Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol (GALlL) – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol (GALlL)

Mewnwelediadau Cynnar 2024-2025



Canlyniadau a gwasanaethau addysg

Mae canlyniadau arolygu mewn dau o’r tri awdurdod lleol a arolygwyd yn fras yn unol â’r hyn a welir yn genedlaethol. Mae systemau i gefnogi ysgolion mewn dilyniant Estyn yn aml yn gadarn yn yr awdurdodau hyn. Mewn un awdurdod lleol, nid oedd effaith gwaith gwella ysgolion yn ddigon effeithiol ac roedd cyfran yr ysgolion a roddwyd mewn dilyniant Estyn yn fwy na’r hyn a welwyd yn genedlaethol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae swyddogion yn ymweld ag ysgolion yn rheolaidd ac, yn yr arfer mwyaf effeithiol, yn casglu tystiolaeth uniongyrchol ochr yn ochr â data fel data ynghylch presenoldeb a gwaharddiadau; mae hyn yn eu helpu i ddeall cryfderau a meysydd i’w gwella.
  • Yn yr enghreifftiau gorau, mae gan awdurdodau lleol brosesau buddiol i nodi a rhannu arfer effeithiol ar draws ysgolion a lleoliadau.
  • Mae awdurdodau lleol wedi sefydlu rhaglenni cymorth gwerth chweil ar gyfer penaethiaid newydd a phenaethiaid dros dro.
  • Mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda phartneriaid i gynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu proffesiynol buddiol i staff mewn ysgolion a lleoliadau.
  • Mae dau o’r tri awdurdod lleol a arolygwyd yn gwneud cynnydd da wrth ddatblygu eu gwasanaethau ADY ac yn darparu cefnogaeth dda i blant a phobl ifanc ag ADY, eu teuluoedd, eu hysgolion a’u lleoliadau.
  • Mae’r tri awdurdod lleol yn dangos ymrwymiad cryf i liniaru effaith tlodi ar fywydau plant a phobl ifanc; mae swyddogion yn cydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid i gefnogi teuluoedd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu disgyblion – mae hyn yn dechrau cael effaith gadarnhaol ar lesiant dysgwyr.
  • Mae pob awdurdod a arolygwyd yn datblygu darpariaeth i gynyddu’r cyfleoedd i ddisgyblion drosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg yn dda; yn yr arfer cryfaf, mae arweinwyr yn rhoi ffocws cryf ar ddatblygu dwyieithrwydd a’r iaith Gymraeg ym mhob agwedd ar eu gwaith.

Beth sydd angen ei wella

  • Wrth gasglu tystiolaeth uniongyrchol, nid yw partneriaid gwella ysgolion bob amser yn canolbwyntio’n ddigon da ar y cynnydd a wneir gan ddisgyblion mewn gwersi a thros amser.
  • Mewn rhai achosion, nid yw swyddogion ac arweinwyr yn defnyddio tystiolaeth uniongyrchol yn ddigon da i fonitro a herio cynnydd a sicrhau bod ysgolion yn gwneud gwelliannau amserol.
  • Nid yw dysgu proffesiynol bob amser yn canolbwyntio’n ddigon da ar wella ansawdd addysgu a dysgu, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd.
  • Mewn un awdurdod lleol, mae cynnydd tuag at ddatblygu gwasanaethau ADY wedi bod yn arafach oherwydd newidiadau mewn arweinyddiaeth.
  • Nid yw datblygiad medrau iaith Gymraeg disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg wedi’i ddatblygu cystal, a arweiniodd at argymhelliad mewn un awdurdod lleol.

Arwain a gwella

Mae arweinwyr wedi blaenoriaethu datblygu perthnasoedd cadarnhaol gydag ysgolion a phartneriaid a meithrin ymdeimlad o gydweithio a gwaith tîm i gyflawni eu blaenoriaethau.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Yn yr enghreifftiau gorau, mae gan arweinwyr weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer addysg wedi’i hategu gan ymdeimlad cryf o bwrpas moesol; mewn dau awdurdod lleol, mae addysg yn flaenoriaeth bwysig o fewn cynlluniau corfforaethol.
  • Mae arweinwyr yn modelu ymddygiadau proffesiynol yn dda ac yn meithrin perthnasoedd gwaith cryf gydag arweinwyr a phartneriaid yr ysgol.
  • Mae’r awdurdodau lleol a arolygwyd gennym yn cydnabod y pwysau ariannol y mae darparwyr yn eu hwynebu; mewn un awdurdod lleol, cynigiodd y tîm cyllid addysg gefnogaeth effeithiol i helpu ysgolion i reoli eu cyllidebau.
  • Mae’r tri awdurdod lleol yn cynnig canllawiau a hyfforddiant gwerthfawr i ysgolion a lleoliadau ynghylch diogelu.

Beth sydd angen ei wella

  • Ni ddefnyddir prosesau i gefnogi hunan arfarnu ac adolygu perfformiad yn ddigon pwrpasol i gynllunio ar gyfer gwelliant a nodi’r union feysydd sydd angen eu gwella; nid yw prosesau sicrhau ansawdd yn canolbwyntio’n ddigon da ar effaith gwaith y gwasanaeth addysg ar ganlyniadau disgyblion ym mhob awdurdod lleol a arolygwyd.
  • Mewn dau awdurdod lleol, nid yw craffu yn ddigon effeithiol; mae hyn oherwydd amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys ansawdd y wybodaeth a ddarperir i aelodau etholedig, sut mae eitemau agenda cynllun gwaith ymlaen llaw yn cael eu dyrannu a sut mae craffu yn cwestiynu ac yn herio’r aelod cabinet dros addysg.
  • Nid yw cynllunio strategol ac arweinyddiaeth yn ddigon effeithiol mewn dau awdurdod lleol.
  • Mewn dau o’r tri awdurdod, nid yw penderfyniadau strategol wedi bod yn ddigon amserol bob amser i liniaru heriau ariannol yn llawn.

Trosolwg o argymhellion o arolygiadau

Arolygwyd tri darparwr yn y sector GALlL ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-2025.

  • Rhoddwyd o leiaf un argymhelliad i bob un yn ymwneud â gwasanaethau addysg a’u heffaith.
  • Rhoddwyd o leiaf un argymhelliad i bob darparwr yn ymwneud ag arwain a gwella.

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod yr arolygiad

Casnewydd

Adroddiad arolygu: Casnewydd

Darllenwch am sut mae Casnewydd yn comisiynu ysgol arbennig i ddarparu gwasanaeth allgymorth i ysgolion prif ffrwd i gefnogi disgyblion awtistig yn ogystal â sut mae’n cefnogi ysgolion i reoli cyllidebau’n effeithiol. Adroddiad arolygu

Castell-nedd Port Talbot

Adroddiad arolygu: Castell-nedd Port Talbot

Ysgrifennom hefyd am sut mae awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot yn darparu cefnogaeth greadigol i blant a phobl ifanc ag ADY. Adroddiad arolygu

Torfaen

Gallwch hefyd ddarllen ein hastudiaeth achos ar sut y gweithiodd Awdurdod Lleol Torfaen yn rhagweithiol gyda’r holl randdeiliaid a sicrhau gwelliannau nodedig mewn sawl agwedd ar eu gwaith. O ganlyniad, tynnwyd yr awdurdod lleol oddi ar y rhestr o awdurdodau lleol a oedd yn achosi pryder sylweddol ym mis Hydref 2024. Arweinwyr yn sicrhau gwelliant mewn awdurdod lleol – Estyn