Gwaith Ieuenctid
Mewnwelediadau Cynnar 2024-2025
Sut mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial?
Pa mor dda y mae pobl ifanc yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni eu hamcanion wedi’u hymgorffori yn egwyddorion a dibenion gwaith ieuenctid (Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Grŵp Adolygu Egwyddorion a Dibenion Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, Hydref 2022).
At ei gilydd, mae pobl ifanc yn datblygu ystod eang o medrau ac yn dyfnhau eu dealltwriaeth o faterion sy’n effeithio arnyn nhw a bywydau pobl ifanc eraill. Maent yn tyfu mewn hyder ac aeddfedrwydd, sydd yn ei dro yn eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial unigol.
Beth sy’n mynd yn dda
Addysgiadol
- Mae gan bobl ifanc gyfleoedd gwerthfawr trwy ddarpariaeth dargedig i ddatblygu medrau trwy lwybrau dysgu achrededig strwythuredig.
- Cynorthwyodd ychydig o ddarparwyr awdurdodau lleol bobl ifanc a oedd wedi cael Addysg Gartref yn ôl Dewis (EHE) i gael mynediad at ddosbarthiadau saesneg, hyfforddiant, arweiniad gyrfaoedd a chymorth gyda cheisiadau coleg .
Mynegiannol
- Mae llawer o bobl ifanc yn datblygu eu gallu i fynegi eu hemosiynau a’u teimladau naill ai drwy drafodaeth neu brosiectau celfyddydau creadigol gwerth chweil; mae’r prosiectau hyn yn helpu pobl ifanc i weithio’n dda gyda chyfoedion a datblygu gwerthfawrogiad a pharch at farn pobl eraill.
Cyfranogol
- Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn dangos lefelau uchel o ymgysylltiad a brwdfrydedd mewn sesiynau strwythuredig a mwy anffurfiol; mae rhai yn weithredol ac yn hynod effeithiol wrth ddod yn eiriolwyr dros bobl ifanc mewn fforymau fel cynghorau ieuenctid.
Cynhwysol
- Mae llawer o bobl ifanc yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion y mae eraill yn eu hwynebu fel pobl ifanc LHDT+, gofalwyr ifanc a cheiswyr lloches.
Grymuso
- Mae llawer o bobl ifanc yn datblygu eu hyder yn fuddiol trwy weithgareddau sy’n cael eu harwain gan bobl ifanc eraill; mae rhai yn datblygu eu medrau arweinyddiaeth yn dda, fel trwy wirfoddoli, ac yn dod yn fodelau rôl cadarnhaol i eraill.
Beth sydd angen ei wella
- Nid yw ychydig iawn o bobl ifanc yn elwa o gyfleoedd pellach i ennill achrediad am eu gweithgareddau dysgu ffurfiol a fyddai’n eu helpu i symud ymlaen i’r camau nesaf yn eu taith ddysgu a’u paratoi ar gyfer bywyd fel oedolion.
Yr hyn y gall pobl ifanc ei ddisgwyl gan ddarpariaeth gwaith ieuenctid:
Ansawdd gwaith ieuenctid, y cynnig cyffredinol (darpariaeth gwaith ieuenctid i bob person ifanc) a chefnogaeth i bobl ifanc agored i niwed.
Mae darparwyr gwaith ieuenctid yn y sectorau statudol a gwirfoddol yn llwyddo i ddatblygu cynnig darpariaeth amrywiol a gwerthfawr sy’n rhoi pobl ifanc yng nghanol y cynnig er nad yw ychydig iawn o ddarparwyr yn rhoi digon o gyhoeddusrwydd i’w cynnig. Nid yw llawer o ddarparwyr yn cynnig digon o gyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg. At ei gilydd, mae pobl ifanc yn elwa’n fawr o’r cyfleoedd addysgol a’r arweiniad bugeiliol y mae gweithwyr ieuenctid yn eu darparu’n fedrus.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae bron pob gweithiwr ieuenctid yn sicrhau bod pobl ifanc wrth wraidd popeth maen nhw’n ei wneud.
- Mae bron pob gweithiwr ieuenctid yn frwdfrydig ac yn cael eu gyrru gan bwrpas clir i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i bobl ifanc wedi’i ategu gan werthoedd ac egwyddorion gwaith ieuenctid.
- Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr gwaith ieuenctid yn sicrhau bod gan bobl ifanc gyfleoedd gwerthfawr i fynegi eu barn a dylanwadu ar y ddarpariaeth a gynigir.
- Mae bron pob darparwr yn gweithio’n dda i ddatblygu dealltwriaeth pobl ifanc o berthnasoedd iach, gan eu helpu i fyw bywydau iachach a mwy diogel.
- Mae llawer o ddarparwyr yn cynnig cymorth buddiol wedi’i dargedu trwy weithgareddau ar gyfer grwpiau o bobl ifanc sy’n agored i niwed yn ogystal â thrwy weithgareddau dysgu ffurfiol, gan gynnwys mewn lleoliadau ysgol.
Beth sydd angen ei wella
- Nid yw ychydig iawn o ddarparwyr yn cynnig cyfleoedd digonol i bobl ifanc ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
- Nid yw ychydig iawn o ddarparwyr yn rhoi cyhoeddusrwydd digon effeithiol i’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig i bobl ifanc.
- Nid yw llawer o ddarparwyr yn cynnig cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc ymgymryd â gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Arwain a gwella
Mae gan arweinwyr weledigaeth glir o bwysigrwydd hyrwyddo gwerth gwaith ieuenctid. Maent yn cynllunio darpariaeth yn dda ac, yn gyffredinol, yn darparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol i staff. Fodd bynnag, mae angen i lawer o ddarparwyr wella eu gallu i hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwelliant.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae uwch arweinwyr yn dangos ymrwymiad cryf i ethos a gwerth gwaith ieuenctid.
- Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr gwaith ieuenctid yn gweithio’n dda mewn partneriaeth â darparwyr eraill, yn y sectorau statudol a gwirfoddol, i gynllunio ac ehangu’r ddarpariaeth a gynigir i bobl ifanc.
- Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn cynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol gwerthfawr i staff ddiweddaru eu medrau a’u gwybodaeth ynghylch meysydd sy’n berthnasol i ddatblygiad a lles pobl ifanc.
- Mae llawer o ddarparwyr yn gweithio’n effeithiol i liniaru effaith tlodi ar bobl ifanc, er enghraifft drwy ddarparu mannau cynnes yn y gaeaf, dosbarthu bwyd am ddim, darparu talebau banc bwyd a chynhyrchion hylendid personol.
Beth sydd angen ei wella
- Nid yw llawer o ddarparwyr yn hunan arfarnu ac yn cynllunio ar gyfer gwelliant yn ddigon effeithiol.
- Mae sicrhau cyllid cynaliadwy yn her sylweddol, yn enwedig i sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol; mae sefydliadau’n dibynnu ar nifer o ffynonellau cyllid, tymor byr yn aml, ac mae llawer ohonynt yn grantiau un tro.
Trosolwg o argymhellion o arolygiadau
Roedd pedwar arolygiad craidd yn y sector ieuenctid ac un arolygiad â thema. Yn ystod yr arolygiadau craidd.
Roedd gan ddau ddarparwr argymhellion ynghylch sut mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial:
- Nodi strategaeth glir ar gyfer y gwasanaeth ieuenctid a chwarae drwy fapio darpariaeth gwaith ieuenctid ar draws ardal yr awdurdod lleol a datblygu cynllun i gydlynu’r gwasanaethau ar draws partneriaid mewnol ac allanol yng Nghasnewydd i sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn cael eu diwallu.
- Cynyddu cyfleoedd perthnasol i achredu dysgu pobl ifanc.
Roedd gan un darparwr argymhelliad yn ymwneud â’r hyn y gall pobl ifanc ei ddisgwyl gan ddarpariaeth gwaith ieuenctid:
- Cryfhau proses hunanasesu’r gwasanaeth ieuenctid a chwarae i gynorthwyo cynllunio gwelliant a mesur a gwerthuso effaith gwaith ieuenctid ar bobl ifanc yn fwy cywir.
Roedd gan dri darparwr argymhelliad yn ymwneud ag arwain a gwella:
- Argymhellwyd dau i wella prosesau hunan arfarnu er mwyn gwella gwelliant neu gynllunio strategol.
- Rhoddwyd argymhelliad i un i wella cyfleoedd i bobl ifanc ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt ar lefel sirol.
- Argymhellwyd un i gynyddu cyfranogiad mewn gwasanaethau ieuenctid fel y gall mwy o bobl ifanc gael mynediad at gyfleoedd gwaith ieuenctid.
Yn ogystal, rhoddwyd argymhelliad i un darparwr ddatblygu cynnig rhagweithiol i hyrwyddo a hwyluso gwasanaethau i bobl ifanc y mae’r Gymraeg yn ddewis iaith iddynt.
Argymhellion o’r arolygiad thema (perthnasoedd iach) o bedwar corff yn y sector gwirfoddol
Yn dilyn yr arolygiad thema roedd un argymhelliad ynghylch yr hyn y gall pobl ifanc ei ddisgwyl gan ddarpariaeth gwaith ieuenctid :
- Gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol i wella hygyrchedd trafnidiaeth er mwyn galluogi pobl ifanc o ardaloedd gwledig i elwa o wasanaethau.
Roedd tri argymhelliad yn ymwneud ag arwain a gwella:
- Gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol a rhanbarthol perthnasol i lunio cynnig dysgu proffesiynol cyson, sy’n cael ei ariannu’n briodol ac yn darparu’r capasiti i staff fynychu.
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid perthnasol i gael mynediad at ffrydiau ariannu cyson sy’n sicrhau cynaliadwyedd ac yn caniatáu cynllunio strategol mwy manwl.
- Gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol i sicrhau bod gan staff fynediad at gefnogaeth addas ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u lles.