Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Mewnwelediadau Cynnar 2024-2025
Addysgu a dysgu
Mae dysgwyr yn gwneud cynnydd cadarn ac yn mwynhau eu dysgu. Yn gyffredinol, mae tiwtoriaid yn ymateb i anghenion dysgwyr yn dda er nad ydynt weithiau’n addasu eu dulliau i weddu i ddysgwyr unigol.
Beth sy’n mynd yn dda
- Yn gyffredinol, mae dysgwyr yn gwneud cynnydd cadarn o’u mannau cychwyn.
- Mae gan ddysgwyr agweddau cadarnhaol at ddysgu, maent yn mwynhau dod i ddosbarthiadau, ac mae ganddynt berthnasoedd parchus a chynhyrchiol gyda thiwtoriaid a chyd-ddysgwyr.
- Mae tiwtoriaid yn adnabod eu dysgwyr yn dda ac mae’r rhan fwyaf yn addasu eu haddysgu i ddiwallu anghenion eu dysgwyr yn dda.
- Mae’r rhan fwyaf o’r addysgu yn effeithiol ac yn helpu dysgwyr i wella eu llythrennedd, rhifedd, medrau digidol, Saesneg neu medrau eraill.
- Mae tiwtoriaid yn rhoi adborth llafar ac ysgrifenedig defnyddiol ac mae dysgwyr yn gwybod beth sydd angen iddynt wneud er mwyn gwella.
- Mae dysgwyr mewn ardaloedd naturiol ddwyieithog yn defnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u dysgu.
Beth sydd angen ei wella
- Ychydig iawn o ddysgwyr, hyd yn oed mewn ardaloedd dwyieithog naturiol, sy’n cwblhau asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Yn yr ychydig achosion lle mae addysgu yn llai effeithiol, mae tiwtoriaid yn gor-ddibynnu ar weithgareddau taflenni gwaith neu ddim yn addasu eu haddysgu i ddiwallu anghenion dysgwyr unigol yn ddigonol.
Llesiant, gofal, cefnogaeth ac arweiniad
Mae cymryd rhan mewn dysgu yn rhoi hwb i ddysgwyr o ran hyder, eu safbwyntiau a rhyngweithio cymdeithasol. Er bod partneriaethau wedi gwneud gwelliannau i’w gwefannau, nid yw bob amser yn hawdd i ddysgwyr ddod o hyd i gynnig llawn y bartneriaeth.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae dysgwyr yn gwerthfawrogi effeithiau lles dysgu yn fawr; i lawer o ddysgwyr, diffyg hyder yw eu rhwystr mwyaf i ail-ymgysylltu â dysgu – mae dysgwyr yn aml yn adrodd am gynnydd yn eu hyder, eu hagwedd a’u cymdeithasu trwy gymryd rhan mewn dysgu.
- Mae llawer o ddysgwyr yn cael mynediad at arweiniad personol a chymorth anffurfiol gan diwtoriaid, gan gynnwys cyfeirio at ddysgu pellach, cyngor gyrfaoedd a chysylltiadau ag asiantaethau allanol.
- Mewn llawer o achosion, defnyddir mecanweithiau cymorth strwythuredig fel cynlluniau dysgu unigol, cynlluniau dysgu digidol, ac offer olrhain cymorth ychwanegol yn effeithiol i fonitro cynnydd a chefnogi datblygiad dysgwyr.
Beth sydd angen ei wella
- Er bod partneriaethau wedi gwneud gwelliannau i’w gwefannau, nid ydynt bob amser yn glir i’w llywio ac nid ydynt bob amser yn dangos nac yn cysylltu â darpariaeth pob partner.
- Mae rhai dysgwyr yn gweld gwybodaeth ddigidol yn unig a phrosesau ymgeisio yn rhwystr i ymgysylltu.
- Mewn partneriaethau llai effeithiol, yn aml nid yw dysgwyr yn ymwybodol o’r ystod o opsiynau cwrs sydd ar gael iddynt i symud ymlaen neu barhau â’u dysgu.
- Mewn partneriaethau llai effeithiol, nid yw tiwtoriaid yn sicrhau bod dysgwyr yn gwybod beth sydd angen iddynt ei wneud i wella yn y tymor byr, ac yn aml mae dysgwyr yn aneglur ynghylch eu targedau tymor canolig a hirdymor.
Arwain a gwella
Mae trefniadau partneriaeth yn gwella, ac mae lleiafrif o bartneriaethau yn dechrau gwerthuso cynnydd dysgwyr gan ddefnyddio eu data eu hunain. Mae un bartneriaeth mewn sefyllfa o ‘ailosod’. ar ôl cyfnod heb waith partneriaeth effeithiol rhwng darparwyr.
Beth sy’n mynd yn dda
- Ar draws y sector, mae gwell defnydd o gytundebau partneriaeth ffurfiol yn helpu i egluro rolau a chyfrifoldebau rhwng darparwyr.
- Mae lleiafrif o bartneriaethau yn dechrau gwerthuso eu data eu hunain am y ffordd y mae dysgwyr yn symud ymlaen i mewn i’w darpariaeth, o fewn y ddarpariaeth honno a thu hwnt iddi.
- Yn gyffredinol, cynhelir hunanasesiad mewn ysbryd o onestrwydd a didwylledd, er bod cryfderau’n cael eu gorbwysleisio weithiau.
- Mae defnydd da o leoliadau cymunedol ar gyfer darpariaeth.
Beth sydd angen ei wella
- Mae un bartneriaeth mewn sefyllfa o ‘ailosod’ ar ôl cyfnod heb waith partneriaeth effeithiol rhwng darparwyr.
- Lle nad yw gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol, nid yw cynllunio darpariaeth, hunan arfarnu a chyngor ac arweiniad i ddysgwyr wedi’u datblygu’n ddigonol.
- Ar draws y sector cyfan, nid yw mwyafrif y partneriaethau yn gwerthuso cynnydd dysgwyr i mewn i’w darpariaeth, o fewn y ddarpariaeth a thu hwnt iddi.
Trosolwg o argymhellion o arolygiadau
Rydym wedi cynnal dau arolygiad craidd o bartneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac un arolygiad craidd o’r coleg addysg bellach ar gyfer dysgu oedolion yng Nghymru. O’r tri arolygiad craidd hyn, arweiniodd un at roi partneriaeth mewn camau dilynol. Gadawom gyfanswm o ddeg argymhelliad. Rydym hefyd wedi cynnal adolygiad thematig yn ymwneud â’r sector, Llythrennedd, rhifedd a medrau digidol mewn dysgu oedolion yn y gymuned [I’w gyhoeddi ym mis Medi 2025].
Cafodd dau ddarparwr (67%) argymhelliad yn perthynas ag addysgu a dysgu:
- Roedd gan y ddau ddarparwr argymhelliad yn ymwneud â chynllunio darpariaeth i ddiwallu anghenion dysgwyr a chynnig llwybrau ar gyfer dilyniant.
Roedd gan bob darparwr o leiaf un argymhelliad yn ymwneud â lles, gofal, cefnogaeth ac arweiniad . Roedd dau o’r rheiny ar gyfer y darparwr mewn dilyniant.
- Derbyniodd dau ddarparwr argymhelliad i weithredu systemau effeithiol ar draws y bartneriaeth ar gyfer cofnodi a chyfleu anghenion unigol dysgwyr a darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen.
Rhoddwyd o leiaf un argymhelliad i bob darparwr yn ymwneud ag arwain a gwella . Roedd dau o’r rheini ar gyfer y darparwr yn y dilyniant.
- Roedd gan ddau argymhelliad i wella gweithio mewn partneriaeth.
- Roedd gan un darparwr argymhelliad i wella cywirdeb hunanasesiad.
Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod yr arolygiad
Roeddem yn falch o nodi enghreifftiau o arfer effeithiol yn yr arolygiadau canlynol:
Partneriaeth Dysgu Gwynedd a Môn
Adroddiad arolygu: Partneriaeth Dysgu Gwynedd a Môn
- Datblygu medrau iaith Gymraeg ar gwrs cynorthwywyr addysgu
- Rysáit ar gyfer lles: dysgwyr yn cefnogi eu cymuned
- Canolfannau dysgu Tŷ Cyfle , ehangu mynediad a helpu mynd i’r afael â dirywiad trefol
Addysg Oedolion Cymru
Adroddiad arolygu: Addysg Oedolion Cymru
- Cerddoriaeth ar gyfer cyfathrebu i ddysgwyr ag anawsterau dysgu dwys
- Cwrs coginio i ddynion
- Defnyddio data i ddadansoddi cyfraddau dilyniant
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Merthyr Tudful
Adroddiad arolygu: Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Merthyr Tudful
- Dysgu Oedolion yn y Gymuned