Colegau arbenigol annibynnol – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Colegau arbenigol annibynnol

Adroddiad sector 2024 - 2025



8

Nifer y colegau arbenigol annibynnol Gorffennaf 2025

Llythyron lles a anfonwyd y flwyddyn academaidd ddiwethaf: 0
Llythyron lles a anfonwyd y flwyddyn academaidd hon: 0
Darparwyr mewn categori gweithgarwch dilynol y flwyddyn academaidd hon: 0


Gweithgarwch arolygu a gynhaliwyd eleni

Arolygiad craidd: 1

Arolygiad monitro : 2

Ymweliadau eraill:
2 ymweliad cofrestru cychwynnol
1 ymweliad newidiadau i drefniadau

Cipluniau

Bevan College: Hunanwerthuso
Coleg Elidyr: Cystadlaethau medrau
Coleg Elidyr: Ymagwedd cyfathrebu cyflawn
Coleg Elidyr: Darpariaeth Gymraeg
Coleg Elidyr: Dysgu proffesiynol


Crynodeb

Mae colegau arbenigol annibynnol yn addysgu cymysgedd o ddysgwyr 16 oed a hŷn ledled Cymru, gyda’r dysgwyr yn cael eu hariannu yng Nghymru a Lloegr. Eleni, maent wedi addysgu ychydig dros 200 o ddysgwyr sy’n cael eu hariannu gan Gymru.

Oherwydd diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol (ADY), mae ariannu’r lleoliadau hyn i ddysgwyr o Gymru yn symud o Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol. Mae bron pob lleoliad mewn colegau arbenigol annibynnol yn cael eu hariannu gan awdurdodau lleol yng Nghymru neu Loegr, gyda Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu ychydig bach iawn ohonynt. Yn ystod y cyfnod hwn, mae cyfanswm nifer y dysgwyr o Gymru sydd wedi cofrestru mewn colegau arbenigol wedi aros yn weddol gyson.

Nid oes unrhyw un o’r darparwyr hyn mewn categori gweithgarwch dilynol ar hyn o bryd.


Addysgu a dysgu

Darparwyr a arolygwyd

Ar y cyfan, ar draws y tri darparwr a arolygwyd, dangosodd bron bob un o’r dysgwyr agweddau hynod gadarnhaol at ddysgu. Fe wnaethant wrando’n astud, dilyn cyfarwyddiadau a rhyngweithio’n gadarnhaol â’u cymheiriaid. At ei gilydd, roedd bron bob un o’r dysgwyr wedi gwneud cynnydd cadarn tuag at eu targedau unigol a datblygu amrywiaeth o fedrau perthnasol, a wnaeth eu paratoi’n addas ar gyfer eu bywyd yn y dyfodol. Yn nodedig, gwnaethant cynnydd da yn eu medrau cymdeithasol ac annibyniaeth.

Ym mhob un o’r tri choleg, datblygodd staff ddealltwriaeth gadarn o anghenion eu dysgwyr a dyheadau eu dysgwyr at y dyfodol. Fe ddefnyddion nhw’r wybodaeth hon yn addas i gynllunio ar gyfer cynnydd. Yn un o’r colegau, rhoddodd staff gyfleoedd sylweddol i ddysgwyr ddatblygu eu medrau ymhellach mewn lleoliadau go iawn ac yn y gymuned ehangach.

Ar draws y colegau a arolygwyd, cafodd y cwricwlwm ei gryfhau trwy ychwanegu amrywiaeth o weithgareddau difyr yn y gymuned i ddatblygu medrau byw’n annibynnol dysgwyr. Er enghraifft, mewn un coleg, galluogodd profiad gwaith ‘butties on the go’ i ddysgwyr werthu amrywiaeth o fyrbrydau ar draws y parc busnes mae’r coleg wedi’i leoli ynddo.

Fodd bynnag mewn un coleg, nid oedd digon o sylw i sut mae cynnwys pynciau yn cael ei gyflwyno. Er enghraifft, yn rhy aml, roedd dysgwyr yn cwblhau tasgau lefel isel ar bapur, fel torri a gludo, nad oedd yn cefnogi datblygiad cynyddol eu hannibyniaeth, eu medrau na’u dealltwriaeth.

Darparwyr yr ymwelwyd â nhw

Yn y chwe darparwr yr ymwelom ni â nhw, roedd cynlluniau’r cwricwlwm yn cynnwys ffocws addas ar ddatblygu medrau byw’n annibynnol ac, yn gyffredinol, roedd staff yn cysylltu hyn yn briodol â chyrchfan arfaethedig pob dysgwr.

Cystadlaethau Medrau yng Ngholeg Elidyr

Trwy eu cyfranogiad mewn cystadlaethau medrau lleol, cenedlaethol a ledled y Deyrnas Unedig, mae dysgwyr yn elwa ar y profiad i gymhwyso’u medrau mewn cyd-destunau dilys dan bwysau. Mae’r cyfleoedd hyn ar draws ystod o sectorau, gan gynnwys lletygarwch, manwerthu, y celfyddydau perfformiadol, garddwriaeth, iechyd, gwaith coed a gofal anifeiliaid. Mae dysgwyr yn datblygu hyder a gwydnwch yn arbennig o dda. Mae’r coleg wedi meithrin perthnasoedd cryf â busnesau lleol sy’n galluogi dysgwyr i ymarfer a dysgu medrau penodol y maent yn eu defnyddio yn y gweithle ac yn eu bywydau bob dydd.


Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Darparwyr a arolygwyd

Yn yr holl golegau a arolygwyd, datblygodd staff berthnasoedd hynod gadarnhaol a pharchus â dysgwyr, ar sail dealltwriaeth gadarn o’u hanghenion. Roeddent yn fodelau cadarnhaol o ymddygiad i ddysgwyr, gan ddangos amynedd a sensitifrwydd yn eu gwaith. Roedd gan bron bob un o’r staff ddisgwyliadau cyson uchel o annibyniaeth dysgwyr.

Mewn un coleg a arolygwyd, roedd systemau cyfathrebu, fel adnoddau symbol neu arwyddo, yn cael eu defnyddio’n anghyson.
Ar draws y colegau a arolygwyd, roedd trefniadau cadarn i gasglu adborth ar brofiadau dysgwyr. O ganlyniad, teimlai dysgwyr bod staff yn gwrando arnynt ac roeddent yn ymddiried mewn staff i ystyried eu llais.

Darparwyr yr ymwelwyd â nhw

Yn yr holl golegau yr ymwelwyd â nhw, roedd trosolwg clir o’u darpariaeth dysgu ychwanegol (DDY), gan gynnwys goruchwyliaeth gan therapyddion a dysgu proffesiynol i staff ar bynciau yn cynnwys bodloni anghenion synhwyraidd.
Ar draws yr holl ddarparwyr yr ymwelwyd â nhw, roedd gan arweinwyr ffocws cadarn ar ddiogelu dysgwyr. Er enghraifft, fe wnaeth un darparwr gydbwyso diogelu yn ofalus â chymryd risgiau cadarnhaol trwy amrywiaeth o weithgareddau ymarferol a diddorol, er enghraifft gwneud bachau cotiau yn yr efail a gofalu am anifeiliaid fferm. Fodd bynnag, mewn un darparwr yr ymwelwyd ag ef, er gwaethaf gwelliannau diweddar, roedd diffyg trylwyredd mewn prosesau recriwtio diogelach.

Ymagwedd cyfathrebu cyflawn yng Ngholeg Elidyr

Mae ymagwedd cyfathrebu cyflawn yn galluogi unigolion sydd ag anawsterau cyfathrebu i gyfathrebu yn y ffordd sydd fwyaf hygyrch iddyn nhw. O ganlyniad, mae’r coleg wedi datblygu amgylchedd hynod gynhwysol lle gall dysgwyr rannu eu barn, eu meddyliau a’u teimladau â hyder. I lawer o ddysgwyr, mae hyn yn gynnydd sylweddol o’u man cychwyn cychwynnol.

Mae staff yn defnyddio amrywiaeth o arwyddion, symbolau a lleferydd yn Gymraeg a Saesneg i gefnogi dysgwyr trwy gydol y dydd. Mae’r ymagwedd hon yn hynod effeithiol o ran cefnogi dealltwriaeth, datblygiad medrau a chyfathrebu dysgwyr â phobl eraill.

Mae’r coleg wedi rhoi ffocws cryf ar ddysgu proffesiynol i sicrhau amgylchedd cyfathrebu o ansawdd uchel ar gyfer dysgwyr. Ymhellach, mae staff yn defnyddio adnoddau o ansawdd uchel yn gyson yn y coleg, a hefyd o fewn y gymuned ehangach, i gynorthwyo dysgwyr.


Arweinyddiaeth a gwella

Darparwyr a arolygwyd

Ar draws y tri darparwr a arolygwyd, roedd yr holl arweinwyr wedi datblygu gweledigaeth a gwerthoedd clir i’r coleg, gyda dysgwyr yn ganolog iddynt. Roeddent wedi datblygu timau staff ymroddedig a oedd yn cydweithio’n gadarnhaol i fodloni anghenion amrywiol dysgwyr.

Mewn dau goleg, roedd arweinwyr wedi datblygu a gweithredu fframwaith hunanwerthuso yn cwmpasu pob agwedd ar y ddarpariaeth. O ganlyniad, roedd gan arweinwyr ddealltwriaeth gadarn o’u cryfderau a’u meysydd i’w datblygu, ac roeddent wedi pennu targedau gwella ystyrlon. Fodd bynnag, yn y coleg arall, ni wnaeth arweinwyr werthuso effaith mentrau newydd ar ddysgu ac addysgu yn gyson, ac addasu arfer yn amserol.

Nodom gynnig dysgu proffesiynol arbennig o gryf mewn un coleg. Fodd bynnag, mewn un coleg, roedd cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff yn gysylltiedig ag addysgu yn benodol wedi bod yn gyfyngedig.

Dysgu proffesiynol cydweithredol yng Ngholeg Elidyr

Mae’r coleg yn darparu ystod helaeth o gyfleoedd dysgu proffesiynol hynod berthnasol i wella medrau’r tîm staff i ddiwallu anghenion dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys ffocws addas ar addysgu a dysgu yn ogystal â diwallu anghenion ychwanegol dysgwyr. Mae staff yn elwa ar gyfleoedd i arsylwi arfer dda o fewn y coleg ac wrth ymweld â lleoliadau eraill.

Mae staff yn cydweithio fel rhan o ‘gymunedau dysgu proffesiynol’ i ganolbwyntio ar feysydd arfer y maent eisiau eu gwella. Er enghraifft, bu staff yn canolbwyntio’n ddiweddar ar ffyrdd o gynyddu eu hyder yn ystyrlon wrth gynllunio a hwyluso gweithgareddau corfforol ar gyfer dysgwyr. Mae staff yn gweithio gyda’i gilydd i gynllunio newidiadau ac wedyn gwerthuso’r effaith. O ganlyniad, mae dysgwyr yn fwy egnïol yn eu bywydau o ddydd i ddydd erbyn hyn.

Darparwyr yr ymwelwyd â nhw

Roedd yr holl golegau yr ymwelwyd â nhw wedi datblygu amgylcheddau dysgu cadarnhaol. Roedd gofod ystafelloedd dosbarth ac amgylcheddau awyr agored yn lliwgar, roedd ganddynt adnoddau da ac roeddent yn cyfateb yn dda, ar y cyfan, i anghenion dysgwyr. Fodd bynnag, mewn dau o’r chwe choleg, roedd agweddau ar yr amgylcheddau dysgu yn rhwystro datblygiad annibyniaeth dysgwyr neu’n peri risgiau.

Roedd y chwe darparwr yr ymwelwyd â nhw yn elwa o gymorth a her sefydliad rhieni ehangach. Rhoddodd hyn arweiniad ymarferol ar feysydd fel datblygu polisi, adnoddau dynol a hunanwerthuso. Fodd bynnag, mewn dau goleg, ni wnaeth y cymorth a’r arweiniad hwn adlewyrchu cyd-destun Cymreig y coleg yn gyson na chyfeirio’n briodol at ddeddfwriaeth a chanllawiau Cymru.

Hunanwerthuso yn Bevan College

Mae arweinwyr yn llwyddo i wneud anghenion a chyd-destunau penodol eu dysgwyr yn ganolbwynt gwaith gwella ac maent yn sicrhau bod pob agwedd ar y gwaith yn adlewyrchu natur a gofynion unigryw addysg arbenigol ADY.

Mae teithiau dysgu ac arsylwadau gwersi arweinwyr yn cydnabod anghenion amrywiol eu dysgwyr. Wrth werthuso’r ddarpariaeth, maent yn rhoi pwys ar yr amrywiaeth eang o ddeilliannau a’r gwahanol ffyrdd y mae eu dysgwyr yn gwneud cynnydd. Mae prosesau ar gyfer gwrando ar farn dysgwyr yn sicrhau bod yr holl ddysgwyr, gan gynnwys y dysgwyr sy’n cael trafferth â chyfathrebu, yn gallu cyfrannu at wella’r coleg.

O ganlyniad, mae gan arweinwyr ddarlun manwl a chywir o gryfderau addysgu’r coleg a’i feysydd i’w datblygu.


Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau ac ymweliadau monitro

O fewn y sector hwn, rydym yn gadael argymhellion ar gyfer ymweliadau monitro ac arolygiadau craidd yn unig. Ar draws yr holl weithgarwch arolygu yn 2024-2025, gadawom gyfanswm o 5 argymhelliad. Gadawyd argymhellion i ddau o’r tri darparwr a arolygwyd.

Rhoddwyd argymhellion i’r ddau ddarparwr yn gysylltiedig â dysgu ac addysgu. Canolbwyntiodd y rhain ar ansawdd targedau dysgwyr a mireinio dulliau o ddarparu gwersi.

Gadawom argymhelliad gydag un darparwr yn gysylltiedig â gofal, cymorth ac arweiniad. Roedd hyn yn ymwneud â chryfhau’r defnydd o ddulliau cyfathrebu, gan gynnwys arwyddo, ar draws y coleg.

Gadawyd o leiaf un argymhelliad i ddau ddarparwr yn gysylltiedig ag arwain a gwella. Roedd y rhain yn ymwneud ag ansawdd yr amgylchedd dysgu a defnyddio deilliannau hunanwerthuso i yrru gwelliannau.