Y Gymraeg
Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024
Mae darpariaeth o safon uchel o fewn y sectorau addysg yn allweddol i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o bobl yn siarad a defnyddio’r Gymraeg yn hyderus erbyn 2050.
Er ein bod wedi adrodd mewn sawl adroddiad blynyddol dros amser bod diffygion yn y ddarpariaeth i ddysgu’r Gymraeg, rydyn ni wedi adnabod pocedi o arferion effeithiol ar draws ystod o sectorau. Mae’r adroddiad yma yn nodi rhai o’r diffygion rydym yn parhau i’w gweld ac yn cynnig ciplun o’r arferion da a arsylwyd.
Mewn llawer o leoliadau nas cynhelir cyfrwng Saesneg, datblygodd ymarferwyr ddefnydd o’r Gymraeg ymysg y plant yn llwyddiannus trwy gyflwyno geiriau newydd, a brawddegau syml. Roeddent yn defnyddio caneuon i annog plant i ymuno yn yr hwyl. Roeddent hefyd yn rhoi cyfarwyddiadau syml yn y Gymraeg, cyfarch plant a’u canmol yn bwrpasol yn yr iaith. Mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, roedd y rhan fwyaf o ymarferwyr yn cynllunio ar gyfer datblygiad Cymraeg y plant yn effeithiol trwy drochi’r plant yn yr iaith Gymraeg yn barhaus.
O’r arolygiadau craidd o fewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg lle pennwyd argymhelliad, roedd y rhan fwyaf yn ymwneud â gwella medrau siarad disgyblion. Gydag ychydig iawn o blant yn dechrau’r dosbarth meithrin gydag unrhyw fedrau Cymraeg a’r lleiafrif o ddisgyblion wedi colli hyder i siarad Cymraeg oherwydd y pandemig, aeth arweinwyr Ysgol Gynradd Brynaman ati i hybu ac atgyfnerthu’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Defnyddion nhw amrywiaeth o strategaethau ymarferol i ysgogi disgyblion i siarad Cymraeg er mwyn sicrhau fod pob disgybl yn gwbl ddwyieithog wrth adael yr ysgol.
Cafodd lleiafrif o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg argymhellion i wella medrau Cymraeg disgyblion gan gynnwys gwella’r ddarpariaeth ar gyfer y medrau hynny dros amser. Gwelon ni fod dealltwriaeth athrawon o ddulliau addysgu iaith yn gyfyngedig, er enghraifft nid oedd digon o ffocws ar gymhwyso medrau siarad a gwrando disgyblion. Roedd gor-ddefnydd o fframiau iaith yn llesteirio disgyblion gan gyfyngu ar eu cyfleoedd i ymarfer medrau gwrando a siarad yn annibynnol. Gwelodd arweinwyr Ysgol Gynradd Gwndy bod angen gwella llafaredd ar draws yr ysgol a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg tu allan i’r ystafell ddosbarth. Llwyddon nhw i ddatblygu medrau’r disgyblion ar draws sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol ac i fagu balchder o fedru siarad Cymraeg a’r ymdeimlad cyffredinol o Gymreictod ymysg y disgyblion: hyrwyddo brwdfrydedd dros ddefnyddio’r Gymraeg | Estyn (llyw.cymru).
Mae’r diffyg dealltwriaeth o addysgeg iaith effeithiol yn parhau yn y sector uwchradd. Mewn llawer o’r ysgolion hyn, nid oedd ymarferwyr yn ddigon hyderus yn eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ddulliau addysgu iaith er mwyn cefnogi disgyblion i gaffael iaith. O’r herwydd, nid oedd disgyblion yn gwneud digon o gynnydd. Yn yr ychydig ysgolion lle roedd arferion effeithiol, darparwyd cyfleoedd dysgu proffesiynol i ymarferwyr i ddyfnhau eu dealltwriaeth o ddatblygiad iaith disgyblion dros gyfnod. Aeth Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed ati i ddatblygu a chryfhau medrau Cymraeg a dwyieithog eu disgyblion yn yr astudiaeth achos Cynllunio a chydlynu ar gyfer datblygiad cynyddol medrau disgyblion | Estyn (llyw.cymru) drwy ddarparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i ddatblygu medrau staff. O ganlyniad, gwelwyd addysgeg gadarn yn y gwersi Cymraeg er mwyn datblygu medrau disgyblion yn ogystal â sicrhau cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio’r iaith tu hwnt i furiau’r ystafell ddosbarth.
Mewn llawer o ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg, nid oedd digon o gyfleoedd i ddisgyblion siarad a defnyddio’r iaith Gymraeg yn hyderus y tu allan i wersi, yn enwedig wrth i’r disgyblion ddatblygu trwy’r ysgol. Mae Ysgol Pen y Dre wedi gweithio’n strategol i ddatblygu’r Gymraeg, a’i gosod yn ganolog ym mywyd bob dydd yr ysgol: Creu diwylliant cryf a gwerthfawrogiad o’r Gymraeg a’i threftadaeth. – Estyn (llyw.cymru). Yn yr ychydig iawn o ysgolion gyda’r arferion cryfaf, roedd arweinwyr yn rhoi ffocws penodol ar y Gymraeg o fewn eu prosesau gwella ansawdd. Roedd hyn yn sicrhau ymagwedd ysgol gyfan ar wella cynllunio ar gyfer y Gymraeg.
Yn ein hadroddiad thematig Datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10 i 14 oed | Estyn (llyw,cymru) edrychon ar ba mor dda mae ysgolion Cymraeg a dwyieithog yn datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion ar draws y cwricwlwm. Mae’r adroddiad yn amlinellu nifer o gryfderau a’r meysydd sydd angen mynd i’r afael â nhw i sicrhau gwelliant.
Gwelon fod addysgu a dysgu dwyieithog yn nodwedd gref a nodedig ar brif gampysau yr unig goleg addysg bellach a arolygwyd yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, yn gyffredinol, roedd y cyfleoedd i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyrsiau galwedigaethol a dysgu seiliedig ar waith yn llawer mwy cyfyngedig. Ychydig iawn o gyfleoedd sy’n bodoli i ddysgwyr ôl-16 barhau i astudio a chael eu hasesu am gymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg. Ychydig iawn o ddysgwyr sy’n siarad Cymraeg ar gyrsiau addysg bellach galwedigaethol neu brentisiaethau a gynhyrchodd waith ysgrifenedig yn y Gymraeg. Nid oedd darparwyr yn gwneud digon i sicrhau bod dysgwyr yn elwa o gwblhau hyd yn oed cyfran fach o’u gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nid oedd y rhan fwyaf o bartneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cynnig digon o sesiynau yn Gymraeg neu ddwyieithog i ddiwallu anghenion a dyheadau dysgwyr sy’n siarad Cymraeg. Ar y cyfan, nid oedd digon o gyfleoedd i ddysgwyr sy’n siarad Cymraeg wella eu sgiliau yn ystyrlon drwy gyfrwng y Gymraeg.
Anghyson yw’r modd mae partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yn gweithredu i gefnogi datblygiad y Gymraeg. Tra bod ymgais i ddarparu sesiynau priodol i wella medrau Cymraeg myfyrwyr, nid ydynt yn ddigon cyson na phenodol i helpu myfyrwyr i ystyried sut i ddatblygu’r Gymraeg yn ymarferol gyda disgyblion o fewn ystafelloedd dosbarth. Mae’r niferoedd bach o ddarpar athrawon sydd ar y cyrsiau AGA, yn enwedig y rhai sy’n medru gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, yn destun pryder.
O ran y ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion, gwelwyd arferion hynod effeithiol ar y cyrsiau preswyl yn y ganolfan breswyl genedlaethol yn Nant Gwrtheyrn oedd yn cynnig profiadau dysgu cyfoethog y tu allan i ddosbarthiadau ffurfiol. Golyga hyn bod y dysgwyr wedi cael eu harfogi i roi eu medrau ar waith tu hwnt i’w cyrsiau ymysg siaradwyr Cymraeg y gymuned leol: Defnyddio’r Gymraeg: gweithgareddau allgyrsiol bwriadus ac unigryw sy’n cefnogi dysgwyr i siarad Cymraeg yn gynyddol ddigymell ar safle’r Nant ac yn y gymuned leol | Estyn (llyw.cymru). Mae mwy am y profiadau trochi a’r ymyraethau sy’n cefnogi dysgwyr yn: Trochi effeithiol: cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd cyflym tra’n eu cynorthwyo i ddysgu a gwerthfawrogi hanes a diwylliant Cymru. | Estyn (llyw.cymru).
Erbyn hyn mae pob Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) wedi’u cymeradwyo ar draws pob awdurdod lleol. Roedd gan awdurdod lleol Ceredigion, er enghraifft, weledigaeth glir ar gyfer sicrhau bod disgyblion, yn y pen draw yn ddisgyblion dwyieithog hyderus. Mae’r awdurdod lleol eisoes wedi adnabod categorïau iaith ysgolion ac wedi arfogi staff yr awdurdod i gefnogi ymarferwyr i ddatblygu’r Gymraeg yn effeithiol mewn ysgolion. Mae awdurdodau lleol Gwynedd a Môn wedi cydweithio er mwyn datblygu adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a’u teuluoedd, ac ar gyfer trochi iaith. – Estyn (llyw.cymru). Addysg drochi yw prif ddull bron bob awdurdod lleol ar gyfer creu siaradwyr Cymraeg newydd a datblygu medrau Cymraeg dysgwyr. Mae enghraifft effeithiol o hyn yn yr arolygiad peilot diweddar yng Nghasnewydd lle mae’r arweinwyr wedi datblygu perthynas waith gref gydag amryw o randdeiliaid i ddatblygu amcanion cynllun strategol Addysg Cymru yn effeithiol. Fodd bynnag, mae rhai awdurdodau yn parhau i fod yn araf wrth weithredu eu CSGAau. Maent yn y camau cynnar o roi’r cynlluniau hyn ar waith ac ar y cyfan, mae cydweithio ar draws awdurdodau yn brin. Mewn lleiafrif o awdurdodau lleol, nodwyd recriwtio staff, gan gynnwys athrawon sy’n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, fel un o’r prif heriau o ran eu darpariaeth ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae’r defnydd o’r Gymraeg yn gryfder yn yr uned cyfeirio disgyblion (UCD) yng nghanolfan addysg Nant-y-Bryniau, sef uned sy’n darparu addysg ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion iechyd meddwl difrifol a chymhleth. Yma, caiff y staff eu cynorthwyo’n dda i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg, ac o ganlyniad, mae pob un o’r staff naill ai’n rhugl yn y Gymraeg, neu’n ddysgwyr hyderus sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg yn briodol yn ystod cyfnodau addysgu a thrafod anffurfiol: Datblygu darpariaeth Gymraeg ar draws yr UCD (i’w gyhoeddi). Fodd bynnag, yn gyffredinol mewn UCDau mae datblygu sgiliau Cymraeg dysgwyr yn parhau i fod yn amrywiol.
Mae arweinwyr sy’n meddu ar weledigaeth strategol glir ac sy’n blaenoriaethu’r Gymraeg yn briodol yn nodwedd amlwg yn y darparwyr mwyaf llwyddiannus ar draws pob sector. Buddsoddodd arweinwyr llwyddiannus mewn hyfforddiant gwerthfawr i staff ar bob lefel gan ganolbwyntio’n finiog ar addysgeg ac adnabod yr angen am gyfleoedd i ymarfer medrau tu hwnt i ddysgu ffurfiol.