoldebau hir o addysg ffurfiol, a oedd yn cael effaith negyddol ar eu presenoldeb a’u hymgysylltiad. Fodd bynnag, roedd staff yn meithrin perthnasoedd cryf, ymddiriedus â disgyblion, gan wneud iddynt deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael gofal da. Yn Uned Cyfeirio Disgyblion Powys, roedd y perthnasoedd cadarnhaol a pharchus yr oedd staff wedi’u meithrin â disgyblion yn gryfder yng ngwaith yr UCD.  

Lle caiff cynlluniau cymorth bugeiliol eu defnyddio’n effeithiol, mae prosesau trylwyr ar waith i fonitro’r defnydd ohonynt. Mae dychweliad disgyblion i addysgu amser llawn yn fwyaf effeithiol pan fyddant yn cyfranogi’n weithredol yn y prosesau ac yn gallu nodi’r rhwystrau posibl y maent yn eu hwynebu. 

Roedd gan bron pob UCD arferion diogelu cadarn, gan feithrin diwylliant cadarnhaol a oedd yn gwella ymddygiad ac agweddau disgyblion. Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos gwelliannau sylweddol o ran eu hymddygiad ac roedd gwaharddiadau ac ymyriadau corfforol yn isel, gan adlewyrchu llwyddiant strategaethau ymddygiad teilwredig.

Roedd staff mewn UCDau wedi’u hyfforddi’n dda i fynd i’r afael ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl disgyblion. Rhoddwyd blaenoriaeth i ddysgu proffesiynol yn y meysydd hyn, gan gydnabod yr anghenion cynyddol ymhlith disgyblion. Roedd gan UCDau effeithiol brosesau cryf ar gyfer monitro presenoldeb ac roedd disgyblion yn chwarae rôl ganolog mewn gwella eu presenoldeb. Serch hynny, roedd cyfraddau presenoldeb cyffredinol yn peri pryder o hyd. Roedd y defnydd o amserlenni rhan-amser yn amrywio, gyda rhai disgyblion yn treulio gormod o amser ar amserlenni llai.

Roedd yr UCDau mwyaf effeithiol yn cyflogi cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (CADYau) medrus a oedd yn nodi ac yn mynd i’r afael ag anghenion dysgu disgyblion, gan gynnwys cynnydd yn nifer y disgyblion â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig. Roedd UCDau effeithiol hefyd yn meithrin ymdeimlad grymus o gymuned ac yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ymgysylltu â materion yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Yn Gorwelion Newydd, roedd y trefniadau ar gyfer cynghorau ysgol yn gryfder nodedig ond, ar draws yr holl UCDau a arolygwyd, roedd amrywioldeb o ran pa mor dda y gallai disgyblion fynegi eu barn a dylanwadu ar eu dysgu.  

Roedd cyfraddau ailintegreiddio i addysg brif ffrwd yn isel, gydag ychydig o ddisgyblion yn unig yn dychwelyd yn llwyddiannus, yn enwedig disgyblion hŷn. Mae UCDau yn cefnogi disgyblion a theuluoedd yn effeithiol, gan leihau rhwystrau fel tlodi a difreintedd, ac yn cynnal partneriaethau cryf â rhieni, gofalwyr ac asiantaethau allanol. Roedd y partneriaethau hyn yn cynnwys cyfathrebu, digwyddiadau cymdeithasol a hyfforddiant teilwredig i reoli anghenion disgyblion yn well, gan arwain at ddarparu gwasanaeth mwy cydgysylltiedig i deuluoedd.


Arwain a gwella

Yn yr UCDau mwyaf effeithiol, roedd gan arweinwyr weledigaeth glir, wedi’i llunio ar y cyd â’r awdurdod lleol, gan ddiffinio rôl a swyddogaeth yr UCDau yn yr awdurdod. Roedd cyfleu’r weledigaeth hon yn gryf yn sicrhau prosesau sefydledig ar gyfer disgyblion o ran ymuno ac ymadael, gydag ysgolion prif ffrwd yn deall prosesau atgyfeirio a’u rolau cefnogol. Fodd bynnag, roedd yr eglurder hwn yn amrywio ar draws awdurdodau lleol.

Roedd arweinwyr effeithiol UCDau yn meithrin cyfathrebu cadarn, disgwyliadau uchel a pherthnasoedd gwaith cryf ymhlith staff, a oedd yn cyfrannu’n weithredol at gynllunio gwelliant. Sefydlwyd diwylliant cryf o ddisgwyliadau uchel ar gyfer dysgu, lles a phresenoldeb ac roedd y disgwyliadau hyn yn cael eu cyfleu’n glir i ddisgyblion, staff, rhieni a gofalwyr. Roedd datblygiad proffesiynol yn cael ei flaenoriaethu, yn cyd-fynd â chynlluniau datblygu’r UCDau ac yn cael ei fonitro’n effeithiol, er bod ansawdd y cyfleoedd dysgu yn amrywio.

Roedd gan bron pob UCD weithdrefnau diogelu cadarn, gyda hyfforddiant rheolaidd, perthnasol i staff. Roedd y cwricwlwm yn gynhwysol ac yn canolbwyntio ar ddiogelwch a gwneud penderfyniadau gwybodus, gan helpu disgyblion i ddeall eu hawliau a sut i gadw’n ddiogel. Roedd arweinwyr hefyd yn hybu strategaethau i fynd i’r afael â thlodi, gan sicrhau bod modd manteisio’n deg ar y cwricwlwm a lleihau rhwystrau i ddisgyblion difreintiedig trwy bartneriaethau effeithiol ag asiantaethau allanol.

Yn yr UCDau mwyaf effeithiol, roedd arweinwyr yn rhannu cyfrifoldebau ar draws eu tîm staff, yn unol â’u blaenoriaethau gwella, ac roedd pob un o’r staff yn deall eu rolau’n glir. Er enghraifft, yn Gorwelion Newydd, cryfhaodd y rheolwyr bugeiliol ar bob safle eu perthynas waith â rhieni a gofalwyr yn sylweddol i gefnogi eu plentyn. 

Lle’r oedd arfer yn fwyaf effeithiol, roedd y pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol yn cyflawni eu cyfrifoldebau’n gadarn. O ganlyniad, roedd her a chymorth cadarn ac roedd arweinwyr yn cael eu dwyn i gyfrif yn dda.


Trosolwg argymhellion

Yn y flwyddyn academaidd 2023 – 2024, arolygodd Estyn dair UCD.

Cafodd dau argymhelliad i wella presenoldeb.

Cafodd dau argymhelliad i egluro rolau a chyfrifoldebau arweinwyr.

Rhoddwyd argymhelliad i ddau weithio gyda’r awdurdod lleol, un i sefydlu gweledigaeth strategol ac un i wella ansawdd yr amgylchedd dysgu.