Ysgolion arbenigol ADY annibynnol – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Ysgolion arbenigol ADY annibynnol

Adroddiad sector 2023 - 2024



Ysgolion

47

Ionawr 2024


Arolygiadau craidd

Eleni, arolygom 12 o ysgolion arbennig annibynnol.

Ymweliadau monitro

Fe wnaethom hefyd ymweld ag 16 o ysgolion fel rhan o ymweliadau monitro blynyddol.

Safonau ysgolion annibynnol

Mewn ysgolion annibynnol, rydym yn arolygu i ba raddau y mae’r ysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024.

Ymweliadau ag ysgolion annibynnol

Yn ogystal â’n harolygiadau craidd, rydym hefyd yn cynnal ystod o ymweliadau eraill ag ysgolion annibynnol, sef:

Pedwar ymweliad cofrestru cychwynnol i gofrestru ysgol annibynnol newydd

Dau ymweliad dilynol ar ôl ymweliadau cofrestru, i sicrhau bod ysgol annibynnol sydd newydd agor yn parhau i gydymffurfio â’r Safonau Ysgolion Annibynnol

26 o ymweliadau newid sylweddol, i roi cyngor i Lywodraeth Cymru ynghylch newid mewn amgylchiadau ysgol annibynnol.


Crynodeb

Yn 2023-2024, o gymharu â’r flwyddyn academaidd flaenorol, cynyddodd cyfran yr ysgolion a oedd yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024. 

At ei gilydd, canfu arolygwyr fod ysgolion arbenigol ADY annibynnol yn darparu amgylchedd anogol lle mae staff yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol â disgyblion. Roedd y perthnasoedd hyn, ynghyd â dealltwriaeth o anghenion, galluoedd a diddordebau disgyblion, yn galluogi staff i ennyn diddordeb disgyblion a chyflwyno cwricwlwm cytbwys. 

Roedd tua hanner yr ysgolion a arolygwyd a lleiafrif o’r ysgolion yr ymweld â nhw ar gyfer ymweliadau monitro yn ystod 2023-2024 wedi profi newidiadau arweinyddiaeth yn ddiweddar. Nid oedd mwyafrif yr ysgolion hyn yn bodloni gofynion y Safonau Ysgolion Annibynnol yn ystod eu harolygiad craidd. Ar ben hynny, parhaodd ysgolion i gofrestru i gynnig darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) er mwyn ymateb i ddiwygio ADY, er na roddodd tua hanner ohonynt fanylion am eu DDdY i Lywodraeth Cymru. 

Crybwyllodd ysgolion annibynnol, yn yr un modd ag ysgolion arbennig a gynhelir, newid ym mhroffiliau disgyblion, gan nodi cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau o ddisgyblion ag anghenion iechyd meddwl cymhleth.


Addysgu a dysgu

Roedd llawer o ddisgyblion mewn ysgolion arbenigol ADY annibynnol wedi profi aflonyddwch addysgol sylweddol yn flaenorol, ond roedd y cymorth cryf a ddarparwyd gan y rhan fwyaf o staff yn galluogi llawer o fyfyrwyr i wneud cynnydd addas o’u mannau cychwyn. Yn gyffredinol, roedd llawer o ddisgyblion yn datblygu medrau cymdeithasol a chyfathrebu da. Roeddent yn rhyngweithio’n hyderus â staff ac ymwelwyr ac yn ymfalchïo yn eu hysgolion.

Roedd cynnydd mewn llythrennedd yn nodedig mewn llawer o ysgolion, er bod ychydig o ysgolion yn cynnig cyfleoedd cyfyngedig i ddatblygu medrau darllen cynyddol disgyblion a’u hysgrifennu estynedig. Roedd medrau rhifedd yn gadarn, ar y cyfan, gyda llawer o ddisgyblion yn cymhwyso cysyniadau mathemategol yn effeithiol mewn cyd-destunau ymarfer, fel wrth gyllidebu neu gynllunio teithiau. Er bod mwyafrif y disgyblion yn defnyddio TGCh yn briodol mewn tasgau dysgu, fel prosesu geiriau ac ymchwil ar-lein, roedd datblygu medrau digidol disgyblion ar draws y cwricwlwm yn annigonol mewn llawer o ysgolion.

Enillodd llawer o ddisgyblion ystod o gymwysterau perthnasol, o lefel mynediad i Safon Uwch, ynghyd ag achrediadau ychwanegol mewn meysydd amrywiol. Fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion, roedd cyfleoedd achredu yn rhy gyfyngedig. Yn gyffredinol, roedd y cwricwlwm yn mynd i’r afael ag anghenion disgyblion unigol, eu diddordebau a’u galluoedd yn dda. Fodd bynnag, roedd gan ychydig o ysgolion wendidau mewn pynciau fel gwyddoniaeth, y dyniaethau a medrau digidol.

Roedd effeithiolrwydd yr addysgu yn amrywio. Yn yr ysgolion mwyaf effeithiol, roedd athrawon yn dangos gwybodaeth bynciol gref a holi effeithiol, gan osod amcanion dysgu clir. Fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion, roedd staff yn cynnig her anghyson a chyfleoedd cyfyngedig i ddisgyblion ddatblygu’n ddysgwyr annibynnol, gyda lleiafrif o ddisgyblion yn dibynnu’n ormodol ar staff cymorth. Roedd arferion adborth yn amrywio hefyd, gydag adborth llafar yn aml yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol, tra bod diffyg arweiniad clir mewn adborth ysgrifenedig mewn ychydig o ysgolion ar sut y gallai disgyblion wella. Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn defnyddio gwybodaeth asesu i lywio cynllunio ac olrhain cynnydd, ond nid oedd ychydig ohonynt yn defnyddio asesiadau’n effeithiol i sicrhau bod disgyblion yn datblygu eu medrau’n gynyddol dros gyfnod. Roedd cyfoethogi trwy ymweliadau allanol a phartneriaethau yn gwella medrau bywyd a hyder cymdeithasol disgyblion. Fodd bynnag, nid oedd ychydig o’r ysgolion yn bodloni’r holl Safonau Ysgolion Annibynnol oherwydd profiadau dysgu wedi’u teilwra’n wael a chynllunio gwersi a rheoli amser yn aneffeithiol.


Gofal, cymorth ac arweiniad a’u heffaith ar les disgyblion

At ei gilydd, roedd ysgolion yn canolbwyntio’n dda ar greu amgylcheddau cynhwysol a chefnogol i fynd i’r afael ag anghenion disgyblion. Arweiniodd yr ymagwedd hon at bron pob un o’r disgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn gwybod at bwy i droi os oes ganddynt bryderon. Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos ymddygiad da ac yn mwynhau dysgu, tra’r oedd staff yn meithrin perthnasoedd cryf a pharchus â disgyblion, yn gyffredinol. Roedd llawer o ddisgyblion yn dangos presenoldeb gwell dros gyfnod, er bod presenoldeb isel gan ychydig o ddisgyblion yn cael effaith negyddol ar eu cynnydd a’u lles. Mewn ychydig o ysgolion, roedd olrhain presenoldeb, prydlondeb ac ymddygiad yn annigonol yn llesteirio gwerthuso strategaethau a oedd wedi’u bwriadu i wella presenoldeb disgyblion.

Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn creu dogfennau gwerthfawr i gefnogi disgyblion ag ADY ac yn gosod targedau perthnasol yn gysylltiedig â chynlluniau datblygu unigol (CDUau). Fodd bynnag, nid oedd systemau lleiafrif o ysgolion ar gyfer olrhain cynnydd yn erbyn y targedau hyn wedi’u datblygu’n ddigonol. Roedd cymorth ar gyfer ADY yn briodol, ar y cyfan, gydag ystod o wasanaethau ar gael, gan gynnwys timau therapiwtig ac allgymorth. Yn Ysgol Tŷ Monmouth, roedd staff yn cydnabod nad oedd gan lawer o ddisgyblion yr eirfa i fynegi eu teimladau’n glir i oedolion. Roedd y tîm therapïau yn cefnogi disgyblion i gyfrannu at eu cynlluniau ymddygiad a datblygu strategaethau ymddygiad wedi’u symboleiddio. Roedd gan ddisgyblion lais o ran sut yr hoffent i staff ymddwyn wrth ymateb i unrhyw ‘deimladau mawr’ roeddent yn eu cael. Roedd hyn yn gwella medrau cymdeithasol disgyblion, perthnasoedd â chyfoedion, empathi a’u lles cyffredinol. Fodd bynnag, nid oedd llawer o ysgolion yn gwerthuso effaith yr ymyriadau hyn ar les disgyblion a’u hagweddau at ddysgu yn effeithiol. 

Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn rhoi pwyslais priodol ar ddatblygu medrau bywyd disgyblion a’u parodrwydd ar gyfer y dyfodol, gyda rhai ohonynt yn darparu cynlluniau pontio rhagorol. Roedd llawer o ddisgyblion yn symud ymlaen i addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant. Ar ben hynny, mewn ychydig o ysgolion â darpariaethau preswyl, roedd staff gofal yn cydweithio’n effeithiol ar gyfleoedd datblygu gyrfa, gan gynnwys profiad gwaith. Fodd bynnag, nid oedd gan ychydig o ysgolion ddigon o arweiniad a chynlluniau ar gyfer gyrfaoedd.

Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn darparu ystod dda o brofiadau i ddatblygu dealltwriaeth ysbrydol, foesol a chymdeithasol disgyblion, ac roedd ychydig ohonynt hefyd yn gwella eu hunaniaeth a’u diwylliant Cymreig. Nid oedd cyfleoedd i archwilio cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi’u datblygu cystal. Roedd ychydig o ysgolion yn cynnig cyfleoedd cyfyngedig i ddisgyblion gyfrannu’n weithredol at fywyd yr ysgol, a oedd yn effeithio ar eu datblygiad fel dinasyddion cyfrifol.

Roedd diogelu yn flaenoriaeth uchel yn y rhan fwyaf o ysgolion, ond nid oedd polisïau a gweithdrefnau ffurfiol mewn ychydig ohonynt, a oedd yn gwanhau eu harferion diogelu. Cafodd tair ysgol argymhellion i wella rheoli diogelu. Yn ogystal, arfarnwyd nad oedd saith ysgol yn cydymffurfio â’r Safonau Ysgolion Annibynnol o ran Safon 3: Lles, iechyd a diogelwch disgyblion. Mewn tua hanner yr achosion hyn, nid oedd yr ysgol wedi rhoi sylw priodol i arweiniad Llywodraeth Cymru ar gadw dysgwyr yn ddiogel.


Arwain a gwella

Roedd arweinyddiaeth effeithiol yn gyffredin, gyda diwylliannau cymunedol cryf a gweledigaethau clir. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion, roedd newidiadau diweddar mewn arweinyddiaeth yn effeithio ar brosesau sicrhau ansawdd, gan arwain at ddiffyg gwerthusiadau cadarn o effeithiolrwydd addysgu ac anghenion dysgu ychwanegol.

Nid oedd gan y rhan fwyaf o ysgolion ddiwylliant neu brosesau sicrhau ansawdd cynhwysfawr, a oedd yn effeithio ar ddealltwriaeth arweinwyr o gryfderau a meysydd i’w gwella. Nid oedd prosesau rheoli perfformiad mewn ychydig o ysgolion yn ystyried effeithiolrwydd addysgu yn ddigonol. Yn gyffredinol, roedd cyfleoedd dysgu proffesiynol yn cael eu darparu ar gyfer staff, gydag enghreifftiau nodedig o raglenni datblygu cryf a oedd yn cysylltu’n dda â blaenoriaethau gwella ysgolion. Yn Ysgol Bryn Tirion Hall, er enghraifft, adroddom ar eu cydweithrediad effeithiol â gweithwyr clinigol proffesiynol ac ysgolion eraill i wella medrau staff a datblygu cwricwlwm newydd. Fodd bynnag, ychydig iawn o ysgolion â darpariaeth breswyl gysylltiedig a oedd yn darparu hyfforddiant addysgol ar gyfer staff gofal a oedd yn gweithio yn yr ysgol. 

Roedd heriau sylweddol o ran recriwtio a chadw staff cymwysedig mewn lleiafrif o ysgolion, a oedd yn effeithio ar ansawdd yr addysgu a blaenoriaethau gwella. Roedd yr amgylcheddau dysgu yn gefnogol, gan mwyaf, ac wedi’u dylunio’n dda i fodloni anghenion disgyblion unigol. Roedd gwelliannau nodedig yn cynnwys ychwanegu mannau newydd, fel ystafelloedd synhwyraidd ac orielau celf. Fodd bynnag, roedd ychydig o ysgolion yn wynebu problemau difrifol â’u hamgylcheddau dysgu, gan arwain at bryderon diogelu a oedd yn mynnu camau gweithredu yn ddi-oed.


Gweithgarwch dilynol

Yn 2023-2024, roedd cyfran uwch o ysgolion yn cydymffurfio â’r Rheoliadau o gymharu â’r flwyddyn academaidd flaenorol. Ym mwyafrif yr ysgolion nad oeddent yn cydymffurfio, nid oedd profiadau dysgu yn cyfateb yn ddigon da i anghenion disgyblion, yn enwedig y rhai sydd â CDUau. Methodd ychydig o ysgolion i fodloni’r safonau o ran sicrhau addasrwydd staff a methodd ychydig iawn ohonynt i fodloni’r safonau o ran darparu gwybodaeth.

Lle’r oedd ysgolion yn methu cydymffurfio â’r holl Reoliadau, roedd diffygion allweddol hefyd yn ymwneud ag ansawdd yr addysg a’r addysgu. Er nad yw’r Rheoliadau’n ymdrin yn benodol ag arweinyddiaeth, roedd gwendidau mewn arweinyddiaeth ysgolion, diffyg goruchwyliaeth strategol a diffyg sicrwydd ansawdd cadarn yn nodweddion allweddol yn niffygion yr ysgolion hyn. 

Ar hyn o bryd, mae cyfanswm o naw o ysgolion (19.1%) nad ydynt yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 ac mewn categori gweithgarwch dilynol.


Trosolwg argymhellion

Yn y flwyddyn academaidd 2023-2024, arolygodd Estyn 12 o ysgolion arbennig annibynnol.

Rhoddwyd argymhelliad i 11 (91.7%) o ddarparwyr sefydlu neu fireinio eu prosesau sicrhau ansawdd a chynllunio gwelliant, ac roedd 7 ohonynt yn argymell canolbwyntio ar gynnydd disgyblion.

Cafodd saith darparwr (58.3%) argymhelliad i gydymffurfio’n llawn â Rheoliadau ISS (Cymru) 2003, a rhoddwyd argymhelliad i un i sicrhau bod anghenion dysgu ychwanegol disgyblion yn cydymffurfio â’u categori cofrestru.

Cafodd pedwar darparwr (43.3%) argymhelliad i gryfhau neu ddatblygu eu cwricwlwm, naill ai i wella’r ddarpariaeth ar gyfer addysg gyrfaoedd, ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol (SMSC) ac addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh), i gefnogi disgyblion i ddilyn eu dysgu dymunol. llwybrau, sicrhau bod rhaglenni astudio yn cael eu cefnogi gan gynlluniau gwaith ac asesu priodol i ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion yn gynyddol, neu i ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu mewn cyd-destunau bywyd go iawn a dilyn eu llwybrau dysgu dymunol.

Argymhellwyd tri darparwr i gryfhau’r rheolaeth ar ddiogelu a mynd i’r afael â diffygion a nodwyd yn ystod yr arolygiad.

Rhoddwyd argymhelliad i dri darparwr gryfhau’r cynllunio i wella datblygiad medrau disgyblion.

Rhoddwyd argymhelliad i dri darparwr i fireinio rolau a chyfrifoldebau staff.

Rhoddwyd argymhelliad i ddau ddarparwr wella ansawdd yr addysgu.


Cyfeiriadau

Llywodraeth Cymru (2022) Cadw dysgwyr yn ddiogel: Rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion annibynnol o dan Ddeddf Addysg 2002. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Ar gael ar-lein: Cadw dysgwyr yn ddiogel (llyw.cymru) (Cyrchwyd 4 Hydref 2024)