Cymraeg i Oedolion
Mewnwelediadau Cynnar 2024-2025
Fe wnaethon ni gynnal arolygiad llawn o un darparwr Dysgu Cymraeg ac ymweld â phum darparwr Dysgu Cymraeg arall fel rhan o’n harolygiad thema hydredol cyntaf. Gwerthusodd yr arolygiad thema ddarpariaeth helaeth y sector ar gyfer Dysgu Cymraeg, sy’n cael ei chydlynu gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg ac yn cael ei chyflwyno gan ddarparwyr Dysgu Cymraeg. Nod y rhaglen Cymraeg Gwaith yw, trwy hyfforddiant hyblyg ac wedi’i ariannu’n llawn i gyflogwyr, cryfhau a thyfu medrau iaith Gymraeg mewn gweithleoedd a sectorau allweddol ledled Cymru.
Addysgu a dysgu
Mae addysgu yn y sector wedi’i gynllunio’n dda ac yn galluogi dysgwyr i gaffael medrau iaith a ddefnyddir yn naturiol mewn cyd-destunau personol, cymdeithasol a gwaith yn llwyddiannus.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae gan y rhan fwyaf o diwtoriaid ddisgwyliadau uchel o’u dysgwyr. Maent yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu medrau iaith, yn enwedig trwy ymestyn eu medrau siarad a’u hannog i greu iaith yn annibynnol. O ganlyniad, mae llawer o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cryf.
- Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn frwdfrydig iawn ac yn cymryd rhan yn gadarnhaol. Maent yn mwynhau eu sesiynau ac yn datblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu a manteision dysgu Cymraeg a dwyieithrwydd.
- Yn y rhan fwyaf o sesiynau, mae tiwtoriaid yn addasu ac yn teilwra sesiynau i ddiwallu anghenion proffesiynol a chymdeithasol dysgwyr.
- Mewn rhaglenni Cymraeg Gwaith, mae’r cysylltiad rhwng addysgu a dysgu a chynllunio ieithyddol ar ei orau pan fydd tiwtoriaid arbenigol llawn amser yn gweithio’n strategol o fewn sectorau penodol fel iechyd, chwaraeon ac awdurdodau lleol.
- Mae dysgwyr yn gwneud y cynnydd cryfaf tuag at gynyddu a normaleiddio eu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle yn llwyddiannus pan fydd darpariaeth Cymraeg Gwaith yn canolbwyntio’n strategol ar ddysgwyr ar lefel ganolradd ac uwchlaw neu siaradwyr rhugl sy’n brin o hyder ac sy’n amharod i ddefnyddio eu Cymraeg mewn cyd-destunau gwaith.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn lleiafrif o wersi Cymraeg Gwaith, nid yw tiwtoriaid yn teilwra cynnwys y cwrs yn ddigon effeithiol a chyson i sicrhau ei fod yn ddigon perthnasol i anghenion dysgwyr sy’n gysylltiedig â gwaith.
- Mae mwyafrif o ddysgwyr ar raglenni Cymraeg Gwaith yn nodi nad yw eu cyflogwyr yn eu cefnogi’n ddigon da i ddefnyddio eu medrau iaith Gymraeg yn y gweithle.
Llesiant, gofal, cefnogaeth ac arweiniad
Mae tiwtoriaid a darparwyr yn sicrhau bod dysgwyr yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys a’u cefnogi yn eu dysgu. Mae’r gefnogaeth ariannol sydd ar gael i ddysgwyr ar y brif ffrwd a’r ddarpariaeth Cymraeg Gwaith am ddim yn llwyddiannus wrth leihau rhwystrau ariannol i ddarpar ddysgwyr.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae bron pob tiwtor yn sicrhau amgylchedd cadarnhaol, cynhwysol ac ysgogol.
- Mae darparwyr yn cynnig arweiniad a chymorth gwerthfawr i hyrwyddo lles a datblygiad personol dysgwyr.
- Mae cefnogaeth gref i ddysgwyr sydd angen cefnogaeth ariannol, gan gynnwys cyfraniadau tuag at gost gofal plant, teithio ac offer technegol. Nid oes unrhyw ddysgwyr prif ffrwd yn talu’r ffi lawn yn y darparwr Dysgu Cymraeg ac mae cynlluniau Gwaith Cymraeg yn rhad ac am ddim i gyflogwyr a gweithwyr.
Beth sydd angen ei wella
- Dim.
Arwain a gwella
Mae gan arweinwyr, yn genedlaethol ac yn lleol, weledigaeth glir a rennir ynghylch pwrpas eu gwaith a’u cyfraniad at gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg gweithredol mewn cyd-destunau personol a phroffesiynol.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae arweinwyr yn y darparwr Dysgu Cymraeg yn monitro perfformiad ac yn sicrhau ansawdd yn effeithiol, sy’n cael effaith gadarnhaol ar addysgu a dysgu. Maent yn gweithio’n ddiwyd gydag uwch reolwyr y sefydliad cynnal i gefnogi eu cynllunio a’u hyfforddiant iaith yn fewnol ac yn allanol.
- Mae arweinwyr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg yn dangos gweledigaeth arloesol wrth gyflwyno a datblygu cynllun Cymraeg Gwaith. Maent yn gweithio’n effeithiol iawn gyda chyflogwyr, darparwyr a rhanddeiliaid i ehangu a gwella effaith y cynllun.
- Mae’r galw cynyddol am ddarpariaeth Cymraeg Gwaith yn dangos ei bod yn gonglfaen mewn mentrau cynllunio ieithyddol i dyfu a normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg mewn sectorau allweddol.
Beth sydd angen ei wella
- Mae natur prosiect unigol a thymor byr y cyllid ar gyfer Gwaith Cymraeg gan Lywodraeth Cymru yn heriol i reolwyr yn genedlaethol ac yn lleol o ran sicrhau bod cyflogaeth ddiogel i staff a bod cynllunio strategol mor effeithiol ag y gallai fod.
- Nid yw gweithdrefnau i fesur effaith darpariaeth Cymraeg Gwaith ar newid ymddygiad iaith wedi’u datblygu’n llawn eto.
Trosolwg o argymhellion o arolygiadau
Rhoddwyd dau argymhelliad i’r darparwr Dysgu Cymraeg a arolygwyd:
A1 Cysoni’r arferion da i gefnogi dygwyr i wella eu hynganu.
A2 Parhau i ddatblygu rôl strategol y darparwr er mwyn cyfrannu’n llawn at gynllunio a hyfforddiant o fewn Prifysgol De Cymru.
Argymhellion o’r arolygiad thema
A1 Parhau i weithio gyda darparwyr Dysgu Cymraeg i sicrhau bod tiwtoriaid yn teilwra cyrsiau’n briodol at ddibenion grwpiau penodol o ddysgwyr a’u gweithleoedd ac yn ymwybodol o’r holl gefnogaeth ac adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr a’u cyflogwyr.
A2 Gweithio gyda darparwyr Dysgu Cymraeg a chyflogwyr i gynllunio datblygiad ieithyddol staff yn bwrpasol fel bod cefnogaeth ymarferol iddynt fynychu gwersi, heb gynyddu eu llwyth gwaith, ac i sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd ystyrlon i ddefnyddio eu medrau yn y gweithle.
A3 Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, cynnal ymchwil i ddatblygu model cyflawni a chyllido sy’n cefnogi cynlluniau hirdymor ac yn blaenoriaethu dysgwyr ôl-ganolradd a siaradwyr sydd â diffyg hyder.
A4 Parhau i ddatblygu dulliau o fesur effaith y ddarpariaeth ar newid ymddygiad ieithyddol unigolion yn eu gweithleoedd.
Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod yr arolygiad
Dysgu Cymraeg Morgannwg
Adroddiad arolygu: Dysgu Cymraeg Morgannwg
Darparu cyfleoedd i ddysgwyr fireinio eu medrau iaith a dysgu mwy am ddiwylliant, hanes a materion cyfoes trwy lenyddiaeth a barddoniaeth.