Uwchradd
Mewnwelediadau Cynnar 2024-2025
Addysgu a dysgu
Mae llawer o ysgolion uwchradd yn darparu amgylcheddau dysgu cadarnhaol a chefnogol gyda pherthnasoedd adeiladol rhwng athrawon a disgyblion, ac er bod cryfderau yn yr addysgu, mewn gormod o achosion mae diffygion pwysig yn ei ansawdd a’i effaith ar ddysgu, ac yn y ddarpariaeth ar gyfer datblygiad cynyddol medrau disgyblion.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mewn llawer o ysgolion, mae athrawon yn cynnal perthnasoedd gwaith adeiladol gyda disgyblion, yn rheoli ymddygiad yn dda ac yn creu amgylcheddau dysgu cadarnhaol a chefnogol.
- Mewn lleiafrif o achosion, mae athrawon yn cynllunio gwersi sy’n sicrhau cynnydd cryf yng ngwybodaeth a dealltwriaeth pwnc disgyblion; yn yr ychydig achosion gorau, mae’r addysgu’n dal dychymyg disgyblion ac yn eu hannog i feddwl drostynt eu hunain a datblygu annibyniaeth.
- Mewn lleiafrif o ysgolion, mae cynllunio addas ar gyfer datblygiad graddol llythrennedd, rhifedd a medrau digidol disgyblion; yn yr ysgolion hyn, mae athrawon yn manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu medrau disgyblion ynghyd â’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth gwricwlaidd.
- Mewn ychydig o ysgolion cryf, mae diwylliant darllen sefydledig ac uchelgeisiol; mae hyn wedi arwain at ddisgyblion yn datblygu arferion darllen cryf.
- Mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd addas o leiaf mewn medrau rhifedd sylfaenol yn eu gwersi mathemateg.
- Mae mwyafrif y disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu Cymraeg, er gwaethaf diffygion yn y ddarpariaeth.
- Mae llawer o ysgolion wedi arbrofi gyda’u cynllunio ar gyfer eu Cwricwlwm i Gymru ar gyfer Blynyddoedd 7-9; yn yr achosion mwyaf effeithiol, mae ysgolion yn cadw ffocws cyson ar ddatblygu gwybodaeth bynciol disgyblion wrth fanteisio ar gysylltiadau trawsgwricwlaidd buddiol a chynllunio profiadau dysgu difyr.
- Mae’r ychydig ysgolion gorau yn cynnal ffocws parhaus ar wella ansawdd yr addysgu ochr yn ochr â datblygu’r cwricwlwm ac mae hyn wedi arwain at ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf mewn medrau pwnc ac mewn ystod eang o gymwyseddau eraill.
- Mewn llawer o achosion, mae disgyblion yn y chweched dosbarth yn gwneud cynnydd cryf yn eu gallu i ddeall syniadau cymhleth. Maent yn gyffredinol yn gadarnhaol am eu pynciau ac yn aml yn chwarae rolau arweinyddiaeth gwerthfawr.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn ychydig o ysgolion, mae athrawon yn cael trafferth gydag ymddygiad gwael nifer fach o ddisgyblion, ac mae hyn yn cael effaith ar ddysgu disgyblion ar draws yr ysgol.
- Mewn dwy ran o dair o ysgolion, mae diffygion mewn agweddau ar addysgu mewn o leiaf lleiafrif o wersi, yn enwedig cynllunio gwael ar gyfer dysgu; mae hyn yn cynnwys diffyg ystyriaeth o ran yr hyn y dylai disgyblion ei ddysgu, gosod tasgau her isel a chael disgwyliadau rhy isel o’r hyn y gall disgyblion ei gyflawni.
- Mae cynllunio ar gyfer datblygiad graddol llythrennedd, rhifedd a medrau digidol disgyblion yn parhau i fod heb ei ddatblygu’n ddigonol yn y rhan fwyaf o ysgolion; mae hyn yn arbennig o wir o ran datblygu uwch fedrau darllen disgyblion ac wrth ddatblygu diwylliant darllen. Mae’r diffyg medrau hwn yn cyfyngu ar allu disgyblion i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth gwricwlaidd ehangach.
- Yn rhy aml mewn gwersi mathemateg, nid yw athrawon yn addysgu dealltwriaeth o gysyniadau mathemategol yn ddigon saff; maent yn addysgu llwybrau byr gweithdrefnol yn hytrach na helpu disgyblion i ddeall y cysyniadau hyn a gwneud cysylltiadau rhwng pynciau.
- Nid yw addysgu a’r ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg yn y rhan fwyaf o ysgolion cyfrwng Saesneg yn ddigon cryf; nid yw gwersi wedi’u cynllunio’n ddigon gofalus neu nid ydynt yn ddigon heriol i alluogi disgyblion i wneud cynnydd cryf, neu nid oes digon o gyfleoedd i ddisgyblion glywed a defnyddio’r iaith Gymraeg y tu allan i wersi.
- Mewn rhai achosion, mae diffygion yn lled y dysgu neu yn nhrefniant gwybodaeth a medrau pwnc oherwydd newidiadau mewn cynllunio cwricwlwm; mae hyn yn arbennig o wir o ran pynciau’r dyniaethau.
- Nid oes digon o gyfleoedd i ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 ac yn y chweched dosbarth drafod agweddau pwysig ar addysg bersonol a chymdeithasol.
- Mewn rhai achosion, nid yw disgyblion yn gwneud digon o gynnydd yn eu hastudiaethau. Nid ydynt yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ehangach a gynigir gan yr ysgol.
Llesiant, gofal, cefnogaeth ac arweiniad
Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn parhau i flaenoriaethu lles disgyblion a darparu gofal, cefnogaeth ac arweiniad cryf. Er bod strategaethau i wella presenoldeb disgyblion yn dechrau cael effaith gadarnhaol, mae cyfraddau presenoldeb isel yn parhau i fod yn bryder sylweddol mewn llawer o ysgolion ledled Cymru, yn enwedig presenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn rhoi pwyslais mawr ar sicrhau lefelau uchel o lesiant a diogelu disgyblion.
- Mewn llawer o achosion, mae ysgolion yn cynnig cyfleoedd addas i ddisgyblion ddatblygu eu medrau personol a chymdeithasol, ynghyd â dealltwriaeth o sut i aros yn iach.
- Mae systemau diogel ac effeithiol i gefnogi heriau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol disgyblion mewn llawer o ysgolion; yn yr ysgolion mwyaf effeithiol, mae gradd uchel o gysondeb yn y ffordd y mae staff yn delio ag ymddygiad ac agweddau gwael.
- Mae gan lawer o ddisgyblion agweddau cadarnhaol at ddysgu ac ysgol.
- Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn cyfleu pwysigrwydd presenoldeb da, ac mae llawer o ysgolion yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau defnyddiol i wella presenoldeb disgyblion; mewn ychydig o ysgolion, mae dull strategol ystyriol wedi arwain at gynnydd sylweddol yn eu cyfraddau presenoldeb a gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n colli’r ysgol yn rheolaidd.
- Mae darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn gryfder yn y rhan fwyaf o ysgolion; yn gyffredinol, mae darpariaethau arbenigol yn yr ysgol yn darparu cefnogaeth o ansawdd da i ddisgyblion ag anghenion cymhleth.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn ychydig o achosion, mae disgyblion yn arddangos ymddygiad ac agweddau gwael at ddysgu ac yn tarfu ar ddysgu.
- Mae presenoldeb yn parhau i fod yn sylweddol is nag yr oedd cyn y pandemig; mae presenoldeb isel disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn peri pryder.
- Mae cyfradd absenoldeb parhaus ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yn dal yn rhy uchel.
- Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw arweinwyr yn dadansoddi data presenoldeb yn ddigon gofalus nac yn ddigon rheolaidd ac mae strategaethau i ddelio â phresenoldeb gwael yn rhy adweithiol.
- Mewn lleiafrif o achosion, nid yw disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn gwneud digon o gynnydd. Yn aml, mae hyn oherwydd diffyg disgwyliadau neu gyfathrebu gwael gan arweinwyr ynghylch sut i gefnogi’r disgyblion hyn a diffyg dysgu proffesiynol.
Arwain a gwella
Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae arweinyddiaeth yn cael effaith gadarnhaol ar y ddarpariaeth ar gyfer gofal, cefnogaeth ac arweiniad. Fodd bynnag, nid yw effaith arweinwyr ar ansawdd yr addysgu, y ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau disgyblion a sicrhau gwelliannau ysgol gyfan yn ddigonol yn y rhan fwyaf o ysgolion.
Beth sy’n mynd yn dda
- Yn gyffredinol, mae arweinwyr yn gweithio’n galed i gydbwyso gwelliannau strategol yn erbyn heriau gweithredol a chefndir o ddiwygio parhaus.
- Ym mron pob ysgol, mae arweinwyr yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddiogelu eu disgyblion.
- Yn y rhan fwyaf o achosion, mae arweinyddiaeth lles, gofal, cefnogaeth ac arweiniad yn gryf.
- Oherwydd ffocws parhaus ar hyrwyddo pwysigrwydd presenoldeb, mae gwelliannau cymedrol mewn presenoldeb ar draws llawer o ysgolion; yn yr ychydig ysgolion mwy llwyddiannus, mae dull strategol cryf arweinwyr o hyrwyddo presenoldeb da yn effeithiol wrth sicrhau gwelliannau da.
- Yn yr ychydig ysgolion gorau, mae ffocws parhaus arweinwyr ar sicrhau addysgu ac asesu o ansawdd uchel wedi arwain at lawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf mewn dysgu dros amser; mae arweinwyr yn sicrhau bod dysgu proffesiynol wedi’i alinio’n agos ag unrhyw feysydd ymarfer sydd angen eu gwella.
- Mewn llawer o ysgolion, mae arweinwyr yn cymryd camau addas i leihau rhwystrau i ddysgu i ddisgyblion yr effeithir arnynt gan dlodi.
- Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae arweinyddiaeth anghenion dysgu ychwanegol yn effeithiol ac mae staff yn derbyn canllawiau defnyddiol i gefnogi anghenion eu disgyblion.
- Mewn ychydig o ysgolion effeithiol, mae arweinwyr yn gwerthuso ystod o dystiolaeth uniongyrchol yn ofalus iawn ac yn defnyddio eu canfyddiadau i gynllunio ar gyfer gwelliannau penodol.
- Yn y rhan fwyaf o achosion, mae cyrff llywodraethol yn cyflawni eu cyfrifoldebau’n addas ac mae ganddynt ddealltwriaeth resymol o waith yr ysgol.
Beth sydd angen ei wella
- Nid yw arweinyddiaeth wedi arwain at gynnydd digon cryf yng nghyfraddau presenoldeb disgyblion ysgolion uwchradd, ac yn enwedig disgyblion o gartrefi incwm isel.
- Mewn dwy ran o dair o ysgolion, nid yw’r arweinyddiaeth yn ddigon effeithiol wrth sicrhau addysgu cyson o ansawdd da.
- Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae arweinyddiaeth y ddarpariaeth ar gyfer llythrennedd, rhifedd a medrau digidol disgyblion ar draws y cwricwlwm yn parhau i fod heb ei datblygu’n ddigonol; mae hyn wedi bod yn wir ers blynyddoedd lawer.
- Mae amwysedd ynghylch cyfrifoldebau a diffyg atebolrwydd clir ynghylch rolau arweinyddiaeth mewn tua hanner yr ysgolion.
- Mae gallu arweinwyr i werthuso effaith eu gwaith a chynllunio ar gyfer gwelliannau yn parhau i fod yn annigonol mewn llawer o ysgolion; yn gyffredinol, mae gorbwyslais ar gydymffurfiaeth ac nid oes digon o ystyriaeth i effaith gwaith arweinwyr ar safonau a lles disgyblion.
- Mewn gormod o achosion, mae arweinwyr yn defnyddio dulliau aneffeithiol o ddatblygu eu cwricwlwm; mae cynllunio darpariaeth o amgylch y pedwar diben a chynyddu gwersi sy’n cwmpasu meysydd dysgu eang ar draul datblygu gwybodaeth bwnc gref yn cael effaith negyddol ar gynnydd disgyblion mewn medrau pwnc.
- Mewn lleiafrif o ysgolion, mae dysgu proffesiynol yn brin o ffocws strategol, ac nid yw arweinwyr yn gwerthuso ei effaith ar safonau disgyblion, darpariaeth ac arweinyddiaeth.
- Mae llawer o ysgolion yn wynebu anawsterau cyllidebol; mewn rhai achosion, mae hyn oherwydd rheolaeth ariannol wael a diffyg goruchwyliaeth gan lywodraethwyr.
Trosolwg o argymhellion o arolygiadau
At ei gilydd, arolygwyd 30 o ddarparwyr yn ystod blwyddyn academaidd 2024-2025, ac o’r rhain gosodwyd 13 mewn categori dilyniant. Rhoesom gyfanswm o 109 o argymhellion:
- Rhoddwyd o leiaf un argymhelliad i gyfanswm o 25 o ddarparwyr (83%) yn ymwneud ag addysgu a dysgu, ac o’r rhain, argymhellwyd 20 i wella’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau, gan gynnwys Cymraeg, llythrennedd, rhifedd a medrau digidol.
- Rhoddwyd o leiaf un argymhelliad i gyfanswm o 20 o ddarparwyr (67%) yn ymwneud â lles, gofal, cefnogaeth ac arweiniad, yn amlach na dim i wella presenoldeb.
- Rhoddwyd o leiaf un argymhelliad i gyfanswm o 24 o ddarparwyr (80%) yn ymwneud ag arwain a gwella, a’r rhan fwyaf o’r rhain yn ymwneud â chryfhau arweinyddiaeth a phrosesau hunanwerthuso.
Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod yr arolygiad
Darllenwch am sut mae Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi gweithio i ddatblygu diwylliant darllen cryf – Adroddiad arolygu
Darllenwch am sut mae Ysgol Penweddig wedi mynd ati i wella presenoldeb Adroddiad yr arolygiad
Darllenwch am Ysgol Gyfun Pencoed a sut maen nhw wedi datblygu diwylliant o ddysgu proffesiynol – Adroddiad arolygu