Cynradd – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Cynradd

Mewnwelediadau Cynnar 2024-2025



Addysgu a dysgu

Mae perthnasoedd cadarnhaol a phrofiadau dysgu sydd wedi’u cynllunio’n gynyddol dda yn sicrhau bod mwyafrif o ddisgyblion yn ymgysylltu’n hyderus ac yn gwneud cynnydd cryf mewn dysgu. Nid oes gan athrawon ddisgwyliadau digon uchel bob amser ar gyfer pob disgybl i sicrhau eu bod yn gwneud y cynnydd unigol y dylent ei wneud. Nid ydynt bob amser yn eu galluogi i ddatblygu fel dysgwyr annibynnol effeithiol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae staff yn datblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda disgyblion, gan eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u bod yn cael gwrandawiad.
  • Mae mwyafrif o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag ADY a’r rhai o gartrefi incwm isel, yn gwneud cynnydd da neu well mewn llawer o agweddau ar eu dysgu.
  • Mae tua hanner yr ysgolion yn dechrau adolygu a mireinio’r profiadau dysgu sydd ar gael i adlewyrchu nodau a dyheadau Cwricwlwm i Gymru yn llawn ac mae rhai yn darparu cyd-destunau ystyrlon ar gyfer dysgu, wedi’u cynllunio’n ofalus i ddiwallu anghenion disgyblion.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae athrawon yn cefnogi disgyblion i wella eu gwaith yn ystod gwersi.
  • Mae ychydig o ysgolion yn darparu cyfleoedd pwrpasol i ddisgyblion drafod a myfyrio ar eu cynnydd dros amser.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn lleiafrif o ysgolion, mae ansawdd yr addysgu yn parhau i fod yn amrywiol gan nad oes gan athrawon ddisgwyliadau digon uchel ac nid ydynt yn darparu lefel briodol o her i ddisgyblion mewn profiadau dysgu.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw dealltwriaeth athrawon o sut i addysgu agweddau ar y cwricwlwm i sicrhau bod disgyblion yn datblygu eu gwybodaeth a’u medrau yn gadarn.
  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw athrawon yn cefnogi disgyblion i wneud cynnydd cyson dros amser.
  • Nid yw ysgolion yn cefnogi disgyblion yn gyson i ddod yn ddysgwyr annibynnol effeithiol.

Llesiant, gofal, cefnogaeth ac arweiniad

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn sefydlu amgylcheddau cynhwysol lle mae diogelu a pherthnasoedd cadarnhaol yn helpu disgyblion i ffynnu. Nid yw lleiafrif yn mynd i’r afael â lefelau presenoldeb isel yn effeithiol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn cynnal diwylliant diogelu cryf, gan greu amgylchedd diogel a chefnogol i staff a disgyblion.
  • Mae llawer o ysgolion wedi parhau i wella lefelau presenoldeb i ddychwelyd i’r cyfraddau cyn y pandemig neu ragori arnynt.
  • Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn nodi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn gynnar ac mae llawer yn gweithio’n agos gydag asiantaethau partner i ddarparu cefnogaeth effeithiol i ddisgyblion ag ADY.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw lleiafrif o ysgolion yn mynd i’r afael ag absenoldeb parhaus yn effeithiol, yn enwedig ymhlith disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
  • Nid yw lleiafrif o ysgolion yn darparu cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion ddatblygu eu medrau arweinyddiaeth.

Arwain a gwella

Mae arweinwyr yn blaenoriaethu ymgysylltu â’r gymuned a datblygiad proffesiynol i gefnogi lles, dysgu a chynnydd disgyblion. Nid ydynt bob amser yn canolbwyntio hunanarfarnu a dysgu proffesiynol yn ddigonol ar wella ansawdd yr addysgu.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae llawer o ysgolion yn datblygu arweinwyr ar bob lefel i gryfhau’r cyfrifoldeb a rennir dros ganlyniadau disgyblion.
  • Mewn mwyafrif o ysgolion, mae gan arweinwyr ddisgwyliadau uchel ar gyfer addysgu, dysgu a lles; yn yr ysgolion hyn, mae staff yn elwa o ddiwylliant cydweithredol o welliant parhaus sy’n cynnwys dysgu proffesiynol meddylgar.
  • Mae llawer o ysgolion yn ymgysylltu’n bwrpasol â theuluoedd, gan feithrin perthnasoedd cryf sy’n cefnogi dysgu, lles a phresenoldeb disgyblion.
  • Mae arweinwyr mewn llawer o ysgolion wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar ddisgyblion ac i alinio gwelliant ysgolion ag anghenion y gymuned.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw lleiafrif o ysgolion yn canolbwyntio eu blaenoriaethau gwella ysgolion, eu gwerthusiad o berfformiad na’u dysgu proffesiynol yn ddigon craff ar ddysgu a chynnydd disgyblion, nac ar wella ansawdd yr addysgu.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw arweinwyr yn mesur effaith gwariant grantiau ar ganlyniadau disgyblion yn effeithiol dros amser.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, mae llywodraethwyr yn gefnogol ond nid ydynt yn canolbwyntio’n addas ar ddatblygiad strategol ac mae eu hymgysylltiad uniongyrchol ag addysgu a dysgu yn parhau i fod heb ei ddatblygu’n ddigonol.

Argymhellion

Yn y flwyddyn academaidd 2024-25, ymwelsom â 207 o ddarparwyr yn y sector cynradd. Rhoddwyd o leiaf 1 argymhelliad i bob darparwr, ac at ei gilydd fe wnaethom ddarparu 445 o argymhellion i ddarparwyr.

Rhoddwyd argymhelliad i 195 o ddarparwyr (94%) yn ymwneud ag addysgu a dysgu. O’r rheini, mae 16 mewn categori dilyniant.

  • Roedd gan 66 o ddarparwyr (32%) o leiaf un argymhelliad ynghylch gwella ansawdd yr addysgu neu leihau ei amrywioldeb ar draws yr ysgol er mwyn sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd
  • Roedd gan 59 o ddarparwyr (29%) argymhelliad ynghylch sicrhau lefel briodol o her ar gyfer dysgu disgyblion
  • Roedd gan 45 o ddarparwyr (22%) argymhelliad yn ymwneud â medrau dysgu annibynnol

Rhoddwyd argymhelliad i 32 o ddarparwyr (16%) yn ymwneud â lles, gofal, cefnogaeth ac arweiniad, ac mae 7 ohonynt mewn categori dilynol.

  • Derbyniodd 19 o ddarparwyr (9%) argymhelliad ynghylch gwella presenoldeb a phrydlondeb

Rhoddwyd argymhelliad i gyfanswm o 82 o ddarparwyr (40%) yn ymwneud ag arwain a gwella, ac mae 16 ohonynt mewn categori dilyniant.

  • Rhoddwyd argymhelliad i 62 o ddarparwyr (30%) yn ymwneud â datblygu neu gryfhau hunanwerthuso a gwella
  • Rhoddwyd argymhelliad i 19 o ddarparwyr (9%) ynghylch cryfhau arweinyddiaeth

At ei gilydd, ar draws y tair ardal arolygu, argymhellwyd 28 o ddarparwyr i wella presenoldeb a/prydlondeb.


Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod yr arolygiad

Addysgu a dysgu

Ysgol Gynradd Oakfield

Adroddiad arolygu: Ysgol Gynradd Oakfield

Darllenwch sut y datblygodd Ysgol Gynradd Oakfield ym Mro Morganwg gwricwlwm creadigol drwy’r celfyddydau mynegiannol a dysgu seiliedig ar ymholiad.

Ysgol Gynradd Ffynnon Taf

Adroddiad arolygu: Ysgol Gynradd Ffynnon Taf

Darllenwch sut y datblygodd Ysgol Ffynon Taf yng Nghaerdydd gyfleoedd dysgu cyfoethog a hynod ddiddorol sy’n annog disgyblion i gymhwyso eu medrau i sefyllfaoedd newydd gyda mwy o annibyniaeth.

Ysgol Esgob Morgan VCP

Adroddiad arolygu: Ysgol Esgob Morgan VCP

Adroddiad arolygu: Mae Ysgol Esgob Morgan yn Sir Ddinbych yn enghraifft dda o ysgol lle mae disgyblion yn datblygu eu medrau trawsgwricwlaidd trwy brofiadau dysgu dilys.

System Addysg Trochi Gwynedd

Adroddiad arolygu: System Addysg Trochi Gwynedd

Elwodd disgyblion yn System Addysg Trochi Gwynedd o gefnogaeth trochi Cymraeg hynod effeithiol.

Llesiant, gofal, cefnogaeth ac arweiniad

Ysgol Gynradd Llanbedrgoch

Adroddiad arolygu: Ysgol Gynradd Llanbedrgoch

Darllenwch sut mae ffocws ar gyfranogiad disgyblion wedi gwella presenoldeb yn Ynys Môn.

Arwain a Gwella

Ysgol Gynradd Newton

Darllenwch sut y cynlluniodd arweinwyr yn Ysgol Gynradd Newton ym Mhorthcawl ddysgu proffesiynol i sicrhau addysgu a dysgu o ansawdd uchel.

Ysgol Gymraeg Rhydaman

Adroddiad arolygu: Ysgol Gymraeg Rhydaman

Darllenwch sut mae Ysgol Gymraeg Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys staff a llywodraethwyr yn effeithiol mewn hunan arfarnu.