Ysgolion Prif Ffrwd Annibynnol
Mewnwelediadau Cynnar 2024-2025
Addysgu a dysgu
Ym mron pob ysgol, mae disgyblion yn frwdfrydig, yn ymddwyn yn dda, yn hyderus ac yn croesawu her ddeallusol. Cânt eu cefnogi gan staff sy’n meithrin perthnasoedd parchus, sydd â disgwyliadau uchelgeisiol sy’n meithrin annibyniaeth ac yn gyffredinol yn dangos gwybodaeth bwnc gref. Caiff darllen cynnar, ysgrifennu a mathemateg eu haddysgu’n gyson dda mewn cyfnodau cynradd, er bod cymhwyso y medrau hyn yn hyderus yn amrywiol. Mae adborth effeithiol yn cefnogi disgyblion i wneud cynnydd da, ond mewn ychydig o ysgolion mae addysgu sy’n cael ei arwain yn ormodol gan athrawon a her gyfyngedig yn atal dysgwyr mwy abl.
Beth sy’n mynd yn dda
- Ym mron pob ysgol, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ddysgwyr brwdfrydig sy’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan staff ac yn cael eu hannog i wneud eu gorau
- Mae ymddygiad bron pob disgybl ac agweddau’r rhan fwyaf o ddisgyblion at ddysgu yn rhagorol
- Ym mron pob ysgol, mae staff yn meithrin perthnasoedd parchus a chadarn, ac, o ganlyniad, mae disgyblion yn hyderus i gymryd rhan a chymryd risgiau deallusol.
- Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae staff yn dangos gwybodaeth bwnc arbenigol gref a dealltwriaeth o ofynion cyrsiau arholiadau; mewn ychydig o ysgolion, mae’r wybodaeth hon yn arbenigol ac yn darparu lefelau eithriadol o her ddeallusol i ddisgyblion.
- Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae gan staff ddyheadau uchel ar gyfer eu disgyblion.
- Mewn llawer o ysgolion, mae annibyniaeth disgyblion yn gryfder oherwydd y model dysgu a dulliau’r athrawon.
- Ym mron pob ysgol gyda disgyblion oedran cynradd, mae addysgu darllen cynnar, ysgrifennu a mathemateg o ansawdd uchel; mewn tua hanner yr ysgolion hyn, mae disgyblion yn cymhwyso’r medrau hyn ar draws y cwricwlwm yn hyderus.
- Ym mron pob ysgol, mae adborth llafar athrawon a chwestiynu a chefnogaeth unigol yn sicrhau bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn yn eu dysgu yn ystod gwersi.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn ychydig iawn o ysgolion, nid yw casglu a defnyddio asesiadau ffurfiannol yn cael eu cymhwyso’n gyson.
- Mewn lleiafrif o ysgolion, mae gwersi’n cael eu harwain yn ormodol gan athrawon, gan gyfyngu ar gyfleoedd disgyblion i feddwl, trafod neu fod yn annibynnol ar lefel uwch.
- Mewn lleiafrif o ysgolion, mae addasu dysgu i ddiwallu anghenion disgyblion, yn enwedig y rhai mwy abl, yn anghyson.
Llesiant, gofal, cefnogaeth ac arweiniad
Mae bron pob ysgol yn darparu amgylchedd meithringar a chynhwysol lle mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn falch o’u hysgol. Mae gofal bugeiliol cryf a pherthnasoedd ymddiriedus yn sail i ddiwylliant sy’n blaenoriaethu lles, gyda llawer o ysgolion yn defnyddio offer digidol i wella cefnogaeth.
Beth sy’n mynd yn dda
- Ym mron pob ysgol, mae’r amgylchedd yn feithringar a chynhwysol.
- Ym mron pob ysgol, mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel ac mae ganddyn nhw ymdeimlad cryf o berthyn; maen nhw’n ymfalchïo yn eu hysgol ac yn dangos parch at ei gilydd, aelodau staff ac ymwelwyr â’r ysgol.
- Ym mron pob ysgol, mae diwylliant bugeiliol cryf, sy’n rhoi blaenoriaeth uchel i hyrwyddo lles disgyblion.
- Ym mron pob ysgol, mae disgyblion yn ymddiried yn staff ac yn gwybod gyda phwy i siarad os ydynt yn poeni neu’n ofidus; mae mwyafrif o ysgolion yn defnyddio offer digidol yn gelfydd i alluogi disgyblion i gael mynediad rhwydd at gymorth neu i roi gwybod am unrhyw bryderon.
- Mewn llawer o ysgolion, mae cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer llwybrau a gyrfaoedd disgyblion yn y dyfodol yn hynod effeithiol.
- Mewn llawer o ysgolion, mae rolau arweinyddiaeth disgyblion a dulliau ffurfiol o lais disgyblion wedi’u hymgorffori’n dda ac yn ystyrlon, ac yn dylanwadu’n gadarnhaol ar waith neu fywyd yn yr ysgol.
- Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae presenoldeb disgyblion yn gryfder.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn ychydig iawn o ysgolion a arolygwyd, mae addysg bersonol a chymdeithasol ffurfiol yn gyfyngedig ac mae’r paratoad ar gyfer bywyd fel oedolyn heb ei ddatblygu’n ddigonol.
- Mewn ychydig o ysgolion, mae lle i gryfhau cyfleoedd i ddisgyblion ddylanwadu ar newid a myfyrio’n fwy cyson ar eu profiadau.
Arwain a gwella
Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae gan arweinwyr weledigaeth glir, maent yn uchelgeisiol ar gyfer eu disgyblion, ac yn gosod disgwyliadau uchel i staff, gan feithrin cymunedau cydlynol a chydweithredol sy’n canolbwyntio ar lwyddiant disgyblion. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o ysgolion, nid yw arweinwyr yn sicrhau cydymffurfiaeth lawn â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024.
Beth sy’n mynd yn dda
- Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae gan arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer eu hysgol, maent yn uchelgeisiol ar gyfer eu disgyblion ac mae ganddynt ddisgwyliadau uchel o’u staff.
- Ym mron pob ysgol, mae arweinwyr yn creu cymunedau cydlynol sy’n gweithio’n golegol er budd gorau disgyblion.
- Mewn llawer o ysgolion, mae rheolaeth weithredol arweinwyr o’r ysgol yn gryfder.
- Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae llywodraethu effeithiol yn cefnogi gwelliant strategol yr ysgol; mae llywodraethwyr yn ymgysylltu, yn wybodus ac yn herio’n adeiladol.
- Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae datblygiad proffesiynol wedi’i sefydlu’n dda ac mae’n cefnogi datblygiad diwylliant o hunan welliant sy’n gysylltiedig â blaenoriaethau gwella ysgolion.
Beth sydd angen ei wella
- Yn y rhan fwyaf o ysgolion, nid yw arweinwyr yn sicrhau cydymffurfiaeth lawn â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024; yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn oherwydd nad yw arweinwyr wedi bod yn gyfredol trwy gadw at ddeddfwriaeth ddiweddaraf, yn enwedig mewn perthynas ag arferion recriwtio mwy diogel parhaus – mewn ychydig o achosion, nododd arolygiadau hefyd faterion yn ymwneud â chyflwr ac addasrwydd safle ac adeilad yr ysgol.
- Mewn ychydig o ysgolion, mae llywodraethu’n brin o drylwyredd strategol ac nid yw’n cynllunio ac yn sbarduno gwelliant ysgol gyfan yn gyson.
- Mewn ychydig o ysgolion, mae datblygiad proffesiynol yn brin o ffurfioldeb a chysylltiadau clir â blaenoriaethau gwella strategol.
Trosolwg o argymhellion o arolygiadau
Yn y flwyddyn academaidd 2024-2025, cynhaliodd Estyn saith arolygiad craidd a chwe arolygiad monitro o ysgolion prif ffrwd annibynnol.
- Rhoddwyd argymhelliad i gyfanswm o 8 ysgol (62%) yn ymwneud ag addysgu a dysgu, gan ganolbwyntio ar wella cysondeb ac ansawdd addysgu, defnyddio asesu yn fwy effeithiol i lywio addysgu, a chyfoethogi’r cwricwlwm i gefnogi cynnydd ac ymgysylltiad disgyblion.
- Rhoddwyd argymhelliad i un ysgol (8%) yn ymwneud â lles, gofal, cefnogaeth ac arweiniad, gan ganolbwyntio ar gryfhau hyrwyddo’r ysgol o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
- Rhoddwyd argymhelliad i gyfanswm o 11 ysgol (85%) yn ymwneud ag arwain a gwella . O’r rheini, nid oedd pedair yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 ac fe’u rhoddwyd mewn categori dilyniant. Ar gyfer yr ysgolion hyn, un o’u hargymhellion ym maes arolygu 3 oedd cydymffurfio’n llawn â Safonau Ysgolion Annibynnol.
Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod yr arolygiad
Ruthin School
Adroddiad arolygu: Ruthin School
Cynllunio cyfleoedd dysgu effeithiol i baratoi disgyblion ar gyfer bywyd fel oedolyn.
Myddleton College
Adroddiad arolygu: Myddleton College
Dysgu drwy’r awyr agored (heb ei gyhoeddi eto)