Addysg Gychwynnol Athrawon – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Addysg Gychwynnol Athrawon

Mewnwelediadau Cynnar 2024-2025



Dysgu

Dangosodd llawer o athrawon dan hyfforddiant ymrwymiad i’w hastudiaethau gan feithrin perthnasoedd cadarnhaol a chyfathrebu’n effeithiol. Dangoson nhw fedrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol addas, a chynnydd da wedi’i nodi mewn datblygu’r iaith Gymraeg a rheoli llwyth gwaith. Fodd bynnag, roedd eu cynnydd yn aml yn gyfyngedig gan ansawdd lleoliadau anghyson, medrau cynllunio gwan, gorddibyniaeth ar ddeunyddiau presennol, a gallu heb ei ddatblygu’n ddigonol i gysylltu damcaniaeth gydag ymarfer neu gefnogi disgyblion i gymhwyso medrau trawsgwricwlaidd yn effeithiol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Dangosodd y rhan fwyaf o athrawon dan hyfforddiant ymrwymiad i dwf personol a phroffesiynol.
  • Adeiladodd llawer o fyfyrwyr berthnasoedd cefnogol gyda mentoriaid, tiwtoriaid, cyfoedion a staff yr ysgol.
  • Roedd llawer yn gyfathrebwyr da ar y cyfan , gan roi esboniadau strwythuredig a chyfarwyddiadau clir.
  • Roedd mwyafrif yn modelu dysgu’n dda ar gyfer disgyblion.
  • Roedd gan lawer o fyfyrwyr fedrau llythrennedd personol, rhifedd a digidol addas.
  • At ei gilydd, gwnaeth myfyrwyr sy’n dysgu Cymraeg gynnydd da a datblygon nhw ddealltwriaeth addas o ddatblygu medrau iaith Gymraeg disgyblion.
  • Rheolodd llawer o athrawon dan hyfforddiant eu llwyth gwaith yn addas, yn enwedig lle’r oedd cynllunio aseiniadau wedi’i integreiddio’n dda â dysgu yn yr ysgol.

Beth sydd angen ei wella

  • Roedd cynnydd athrawon dan hyfforddiant yn rhy ddibynnol ar ansawdd eu hysgolion lleoliad; er enghraifft, roedd dealltwriaeth myfyrwyr o ddysgu sylfaenol wedi’i chyfyngu gan ddiffyg cyfle i arsylwi arfer effeithiol, neu roedd arfer ysgol gwannach yn parhau â chamsyniadau am y Cwricwlwm i Gymru.
  • At ei gilydd, mae datblygiad medrau cynllunio myfyrwyr yn ddiffyg cyffredin, gyda llawer yn methu â nodi amcanion dysgu clir. Roedd gan fwyafrif o athrawon dan hyfforddiant ddiffyg dealltwriaeth o gynllunio gwersi effeithiol ac roeddent yn aml yn rhy ddibynnol ar gynlluniau cyhoeddedig neu gynlluniau ysgol a oedd yn cyfyngu ar eu creadigrwydd.
  • Nid oedd gallu llawer o fyfyrwyr i gefnogi disgyblion i gymhwyso’r medrau llythrennedd, rhifedd a medrau digidol ar draws y cwricwlwm wedi’i ddatblygu’n ddigonol.
  • Roedd y graddau y datblygodd athrawon dan hyfforddiant medrau iaith Gymraeg y disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn rhy amrywiol.
  • Roedd gan ychydig o athrawon dan hyfforddiant wendidau yn eu medrau personol mewn llythrennedd a rhifedd.
  • Roedd gwerthusiadau mwyafrif y myfyrwyr ac athrawon yn aml yn ddisgrifiadol yn hytrach nag yn werthusol, gyda dadansoddiad cyfyngedig o effaith yr addysgu ar gynnydd disgyblion.
  • Nid yw mwyafrif o fyfyrwyr yn gwneud cysylltiadau digon cryf rhwng theori ac ymarfer i wella eu haddysgu eu hunain.
  • Nodwyd anawsterau cynyddol athrawon dan hyfforddiant gyda rheoli ymddygiad wrth i bolisïau llym o gyfnod COVID gael eu llacio.

Profiadau dysgu ac addysgu

Cynlluniodd y rhan fwyaf o bartneriaethau raglenni a oedd yn cyd-fynd â safonau SAC ac achredu, gan hyrwyddo gwerthoedd addysgu craidd yng Nghymru, arfer sy’n seiliedig ar ymchwil, a lles myfyrwyr, gyda chyfraniadau cyfoethog gan ysgolion arweiniol a pherthnasoedd cryf rhwng tiwtor a mentor. Fodd bynnag, roedd anghysondebau yn ansawdd yr addysgu a’r mentora, cysylltiadau gwan rhwng theori ac arfer, ac aliniad cyfyngedig rhwng elfennau prifysgol ac ysgol yn llesteirio gallu myfyrwyr i ymgysylltu’n llawn â Chwricwlwm Cymru, a myfyrio arno.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Dangosodd y rhan fwyaf o bartneriaethau ymrwymiad clir i ddylunio rhaglenni i fodloni safonau SAC ac achredu.
  • Roedd llawer o raglenni wedi’u hategu gan fframweithiau cysyniadol a oedd, yn yr achosion gorau, yn rhoi cyfeiriad strategol.
  • Roedd y rhan fwyaf o raglenni’n hyrwyddo gwerthoedd craidd bod yn athro yng Nghymru yn dda.
  • Roedd llawer o raglenni wedi’u gwreiddio mewn ymarfer a lywiwyd gan ymchwil.
  • Darparodd llawer o raglenni brofiadau dysgu defnyddiol, gan gefnogi dealltwriaeth athrawon dan hyfforddiant o Gwricwlwm Cymru.
  • Cyfoethogodd cyfraniadau gan ysgolion arweiniol wybodaeth athrawon dan hyfforddiant yn fuddiol.
  • Roedd llawer o raglenni’n darparu cyfleoedd pwrpasol wedi’u teilwra i ddatblygu medrau iaith Gymraeg yr athrawon dan hyfforddiant.
  • Gosododd llawer o bartneriaethau pwyslais cryf ar lesiant athrawon dan hyfforddiant.
  • Roedd yna brosesau addas ar draws llawer o bartneriaethau ar gyfer olrhain cynnydd athrawon dan hyfforddiant.
  • Roedd perthnasoedd parchus a chefnogol rhwng athrawon dan hyfforddiant a thiwtoriaid/mentoriaid mewn llawer o achosion.
  • Dangosodd llawer o diwtoriaid wybodaeth dda am y pwnc a’r cyfnod.
  • Roedd yr ychydig diwtoriaid mwyaf effeithiol yn modelu addysgu, yn cysylltu theori ag ymarfer, ac yn annog meddwl beirniadol.

Beth sydd angen ei wella

  • At ei gilydd, nid yw athrawon dan hyfforddiant bob amser yn datblygu’r ddealltwriaeth feirniadol, y medrau ymarferol a’r hyder proffesiynol sydd eu hangen i addysgu’n annibynnol ac yn effeithiol erbyn diwedd eu hyfforddiant.
  • Yn y rhan fwyaf o raglenni, nid oedd y cysylltiadau rhwng theori ac ymarfer yn yr ystafell ddosbarth wedi’u datblygu’n ddigonol.
  • Mewn llawer o bartneriaethau, ni chefnogwyd athrawon dan hyfforddiant i gofnodi a myfyrio’n systematig ar eu datblygiad.
  • Nid oedd cyfleoedd i archwilio gwahanol fodelau o ddylunio cwricwlwm neu i gael dealltwriaeth lawn o Gwricwlwm i Gymru wedi’u datblygu’n ddigonol ar draws llawer o raglenni.
  • Roedd diffyg cydlyniant rhwng gwahanol elfennau’r rhaglenni yn wendid a oedd yn digwydd dro ar ôl tro ar draws llawer o bartneriaethau. Er enghraifft, yn aml roedd diffyg aliniad rhwng cydrannau prifysgol ac ysgol.
  • Mewn lleiafrif o bartneriaethau, nid oedd profiadau dysgu i ddatblygu gwybodaeth am bynciau ac addysgeg mewn rhaglenni cynradd ac uwchradd yn cefnogi myfyrwyr yn ddigon da i ddatblygu a dyfnhau’r medrau hyn.
  • Collwyd cyfleoedd i gysylltu meysydd dysgu a chefnogi dealltwriaeth athrawon dan hyfforddiant o gynnydd disgyblion mewn medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.
  • Roedd gormod o anghysondeb yn ansawdd yr addysgu a’r mentora.
  • Nid oedd llawer o fentoriaid yn ymwybodol o gynnwys sesiynau prifysgol, a oedd yn cyfyngu ar eu gallu i gefnogi datblygiad myfyrwyr.

Arweinyddiaeth

Dangosodd llawer o bartneriaethau weledigaeth gref, gyffredin a oedd yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol, gyda strwythurau arweinyddiaeth gydweithredol ac ymrwymiad clir i ddysgu proffesiynol a datblygiad sy’n seiliedig ar ddata. Fodd bynnag, roedd gwendidau’n parhau wrth weithredu arweinyddiaeth ar y cyd, gydag atebolrwydd aneglur, gorddibyniaeth ar gyfarwyddwyr AGA, a phrosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant heb eu datblygu’n ddigonol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Roedd gan lawer o bartneriaethau weledigaeth glir, wedi’i chyfleu’n dda, wedi’i halinio â blaenoriaethau cenedlaethol.
  • Mewn llawer o bartneriaethau, cyd-luniwyd a rhannwyd y weledigaeth ar gyfer AGA rhwng staff y brifysgol a staff yr ysgol.
  • Mewn llawer o bartneriaethau roedd strwythurau arweinyddiaeth rhesymegol gyda rolau a chyfrifoldebau wedi’u rhannu rhwng staff y brifysgol a’r ysgol.
  • Datblygodd mwyafrif y partneriaethau systemau data addas i olrhain cynnydd a chanlyniadau myfyrwyr. Mewn ychydig o achosion, helpodd y systemau hyn i arwain penderfyniadau strategol.
  • Roedd yna ymrwymiad cryf ar draws partneriaethau i ddysgu proffesiynol a datblygiad sy’n seiliedig ar ymchwil.
  • Roedd llawer o bartneriaethau’n datblygu eu dulliau o ddysgu proffesiynol ar gyfer mentoriaid.

 

Beth sydd angen ei wella

  • Er gwaethaf strwythurau llywodraethu, mae llawer o bartneriaethau wedi cael trafferth gweithredu arweinyddiaeth ar y cyd yn ymarferol.
  • Mewn llawer o bartneriaethau, roedd llinellau atebolrwydd a chyfrifoldebau gwneud penderfyniadau yn aneglur.
  • Yn y rhan fwyaf o bartneriaethau, roedd gormod o gyfrifoldeb yn cael ei roi ar Gyfarwyddwr yr AGA, ac roedd diffyg arweinyddiaeth ddosbarthedig yn gwneud strwythurau arweinyddiaeth yn fregus ac yn anghynaladwy.
  • Roedd prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yn parhau i fod yn wendid ar draws y rhan fwyaf o bartneriaethau, gyda diffyg defnydd effeithiol o dystiolaeth uniongyrchol.
  • Yn y rhan fwyaf o bartneriaethau, roedd diffyg manwl gywirdeb, miniogrwydd a meini prawf llwyddiant mesuradwy yn y cynllunio ar gyfer gwelliant.
  • Mae datblygu mentoriaid wedi bod yn her i bob partneriaeth. Mewn llawer o bartneriaethau, roedd datblygu mentoriaid yn canolbwyntio gormod ar gyfrifoldebau gweinyddol yn hytrach na medrau mentora. Ychydig o gyfleoedd oedd i fentoriaid rannu arfer effeithiol.

Trosolwg o’r argymhellion:

Derbyniodd pob partneriaeth argymhelliad i wella agweddau ar ddylunio rhaglenni, gan gynnwys cydlyniant, dilyniant a dilyniant profiadau dysgu. Mae’r argymhellion hyn yn adlewyrchu’r angen i bartneriaethau sicrhau bod athrawon dan hyfforddiant yn datblygu eu gwybodaeth, eu medrau a’u dealltwriaeth mewn ffordd fwy integredig a datblygiadol ar draws cyd-destunau prifysgol ac ysgol.

Cafodd bron pob partneriaeth (chwech allan o saith) argymhelliad i wella ansawdd a chysondeb addysgu a mentora. Roedd y rhain fel arfer yn canolbwyntio ar sicrhau bod athrawon dan hyfforddiant yn elwa o fodelu arfer effeithiol, adborth datblygiadol clir, a dull cydlynol ar draws y bartneriaeth.

Cynghorwyd bron pob un (chwech allan o saith) hefyd i gryfhau prosesau hunan arfarnu a chynllunio gwelliant, yn enwedig mewn perthynas â sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio i nodi blaenoriaethau a gyrru gwelliant ar draws y bartneriaeth. Yn ogystal, derbyniodd mwyafrif y partneriaethau argymhelliad i gryfhau agweddau ehangach ar arweinyddiaeth, llywodraethu ac atebolrwydd. Roedd y rhain yn cynnwys egluro cyfeiriad strategol, gwella arweinyddiaeth ar y cyd rhwng ysgolion a phrifysgolion, a sicrhau bod arweinyddiaeth ar bob lefel yn effeithiol wrth yrru gwelliant.

Ar draws y partneriaethau, amlygodd argymhellion yr angen i gryfhau medrau a gwybodaeth athrawon dan hyfforddiant mewn meysydd allweddol sy’n hanfodol ar gyfer addysgu effeithiol , megis deall addysgeg cyfnodau a phynciau, a gwella cynllunio gwersi. Mewn llawer o achosion, nododd canfyddiadau’r arolygiad yr angen i ddatblygu medrau myfyrio beirniadol athrawon dan hyfforddiant a’u cefnogi i wneud cysylltiadau mwy ystyrlon rhwng theori ac ymarfer.


Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod yr arolygiad

Partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon Caerdydd:

Adroddiad arolygu:

Integreiddio gwerthfawr ymchwil ac ymholi drwy gydol y rhaglen

Adroddiad arolygu:

Cefnogaeth y bartneriaeth i lesiant myfyrwyr