Ysgolion arbennig a gynhelir
Adroddiad sector 2023 - 2024
Ysgolion
39
Nifer yr ysgolion 2024
39
Nifer yr ysgolion 2023
40
Nifer yr ysgolion 2022
Disgyblion
6,025
Cyfanswm y disgyblion
303
Nifer y disgyblion dan 5 oed
4,772
Nifer y disgyblion 5 i 15 oed
950
Nifer y disgyblion 16 oed neu’n hŷn
45.7%
Yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (5-15 oed)
44.1%
Yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (Pob disgybl)
Gweithgarwch dilynol
Nifer mewn categori gweithgarwch dilynol ym mis Medi 2023
MA: 1
AE: 2
Nifer a dynnwyd yn 2023-2024
AE: 2
Nifer a roddwyd mewn categori gweithgarwch dilynol ar ôl arolygiad craidd yn 2023-2024
GS: 1
AE: 1
Cyfanswm mewn categori gweithgarwch dilynol ym mis Awst 2024
MA: 1
GS: 1
AE: 1
Arolygiadau craidd
Nifer yr arolygiadau: 10
Cyfrwng Cymraeg: 1
Cyfrwng Saesneg: 9
Astudiaethau achos
Nifer yr astudiaethau achos y gofynnwyd amdanynt: 4
Wedi’u cyhoeddi ar y wefan: 6
Ymweliadau ymgysylltu
Crynodeb
At ei gilydd, roedd ysgolion arbennig a gynhelir yn parhau i ddarparu addysg effeithiol iawn i ddisgyblion ag ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol. Roedd y gofal, cymorth ac arweiniad a ddarparwyd gan y sector yn gryfder penodol o hyd ac yn cael eu hategu gan berthnasoedd cryf rhwng staff a disgyblion a oedd wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a pharch tuag at ei gilydd. Dros amser, gyda chymorth sensitif a medrus gan staff, roedd bron pob un o’r disgyblion yn dysgu i groesawu amrywiaeth a thrin ei gilydd â goddefgarwch. Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd priodol, o leiaf, o ran datblygu ystod o fedrau ac roedd disgyblion hŷn yn cael cymorth cadarn i fanteisio ar gwricwlwm ehangach, gan gynnwys profiadau galwedigaethol a phrofiadau’n gysylltiedig â gwaith sy’n arwain at achrediadau cydnabyddedig. At ei gilydd, roedd arweinyddiaeth yn gryfder o hyd ac roedd yn arbennig o gryf mewn lleiafrif o ysgolion.
Addysgu a dysgu
Roedd gan y rhan fwyaf o ysgolion arbennig ddisgwyliadau uchel ar gyfer pob disgybl ac roedd gan staff ddealltwriaeth ragorol o’u hanghenion. Roedd hyn yn meithrin perthnasoedd cryf a pharchus rhwng staff a disgyblion, a oedd yn cael effaith gadarnhaol ar eu cynnydd, eu hagweddau at ddysgu a’u lles cyffredinol.
Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd priodol o gymharu â’u mannau cychwyn. Roedd llawer o ysgolion arbennig yn sicrhau bod eu systemau cyfathrebu yn cyfateb yn dda i anghenion disgyblion, gan roi hwb i’w hyder a gwella eu medrau cyfathrebu. Fodd bynnag, nid oedd ychydig o ysgolion yn cynllunio’n ddigon da i ddisgyblion ddatblygu medrau ysgrifennu.
Roedd llawer o ddisgyblion yn datblygu medrau rhifedd yn dda, gan ddefnyddio gweithrediadau mathemategol yn fwyfwy hyderus. Roeddent yn trin data ac yn cyflwyno gwybodaeth mewn graffiau a thablau. Dros gyfnod, roeddent yn defnyddio eu medrau rhifedd yn fuddiol mewn cyd-destunau go iawn fel cyfrifo amseroedd teithio, cyllidebu a chyfrifo newid.
Roedd llawer o ddisgyblion yn datblygu eu medrau digidol yn addas. Roedd disgyblion ag anghenion cymhleth yn defnyddio llechi cyfrifiadurol a dyfeisiau eraill i gyfathrebu’n fwyfwy hyderus. Roeddent yn dysgu am chwith a’r dde ac yn gwneud marciau â phin ysgrifennu ar y sgrin i nodi’r cyfeiriad teithio. Roedd disgyblion mwy abl yn mewngofnodi i ddyfeisiau, yn creu negeseuon e-bost, yn ymchwilio ar-lein ac yn cyflwyno data mewn graffiau a thablau. Ar ben hynny, roedd disgyblion yn creu fideos a chodau QR ac roedd rhai hyd yn oed yn paratoi sgriptiau ac yn cyflwyno ar orsaf radio leol.
Roedd llawer o ddisgyblion yn datblygu eu medrau Cymraeg yn briodol, gan adnabod geiriau cyffredin, dyddiau’r wythnos a lliwiau, cyfarch pobl yn hyderus a dilyn cyfarwyddiadau yn yr iaith honno. Nid oedd ychydig o ysgolion yn darparu digon o gyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o ddiwylliant a threftadaeth Cymru.
Roedd gan ychydig iawn o ysgolion arbennig gryfderau nodedig ym medrau creadigol, corfforol a digidol disgyblion. Nodom fod medrau creadigol disgyblion yn Ysgol Maes Y Coed, er enghraifft, yn gryfder arbennig.
Roedd disgyblion yn datblygu medrau annibyniaeth gwerthfawr, o reoli gwaith ysgol i dasgau bywyd ymarferol fel cyllidebu a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Roedd ysgolion yn cydweithio’n gynyddol â cholegau addysg bellach lleol, gyda thua thraean ohonynt yn sefydlu canolfannau lloeren yn y colegau hyn. Roedd y partneriaethau hyn yn galluogi disgyblion i fanteisio ar sesiynau galwedigaethol teilwredig, a oedd yn eu cefnogi i bontio i addysg bellach a oedd yn cyfateb i’w hanghenion a’u galluoedd. Ar gyfer y rhai ag anghenion mwy cymhleth, cryfhawyd cysylltiadau â cholegau arbenigol annibynnol, hefyd.
Erbyn i ddisgyblion adael yr ysgol, roedd llawer ohonynt wedi cwblhau cyrsiau academaidd a galwedigaethol, a oedd yn eu paratoi’n dda ar gyfer y cam dysgu nesaf. O ganlyniad i’r arweiniad gan eu hysgolion, roedd nifer sylweddol ohonynt yn symud ymlaen i addysg bellach. Mewn ychydig o ysgolion, gwnaeth ddisgyblion gynnydd arbennig o gryf wrth ddatblygu’r medrau hyn, a oedd yn amlwg yn gysylltiedig â chwricwlwm a oedd wedi’i gynllunio’n dda ac addysgu o ansawdd uchel. Yn Ysgol Maes Ebbw ac Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm, roedd yr addysgu yn gryfder nodedig.
Yn yr ysgolion arbennig mwyaf effeithiol, roedd sail resymegol glir i arlwy’r cwricwlwm a oedd yn cynnwys, er enghraifft, rhieni a disgyblion. Mae’r ysgolion hyn yn darparu cwricwlwm eang y mae disgyblion yn ei fwynhau. Mae staff yn creu cyfleoedd perthnasol i ddisgyblion ddylanwadu ar eu profiadau o ddydd i ddydd. Yn Ysgol Heronsbridge, er enghraifft, roedd y cwricwlwm eang, symbylol sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion wedi’i gynllunio’n gadarn ac yn cynnwys y tîm staff cyfan, disgyblion a rhieni.
Roedd angen i ychydig o ysgolion arbennig gydweithio’n well ag awdurdodau lleol i wella’r amgylchedd dysgu. Nodom fod gallu anghyson i fanteisio ar hydrotherapi. Roedd cynnydd yn nifer y disgyblion hefyd yn arwain at golli ystafelloedd arbenigol ac ardaloedd dysgu annibynnol, ac anfonom lythyr diogelu at un ysgol yn gysylltiedig â lle addasedig annigonol.
Er gwaethaf cryfderau addysgu, gwnaethom argymhellion ym mwyafrif yr ysgolion. Roedd y rhain yn ymwneud â’r angen i gynllunio’n well ar gyfer datblygu medrau, gwella’r cwricwlwm a dulliau addysgu, a lleihau amrywioldeb yn ansawdd yr addysgu.
Gofal, cymorth ac arweiniad a’u heffaith ar les disgyblion
Yn gyffredinol, roedd ysgolion arbennig yn cynnal trefniadau diogel dros ben, gan ddarparu gofal, cymorth ac arweiniad hynod effeithiol. Roedd hyn yn creu amgylchedd lle’r oedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn mwynhau’r ysgol ac yn teimlo’n ddiogel. Roedd gan bron pob ysgol ddiwylliant diogelu cryf ac roeddent yn addysgu disgyblion am ddiogelwch personol.
Roedd perthnasoedd cryf rhwng ysgolion arbennig a gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill yn sicrhau cymorth teilwredig ar gyfer anghenion unigol. Mae ymweliadau gan weithwyr iechyd proffesiynol yn golygu nad oes rhaid i ddisgyblion adael yr ysgol i fynychu apwyntiadau. Ar ben hynny, roedd llawer o ysgolion yn datblygu eu trefniadau eu hunain i gefnogi teuluoedd dros gyfnod. Mae Canolfan Lles Ysgol Hen Felin, er enghraifft, wedi gwella ymgysylltiad cymunedol trwy amrywiaeth o fentrau.
Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn olrhain ac yn cefnogi anghenion emosiynol a phresenoldeb disgyblion yn effeithiol trwy dimau staff ymroddedig a oedd yn cydweithio’n agos â rhieni, asiantaethau partner a staff yr ysgol. Gwnaethom sylwadau ffafriol iawn am ymddygiad ac agweddau bron pob un o’r disgyblion mewn ysgolion arbennig, gan nodi eu chwilfrydedd, eu cyfeillgarwch a’u balchder yn eu cyflawniadau a’u cymuned.
Er bod presenoldeb wedi gwella ar ôl y pandemig, roedd cymariaethau hanesyddol yn heriol oherwydd diffyg data cenedlaethol cyfredol ar gyfer ysgolion arbennig a gynhelir. Roedd disgyblion mewn rolau arweinyddiaeth yn ffynnu ac yn siarad yn frwdfrydig am ysgwyddo cyfrifoldebau, cymryd rhan mewn digwyddiadau ysgol a chyfrannu at elusennau lleol a chenedlaethol. Yn Ysgol Penmaes, er enghraifft, mae llais y disgybl yn gryfder yn yr ysgol.
Roedd bron pob ysgol yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddysgu am ddiwylliannau a chrefyddau amrywiol. Roedd staff mewn ysgolion arbennig yn creu amgylcheddau cynhwysol lle’r oedd disgyblion yn croesawu gwahaniaethau, yn cydnabod cryfderau eu cyd-ddisgyblion ac yn datblygu trugaredd ac empathi.
Er gwaethaf y cryfderau hyn, cafodd hanner yr ysgolion a arolygwyd argymhellion ar gyfer gwelliannau mewn gofal, cymorth, arweiniad a lles disgyblion. Mewn lleiafrif o ysgolion, nodom yr angen i ysgolion gydweithio â’u hawdurdod lleol i wella cyflwr ac addasrwydd adeiladau ysgol. Nid oedd ychydig o ysgolion yn darparu gallu digonol i fanteisio ar ddarpariaeth hydrotherapi ac roedd diffyg dealltwriaeth ynglŷn â rôl y gwasanaeth nyrsio ysgolion. Roedd hyn yn cyfyngu ar fudd y gwasanaeth i ddisgyblion a’u teuluoedd. Mewn un ysgol, nodom nad oes gan staff ddealltwriaeth ddigonol o’r rhesymau dros ymddygiad heriol ac roedd hyn, yn rhannol, yn cyfrannu at bresenoldeb gwael.
Arwain a gwella
At ei gilydd, roedd yr arweinyddiaeth mewn ysgolion arbennig a gynhelir yn nodwedd gref ym mron pob un o’r ysgolion ac yn nodwedd hynod o gryf mewn lleiafrif ohonynt. Amlygom yr arweinyddiaeth ofalgar, feddylgar, drugarog a rhagorol yn y sector hwn.
Lle’r oedd arweinyddiaeth yn arbennig o gryf, roedd arweinwyr yn sefydlu gweledigaeth glir, gytûn a oedd yn canolbwyntio ar wella deilliannau i bob disgybl. Roedd yr arweinwyr hyn yn weladwy ac angerddol dros ben, gan werthfawrogi rhieni fel partneriaid yn addysg eu plant. Roedd rolau a chyfrifoldebau’n cael eu deall yn dda ac roedd staff yn teimlo bod ffydd ynddynt a’u bod yn cael eu cefnogi yn eu datblygiad fel arweinwyr. Roedd arweinwyr effeithiol yn gwrando ar eu staff, gan feithrin teyrngarwch, ymddiriedaeth a gwella profiadau dysgu disgyblion. Roedd yr ysgolion arbennig mwyaf llwyddiannus yn datblygu hunaniaeth gymunedol gref, lle’r oedd gan ddisgyblion a staff ymdeimlad o berthyn ac roeddent yn ffynnu mewn diwylliant cefnogol.
At ei gilydd, roedd gan arweinwyr a llywodraethwyr ddealltwriaeth ddofn o’u hysgolion ac roeddent yn cynnal systemau i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella. Roedd llywodraethwyr yn gweithredu’n effeithiol fel cyfeillion beirniadol i benaethiaid. Roedd hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yn gadarn yn yr ysgolion mwyaf effeithiol, gan ganolbwyntio ar wella addysgu, dysgu a deilliannau disgyblion.
Roedd arweinwyr yn creu cyfleoedd i staff arloesi ac yn darparu dysgu proffesiynol gwerthfawr, yr oedd staff yn ei werthfawrogi; roedd Ysgol Heronsbridge yn arbennig o gryf yn y maes hwn.
Roedd arweinwyr yn defnyddio grantiau datblygu disgyblion yn effeithiol, gan gael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb a lles. Fodd bynnag, roedd argymhellion ym mwyafrif yr ysgolion yn ymwneud yn bennaf â gwelliannau i hunanwerthuso a chynllunio. Roedd pryderon yn cynnwys casglu tystiolaeth ansicr neu ddadansoddi gwybodaeth yn annigonol ac, mewn ychydig o ysgolion, nid oedd cyrff llywodraethol yn cefnogi penaethiaid nac yn eu dwyn yn atebol yn effeithiol.
Gweithgarwch dilynol
Rhoddwyd dwy ysgol a arolygwyd yn ystod y flwyddyn academaidd hon mewn categori gweithgarwch dilynol.
Mae tair ysgol mewn categorïau gweithgarwch dilynol ar hyn o bryd. Mae un ysgol yn y categori mesurau arbennig o hyd a bu yn y categori hwn ers ei harolygiad craidd yn 2022. Mae wedi cael ei monitro bob tymor a chanfuwyd y bu cynnydd yn annigonol i’w thynnu o’r categori mesurau arbennig. O’r ysgolion sy’n weddill, mae angen gwelliant sylweddol ar un ac mae’r llall yn adolygiad Estyn.
Canfuwyd bod dwy ysgol a roddwyd yn y categori adolygu gan Estyn yn 2023, wedi gwneud cynnydd digonol i’w thynnu o’r categori gweithgarwch dilynol.
Trosolwg argymhellion
- Yn y flwyddyn academaidd 2023 – 2024, arolygodd Estyn 10 ysgol arbennig a gynhelir.
- Rhoddwyd argymhelliad i 5 ysgol ynghylch gwella neu gryfhau eu hunanarfarnu a’u cynllunio ar gyfer gwelliant.
- Rhoddwyd argymhelliad i 3 ysgol ynghylch darparu cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu sgiliau, fel ysgrifennu, byw’n annibynnol, a medrau llythrennedd.
- Cafodd dwy ysgol argymhelliad i wella presenoldeb.
- Argymhellwyd dwy o’r ysgolion gwannach i gryfhau neu wella addysgu.
- Rhoddwyd argymhelliad am arweinyddiaeth i ddwy ysgol.
- Roedd argymhellion eraill yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid, mynd i’r afael â phryderon diogelu, cryfhau rôl y corff llywodraethu, a chryfhau prosesau asesu.