Addysg bellach – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Addysg bellach

Adroddiad sector 2024 - 2025



Data Darparwyr

12

Mae 12 coleg yn darparu cyrsiau addysg bellach yng Nghymru. Mae gan lawer ohonynt safleoedd lluosog ar draws ardal ddaearyddol eang, sy’n rhychwantu sawl ardal awdurdod lleol.


Data Dysgwyr

47,090

Nifer y dysgwyr llawn amser mewn sefydliadau addysg bellach yn 2023-2024

61,555

Nifer y dysgwyr rhan-amser mewn sefydliadau addysg bellach yn 2023-2024

45,275

Nifer y dysgwyr llawn amser mewn sefydliadau addysg bellach yn 2022-2023

60,510

Nifer y dysgwyr rhan-amser mewn sefydliadau addysg bellach yn 2022-2023

45,250

Nifer y dysgwyr llawn amser mewn sefydliadau addysg bellach yn 2021-2022

54,680

Nifer y dysgwyr rhan-amser mewn sefydliadau addysg bellach yn 2021-2022

Ffynhonnell: Sta/Medr/06/2025: Addysg bellach, dysgu yn y gwaith a dysgu cymunedol, Awst 2023 i Orffennaf 2024


Data Gweithgarwch Dilynol

Nid oes unrhyw golegau addysg bellach mewn categori gweithgarwch dilynol ar hyn o bryd.


Gweithgarwch arolygu

Nifer yr arolygiadau craidd: 2

Astudiaethau achos

Nifer yr astudiaethau achos: 1

Ymweliadau ymgysylltu

Nifer yr ymweliadau ymgysylltu gan arolygwyr cyswllt: 9


Crynodeb

At ei gilydd, roedd athrawon yn cynllunio a chyflwyno sesiynau dysgu wedi’u strwythuro’n dda a oedd yn helpu ennyn ymgysylltiad dysgwyr a’u cymell i ddatblygu a chymhwyso’u gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u medrau ar draws rhaglenni addysg alwedigaethol a chyffredinol. Roedd colegau’n darparu amgylcheddau diogel, croesawgar a chynhwysol, lle roedd llawer o ddysgwyr yn cael cymorth da ac roedd ganddynt ymdeimlad cryf o berthyn. Roedd arweinwyr yn darparu cyfeiriad strategol clir ac yn gweithio’n dda gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol i ddiwallu anghenion lleol a rhanbarthol asefydlu cymunedau dysgu proffesiynol.


Addysgu a dysgu

Yn y ddau goleg a arolygwyd gennym eleni, roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cadarn yn datblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r medrau sydd eu hangen i gefnogi eu dysgu a’u cynnydd. Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr wedi eu cymell, a llawer ohonynt yn cymhwyso’u dysgu’n hyderus mewn cyd-destunau galwedigaethol ac academaidd, fel ei gilydd, yn aml gan ddefnyddio terminoleg yn benodol i bwnc yn gywir. Roeddent yn ymfalchïo yn eu gwaith ac yn elwa ar berthnasoedd cadarnhaol a pharchus â staff a’u cyfoedion. Roedd llawer o ddysgwyr yn datblygu eu medrau llythrennedd a rhifedd yn briodol yn rhan o’u rhaglenni dysgu.

Darllenwch am y modd y mae dysgwyr Coleg y Cymoedd sy’n meddu ar allu hynod o gryf ym maes chwaraeon yn elwa ar Gynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Dawnus (TASS) blaenllaw’r coleg (TASS) yma.

Roedd yr addysgu’n bwrpasol ac wedi’i gynllunio’n dda, ar y cyfan. Roedd y rhan fwyaf o athrawon yn defnyddio ystod addas o ddulliau i ennyn ymgysylltiad dysgwyr a chefnogi eu cynnydd. Mewn un coleg, roedd y rhan fwyaf o athrawon yn defnyddio holi yn dda i wirio dealltwriaeth dysgwyr ac ymestyn eu meddwl. Mewn coleg arall, roedd llawer o sesiynau’n ddifyr ac wedi’u strwythuro’n dda. Roedd athrawon yn meithrin amgylcheddau dysgu digynnwrf a chynhwysol. Mewn ychydig o sesiynau, roedd gormod o ddibyniaeth ar ddulliau wedi’u harwain gan athrawon ac roedd holi gwan yn cyfyngu ar annibyniaeth dysgwyr. Nid yw athrawon bob amser yn herio dysgwyr ddigon i gyrraedd eu llawn botensial nac yn gosod disgwyliadau digon uchelgeisiol ar gyfer cynnydd a chyflawniad dysgwyr. Ar draws y ddau goleg, roedd adborth llafar athrawon ar waith dysgwyr yn aml yn gryfder, er bod adborth ysgrifenedig neu adborth wedi’i gofnodi yn fwy amrywiol.

Addysgu sy’n gyson gryf yn Y Coleg Merthyr Tudful

Mae gan y coleg strategaeth addysgu a dysgu ddiffiniedig yn seiliedig ar fodel addysgu myfyriol a chydweithredol, wedi’i lywio gan ymchwil. Mae’r model hwn wedi’i wreiddio’n gadarn ar draws y coleg. Mae’r rhan fwyaf o athrawon yn rhoi’r strategaeth hon ar waith yn gyson, gan sicrhau bod gwersi’n cael eu cynllunio’n effeithiol, eu bod yn ddifyr, a bod cyflymdra da iddynt. Mae athrawon yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau addysgu i gynorthwyo dysgwyr i adeiladu’n raddol ar wybodaeth flaenorol. O ganlyniad, mae dysgwyr yn dangos ymgysylltiad cryf ac yn gwneud cynnydd cadarn yn datblygu eu medrau a’u dealltwriaeth.

Roedd y ddau goleg yn dechrau archwilio defnydd o offer digidol datblygol, fel realiti rhithwir a deallusrwydd artiffisial (AI) cynhyrchiol, i ymestyn dysgu. Roedd datblygu’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo yn y ddau sefydliad, ac roedd llawer o athrawon yn defnyddio terminoleg Gymraeg yn eu haddysgu. Fodd bynnag, roedd dysgwyr yn gwneud defnydd cyfyngedig o’r Gymraeg yn eu gwaith.

Platfformau digidol yn cefnogi cysylltiad yng Ngholeg y Cymoedd 

Mae bron pob un o’r athrawon ar draws y coleg yn defnyddio platfformau digidol yn hynod effeithiol i reoli a chynllunio dysgu, rhannu adnoddau, olrhain cynnydd dysgwyr, a chyfathrebu â’u dysgwyr. Maent yn defnyddio platfformau digidol yn gyson i rannu gwybodaeth allweddol gyda staff addysgu a staff cymorth eraill ar draws pob campws ynghylch materion fel ymddygiad, presenoldeb a lles dysgwyr. Mae’r dull cydlynus trawsgolegol hwn yn helpu’r coleg i ddarparu ymyriadau a chymorth amserol ar gyfer dysgwyr, lle mae angen. Mae bron pob un o’r dysgwyr yn defnyddio’r platfformau hyn yn hyderus i reoli a chyflwyno’u gwaith a chyfathrebu â’u tiwtoriaid, gan ddangos a datblygu medrau digidol cryf.

Mewn un coleg, roedd deilliannau ar gyfer dysgwyr Safon Uwch yn cyd-fynd yn fras â deilliannau eu cyfoedion mewn mannau eraill, tra roedd deilliannau galwedigaethol yn amrywiol. Mewn coleg arall, roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn cyflawni deilliannau priodol, ond roedd absenoldeb parhaus yn rhwystr rhag gwneud cynnydd i ychydig o ddysgwyr. Roedd presenoldeb yn rhy isel mewn ychydig o feysydd yn y ddau goleg, ac yn yr achosion hynny, roedd hyn yn cael effaith negyddol ar gynnydd a deilliannau dysgwyr.

Yn ystod ein hymweliadau arolygwyr cyswllt â cholegau, adolygom gynnydd mewn gweithredu eu cynlluniau gweithredu Cymru wrth-hiliol. Canfuom fod colegau mewn cyfnodau amrywiol o ran ymgorffori cynnwys gwrth-hiliol yn eu cwricwla. Roedd dulliau cyffredin yn cynnwys addasu rhaglenni tiwtorial, defnyddio offer metafyd sydd ar gael, ac ymdrechion i ddad-trefedigaethu cynnwys sy’n benodol i bwnc.


Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Roedd dysgwyr yn y ddau goleg a arolygwyd eleni yn elwa ar amgylcheddau dysgu cynhwysol a chefnogol. Roeddent yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi, a roedd bron pob un ohonynt yn teimlo bod staff yn gwrando ar eu safbwyntiau.

Darllenwch y ciplun ar greu lle ar gyfer sgyrsiau am ddiogelu yng Ngholeg y Cymoedd yma.

Roedd cymorth bugeiliol a lles cryf yn helpu dysgwyr i ddatblygu hyder, gwydnwch ac ymdeimlad cryf o gymuned a pherthyn. Mewn un coleg, roedd cymorth lles yn hynod ragweithiol ar gyfer dysgwyr o gefndiroedd incwm isel a’r rhai mewn perygl o ymddieithrio. At ei gilydd, roedd dealltwriaeth amrywiol o anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ymhlith staff yn cyfyngu ar gysondeb cymorth i ddysgwyr. O ganlyniad, nid oedd colegau bob amser yn nodi ac adolygu cynnydd dysgwyr ag ADY yn ddigon da.

Roedd canolfannau lles dynodedig yn darparu cyfle cyfleus i elwa ar gymorth emosiynol personoledig, cymorth ar gyfer astudio a chymorth ariannol i ddysgwyr, yn cynnwys mynediad at leoedd tawel, grwpiau cymdeithasol a chymorth arbenigol fel cwnsela a chymorth iechyd.

Darllenwch am gynnig cymorth lles Y Coleg Merthyr Tudful, yn cynnwys ei waith gyda dysgwyr dan anfantais, yma.

Roedd trefniadau cymorth effeithiol ar gyfer pontio yn amlwg yn y ddau goleg a arolygwyd eleni. Roedd dysgwyr yn cael arweiniad defnyddiol ar gofrestru, dewis cyrsiau a dilyniant yn y dyfodol. Roedd cydweithio cryf ag ysgolion, awdurdodau lleol a chyflogwyr yn sail i’r trefniadau hyn. Roedd rhaglenni tiwtorial a sesiynau siaradwyr gwadd yn y ddau goleg yn cwmpasu meysydd pwysig fel iechyd meddwl, diogelwch personol ac ar-lein, gwrth-hiliaeth a pherthnasoedd iach.

Roedd y ddau goleg yn cynnig cyfleoedd cyfoethogi ac arweinyddiaeth a oedd yn cefnogi datblygiad personol a chymdeithasol dysgwyr. Roedd llawer o ddysgwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o fentrau cymunedol, cystadlaethau a gweithgareddau dysgu ehangach a oedd yn helpu meithrin ymdeimlad cryf o gymuned a pherthyn.

Darllenwch am y rhaglen academi arloesol a dyheadol ar gyfer dysgwyr peirianneg ac adeiladu yn Y Coleg Merthyr Tudful.

Yn y ddau goleg, roedd dysgwyr yn dangos agweddau cadarnhaol at eu dysgu ac roeddent yn barchus wrth iddynt ryngweithio â’i gilydd. Lle’r oedd dysgwyr yn mynychu’n dda ac yn ymgysylltu’n rheolaidd, roeddent wedi eu paratoi’n dda ar gyfer symud ymlaen i ddysgu pellach neu gyflogaeth. Fodd bynnag, roedd presenoldeb isel parhaus mewn ychydig o feysydd y cwricwlwm yn faes pryder.

Cynhaliom ymweliadau ymgysylltu arolygwyr cyswllt â phob un o’r 12 coleg addysg bellach yn ystod tymor yr hydref ac ar ddechrau tymor y gwanwyn yn 2024-2025, hefyd. Wrth i ni ymgysylltu â dysgwyr yn ystod yr ymweliadau hyn, roedd dysgwyr yn gadarnhaol iawn, ar y cyfan, am eu profiadau cynnar o fywyd coleg. Nodom gynnydd calonogol parhaus wrth weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (ADYTA). Fodd bynnag, yn ystod ein hymweliadau cyswllt, roedd colegau yn aml yn mynegi pryder ynghylch baich gweinyddol trwm cynlluniau datblygu unigol, ac anghysondebau rhwng ysgolion ac awdurdodau lleol o ran rhannu gwybodaeth a dogfennau. Roedd arweinwyr colegau hefyd yn mynegi pryder ynghylch amrywioldeb cyngor ac arweiniad cychwynnol rhwng ardaloedd awdurdodau lleol, ac oddi mewn iddynt, ynghylch opsiynau ôl-16.

Ymwelom ag ystod o saith coleg addysg bellach hefyd yn rhan o adolygiad thematig o ymddygiad dysgwyr o fewn colegau addysg bellach ledled Cymru. Roedd yr adroddiad yn ystyried sut roedd colegau yn hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol ac yn rheoli ymddygiadau negyddol, ochr yn ochr â’r cymorth oedd ar gael i ddysgwyr a staff. Dysgwch fwy am yr adolygiad thematig yma.


Arwain a gwella

Mae penaethiaid ac uwch arweinwyr yn y ddau goleg wedi gosod gweledigaeth glir a chyfeiriad strategol, ac wedi sicrhau bod cynnig cwricwlwm eang a chytbwys yn cael ei ddarparu sydd wedi ymateb yn dda i anghenion dysgwyr ar draws cymunedau lleol a rhanbarthol. Mewn un coleg a arolygwyd eleni, roedd arweinwyr yn gweithio’n effeithiol gyda phartneriaid allanol ac roeddent yn blaenoriaethu defnydd moesegol a phwrpasol o dechnoleg ddigidol, yn cynnwys deallusrwydd artiffisial. Mewn coleg arall, roedd yr uwch dîm arweinyddiaeth wedi meithrin diwylliant cryf o dryloywder, ymddiriedaeth a chydweithio.

Roedd arweinwyr canol yn y ddau goleg yn cael cymorth effeithiol gan uwch arweinwyr ac o gyfarfodydd rheolaidd, ac roedd gohebiaeth ddigidol yn helpu i hysbysu staff yn dda. Roedd y ddau sefydliad yn hyrwyddo dysgu proffesiynol ac arfer fyfyriol yn dda. Roedd arweinwyr yn darparu cymorth cryf ar gyfer cydweithio a sefydlu cymunedau dysgu proffesiynol. Roedd colegau’n darparu cyfleoedd defnyddiol i staff gyfrannu at bolisïau a phrosesau gwneud penderfyniadau colegau, yn cynnwys y rhai sy’n effeithio ar les a baich gwaith staff. Roedd y ddau goleg yn mynd ati i hyrwyddo’r Gymraeg a dwyieithrwydd, ac wedi penodi staff arbenigol i gynorthwyo staff a dysgwyr.

Mae datblygu dysgu proffesiynol yn Y Coleg Merthyr Tudful yn grymuso athrawon i fyfyrio ar eu harfer addysgu i archwilio meysydd maent wedi nodi bod angen eu gwella neu heriau mae angen iddynt eu goresgyn. Dangosir canlyniadau’r gwaith hwn yn glir mewn llawer o sesiynau trwy weithgareddau dysgu amrywiol sy’n hyrwyddo ymgysylltiad gwell gan ddysgwyr ac wedi datblygu technegau holi sy’n procio ac yn herio, gan ddyfnhau dysgu. Darllenwch yr astudiaeth achos arfer effeithiol lawn yma.

Darllenwch am y modd y mae’r rhaglen i ddarpar arweinwyr yng Ngholeg y Cymoedd wedi llwyddo i feithrin datblygu doniau ar draws y coleg trwy ffocws cryf ar arweinyddiaeth fewnol yma.

Ar y cyfan, roedd prosesau hunanwerthuso yn cael eu hymwreiddio’n dda, ac roeddent yn effeithiol, yn enwedig ar y lefel adrannol, ac roedd arweinwyr yn gwneud defnydd priodol o ystod eang o dystiolaeth. Roedd y rhain yn cynnwys arsylwadau addysgu a dysgu, teithiau dysgu a theithiau o amgylch y campws, arolygon canfyddiadau a fforymau trafod, yn ogystal â data perfformiad deilliannau dysgwyr a meincnodau, lle’r oedd y rhain ar gael. Fodd bynnag, nid oedd gweithgareddau gwerthuso bob amser yn gwneud defnydd digonol o ddeilliannau galwedigaethol na data presenoldeb i lywio cynllunio strategol. Nid oedd data am bresenoldeb a phrydlondeb dysgwyr yn cael ei gofnodi a’i ddefnyddio’n ddigon da i yrru gwelliant. Yn ychwanegol, nid oedd prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yn canolbwyntio’n ddigon cryf ar fonitro a gwella cyrhaeddiad ar raddau uwch ar raglenni cyffredinol a galwedigaethol, fel ei gilydd.

Roedd llywodraethu yn gryfder yn y ddau goleg. Roedd llywodraethwyr yn darparu cymorth, craffu a her effeithiol i uwch arweinwyr. Roedd morâl staff yn uchel, ar y cyfan, ac roedd staff yn teimlo’u bod yn cael cymorth da ac yn ymfalchïo mewn gweithio yn eu sefydliadau. Roedd colegau’n darparu cyfleoedd defnyddiol i staff gyfrannu at brosesau colegau o ran llunio polisïau a gwneud penderfyniadau colegau, yn cynnwys y rhai sy’n effeithio ar les a baich gwaith staff.

At ei gilydd, roedd y ddau goleg yn dangos ymrwymiad clir i welliant parhaus, cefnogi lles dysgwyr, a datblygu amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel. Roedd y ddau goleg wedi buddsoddi’n helaeth i ddarparu cyfleusterau ac adnoddau dysgu o ansawdd uchel i gefnogi cyflawni eu blaenoriaethau strategol.

Yn ystod ein hymweliadau ymgysylltu gan arolygwyr cyswllt â cholegau addysg bellach eleni, trafodom ystod o faterion gydag arweinwyr colegau ynghylch arwain a gwella. Roedd yn glir bod y sefyllfa ariannol sy’n wynebu’r sector wedi dod yn fwy heriol eleni, ac roedd costau cludiant ynghyd â newidiadau lleol i gymhwysedd yn destun pryder penodol. Cododd arweinwyr colegau bryderon hefyd ynghylch oedi allanol parhaus wrth gyhoeddi data mesurau cyson ôl-16 amserol, wedi’i ddilysu ar gyfer colegau unigol ac ar gyfer y sector cyfan. Roedd hyn yn cael effaith negyddol ar brosesau hunanwerthuso a gwella colegau, ac yn cael effaith negyddol hefyd ar ein gallu i werthuso cyrhaeddiad dysgwyr yn ystod arolygiadau colegau addysg bellach eleni.

Yn ystod ein hymweliadau ymgysylltu gan arolygwyr cyswllt â cholegau, adolygom gynnydd o ran rhoi eu cynlluniau gweithredu Cymru wrth-hiliol ar waith. Ar draws colegau, roedd ymrwymiad strategol cryf i wrth-hiliaeth, a ddangoswyd gan gynlluniau gweithredu, rolau dynodedig a chyfranogiad mewn partneriaethau cenedlaethol. Roedd y rhan fwyaf o golegau wedi ymgorffori ymdrechion gwrth-hiliaeth mewn strategaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ehangach.

Gwelwyd bod datblygiad proffesiynol yn ganolog i ddatblygu arfer wrth-hiliol. Roedd llawer ohonynt yn darparu hyfforddiant i’r coleg cyfan, yn aml wedi’i gyflwyno mewn cydweithrediad â phartneriaethau allanol. Roedd colegau hefyd yn rhoi pwyslais sylweddol ar wneud prosesau recriwtio yn fwy cynhwysol ac yn gwella amrywiaeth ethnig ymhlith staff a llywodraethwyr. Roedd colegau’n gofyn yn gynyddol am adborth gan ddysgwyr ac yn creu amgylcheddau mwy cynhwysol trwy ddigwyddiadau, fforymau dysgwyr a newidiadau strwythurol.

Thema reolaidd ar draws colegau oedd yr anawsterau mewn meintoli effaith camau gweithredu o fewn cynlluniau gweithredu gwrth-hiliol. Er bod gweithgareddau helaeth, roedd newidiadau mesuradwy mewn deilliannau dysgwyr, diwylliant neu agweddau yn llai diffiniedig. Er bod colegau’n ymdrin o hyd â sut i fesur effaith, roedd sylfaen gyffredinol ddefnyddiol ar gyfer newid diwylliannol a sefydliadol wedi cael ei sefydlu.

Rhannodd lleiafrif o golegau ddiweddariadau ar y cyd hefyd ar newidiadau ar lefel uwch arweinyddiaeth yn eu colegau, yn deillio’n bennaf o gynnydd diweddar sylweddol mewn ymddeoliadau ymhlith uwch ddeiliaid swyddi ar draws y sector. Roedd cydweithio cryf parhaus rhwng colegau yn amlwg hefyd, er bod cydweithio ag ysgolion ac awdurdodau lleol o ran cynllunio’r cwricwlwm lleol yn amrywiol o hyd.


Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Arolygwyd dau ddarparwr yn y sector addysg bellach.

Cafodd y ddau ohonynt argymhelliad yn ymwneud ag addysgu a dysgu, un i wella defnydd dysgwyr o’r Gymraeg, a’r llall i ddarparu her i ddysgwyr i ddatblygu eu medrau meddwl a datrys problemau.

Cafodd y ddau ohonynt argymhelliad yn ymwneud â lles, gofal, cymorth ac arweiniad, gan gyfeirio at gymorth ADY: naill ai cryfhau trefniadau ar gyfer nodi a chymorth, neu sicrhau bod staff yn gwybod am ADY dysgwyr ac yn darparu cymorth.

Cafodd y ddau ohonynt argymhelliad yn ymwneud ag arwain a gwella, i wella dulliau wrth ddelio â phresenoldeb dysgwyr.