Trefniadau Trochi yn y Gymraeg
Mewnwelediadau Cynnar 2024-2025
Addysgu a dysgu
Mae staff yn fodelau rôl iaith cadarnhaol ac yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau addysgu i ennyn diddordeb disgyblion, ac o ganlyniad mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd addas yn eu medrau llafaredd Cymraeg.
Beth sy’n mynd yn dda
- Ym mron pob darpariaeth, mae perthnasoedd gwaith hynod gadarnhaol gyda disgyblion.
- Dros amser, mae llawer o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan dlodi, yn gwneud cynnydd addas yn eu medrau llafaredd Cymraeg.
- Mae staff yn fodelau rôl iaith da ac yn defnyddio ystod o medrau cyfathrebu i ennyn diddordeb disgyblion.
- Yn yr enghreifftiau gorau, mae staff yn darparu profiadau dysgu ysgogol a phwrpasol i ddisgyblion ac yn adeiladu’n fedrus ar ddulliau caffael iaith.
- Mae llawer o athrawon yn defnyddio ystod eang o adnoddau a dulliau addysgu amlsynhwyraidd effeithiol sy’n hwyluso cynnydd disgyblion yn bwrpasol.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn lleiafrif o achosion, nid yw staff bob amser yn darparu profiadau dysgu yn ddigon medrus i ddiwallu anghenion caffael iaith disgyblion yn gyson dros amser.
- Mewn ychydig iawn o achosion, nid yw dulliau holi staff yn darparu cyfleoedd digon rheolaidd i ddisgyblion ddyfnhau eu dysgu.
Llesiant, gofal, cefnogaeth ac arweiniad
Mae darpariaethau trochi yn y Gymraeg yn darparu lefelau effeithiol o ofal, cefnogaeth ac arweiniad i ddisgyblion sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu lles ac, yn gyffredinol, yn eu tywys yn y camau nesaf yn eu dysgu.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae gan staff ddealltwriaeth gynhwysfawr o lesiant disgyblion ac maent yn darparu cyfleoedd pwrpasol i feithrin eu llesiant mewn amgylchedd cefnogol.
- Mae bron pob disgybl yn y darpariaethau yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel.
Beth sydd angen ei wella
- Yn y lleiafrif o ddarpariaethau, mae trefniadau pontio a gofal ar ôl gadael i ddisgyblion yn llai effeithiol.
Arwain a gwella
Mae gan arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer trefniadau trochi yn y Gymraeg ac maent yn cydweithio’n dda ag ysgolion lleol i wella medrau iaith Gymraeg disgyblion.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae gan uwch arweinwyr ym mhob awdurdod lleol weledigaeth glir ar gyfer darpariaeth iaith Gymraeg.
- Lle’r oedd arfer ar ei gryfaf, mae arweinyddiaeth bwrpasol o’r trefniadau trochi yn sicrhau bod gan staff wybodaeth gynhwysfawr am lesiant ac anghenion dysgu disgyblion.
- Mae cydweithrediad effeithiol rhwng y darpariaethau trochi Cymraeg ac ysgolion lleol i gefnogi arferion addysgu ieithoedd.
- Yn yr enghreifftiau gorau, mae arweinwyr yn annog staff i gydweithio â phartneriaid i ymgymryd ag ymchwil weithredol.
- Mewn dau awdurdod lleol, mae gan arweinwyr ddealltwriaeth gadarn o gryfderau’r trefniadau trochi yn y Gymraeg a’r meysydd i’w gwella.
Beth sydd angen ei wella
- Ym mhob un o’r tri awdurdod lleol, nid yw prosesau hunan arfarnu yn darparu digon o gyfleoedd i staff fonitro a gwerthuso’r ddarpariaeth yn gynyddol effeithiol a defnyddio’r rhain yn bwrpasol i osod cyfeiriad strategol clir ar gyfer datblygu’r ddarpariaeth dros amser.
- Mewn un awdurdod lleol, roedd dysgu proffesiynol pwrpasol ar gyfer arweinwyr a staff ar addysgeg trochi effeithiol wedi’i ddatblygu llai.
Trosolwg o argymhellion o arolygiadau
Yn y flwyddyn academaidd 2024-2025, arolygodd Estyn dri awdurdod lleol. Rhoddwyd argymhellion i’r tri ar gyfer arwain a gwella :
- Rhoddwyd argymhelliad i’r tri awdurdod mewn perthynas ag arwain a gwella a’u prosesau hunanwerthuso.
- Rhoddwyd argymhelliad i un awdurdod i ddarparu dysgu proffesiynol pwrpasol ar addysgeg trochi effeithiol.
Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod yr arolygiad
Cyngor Gwynedd
Adroddiad arolygu: Cyngor Gwynedd
Darllenwch am sut mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu sicrhau parhad a dilyniant wrth gefnogi caffaeliad y Gymraeg gan ddisgyblion.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Darllenwch am sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhoi lles yn y canol yng nghyd-destun datblygu iaith dysgwyr o fewn darpariaeth trochi hwyr Astudiaeth achos Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adroddiad arolygu: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Darllenwch am sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn bwriadu datblygu medrau iaith Gymraeg staff a disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yma.
Cyngor Gwynedd
Adroddiad arolygu: Cyngor Gwynedd
Darllenwch am gydweithrediad effeithiol rhwng staff yn yr unedau trochi a pherfformwyr creadigol i gefnogi disgyblion i ddatblygu eu medrau caffael iaith yng Nghyngor Gwynedd.