Cymraeg i Oedolion – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Cymraeg i Oedolion

Adroddiad sector 2024 - 2025



Data Darparwyr

10

Nifer y darparwyr

Mae 10 darparwr Dysgu Cymraeg o dan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n ariannu ac yn sicrhau ansawdd eu gwaith

Mae pob darparwr yn cynnig ystod o ddysgu wyneb yn wyneb, dysgu ar-lein a dysgu o bell.


Data Dysgwyr

18,330

Dysgwyr unigol 2023-2024

16,905

Dysgwyr unigol 2022-2023

15,260

Dysgwyr unigol 2021-2022

2023 – 2024 Ystadegau | Dysgu Cymraeg

Bydd data ar gyfer 2024-2025 yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2026.


Data Gweithgarwch Dilynol

Mae gweithgarwch arolygu yn y sector yn wahanol i bron bob sector arall, gan fod corff cenedlaethol, sy’n gyfrifol am sicrhau ansawdd yn y sector. Mae cynnydd yn gysylltiedig ag argymhellion a gafodd eu gwneud i ddarparwyr Dysgu Cymraeg unigol yn ystod arolygiadau craidd ac argymhellion o arolygiadau â thema yn cael eu trafod gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac yn cael eu gwerthuso yn rhan o’u harolygiad. Gallem hefyd adolygu cynnydd yn gysylltiedig ag argymhellion, yn ogystal â thystiolaeth o arolygiadau â thema o fewn ein gwerthusiadau cyfnodol o waith darparwyr unigol, fel arfer bob tair blynedd.


Gweithgarwch arolygu

Nifer yr arolygiadau craidd: 1

Adroddiad arolygiad Dysgu Cymraeg Morgannwg 2025

Nifer yr arolygiadau thema: 1 (Cymraeg Gwaith)


Crynodeb

Mae nifer y dysgwyr yn y sector Cymraeg i Oedolion wedi cynyddu 8% ers y flwyddyn flaenorol a dyma yw nifer uchaf y dysgwyr ers y ffigurau cyntaf a gyhoeddwyd yn genedlaethol yn 2017-2018. Yn ystod 2023-2024, mynychodd dysgwyr 31,200 o weithgareddau dysgu, sy’n gynnydd o 6% ers y flwyddyn flaenorol, a chynnydd o 53% er 2017-2018.

Yn ystod y flwyddyn, cynhaliom arolygiad llawn o un darparwr Dysgu Cymraeg, ac ymwelom â phum darparwr Dysgu Cymraeg arall fel rhan o’n harolygiad â thema hydredol cyntaf. Gwerthusodd yr arolygiad â thema ddarpariaeth helaeth Cymraeg Gwaith y sector sy’n cael ei chydlynu gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac yn cael ei chyflwyno gan ddarparwyr Dysgu Cymraeg. Nod rhaglen Cymraeg Gwaith, trwy ddarparu hyfforddiant hyblyg ac wedi’i ariannu’n llawn i gyflogwyr, yw cryfhau a thyfu medrau Cymraeg mewn gweithleoedd a sectorau allweddol ledled Cymru.

Roedd addysgu yn y sector yn canolbwyntio’n effeithiol ar sicrhau bod dysgwyr yn caffael medrau yn llwyddiannus, sy’n cael eu defnyddio’n naturiol mewn cyd-destunau personol, cymdeithasol ac yn y gwaith.

Roedd tiwtoriaid a darparwyr yn sicrhau bod dysgwyr yn teimlo’u bod yn cael eu cefnogi a’u cynnwys mewn cynllunio’u dysgu. Roedd y cymorth ariannol sydd ar gael i ddysgwyr ar ddarpariaeth brif ffrwd a darpariaeth rhad ac am ddim Cymraeg Gwaith yn llwyddiannus o ran lleihau rhwystrau ariannol, gan alluogi mwy o ddysgwyr i fanteisio ar ddarpariaeth.

Roedd y sector, o dan arweinyddiaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn gweithio’n arloesol i ddatblygu darpariaeth newydd a chynyddu nifer y dysgwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun Cymraeg Gwaith.


Addysgu a dysgu

Roedd gan y rhan fwyaf o diwtoriaid ddisgwyliadau uchel o’u dysgwyr, ar draws pob un o’r darparwyr a arolygwyd. Roeddent yn herio dysgwyr i ddatblygu eu medrau iaith, yn enwedig trwy ymestyn eu medrau siarad a’u hannog i greu iaith yn annibynnol. Roedd llawer o diwtoriaid yn amrywio’u technegau holi i gynorthwyo dysgwyr i ehangu eu hymatebion a chynnal sgyrsiau estynedig. O ganlyniad, daeth llawer o ddysgwyr yn gynyddol hyderus, roeddent yn adeiladu’n dda ar wybodaeth a enillwyd ganddynt yn y gorffennol, ac yn gwneud cynnydd cryf yn datblygu eu medrau iaith.

Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr wedi eu cymell yn dda ac yn cymryd rhan yn gadarnhaol. Roeddent yn mwynhau eu sesiynau ac yn datblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu a manteision dysgu Cymraeg a dwyieithrwydd. Roedd llawer ohonynt yn defnyddio’u Cymraeg y tu allan i weithgareddau dysgu ffurfiol. Fodd bynnag, dywedodd mwyafrif o ddysgwyr ar raglenni Cymraeg Gwaith nad oedd eu cyflogwyr yn eu cynorthwyo’n ddigon da i ddefnyddio’u medrau Cymraeg o fewn y gweithle.

Mewn mwyafrif o sesiynau, roedd tiwtoriaid yn addasu a theilwra sesiynau i ddiwallu anghenion proffesiynol a chymdeithasol dysgwyr. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o wersi Cymraeg Gwaith, nid oedd tiwtoriaid yn teilwra cynnwys y cwrs yn ddigon effeithiol a chyson i sicrhau ei fod yn ddigon perthnasol i anghenion dysgwyr yn gysylltiedig â gwaith.

Mewn rhaglenni Cymraeg Gwaith, roedd effaith addysgu a dysgu ar ei chryfaf pan roedd tiwtoriaid arbenigol amser llawn yn gweithio’n strategol o fewn sefydliadau i gynllunio i ddiwallu eu hanghenion penodol, er enghraifft yn y sectorau iechyd, chwaraeon ac awdurdod lleol. Yn yr achosion hyn, roedd tiwtoriaid yn gweithio’n effeithiol i sicrhau bod dysgwyr yn defnyddio’u medrau Cymraeg yn y gweithle.

Ciplun: Croeso i Wrecsam

Mae proffil lleol, cenedlaethol a rhyngwladol Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Dysgu Cymraeg y Gogledd Ddwyrain wedi manteisio ar hyn trwy feithrin partneriaeth â’r clwb, ac mae tiwtor amser llawn yn gweithio yno. Mae’r tiwtor yn darparu gwersi un i un neu mewn grwpiau bach i amrywiaeth o bobl, yn cynnwys chwaraewyr, rheolwyr, staff siop, ymwelwyr a’r perchnogion. Un o brif gryfderau’r ddarpariaeth yw bod y tiwtor yn addasu a theilwra nod y gwersi yn effeithiol iawn i ddiwallu anghenion dysgwyr, er enghraifft trwy ymarfer rhifau, geiriau a chystrawennau perthnasol. Mae’r tiwtor hefyd yn cynorthwyo staff allweddol i ymateb yn hyderus i gwestiynau cyfweliadau gan y cyfryngau. Mae hyn i gyd yn cyfrannu’n llwyddiannus at broffil uchel i’r iaith, a defnydd cynyddol ohoni.

Mewn darpariaeth Cymraeg Gwaith, roedd penderfyniadau strategol i ganolbwyntio ar ddysgwyr ar lefel ganolradd neu’n uwch, a siaradwyr rhugl nad ydynt yn hyderus, yn cael yr effaith fwyaf ar y gwasanaethau Cymraeg a gynigir gan ddysgwyr yn eu gweithleoedd.

Ciplun: Magu hyder yn y sector iechyd

Trwy holiaduron a sgyrsiau unigol, mae tiwtoriaid Magu Hyder o fewn byrddau iechyd yn dod i ddeall pam nad yw aelodau staff yn ddigon hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith. Mae sesiynau mentora a chymorth un i un yn cael eu darparu, wedi’u teilwra i’w hanghenion ieithyddol. Mae cyfleoedd yn cael eu darparu hefyd i ymarfer siarad gyda chydweithwyr eraill, a chynigir cyrsiau preswyl yn rhad ac am ddim yn Nant Gwrtheyrn ar gyfer staff gwasanaethau iechyd a gofal sy’n gallu siarad ar lefel ganolradd, Uwch a Hyfedr. Erbyn hyn, mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru, yn ogystal â Gofal Cymdeithasol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, diwtor Cymraeg Gwaith amser llawn sy’n gweithio gyda staff. Mae hyn yn cyfrannu at gyflawni cynllun Mwy na geiriau Llywodraeth Cymru, sy’n cydnabod yr angen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau trwy ddewis iaith siaradwyr Cymraeg ar adeg pan maent yn teimlo’n fwyaf bregus.


Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Roedd bron pob tiwtor yn sicrhau amgylchedd cadarnhaol, cynhwysol ac ysgogol mewn darpariaeth ar-lein ac wyneb yn wyneb. Roeddent yn meithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol â dysgwyr, ac o ganlyniad, roedd dysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn gwybod at bwy i droi os oes angen cymorth neu gyngor arnynt.

Roedd darparwyr yn cynnig arweiniad gwerthfawr a gofal bugeiliol i hyrwyddo lles a datblygiad personol dysgwyr, yn cynnwys ymyriadau pwrpasol ar gyfer dysgwyr ag anghenion cymorth ychwanegol.

Roedd darparwyr yn cynnig cyfleoedd rheolaidd i ddysgwyr fynegi eu barn. Roedd y rhan fwyaf o’r dysgwyr yn teimlo’u bod yn cael eu clywed, ac y gweithredir ar eu safbwyntiau.

Roedd y sector yn gweithio’n ddiwyd i leihau rhwystrau ariannol posibl i ddysgwyr. Mae hyn yn cynnwys gostyngiadau amrywiol i gostau a chyfraniadau tuag at gost gofal plant, teithio ac offer technegol. O ganlyniad, nid oedd unrhyw ddysgwyr prif ffrwd yn talu ffi lawn y cwrs yn y darparwr Dysgu Cymraeg a arolygwyd. Mae cyrsiau mewn rhaglenni Cymraeg Gwaith yn rhad ac am ddim i gyflogwyr a chyflogeion a oedd, yn ei dro, yn cynyddu nifer y sefydliadau a’r dysgwyr sy’n cymryd rhan.


Arwain a gwella

Roedd gan arweinwyr yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r darparwyr Dysgu Cymraeg weledigaeth glir ar y cyd ynghylch diben eu gwaith a’u cyfraniad tuag at gyflawni nodau polisi Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y bobl sy’n mynd ati i siarad Cymraeg mewn cyd-destunau personol a phroffesiynol.

Roedd arweinwyr yn y darparwr Dysgu Cymraeg a arolygwyd yn monitro perfformiad ac yn sicrhau ansawdd yn effeithiol a oedd, yn ei dro, yn cael effaith gadarnhaol ar addysgu a dysgu. Roeddent yn gweithio’n ddiwyd gydag uwch reolwyr eu sefydliad lletyol i ddatblygu ac ehangu eu rôl yng nghynllunio a hyfforddiant ieithyddol y sefydliad, yn fewnol ac yn allanol.

Mae arweinwyr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi bod yn arloesol o ran datblygu a chyflwyno’r cynllun Cymraeg Gwaith. Roeddent yn gweithio’n effeithiol iawn gyda chyflogwyr, darparwyr a rhanddeiliaid i gynllunio’r rhaglen a chynllunio mwy o welliannau. Er enghraifft, roeddent yn cyflogi tiwtoriaid amser llawn i weithio ar draws sectorau ychwanegol i gynorthwyo dysgwyr i integreiddio’u medrau Cymraeg o fewn eu gweithleoedd ac mewn cyd-destunau proffesiynol.

Mae’r rhan fwyaf o brosiectau Cymraeg Gwaith yn cael eu hariannu bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru. Roedd hyn yn heriol i arweinwyr yn genedlaethol ac yn lleol o ran sicrhau bod cyflogaeth gadarn ar gyfer staff a bod cynllunio strategol mor effeithiol ag y gallai fod.

Er nad oedd gweithdrefnau i fesur effaith y ddarpariaeth ar newid ymddygiad iaith wedi cael eu datblygu’n llawn eto, mae’r galw cynyddol am ddarpariaeth Cymraeg Gwaith a chynyddu niferoedd ar gyrsiau yn dangos ei fod yn dod yn gonglfaen mewn mentrau cynllunio ieithyddol i dyfu a normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg mewn sectorau allweddol.


Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Rhoddwyd dau argymhelliad i’r darparwr Dysgu Cymraeg a arolygwyd:

  1. Cysoni’r arferion da i gefnogi dysgwyr i wella eu hynganu
  2. Parhau i ddatblygu rôl strategol y darparwr er mwyn cyfrannu’n llawn at gynllunio ieithyddol a hyfforddiant o fewn y sefydliad lletyol

Ar ôl yr arolygiad â thema, rhoddwyd pedwar argymhelliad i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

  1. Parhau i weithio gyda darparwyr Dysgu Cymraeg i sicrhau bod tiwtoriaid yn teilwra cyrsiau’n briodol at ddibenion grwpiau penodol o ddysgwyr a’u gweithleoedd ac yn ymwybodol o’r holl gymorth ac adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr a’u cyflogwyr
  2. Gweithio ar y cyd â darparwyr Dysgu Cymraeg a chyflogwyr i gynllunio datblygiad ieithyddol staff yn fwriadus fel bod cefnogaeth ymarferol iddynt fynychu gwersi, heb gynyddu eu llwyth gwaith, a sicrhau bod cyfleodd ystyrlon ganddynt i ddefnyddio eu medrau yn y gweithle
  3. Ymchwilio, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, i ddatblygu model darparu a chyllido sy’n cefnogi cynlluniau hir-dymor ac sy’n blaenoriaethu dysgwyr ôl-ganolradd a siaradwyr dihyder
  4. Parhau i ddatblygu dulliau o fesur effaith darpariaeth ar newid ymddygiad iaith unigolion o fewn eu gweithleoedd