Unedau Cyfeirio Disgyblion
Mewnwelediadau Cynnar 2024-2025
Addysgu a dysgu
Ar y cyfan, gwelsom welliannau yn y profiadau addysgu a dysgu i ddisgyblion sy’n mynychu Unedau Cyfeirio Disgyblion. Mae’r cwricwlwm a gynigir yn bwrpasol, gyda disgyblion yn cyfrannu at yr hyn maen nhw’n ei ddysgu a sut. Mae staff addysgu yn hyblyg iawn wrth ddiwallu ystod eang o anghenion disgyblion. Mae gan staff gyfleoedd dysgu proffesiynol effeithiol i gynnal eu dulliau medrus o ddiwallu anghenion dysgu, ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol eu disgyblion. Mae heriau’n parhau o ran recriwtio staff arbenigol i sicrhau digon o ehangder o lwybrau cymwysterau a pharhad i ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg.
Beth sy’n mynd yn dda
- Yn y ddarpariaeth gryfaf, mae gan y staff ddealltwriaeth addysgeg ddofn, gydag arweinyddiaeth glir wedi’i hategu gan berthnasoedd gwaith hynod effeithiol rhwng disgyblion a staff.
- Mae llawer o staff yn fodelau rôl effeithiol, gyda disgwyliadau uchel a chyson ar gyfer ymddygiad a dysgu disgyblion.
- Mae disgyblion yn gwneud cynnydd hynod effeithiol tuag at gyrraedd eu targedau, yn datblygu medrau annibynnol cryf ac yn ymgysylltu â’u dysgu gyda brwdfrydedd a hyder.
- Cefnogir cynnydd disgyblion gan gwricwlwm pwrpasol, lle mae disgyblion yn cymryd rhan weithredol mewn dewis a chyfarwyddo eu dysgu eu hunain.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn lleiafrif o Unedau Cyfeirio Disgyblion, lle mae ansawdd yr addysgu a’r asesu yn anghyson a’r disgwyliadau’n rhy isel, mae hyn yn cyfyngu ar ymgysylltiad a chynnydd disgyblion.
- Ar draws y rhan fwyaf o Unedau Cyfeirio Disgyblion, mae anawsterau wrth recriwtio arbenigwyr pwnc yn cyfyngu ar led ac ansawdd y llwybrau cymwysterau sydd ar gael.
- Mae’r ddarpariaeth i ddisgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg barhau â’u haddysg yn y Gymraeg yn rhy anghyson, gan gyfyngu ar eu gallu i gynnal parhad iaith.
Llesiant, gofal, cefnogaeth ac arweiniad
Ym mron pob Uned Cyfeirio Disgyblion, mae lles disgyblion yn ganolog i waith staff. Mae staff wedi’u hyfforddi’n dda ac yn datblygu dealltwriaeth gref o anghenion eu disgyblion. Mae staff yn darparu modelau rôl hynod effeithiol i ddisgyblion ac yn darparu amgylcheddau dysgu diogel a meithringar lle mae gan ddisgyblion ddylanwad allweddol ar wneud penderfyniadau. Fodd bynnag, mae gormod o ddisgyblion yn aros ar amserlenni rhan-amser am ormod o amser ac mae rhy ychydig yn dychwelyd i addysg brif ffrwd.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae staff yn datblygu perthnasoedd gwaith hynod effeithiol gyda disgyblion ac yn meithrin perthnasoedd dibynadwy lle mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi’n dda.
- Mae trefniadau diogelu ym mron pob Uned Cyfeirio Disgyblion yn gadarn.
- Lle mae llais y disgybl yn rhan annatod o redeg yr Uned Cyfeirio Disgyblion o ddydd i ddydd, mae disgyblion yn datblygu medrau effeithiol, sy’n eu cefnogi pan fyddant yn gadael y ddarpariaeth.
- Mae bron pob Uned Cyfeirio Disgyblion yn darparu cefnogaeth a gwybodaeth werthfawr i ddisgyblion sy’n trosglwyddo i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Beth sydd angen ei wella
- Mae presenoldeb mewn llawer o Unedau Cyfeirio Disgyblion yn parhau i fod yn isel, yn enwedig ar gyfer disgyblion y cyfnod uwchradd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl (SEMH), ac mae bylchau addysgol yn cael effaith negyddol.
- Mae rhy ychydig o ddisgyblion yn dychwelyd i addysg brif ffrwd o Unedau Cyfeirio Disgyblion ac mae’r rhan fwyaf o Unedau Cyfeirio Disgyblion yn gweithredu fel lleoliadau ysgolion arbennig hirdymor ar gyfer cyfran o’u disgyblion.
- Mewn lleiafrif o Unedau Cyfeirio Disgyblion, arhosodd gormod o ddisgyblion ar amserlenni rhan-amser am ormod o amser.
Arwain a gwella
Ar draws yr Unedau Cyfeirio Disgyblion a arolygwyd, mae arweinyddiaeth yn dangos gwelliant. Lle mae arweinyddiaeth sefydlog, fel arfer mae arferion hunan arfarnu sydd wedi’u hymgorffori’n dda yn seiliedig ar ymgysylltu effeithiol â rhanddeiliaid. Mae gan arweinwyr yn yr Unedau Cyfeirio Disgyblion hyn arferion sefydledig i ysgogi gwelliant.
Beth sy’n mynd yn dda
- Yn yr arfer mwyaf effeithiol, mae arweinyddiaeth yn sefydlog, gyda gweledigaeth ac ethos a ddeellir yn dda, sy’n sail i waith yr holl staff.
- Mewn mwyafrif o Unedau Cyfeirio Disgyblion, mae gan staff rolau a chyfrifoldebau clir ac maent yn cymryd rhan lawn mewn prosesau hunan arfarnu i sbarduno gwelliant yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion.
- Yn y rhan fwyaf o Unedau Cyfeirio Disgyblion, mae datblygiad proffesiynol pwrpasol ar waith ar gyfer yr holl staff ac mae’n cefnogi staff i ymateb i anghenion newidiol y disgyblion.
- Mewn llawer o Unedau Cyfeirio Disgyblion, mae arweinwyr yn datblygu perthnasoedd gwaith cryf gydag amrywiaeth eang o asiantaethau partner, gan adlewyrchu anghenion eu disgyblion, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn gadarn.
- Lle mae perthynas waith golegol rhwng arweinwyr, y pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol, mae’r gefnogaeth a rennir hon yn darparu eglurder ynghylch pwrpas yr Uned Cyfeirio Disgyblion.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn rhai Unedau Cyfeirio Disgyblion, nid yw’r pwyllgor rheoli yn darparu cefnogaeth a her ddigon cadarn i arweinwyr, ac mae hyn yn cyfyngu ar effeithiolrwydd arweinyddiaeth.
- Mewn ychydig o Unedau Cyfeirio Disgyblion, mae ymgysylltiad staff mewn prosesau hunan arfarnu yn eu dyddiau cynnar ac nid yw wedi’i ddatblygu’n ddigon da eto i ysgogi gwelliant.
- Mae niferoedd cynyddol o ddisgyblion yn y rhan fwyaf o Unedau Cyfeirio Disgyblion yn effeithio’n negyddol ar amgylcheddau dysgu.
Trosolwg o argymhellion o arolygiadau
Arolygwyd pum darparwr yn y sector Uned Cyfeirio Disgyblion yn ystod 2024-2025.
Rhoddwyd argymhellion yn ymwneud ag addysgu a dysgu i dri darparwr (60%), ac roedd dau ohonynt mewn categori dilyniant.
- Roedd gan y tri darparwr argymhelliad i wella ansawdd a chysondeb addysgu a dysgu er mwyn sicrhau cynnydd disgyblion mewn dysgu.
Rhoddwyd argymhellion i ddau ddarparwr (40%) yn ymwneud â lles, gofal, cefnogaeth ac arweiniad, ac roedd y ddau ohonynt mewn categori dilynol.
- Roedd gan y ddau ddarparwr argymhelliad i wella presenoldeb, gyda’r darparwr mewn dilyniant i ystyried cynnwys mynediad at addysg amser llawn i bob disgybl.
- Roedd gan un darparwr argymhelliad i ddatblygu trefniadau ar gyfer cyfleoedd arweinyddiaeth disgyblion i gefnogi disgyblion i ddod yn ddysgwyr annibynnol.
Rhoddwyd argymhellion i dri darparwr (60%) yn ymwneud ag arwain a gwella, ac roedd dau ohonynt mewn categori dilyniant.
- Derbyniodd tri darparwr argymhelliad i gryfhau arweinyddiaeth ar bob lefel.
- Derbyniodd dau argymhelliad i ddatblygu arweinyddiaeth strategol i sicrhau effeithiolrwydd hunan arfarnu a chynllunio gwelliant.
Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod yr arolygiad
Addysgu a Dysgu
Canolfan Bro Tywi
Cipluniau ar ymarfer: Canolfan Bryn Tywi Gwella ymgysylltiad mewn ysgrifennu
Llesiant, gofal, cefnogaeth ac arweiniad
Canolfan Addysgol Tai
Sylw ar ymarfer: Canolfan Addysgol Tai yn Rhondda Cynon Taf
Datblygu deallusrwydd emosiynol disgyblion
Arwain a gwella
The Bridge Alternative Provision Portfolio PRU
Sylw ar ymarfer: The Bridge Alternative Provision Portfolio PRU ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Sicrhau cynnig cwricwlwm cynhwysol a chyfartal i bob disgybl