Colegau Arbenigol Annibynnol
Mewnwelediadau Cynnar 2024-2025
Addysgu a dysgu
Mae bron pob dysgwr mewn colegau arbenigol annibynnol yn gwneud cynnydd cadarn tuag at eu targedau ac yn dangos agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu. Mae staff yn cynllunio sesiynau sy’n datblygu medrau dysgwyr ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol, er enghraifft trwy brofiad gwaith yn y gymuned.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae bron pob dysgwr yn dangos agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu.
- Mae bron pob dysgwr yn gwneud cynnydd cadarn tuag at eu targedau unigol ac yn datblygu ystod o fedrau perthnasol sy’n eu paratoi’n addas ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol.
- Mae staff yn datblygu dealltwriaeth gadarn o anghenion a dyheadau eu dysgwyr ar gyfer y dyfodol; maent yn defnyddio’r wybodaeth hon yn addas i gynllunio ar gyfer cynnydd.
- Mae’r cwricwlwm yn cynnwys ystod o weithgareddau cymunedol difyr i ddatblygu medrau byw yn annibynnol dysgwyr ac mae’n cysylltu’n briodol â chyrchfan arfaethedig pob dysgwr.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn un coleg, nid oes digon o sylw i sut mae cynnwys pwnc yn cael ei gyflwyno; er enghraifft, yn rhy aml mae dysgwyr yn cwblhau tasgau lefel isel fel torri a gludo papur, sydd ddim yn cefnogi datblygiad cynyddol eu hannibyniaeth, eu medrau na’u dealltwriaeth.
Llesiant, gofal, cefnogaeth ac arweiniad
Mae darparwyr yn darparu cefnogaeth gref i lesiant, gofal ac arweiniad dysgwyr. Mae staff yn datblygu perthnasoedd cadarnhaol iawn gyda dysgwyr, gyda llais y dysgwr a diogelu wrth wraidd eu gwaith. Mae darpariaeth ddysgu ychwanegol darparwyr yn diwallu ystod eang o anghenion dysgwyr yn dda. Fodd bynnag, mewn un coleg, mae cefnogaeth i gyfathrebu â dysgwyr yn anghyson.
Beth sy’n mynd yn dda
- Ym mhob coleg, mae staff yn datblygu perthnasoedd cadarnhaol iawn, sy’n parchu ei gilydd, gyda dysgwyr yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn o’u hanghenion.
- Mae trefniadau cadarn ar waith i gasglu adborth ar brofiadau dysgwyr; o ganlyniad, mae dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwrando ac yn ymddiried bod staff yn ystyried eu llais.
- Ym mhob coleg a arolygwyd gennym, mae trosolwg clir o’u darpariaeth dysgu ychwanegol, gan gynnwys cymhareb staffio uchel, goruchwyliaeth gan therapyddion, a dysgu proffesiynol i staff ar bynciau gan gynnwys diwallu anghenion synhwyraidd.
- Ar draws pob coleg, roedd gan arweinwyr ffocws cryf ar ddiogelu dysgwyr.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn un coleg, mae systemau cyfathrebu, fel adnoddau â symbolau neu arwyddo, yn cael eu defnyddio’n anghyson.
Arwain a gwella
Mae gan arweinwyr mewn colegau arbenigol annibynnol weledigaethau a gwerthoedd clir i arwain eu gwaith. Maent yn datblygu timau staff ymroddedig sy’n cydweithio’n dda i gefnogi dysgwyr. Mae gan ddau goleg systemau hunan arfarnu cadarnhaol i ysgogi gwelliannau. Fodd bynnag, nid yw un coleg yn gyson yn gwerthuso effaith gwelliannau arfaethedig ar ddysgwyr.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae gan arweinwyr weledigaeth a gwerthoedd clir ar gyfer eu coleg, gyda dysgwyr wrth wraidd eu gwaith; maent yn datblygu timau staff ymroddedig sy’n cydweithio’n gadarnhaol i ddiwallu anghenion amrywiol dysgwyr.
- Mewn dau o’r tri choleg, mae arweinwyr yn defnyddio fframwaith hunan arfarnu pwrpasol sy’n cwmpasu pob agwedd ar y ddarpariaeth ac yn canolbwyntio ar gyd-destunau amrywiol dysgwyr; o ganlyniad, mae gan arweinwyr a staff ddealltwriaeth gref o gryfderau’r coleg a’r meysydd i’w datblygu i bennu targedau gwella ystyrlon.
- Roedd cynnig dysgu proffesiynol cydweithredol arbennig o gryf mewn un coleg.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn un o bob tri o’r colegau a arolygwyd gennym, roedd amgylcheddau dysgu yn rhwystro datblygiad annibyniaeth dysgwyr.
Mewn un coleg, nid oedd arweinwyr yn gwerthuso effaith mentrau newydd ar addysgu a dysgu yn gyson ac yn addasu arfer mewn modd amserol.
Mewn un coleg, mae cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n ymwneud ag addysgu yn gyfyngedig.
Trosolwg o argymhellion o arolygiadau
- O fewn y sector hwn, dim ond argymhellion ar gyfer ymweliadau monitro ac arolygiadau craidd yr ydym yn eu gadael. Ar draws yr holl weithgaredd arolygu yn 2024-2025, gwnaethom adael cyfanswm o bum argymhelliad. Gadawyd dau allan o dri darparwr a arolygwyd gennym gydag argymhellion.
- Rhoddwyd argymhellion i’r ddau ddarparwr yn ymwneud ag addysgu a dysgu. Canolbwyntiodd y rhain ar ansawdd targedau dysgwyr a mireinio’r dulliau o gyflwyno gwersi.
- Gadawon ni un darparwr gydag argymhelliad yn ymwneud â gofal, cefnogaeth ac arweiniad. Roedd hyn yn ymwneud â chryfhau’r defnydd o ddulliau cyfathrebu, gan gynnwys arwyddo ar draws y coleg.
- Gadawyd dau ddarparwr gydag o leiaf un argymhelliad yn ymwneud ag arwain a gwella. Roedd y rhain yn ymwneud ag ansawdd yr amgylchedd dysgu a defnyddio canlyniadau hunan arfarnu i ysgogi gwelliannau.
Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod yr arolygiad
Coleg Elidyr
Adroddiad arolygu: Coleg Elidyr
Cystadlaethau medrau / Dull cyfathrebu cyflawn / Darpariaeth Gymraeg / Dysgu proffesiynol