Lleoliadau Nas Cynhelir – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Lleoliadau Nas Cynhelir

Mewnwelediadau Cynnar 2024-2025



Addysgu a dysgu

Gwnaeth ymarferwyr ymateb yn frwdfrydig i ethos y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir, er mwyn darparu ardaloedd dysgu a gweithgareddau a oedd yn cyffroi ac yn ennyn diddordeb plant, gan sicrhau bod y mwyafrif yn gwneud cynnydd da. Er bod llawer o leoliadau yn cyfoethogi profiadau trwy ymgysylltu â’r gymuned ac yn cefnogi caffael y Gymraeg yn effeithiol, mae rhai yn dal i wynebu heriau o ran arferion asesu, amrywiaeth ddiwylliannol, a defnydd cyson o’r Gymraeg.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae’r rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd effeithiol wrth ddatblygu eu medrau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth.
  • Mae ymarferwyr yn cofleidio ethos y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir heb eu cynnal yn fwyfwy.
  • Yn yr enghreifftiau cryfaf, mae ymarferwyr yn darparu ardaloedd dysgu a gweithgareddau sy’n cyffroi ac yn diddori plant, gan sicrhau profiadau dilys a phwrpasol dan do ac yn yr awyr agored.
  • Mewn llawer o leoliadau cyfrwng Saesneg, mae ymarferwyr yn cefnogi caffael yr iaith Gymraeg yn effeithiol.
  • Yn y rhan fwyaf o leoliadau cyfrwng Cymraeg, mae ymarferwyr yn cynllunio’n effeithiol gyda’i gilydd i drochi plant yn yr iaith Gymraeg ac ehangu geirfa a dealltwriaeth plant o’r iaith yn gyson.
  • Mae llawer o ymarferwyr yn cyfoethogi profiadau plant wrth archwilio eu hardal, gan ddefnyddio’r ymweliadau hyn i ddatblygu gwybodaeth plant am y byd ehangach, gan gynnig cyfleoedd ystyrlon iddynt ddatblygu ymdeimlad o ryfeddod a pharch.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn rhai lleoliadau, nid yw medrau iaith Gymraeg ymarferwyr wedi’u datblygu’n ddigonol, ac mae’r iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio’n anghyson yn ystod sesiynau.
  • Mewn rhai lleoliadau, mae defnyddio asesiadau ac arsylwadau i herio a chefnogi plant yn dal i fod yng nghyfnod cynnar ei ddatblygiad.
  • Mewn ychydig iawn o leoliadau, mae cyfleoedd i blant ddysgu am fywydau a chredoau pobl o ddiwylliannau heblaw eu diwylliannau eu hunain yn gyfyngedig.

Llesiant, gofal, cefnogaeth ac arweiniad

Mae lleoliadau’n parhau i ddarparu gofal, cefnogaeth ac arweiniad cryf i blant, sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu lles.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae lleoliadau’n parhau i ddarparu gofal, cefnogaeth ac arweiniad cryf i blant, sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu lles.
  • Mae bron pob plentyn yn ffurfio perthnasoedd cynnes a chadarn gydag ymarferwyr, sy’n eu hadnabod yn dda ac yn diwallu eu hanghenion yn sensitif.
  • Mewn llawer o leoliadau, mae ymarferwyr yn sicrhau bod plant yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau drwy ganiatáu iddynt wneud dewisiadau pwrpasol am eu chwarae a’u dysgu a chymryd cyfrifoldeb cynyddol am dasgau yn y lleoliad.
  • Mae gan ymarferwyr ddealltwriaeth gadarn o’u rolau a’u cyfrifoldebau wrth gadw plant yn ddiogel ac maent yn hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ymhlith plant.
  • Mae llawer o leoliadau yn darparu profiadau dysgu wedi’u teilwra’n feddylgar ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), wedi’u cefnogi gan gydweithrediad amlasiantaeth cryf.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig iawn o achosion, nid oedd lleoliadau bob amser yn darparu digon o fanylion mewn cofnodion ysgrifenedig o bob digwyddiad a ddigwyddodd ar y safle.

Arwain a gwella

Mae arweinwyr yn y rhan fwyaf o leoliadau yn darparu arweinyddiaeth gref, fyfyriol a chydweithredol sy’n blaenoriaethu lles a datblygiad plant yn llwyddiannus. Mewn rhai lleoliadau, roedd diffyg ffocws ar feysydd datblygu allweddol ac roedd prosesau gwerthuso wedi’u tan-ddatblygu.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr yn adeiladu timau cryf a chydweithredol lle mae ymarferwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.
  • Mae arweinwyr mewn llawer o leoliadau yn hunanwerthuso’n effeithiol, gan ystyried ystod eang o dystiolaeth i ddatblygu camau gweithredu clir a rheoladwy sydd â effaith gadarnhaol ar ymgysylltiad a datblygiad medrau plant.
  • Mae llawer o arweinwyr yn sicrhau bod prosesau goruchwylio ac arfarnu yn darparu cyfleoedd ystyrlon i ymarferwyr fyfyrio ar eu harfer a gosod nodau wedi’u targedu sy’n eu helpu i gefnogi dysgu plant.
  • Mae llawer o leoliadau yn meithrin partneriaethau cryf gyda rhieni a gofalwyr, ysgolion lleol, sefydliadau cymunedol, a gwasanaeth cynghori’r awdurdod lleol.
  • Mae llawer o arweinwyr yn dyrannu adnoddau’n ofalus ac yn paru eu gwariant â blaenoriaethau gwella.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn rhai lleoliadau, nid oedd arweinwyr bob amser yn canolbwyntio ar y meysydd pwysicaf i’w datblygu, na’r camau gweithredu a fyddai’n arwain at y gwelliant mwyaf.
  • Mewn ychydig iawn o leoliadau, ni chynhaliwyd prosesau goruchwylio ac arfarnu yn ffurfiol ac nid oeddent wedi’u hymgorffori’n llawn yn arferion y lleoliadau.

Trosolwg o argymhellion o arolygiadau

Arolygwyd cyfanswm o 90 o leoliadau meithrin nas cynhelir yn ystod blwyddyn academaidd 2024-2025. Rhoddwyd o leiaf un argymhelliad i bob darparwr, gyda chyfanswm o 186 o argymhellion yn cael eu rhoi.

Rhoddwyd argymhelliad i 73 o ddarparwyr (71%) yn ymwneud ag addysgu a dysgu.

  • Rhoddwyd argymhelliad i 26 o ddarparwyr (29%) ynghylch defnyddio arsylwadau i gynllunio camau nesaf plant mewn dysgu.
  • Rhoddwyd argymhelliad i 11 o ddarparwyr (12%) ynghylch darparu cyfleoedd i blant ddysgu am wahanol ddiwylliannau neu amrywiaeth o fewn cymdeithas.
  • Rhoddwyd argymhelliad i 7 darparwr (8%) ynghylch darparu neu wella cyfleoedd i blant ddatblygu eu medrau.

Rhoddwyd argymhelliad i 10 darparwr (12%) yn ymwneud â lles, gofal, cefnogaeth ac arweiniad.

  • Roedd yr holl argymhellion hyn yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar lesiant, gofal, cefnogaeth ac arweiniad ac yn cynnwys materion fel darparu digon o fanylion mewn cofnodion ysgrifenedig, cofnodi presenoldeb staff yn gywir a chynnal a chofnodi ymarferion tân yn rheolaidd.

Rhoddwyd argymhelliad i 51 o ddarparwyr (57%) yn ymwneud ag arweinyddiaeth a rheolaeth.

  • Rhoddwyd argymhelliad i 16 o ddarparwyr (18%) ynghylch datblygiad staff, gan gynnwys ffurfioli neu wella prosesau gwerthuso a goruchwylio.
  • Rhoddwyd argymhelliad i 13 o ddarparwyr (14%) yn ymwneud â hunanwerthuso, gan gynnwys cryfhau gweithdrefnau.
  • Argymhellwyd i 7 darparwr (8%) fynd i’r afael â meysydd o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd yn yr arolygiad.
  • Rhoddwyd argymhelliad i 6 darparwr (7%) ynghylch parhau â’u harfer da.

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod yr arolygiad

Cylch Meithrin Y Drenewydd

Darganfyddwch sut mae Cylch Meithrin Y Drenewydd yn defnyddio cysylltiadau cymunedol cryf i gael effaith gadarnhaol ar brofiadau, cynnydd a lles disgyblion.

Cylch Meithrin Llanrhaeadr Ym Mochnant

Darllenwch am sut mae arweinwyr yn Cylch Meithrin Llanrhaeadr Ym Mochnant wedi sefydlu gweithdrefnau hunanasesu trylwyr a chadarn sydd wedi arwain at ddiwylliant o welliant parhaus.