Prentisiaethau – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Prentisiaethau

Mewnwelediadau Cynnar 2024-2025



Addysgu a dysgu

Mae aseswyr a thiwtoriaid yn meithrin perthnasoedd cryf a chynhyrchiol gyda’u prentisiaid ac yn cyflwyno sesiynau sydd wedi’u cynllunio a’u strwythuro’n dda. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn datblygu ac yn cymhwyso ystod eang o medrau ymarferol a damcaniaethol perthnasol ac yn gwneud cynnydd cadarn o leiaf yn eu rhaglenni prentisiaeth.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn cael eu hysgogi ac yn frwdfrydig ynglŷn â’u rhaglenni ac yn datblygu medrau ymarferol cryf a gwybodaeth am theori.
  • Mae aseswyr yn datblygu perthnasoedd cadarnhaol a chynhyrchiol gyda’u dysgwyr.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn rhyngweithio’n hyderus â’u haseswyr, eu tiwtoriaid a’u cyflogwyr ac yn gweithio’n dda gyda’i gilydd mewn parau neu grwpiau.
  • Mae cyflogwyr yn dweud bod eu dysgwyr yn gynhyrchiol, yn gadarnhaol ac yn ychwanegu at eu sefydliad.
  • Yn gyffredinol, mae dysgwyr yn cwblhau eu prentisiaethau ar gyfraddau sy’n fras yn unol â chyfartaleddau’r sector cenedlaethol neu’n uwch na nhw.
  • Mae dysgwyr ag anghenion cymorth ychwanegol (ACY) yn gwneud cynnydd cadarn o’u mannau cychwyn unigol.
  • Mae dysgwyr yn datblygu eu medrau digidol yn dda.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae tua hanner y dysgwyr yn dal i gymryd mwy o amser i gwblhau eu rhaglenni nag a ddisgwylir, ac mae hyn yn aml oherwydd nad yw asesiadau wedi’u cynllunio’n ddigon da ar ddechrau’r rhaglen ac nad yw aseswyr bob amser yn gosod targedau heriol ar gyfer cwblhau gwaith.
  • Mae lleiafrif o ddysgwyr yn dibynnu gormod ar eu haseswyr i arwain eu cynnydd.

Llesiant, gofal, cefnogaeth ac arweiniad

Mae aseswyr a thiwtoriaid yn darparu cefnogaeth fugeiliol a phersonol effeithiol i’w dysgwyr, gan gynnwys y rhai sydd ag Anghenion Cymorth Ychwanegol (ACY). O ganlyniad, mae llawer o ddysgwyr yn gwella eu hunanhyder a’u hunan-barch yn ystod eu hamser ar eu rhaglen brentisiaeth.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae bron pob asesydd yn meithrin perthnasoedd gwaith cyfeillgar a chynhyrchiol gyda dysgwyr, gan wirio eu lles yn rheolaidd mewn ffordd sensitif a chefnogol.
  • Mae darparwyr wedi gwella eu heffeithiolrwydd yn y ffordd y maent yn nodi ac yn cefnogi dysgwyr ag ACY.
  • Elwodd y dysgwyr o gefnogaeth fugeiliol a phersonol gref sy’n eu helpu i ymgartrefu yn eu rhaglenni a gwneud cynnydd cadarn.
  • Mae dysgwyr yn cael mynediad at ystod eang o adnoddau lles, gan gynnwys cwnsela, cymorth iechyd meddwl, cymorth ariannol, ac opsiynau dysgu hyblyg.
  • Mae darparwyr yn casglu adborth dysgwyr trwy arolygon a grwpiau ffocws ac yn defnyddio’r wybodaeth hon yn dda i fireinio gwasanaethau cymorth.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae dealltwriaeth dysgwyr o eithafiaeth a radicaliaeth yn parhau ar lefel sylfaenol.

Arwain a gwella

Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y ddarpariaeth prentisiaethau yn gryf ar draws yr holl ddarparwyr, wedi’i ategu gan gyfeiriad strategol clir, diwylliant cydweithredol, datblygiad proffesiynol a ffocws parhaus ar wella ansawdd.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Yn gyffredinol, mae gan uwch arweinwyr ac arweinwyr canol ddealltwriaeth glir o’u cryfderau a’u meysydd i’w gwella trwy gylch cadarn o hunanasesu a chynllunio gwelliant.
  • Mae’r rhan fwyaf o staff yn ymroddgar ac yn frwdfrydig i gyflawni’r canlyniadau gorau i’w dysgwyr ac yn elwa o ystod eang o gyfleoedd datblygiad proffesiynol.
  • Mae gan ddarparwyr berthnasoedd effeithiol a hirdymor gydag amrywiaeth o gyflogwyr allweddol a phartneriaid, sy’n eu galluogi i ddiwallu anghenion medrau sy’n dod i’r amlwg yn yr economi leol a rhanbarthol.
  • Dangosodd darparwyr ymrwymiad cryf i ddysgu proffesiynol, a oedd yn aml wedi’i deilwra i’r cyd-destun gwaith gyda phwyslais cynyddol ar uwch-sgilio staff i gefnogi dysgwyr ag ACY yn well a gwreiddio’r iaith a diwylliant Cymru ar draws rhaglenni.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae cyfranogiad cyflogwyr mewn adolygiadau cynnydd dysgwyr yn gyfyngedig.
  • Mewn rhai achosion, yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn bennaf, ni all dysgwyr fynychu hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith yn ystod oriau gwaith ac nid yw darparwyr yn herio cyflogwyr yn ddigon da i alluogi hyn i ddigwydd.

 


Trosolwg o argymhellion o arolygiadau

Roedd tri arolygiad yn y sector dysgu seiliedig ar waith: prentisiaethau.

  • Rhoddwyd argymhelliad i un darparwr i sicrhau bod cyflogwyr yn darparu’r gefnogaeth angenrheidiol i’w dysgwyr, gan gynnwys dyrannu amser i fynychu gweithgareddau y tu allan i’r gwaith a chymryd rhan weithredol mewn cynllunio ac adolygu cynnydd dysgwyr.
  • Rhoddwyd argymhelliad i dri darparwr mewn perthynas ag addysgu a dysgu, gan ganolbwyntio ar gwblhau o fewn y dyddiadau gorffen disgwyliedig, gwella cyfraddau cyrhaeddiad ar gyfer meysydd pwnc sy’n tanberfformio, cryfhau lefel yr her a gosod targedau i sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud y cynnydd y maent yn gallu ei wneud.
  • Rhoddwyd argymhelliad i un darparwr yn ymwneud â lles, gofal, cefnogaeth ac arweiniad, er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o eithafiaeth a radicaliaeth yn rheolaidd.
  • Rhoddwyd argymhelliad i un darparwr ynglŷn ag arwain a gwella , er mwyn sicrhau bod cyflogwyr yn darparu’r gefnogaeth angenrheidiol i’w dysgwyr, gan gynnwys dyrannu amser i fynychu gweithgareddau y tu allan i’r gwaith a chymryd rhan weithredol mewn cynllunio ac adolygu cynnydd dysgwyr.

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod yr arolygiad

Coleg Cambria

Coleg Cambria

  1. Y dull cyfannol o gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol

Coleg Cambria – cefnogi dysgwyr ag ADY

Ymgorffori’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn y ddarpariaeth prentisiaethau

Coleg Cambria – Iaith a diwylliant Cymru

ACT

Medrau cwestiynu aseswyr a thiwtoriaid

ACT – Datblygu technegau holi effeithiol

BWBL 

Cyllid amddifadedd dysgwyr

Gwaith consortiwm/partneriaeth effeithiol