Cefnogi disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Cefnogi disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Adroddiad Blynyddol 2024 - 2025



Crynodeb gweithredol

Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y cynnydd a’r heriau parhaus wrth gefnogi disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Lle’r oedd darpariaeth yn fwyaf effeithiol, roedd ysgolion yn meithrin diwylliant cryf o gynhwysiant a gwrth-hiliaeth, yn meithrin perthnasoedd ymddiriedus â theuluoedd ac yn addasu’r cwricwlwm a strategaethau cymorth i adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol a bodloni anghenion unigolion. Roedd partneriaethau effeithiol ag awdurdodau lleol a Gwasanaethau Addysg Teithwyr (GAT) yn chwarae rôl allweddol wrth wella presenoldeb, ymgysylltiad a deilliannau. Roedd ysgolion a oedd yn llwyddiannus yn rhoi blaenoriaeth i ddysgu proffesiynol, yn ymgorffori llais y gymuned ac yn defnyddio data’n effeithiol i deilwra darpariaeth.

Fodd bynnag, ledled Cymru, roedd cymorth yn rhy anghyson o hyd. Roedd y gwendidau’n cynnwys pontio gwael rhwng cyfnodau, cynrychiolaeth ddiwylliannol gyfyngedig mewn cwricwla a systemau nad oeddent wedi’u datblygu’n ddigonol i olrhain cynnydd. Roedd diffyg data ethnigrwydd manwl gywir a rhwystrau rhag hunanddiffinio yn llesteirio cynllunio effeithiol ymhellach. Mae gwelliant cynaliadwy’n dibynnu ar arweinyddiaeth strategol, arfer sy’n ymatebol yn ddiwylliannol ac ymrwymiad hirdymor i degwch. Rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol barhau i fyfyrio, addasu a chydweithio er mwyn sicrhau bod disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ffynnu.


Cefndir

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, bu cydnabyddiaeth genedlaethol gynyddol o’r angen i wella cymorth i ddisgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr mewn addysg. Amlinellodd adroddiad thematig Estyn yn 2019, Darpariaeth ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr, argymhellion clir i wella deilliannau a phrofiadau’r dysgwyr hyn. Nododd yr adroddiad heriau, gan gynnwys presenoldeb isel, ymgysylltiad cyfyngedig â’r cwricwlwm a phrofiadau negyddol o’r ysgol a oedd yn aml wedi’u hategu gan wahaniaethu ac allgau.

Yn 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau diwygiedig a oedd â’r nod o godi deilliannau addysgol ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Roedd y canllawiau hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar hybu cynhwysiant a meithrin dealltwriaeth ddiwylliannol well mewn ysgolion. Mae LlC wedi parhau â’i hymrwymiad ariannu i gefnogi dysgwyr Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gydag £11m y flwyddyn yn cael ei ddyfarnu yn 2024-5 a 2025-6. Bwriad y buddsoddiad hwn oedd helpu i gael gwared ar rwystrau rhag dysgu, cynyddu ymgysylltiad a sicrhau cyfleoedd teg i ddisgyblion wneud cynnydd.

Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad cyhoeddus er mwyn ymateb i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), gan ailddatgan ei hymrwymiad i degwch mewn addysg. Roedd y datganiad yn cynnwys addewid i “leihau’r profiad negyddol o hiliaeth ymhlith dysgwyr o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn yr ysgol”. Mae’r cyfeiriad polisi hwn yn adlewyrchu gweledigaeth hirdymor i ddatblygu systemau addysg cynhwysol a gwrth-hiliol ledled Cymru.

Mae’n gyfrifoldeb ar bob ysgol ac awdurdod lleol o hyd, beth bynnag fo’u poblogaeth disgyblion, i hybu cwricwlwm gwrth-hiliol a chynhwysol sy’n cydnabod diwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr a’i gyfraniad i Gymru gyfoes.



Casglu data

Mae cael data cywir a chyson am ddisgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn hanfodol ar gyfer nodi eu hanghenion, darparu cymorth priodol wedi’i dargedu a monitro eu cynnydd a’u deilliannau. Fodd bynnag, roedd ysgolion ledled Cymru yn wynebu heriau o hyd o ran sicrhau data dibynadwy, a oedd yn ymwneud yn bennaf â dau ffactor allweddol.

1. Hunanddiffinio gwirfoddol ac amharodrwydd i ddatgelu

Yn rhan o’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD), mae ysgolion yn casglu gwybodaeth am ethnigrwydd disgyblion fel mater o drefn. Un o’r prif rwystrau rhag casglu data cywir oedd bod hunanddiffinio ethnig yn wirfoddol. Crybwyllodd ychydig o ysgolion fod teuluoedd yn amharod i ddatgelu eu hethnigrwydd, yn aml oherwydd pryderon yn ymwneud â stigma, hiliaeth neu wahaniaethu. O ganlyniad:

  • roedd lleiafrif o ddisgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr wedi’u cofnodi dan gategorïau eang fel ‘Gwyn Arall’ neu nid oedd ganddynt unrhyw ethnigrwydd wedi’i gofnodi, gan arwain at dangynrychiolaeth mewn data swyddogol
  • yn aml, nid oedd ysgolion yn ymwybodol o gefndir diwylliannol disgybl oni bai bod y teulu wedi’i rannu’n benodol

Roedd y diffyg data cywir hwn yn cyfyngu ar allu ysgolion ac awdurdodau lleol i ddarparu cymorth teilwredig, dyrannu adnoddau’n effeithiol a monitro deilliannau ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

2. Symudedd a tharfu ar addysg

Crybwyllodd ychydig o ysgolion fod teuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr, yn enwedig y rhai sydd â ffyrdd o fyw symudol neu dymhorol, wedi profi newidiadau mynych yn eu cofrestriadau ysgol. Roedd y symudedd hwn yn peri ystod o heriau o ran parhad data.

  • Weithiau, roedd disgyblion wedi’u cofnodi fwy nag unwaith neu wedi’u hepgor yn gyfan gwbl o setiau data.
  • Roedd cyfnodau o addysg gartref neu fylchau rhwng lleoliadau yn arwain at gofnodion addysgol anghyflawn neu goll.
  • Roedd monitro presenoldeb ac olrhain cyrhaeddiad wedi bod yn anghyson neu wedi’u tarfu arnynt.

Gyda’i gilydd, roedd y ffactorau hyn yn cyfrannu at fylchau mewn deall cynnydd a lles dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan ei gwneud hi’n anoddach mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn effeithiol.


Cymorth gan awdurdodau lleol

Roedd awdurdodau lleol yn chwarae rôl allweddol o ran sicrhau bod disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Roedd llawer ohonynt yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion trwy Wasanaethau Addysg Teithwyr (GAT) dynodedig. Mewn ychydig o achosion, roeddent yn cynnig cymorth ymarferol fel cludiant am ddim i leihau’r rhwystrau ariannol rhag bod yn bresennol. Er enghraifft, mae awdurdod lleol Sir y Fflint yn darparu cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol yn benodol ar gyfer disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Crybwyllodd ychydig o ysgolion fod hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb.

Roedd partneriaethau effeithiol wedi’u nodweddu gan ymrwymiad i ddeall profiadau bywyd teuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr a darparu ymyriadau teilwredig. Lle’r oedd ysgolion yn cydweithio’n agos â swyddogion GAT, roeddent yn fwy tebygol o oresgyn rhwystrau diwylliannol a chefnogi teuluoedd i lywio’r system addysg. Roedd yr ymdrechion cydweithredol hyn yn cyfrannu’n gadarnhaol at bresenoldeb, ymgysylltiad a chyrhaeddiad. Er enghraifft, yn awdurdod lleol Torfaen, roedd staff GAT yn cefnogi ysgolion i ddatblygu eu dealltwriaeth o ddiwylliant a thraddodiadau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Roeddent yn arbennig o lwyddiannus wrth helpu teuluoedd i ddeall sut roedd pynciau sensitif, fel Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh), yn cael eu haddysgu.


Cymorth mewn ysgolion

Gweledigaeth gytûn: arfer gynhwysol a gwrth-hiliol

Roedd ysgolion llwyddiannus yn rhannu gweledigaeth gref a chynhwysol a oedd yn hybu tegwch, yn dathlu amrywiaeth ac yn cydnabod hunaniaeth ddiwylliannol unigryw disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Roedd yr ysgolion hyn yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer pob disgybl ac yn meithrin diwylliant o ddyhead a chyflawniad. Nid oedd cynhwysiant wedi’i gyfyngu i bolisi ond roedd wedi’i ymwreiddio mewn rhyngweithiadau a disgwyliadau bob dydd ar draws cymuned yr ysgol.

Yn yr ysgolion mwyaf effeithiol, roedd arweinwyr a staff yn mynd y tu hwnt i gydymffurfio â dyletswyddau cydraddoldeb ac yn ymwreiddio gwrth-hiliaeth yn rhan ganolog o fywyd yr ysgol. Roedd hyn yn cynnwys herio rhagfarn yn rhagweithiol, addysgu cymuned ehangach yr ysgol a sicrhau bod disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn ddiogel. Er enghraifft, yn Ysgol Gynradd Stepaside yn Sir Benfro, roedd dull cwbl gynhwysol yn sicrhau bod y rhan fwyaf o ddisgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn hapus ac yn gwneud cynnydd da o’u mannau cychwyn.

Er nad ydym wedi ymgymryd â gwaith penodol â cholegau i adolygu eu cymorth ar gyfer dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr, nodom enghreifftiau o’u gwaith â’r dysgwyr hyn yn ystod ymweliadau arolygwyr cyswllt. Er enghraifft, yn ddiweddar, cynhwysodd Coleg Caerdydd a’r Fro, gyda chyllid gan Medr, fodiwl ar Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ei brosiect cwricwlwm gwrth-hiliol. Mae’r modiwl hwn yn cynnwys lleisiau o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, yn rhannu eu profiadau addysgol ac sydd â’r nod o helpu staff i ddeall eu diwylliannau a’u profiadau.

Dull ysgol gyfan: cydweithio sy’n canolbwyntio ar y gymuned

Roedd ysgolion a oedd yn mabwysiadu dull ysgol gyfan wedi’i ymwreiddio mewn partneriaethau cryf â theuluoedd a gwasanaethau cymunedol yn hynod effeithiol wrth gefnogi disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Er enghraifft, yn Ysgol Gynradd Sandycroft yn Sir y Fflint, roedd arweinwyr yn ymweld â safleoedd Teithwyr lleol yn rheolaidd ac yn cynnal sgyrsiau anffurfiol â theuluoedd i ddeall eu gwerthoedd diwylliannol. Roedd y dull hwn yn meithrin parch rhwng y naill a’r llall ac yn gwella presenoldeb disgyblion.

Roedd ysgolion a oedd yn cydweithio’n agos â phartneriaethau allanol, gan gynnwys awdurdodau lleol a gwasanaethau arbenigol, mewn sefyllfa well i gynnig cymorth sy’n briodol yn ddiwylliannol. Er enghraifft, roedd Ysgol Gorllewin Mynwy yn Nhorfaen yn cydweithio â’r swyddog GAT a theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr i gynnal cyfathrebu rhagweithiol. O ganlyniad, roedd rhieni’n datblygu ymddiriedaeth a dealltwriaeth ddyfnach o’r system ysgolion.

Y cwricwlwm: adlewyrchu treftadaeth a llais Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Lle’r oedd disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ffynnu, addaswyd y cwricwlwm yn ofalus i adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol. Er enghraifft, yn Ysgol Gynradd Gymunedol Priordy Cil-maen yn Sir Benfro, roedd disgyblion yn dysgu am ddiwylliant a thraddodiadau’r gymuned Sipsiwn-Deithwyr leol. Roedd bron pob un o’r disgyblion yn myfyrio ar eu gwerthoedd ac yn herio stereoteipiau.

Roedd staff mewn ysgolion effeithiol yn ymgynghori â theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr i lywio cynllunio’r cwricwlwm. Yn Ysgol Gynradd Maindee yng Nghasnewydd, ymgynghorwyd â theuluoedd Roma yn rheolaidd ynghylch dathliadau diwylliannol, a gafodd eu hintegreiddio yn y cwricwlwm wedi hynny. Roedd disgyblion a rhieni yn gwerthfawrogi’r ymagwedd gynhwysol hon.


Cefnogi pontio rhwng ysgolion

Roedd pontio’n her sylweddol i ddisgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Roedd ysgolion llwyddiannus yn cynnig cymorth teilwredig i helpu disgyblion a theuluoedd i lywio’r newidiadau. Er enghraifft, roedd Ysgol Gynradd George Street ac Ysgol Gorllewin Mynwy yn Nhorfaen yn cydweithio â swyddogion GAT i gyflwyno rhaglenni pontio teilwredig, gan gynnwys ymweliadau a chyfarfodydd rheolaidd. Roedd staff â chefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cryfhau perthnasoedd ac ymddiriedaeth â theuluoedd ymhellach.

Fodd bynnag, nid oedd llawer o ddisgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr ledled Cymru yn pontio’n llwyddiannus i ysgolion uwchradd oherwydd:

  • gwahaniaethau diwylliannol rhwng y cartref a’r ysgol a phrinder opsiynau galwedigaethol sy’n cael eu deall yn glir
  • prinder cyfleoedd dysgu galwedigaethol yn gyffredinol
  • ymddiriedaeth gyfyngedig mewn ysgolion uwchradd oherwydd profiadau blaenorol aelodau o deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • diffyg un man cyswllt yn yr ysgol ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr a’u teuluoedd
  • cymorth targedig annigonol gan yr ysgol a’r awdurdod lleol, gan arwain at broblemau o ran ymddygiad, presenoldeb ac ymgysylltiad cyffredinol â bywyd yr ysgol

Gwella presenoldeb disgyblion

Roedd gwella presenoldeb yn her barhaus o hyd. Roedd ysgolion a oedd yn gwneud cynnydd yn cydweithio â theuluoedd ac yn addasu dulliau cyfathrebu i fodloni eu hanghenion. Er enghraifft, gwellodd Ysgol Gynradd Sandycroft yn Sir y Fflint ei strategaeth allgymorth ac elwa ar gludiant a ariannwyd gan yr awdurdod lleol. Arweiniodd hyn at bresenoldeb gwella a pherthnasoedd cryfach â theuluoedd.


Helpu disgyblion i wneud cynnydd

Yn yr ysgolion mwyaf effeithiol, roedd disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael eu cefnogi’n dda i wneud cynnydd cryf. Roedd ysgolion yn monitro dysgu’n ofalus ac yn addasu strategaethau i weddu i anghenion unigol. Roedd ychydig ohonynt yn darparu rhaglenni targedig mewn medrau sylfaenol, fel datblygu iaith.

Yn Ysgol Gynradd Queensferry yn Sir y Fflint, roedd rhaglen lles chwe wythnos yn cefnogi disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr i ddatblygu gwydnwch emosiynol a ffurfio perthnasoedd cadarnhaol, a oedd yn eu helpu i ymgysylltu â dysgu. Roedd Ysgol Arbennig Portfield yn Sir Benfro yn dathlu amrywiaeth diwylliannol ac yn cynnig cymorth teilwredig i leihau rhwystrau rhag dysgu.


Cryfhau dysgu proffesiynol

Roedd dysgu proffesiynol yn ganolog i arfer effeithiol. Yn gynyddol, roedd ysgolion yn rhoi blaenoriaeth i hyfforddiant ar ddulliau wrth-hiliaeth, ymwybyddiaeth ddiwylliannol a lles. Yn Ysgol Uwchradd Llysweri yng Nghasnewydd, ymchwiliodd arweinwyr i ddiwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr a defnyddio’r canfyddiadau i lywio arfer gynhwysol. Addasodd staff eu cwricwlwm ac ehangu’r llwybrau i ddysgwyr.

Yn yr ysgolion mwyaf effeithiol, roedd dysgu proffesiynol yn barhaus ac wedi’i ymwreiddio yn natblygiad yr ysgol. Roedd dysgu gan gymheiriaid ac arfer fyfyriol yn cael eu hannog ar draws pob lefel staffio. Roedd lleiafrif o ysgolion hefyd yn elwa ar gyflogi aelodau o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Roedd hyn yn helpu ysgolion i feithrin perthnasoedd â theuluoedd ac yn cynorthwyo staff i gael dealltwriaeth well o ddiwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr a rhwystrau posibl rhag dysgu.


Cynnwys lleisiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr mewn penderfyniadau

Roedd ysgolion ac awdurdodau lleol llwyddiannus yn cynnwys disgyblion a theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr wrth lunio addysg. Cyflwynodd rai ohonynt gynlluniau llysgenhadon disgyblion i fwyhau lleisiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Er enghraifft, sefydlodd Ysgol Gynradd George Street yn Nhorfaen grŵp llais disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr i gynorthwyo i ddatblygu’r cwricwlwm a meithrin dealltwriaeth ddiwylliannol.

Roedd ymgynghoriadau rheolaidd â theuluoedd yn gwella darpariaeth, hefyd. Yn Ysgol Gynradd Maindee yng Nghasnewydd, arweiniodd cyfraniadau yn ystod boreau coffi at ddathlu digwyddiadau diwylliannol Roma ar draws y cwricwlwm.


Monitro cynnydd a gwerthuso effaith

Roedd monitro a gwerthuso effeithiol yn hanfodol er mwyn deall effaith darpariaeth a sicrhau bod disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn gwneud cynnydd cryf. Roedd ysgolion ac awdurdodau lleol a oedd yn blaenoriaethu dulliau wedi’u seilio ar ddata wedi’u paratoi’n well i nodi anghenion sy’n dod i’r amlwg, addasu darpariaeth mewn modd ymatebol ac efelychu strategaethau llwyddiannus.

Yn yr arfer fwyaf effeithiol, roedd ysgolion yn dadgyfuno data yn ôl ethnigrwydd ochr yn ochr â dangosyddion allweddol fel presenoldeb, cyrhaeddiad, gwaharddiad a lles. Roedd y dadansoddiad manwl hwn yn galluogi arweinwyr i nodi patrymau ac anghydraddoldeb, teilwra ymyriadau a dyrannu adnoddau lle’r oeddent yn cael yr effaith fwyaf. Yn hollbwysig, nid oedd data’n cael ei ystyried fel mesur cydymffurfio yn unig, ond fel offeryn ar gyfer gwelliant parhaus a oedd yn cael ei ddefnyddio mewn partneriaeth â theuluoedd i lywio deilliannau gwell.

Yn Ysgol Harri Tudur yn Sir Benfro, roedd staff yn defnyddio gwybodaeth fanwl ac yn olrhain disgyblion unigol i lunio darpariaeth a phersonoli’r cwricwlwm. Roedd hyn yn cynnwys rhaglenni academaidd a galwedigaethol teilwredig a oedd yn cyd-fynd â diddordebau a dyheadau disgyblion. O ganlyniad, roedd llawer o ddisgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn yr ysgol yn gwneud cynnydd cryf ac yn cyflawni’n dda yn ystod eu cyfnod mewn addysg.


Cynnal momentwm: heriau a chyfleoedd

Er y bu cynnydd nodedig o ran gwella darpariaeth ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr, mae cynnal gwelliant hirdymor yn cyflwyno sawl her barhaus. Mae’r rhain yn cynnwys diffyg tryloywder o ran sicrhau cyllid, mynd i’r afael â rhagfarn gymdeithasol barhaus a sicrhau y caiff arfer effeithiol ei hymwreiddio ar draws y system, yn hytrach na pharhau i fod mewn enghreifftiau prin o arfer dda yn unig.

Ar yr un pryd, mae cyfleoedd clir i adeiladu ar gryfderau presennol. Roedd cyfeiriad polisi strategol Llywodraeth Cymru, ynghyd â buddsoddiad ariannol targedig, yn darparu sylfaen gref ar gyfer addysg gynhwysol. Roedd rhwydweithiau cenedlaethol, gan gynnwys consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector, yn cynnig platfformau gwerthfawr ar gyfer cydweithio, dysgu ar y cyd a datblygu strategol ar y cyd. Ar ben hynny, roedd defnyddio offer digidol yn cyflwyno posibiliadau newydd ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd symudol, darparu cymorth hyblyg a hybu parhad mewn dysgu.

Mae tystiolaeth gan ysgolion yn dangos bod disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn llwyddo lle’r oedd darpariaeth yn gynhwysol, yn ymatebol yn ddiwylliannol ac wedi’i seilio ar ddisgwyliadau uchel. Roedd ysgolion effeithiol yn meithrin partneriaethau cryf â theuluoedd, yn addasu eu cwricwlwm a’u dulliau cymorth i fodloni anghenion dysgwyr, ac yn creu amgylcheddau lle’r oedd pob disgybl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u deall.

Roedd gan awdurdodau lleol rôl hollbwysig i’w chwarae, hefyd. Yn yr enghreifftiau gorau, roeddent yn manteisio i’r effaith ar effaith buddsoddiad gan y llywodraeth, yn sicrhau bod cyllid grant yn cael ei ddatganoli’n uniongyrchol i ysgolion ac yn cael ei ddefnyddio’n strategol ac yn effeithiol i dargedu cymorth ac yn datblygu modelau cynaliadwy o ddarpariaeth.

Roedd ysgolion ac awdurdodau lleol a oedd yn ymgorffori gwerthoedd gwrth-hiliol, yn cydweithio â’u cymunedau ac yn dathlu hunaniaeth ddiwylliannol yn weithredol yn y sefyllfa orau i sicrhau bod disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr nid yn unig yn gallu manteisio ar addysg ond yn ffynnu ynddi, hefyd.

Er mwyn cynnal momentwm, mae’n hanfodol bod addysg ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth strategol ar lefelau cenedlaethol a lleol. Rhaid cefnogi ysgolion i barhau i fyfyrio ar eu harfer a’i gwella, a rhaid ymwreiddio dulliau cynhwysol ar draws polisïau, systemau ac arweinyddiaeth.


Cwestiynau i fyfyrio arnynt

  • A yw ysgolion ac awdurdodau lleol yn hybu diwylliant gwrth-hiliol a chwricwlwm sy’n adlewyrchu disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng nghymdeithas Cymru heddiw?
  • Pa mor effeithiol mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r cyllid grant sydd ar gael i ddarparu cymorth targedig ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr?
  • Pa mor dda mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn meithrin ymddiriedaeth ac yn datblygu perthnasoedd ystyrlon â theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr?
  • Ym mha ffyrdd y mae lleisiau disgyblion a theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cyfrannu’n weithredol ar lunio polisïau, cynnwys cwricwlwm a strategaethau cymorth ysgolion?
  • I ba raddau y mae arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion yn deall gwerthoedd diwylliannol, credoau a phrofiadau bywyd disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr a’u teuluoedd?
  • Pa mor dda y mae dysgu proffesiynol mewn gwrth-hiliaeth, cymhwysedd diwylliannol ac arfer gynhwysol wedi’i ymwreiddio ar draws pob lefel o’r ysgol?
  • A yw cwricwlwm yr ysgol yn adlewyrchu treftadaeth, diwylliant a chyfraniadau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac a yw’n cynorthwyo dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr i ddatblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth?
  • Pa mor effeithiol yw’r cynllunio a’r cymorth ar gyfer pontio rhwng cyfnodau addysgol ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a pha drefniadau teilwredig sydd ar waith?
  • Pa systemau sydd ar waith i fonitro presenoldeb, cyrhaeddiad a lles disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr a sut mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i lywio cynllunio a darpariaeth?
  • Sut mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn gwerthuso effaith ymyriadau ac yn addasu dulliau i fodloni anghenion cyfnewidiol disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr?
  • Sut caiff disgwyliadau uchel ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr eu cyfleu trwy arfer ddyddiol a sut caiff y disgwyliadau hyn eu cefnogi trwy gynllunio strategol?
  • Pa bartneriaethau sy’n bodoli â Gwasanaethau Addysg Teithwyr, cynrychiolwyr cymunedol neu sefydliadau’r trydydd sector, a sut mae’r rhain yn gwella’r cymorth sydd ar gael i ysgolion?
  • Pa mor dda y mae ysgolion yn deall ac yn ymateb i’r rhwystrau rhag hunanddiffinio ymhlith teuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a pha gamau pellach y gellid eu cymryd i feithrin ymddiriedaeth?
  • A yw ymdrechion i gefnogi disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael eu cynnal dros gyfnod, a pha mor dda mae arfer gynhwysol wedi’i gwreiddio yn strategaeth gwella ehangach yr ysgol?
  • Sut mae awdurdodau lleol ac ysgolion yn rhannu arfer orau, yn enwedig gydag ysgolion sydd â niferoedd isel neu ddim disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr?

Cyfeiriadau

Danvers, E. & Hinton-Smith, T. (2022) Marginalisation and mixed feelings: supporting students of Gypsy, Roma and traveller heritage imagining higher education in the UK, Compare: A Journal of Comparative and International Education, 54 (3) 518 – 535. Ar gael yma: Full article: Marginalisation and mixed feelings: supporting students of Gypsy, Roma and traveller heritage imagining higher education in the UK

Estyn (2019) Darpariaeth ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr oed uwchradd: Estyn. Ar gael yma: Darpariaeth ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr oed uwchradd – Estyn

Kirkby, A., Whitcombe, E. & Nuttall, E. (2023) Education inequalities facing Gypsies, Romas and Travellers in England. Friends, Families and Travellers, November, tt. 2-10. Ar gael yma: Education-inequalities-faced-by-Gypsies-Roma-and-Travellers-in-England-briefing-2.pdf

Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2022. Gypsies’ and travellers’ lived experiences, education and employment, England and Wales. Ar gael yma: Gypsies’ and Travellers’ lived experiences, education and employment, England and Wales – Office for National Statistics

The Traveller Movement (2020) Gypsy, Roma and Traveller experiences in Secondary Education: Issues, barriers and recommendations. Ar gael yma: https://wp-main.travellermovement.org.uk/wp-content/uploads/2021/09/GRT-in-Secondary-Education-2021.pdf

Llywodraeth Cymru (2022) Ystadegau dysgu ôl-16 yn ôl grŵp ethnig y dysgwyr: Awst 2017 i Orffennaf 2021. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Ar gael yma: Ystadegau dysgu ôl-16 yn ôl grŵp ethnig y dysgwyr: Awst 2017 i Orffennaf 2021 | LLYW.CYMRU

Llywodraeth Cymru (2023) Dathlu a chyfranogi: Canllawiau addysg i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Ar gael yma: Dathlu a chyfranogi: Canllawiau addysg i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr [HTML] | LLYW.CYMRU

Llywodraeth Cymru (2023) Canllawiau addysg i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Ar gael yma: Canllawiau addysg i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr | LLYW.CYMRU

Llywodraeth Cymru (2024) Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: diweddariad 2024, Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Ar gael yma: Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: diweddariad 2024 [HTML] | LLYW.CYMRU