Ysgolion arbenigol ADY annibynnol – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Ysgolion arbenigol ADY annibynnol

Mewnwelediadau Cynnar 2024-2025



Addysgu a dysgu

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn darparu dysgu sy’n cyd-fynd yn agos ag anghenion disgyblion, gan alluogi llawer i wneud cynnydd diogel mewn medrau allweddol ac annibyniaeth. Fodd bynnag, mae anghysondebau yn ansawdd yr addysgu a medrau digidol cyfyngedig yn rhwystro cynnydd mewn lleiafrif o ysgolion. Nid oes gan ychydig o staff y wybodaeth bynciol na’r medrau asesu i ddiwallu anghenion pob disgybl neu gefnogi eu cynnydd yn effeithiol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Ym mron pob ysgol, mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda ac yn defnyddio’r wybodaeth hon yn effeithiol i gynllunio dysgu sy’n diwallu anghenion unigol disgyblion.
  • Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn wrth ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae staff yn dylunio ac yn cyflwyno cwricwlwm sy’n cefnogi disgyblion i ddatblygu eu hannibyniaeth a’u paratoi ar gyfer bod yn oedolyn trwy brofiadau dysgu dilys ac ymarferol.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cymryd rhan gadarnhaol mewn gweithgareddau dysgu ac yn ymgysylltu’n dda mewn gwersi sy’n cyd-fynd â’u diddordebau a’u cyfnod datblygiadol.
  • Mae llawer o staff yn defnyddio cefnogaeth weledol a threfnau strwythuredig yn effeithiol i helpu disgyblion i ddeall disgwyliadau a chael mynediad at y cwricwlwm.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn lleiafrif o ysgolion, mae diffyg cyflymder a her yn yr addysgu, yn enwedig mewn pynciau arbenigol, sy’n cyfyngu ar gynnydd disgyblion dros amser.
  • Mewn rhai ysgolion, nid yw staff yn defnyddio gwybodaeth asesu yn gyson ac yn effeithiol i gynllunio camau nesaf disgyblion mewn dysgu neu i fonitro eu cynnydd yn gywir.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, mae cyfleoedd i ddatblygu medrau digidol naill ai’n gyfyngedig neu nid ydynt wedi’u hymgorffori’n gyson ar draws y cwricwlwm.
  • Mewn ychydig o ysgolion, mae lleiafrif o ddisgyblion yn parhau i fod yn rhy ddibynnol ar gefnogaeth oedolion ac nid oes ganddynt gyfleoedd rheolaidd i weithio’n annibynnol na datblygu medrau datrys problemau.

Llesiant, gofal, cefnogaeth ac arweiniad

Mae bron pob disgybl yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi mewn amgylcheddau meithringar lle mae staff yn hyrwyddo lles a pherthnasoedd cadarnhaol. Mae llawer o ysgolion yn cynnig profiadau cyfoethog ac ymarferol sy’n paratoi disgyblion ar gyfer bywyd fel oedolyn. Mewn llawer o ysgolion, mae disgyblion yn elwa o fewnbwn therapiwtig a phrofiadau bywyd go iawn cynhwysol sy’n hyrwyddo lles a datblygiad cymdeithasol yn dda. Fodd bynnag, mae presenoldeb isel, sylw cyfyngedig i amrywiaeth a chydraddoldeb ac arweiniad gyrfaoedd anghyson yn gwanhau’r ddarpariaeth mewn ychydig o leoliadau.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Ym mron pob ysgol, mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi. Mae’r rhan fwyaf yn deall sut i geisio cefnogaeth os ydynt yn poeni neu’n ofidus.
  • Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn meithrin ethos cadarnhaol lle mae perthnasoedd yn barchus ac mae staff yn cefnogi lles disgyblion yn effeithiol.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae disgyblion yn elwa o fewnbwn therapiwtig ac ymyriadau wedi’u targedu sy’n cefnogi rheoleiddio emosiynol a datblygiad cymdeithasol.
  • Mae llawer o ysgolion yn hyrwyddo cyfranogiad cynhwysol mewn cyfleoedd dysgu bywyd go iawn fel lleoliadau cymunedol, sy’n helpu disgyblion i baratoi’n dda ar gyfer bod yn oedolion.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos gwelliannau o ran presenoldeb ac ymgysylltiad dros amser, yn enwedig lle mae staff yn gweithio’n agos gyda theuluoedd ac asiantaethau allanol i oresgyn rhwystrau.

 

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o ysgolion, mae presenoldeb yn parhau i fod yn rhy isel i leiafrif o ddisgyblion ac mae’n effeithio’n negyddol ar eu cynnydd a’u lles.
  • Mewn llawer o ysgolion, nid yw cynnwys y cwricwlwm yn cefnogi disgyblion yn ddigon da i ddatblygu eu dealltwriaeth o nodweddion gwarchodedig, cydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • Mewn rhai ysgolion, nid yw ymatebion staff i ymddygiad heriol yn gyson yn cyd-fynd â’r strategaethau y cytunwyd arnynt, ac mae’r dull anffurfiol o reoli ymddygiad weithiau’n tanseilio ansawdd cyffredinol y ddarpariaeth.
  • Mewn rhai ysgolion, nid yw addysg a chanllawiau gyrfaoedd wedi’u datblygu’n ddigonol neu mae diffyg cydlyniant ar draws cyfnodau allweddol.
  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw rolau arweinyddiaeth disgyblion wedi’u datblygu’n ddigonol, er bod y rhan fwyaf yn cynnig cyfleoedd strwythuredig ar gyfer llais disgyblion.

Arwain a gwella

Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae arweinwyr yn hyrwyddo gweledigaeth glir a diwylliant cadarnhaol sy’n cefnogi staff a disgyblion yn dda. Maent yn defnyddio sicrhau ansawdd i ysgogi gwelliant a sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau. Fodd bynnag, mae newidiadau arweinyddiaeth a heriau recriwtio staff yn effeithio ar waith gwella mewn rhai achosion. Mae sicrhau ansawdd yn brin o drylwyredd yn y mwyafrif o ysgolion ac ychydig o ysgolion sy’n gwerthuso dysgu proffesiynol yn gadarn.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae arweinwyr yn cyfleu gweledigaeth glir ac yn creu diwylliant cadarnhaol sy’n cefnogi morâl staff a lles disgyblion.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae arweinwyr yn defnyddio gweithgareddau sicrhau ansawdd i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella a chymryd camau i fynd i’r afael â blaenoriaethau.
  • Mewn ychydig o ysgolion, mae dysgu proffesiynol wedi’i alinio’n dda â blaenoriaethau gwella ysgolion ac yn cefnogi staff i wella eu harfer.
  • Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae trefniadau diogelu yn gadarn ac mae arweinwyr yn cynnal cydymffurfiaeth â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw gweithgareddau sicrhau ansawdd yn canolbwyntio’n ddigon manwl ar effeithiolrwydd addysgu a’i effaith ar ddysgu.
  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw llywodraethu yn darparu digon o her strategol na goruchwyliaeth, yn enwedig lle mae’r perchennog hefyd yn gwasanaethu fel pennaeth.
  • Mewn ychydig o ysgolion, mae newid arweinyddiaeth ac anawsterau recriwtio wedi arafu cyflymder y gwelliant; yn arbennig, mae gan fwyafrif yr ysgolion a arolygwyd o dan drefniadau craidd a lleiafrif o’r rhai sydd ag arolygiad monitro arweinwyr newydd.
  • Mewn rhai ysgolion, nid yw arweinwyr yn sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio’n llawn â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024.

Trosolwg o argymhellion o arolygiadau

Yn y flwyddyn academaidd 2024-2025, cynhaliodd Estyn wyth arolygiad craidd a chwe arolygiad monitro o ysgolion arbenigol ADY annibynnol.

  • Rhoddwyd argymhelliad i 10 ysgol (71%) yn ymwneud ag addysgu a dysgu . O’r rheini, nid oedd tri yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 ac maent mewn categori dilyniant.
  • Rhoddwyd argymhelliad i bedair ysgol (29%) yn ymwneud â lles, gofal, cefnogaeth ac arweiniad . O’r rheini, nid oedd un yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 ac mae mewn categori dilyniant.
  • Rhoddwyd argymhelliad i 11 ysgol (79%) yn ymwneud ag arwain a gwella . O’r rheini, nid oedd tri yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 ac maent mewn categori dilyniant. Ar gyfer yr ysgolion hyn, un o’u hargymhellion ym maes arolygu 3 oedd cydymffurfio’n llawn â Safonau Ysgolion Annibynnol.

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod yr arolygiad

Ysgol Therapiwtig Amberleigh

Adroddiad arolygu: Ysgol Therapiwtig Amberleigh

Neuadd Golfa (x2) – Gyrfaoedd a phrofiadau yn y gymuned ehangach / Cymuned Estynedig Amberleigh

Chestnut Hill School

Adroddiad arolygu: Chestnut Hill School

Chestnut Hill (x2) – Gweithio ar y cyd / Rheoli Newid

Dan y Coed

Adroddiad arolygu: Dan y Coed

Dan y Coed (x3) – Gyrfaoedd a pharatoi ar gyfer cyrchfannau’r dyfodol / Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) / Cydweithrediad Amgueddfa Sain Ffagan

Red Rose school

Adroddiad arolygu: Red Rose school

Red Rose school – Cefnogi disgyblion sydd wedi bod mewn gofal

Gwenllian Education Centre

Adroddiad arolygu: Gwenllian Education Centre

Gwenllian Education Centre – Parental Partnerships

Mynydd Haf

Adroddiad arolygu: Mynydd Haf

Canolfan Addysg Mynydd Haf– Cyfleoedd Preswyl ar gyfer Dysgu