Datblygu maes dysgu a phrofiad (MDaPh) y Dyniaethau – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Datblygu maes dysgu a phrofiad (MDaPh) y Dyniaethau

Adroddiad Blynyddol 2024 - 2025



Crynodeb gweithredol

Canfu ein gwaith arolygu yn 2024-2025 amrywioldeb wrth roi maes dysgu a phrofiad (MDaPh) y Dyniaethau ar waith ar draws ysgolion. Lle’r oedd yr arfer gryfaf, roedd ysgolion yn rhoi blaenoriaeth i’r Dyniaethau ac yn dyrannu amser addysgu digonol, gan alluogi dylunio cwricwlwm yn gydweithredol, dysgu proffesiynol pwrpasol ac arweinyddiaeth glir. Yn yr achosion hyn, roedd athrawon yn cefnogi disgyblion yn dda i greu cysylltiadau ar draws disgyblaethau. Roeddent yn cynllunio ar gyfer dilyniant ystyrlon mewn gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau. Roedd arfer gref yn cynnwys profiadau dysgu cyfoethog a oedd yn meithrin chwilfrydedd, hunaniaeth ac ymdeimlad o gynefin.

Fodd bynnag, mewn gormod o achosion, roedd darpariaeth yn cynnwys diffyg cydlyniad, cydbwysedd a dyfnder. Roedd gwendidau’n cynnwys sylw annigonol i ddilyniant, medrau disgyblaethol heb eu datblygu’n ddigonol, ymdrin â chynnwys mewn modd arwynebol a ffocws anghyfartal ar draws pynciau. Roedd crefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) a daearyddiaeth yn arbennig wedi’u tangynrychioli. Roedd diffyg dysgu proffesiynol penodol i’r pwnc yn cyfyngu ar ddatblygiad staff. Ar ben hynny, mae prinder staff arbenigol priodol a gallu annigonol i fanteisio ar gyfleoedd cyfoethogi yn cael effaith negyddol ar brofiadau disgyblion. Mae’r canfyddiadau hyn yn amlygu’r angen am ffocws strategol cryfach ar addysgu, cynllunio a thegwch ar draws MDaPh y Dyniaethau.


Datblygu MDaPh y Dyniaethau

Mae Cwricwlwm i Gymru yn cynnig cyfle i ysgolion ddylunio eu cwricwla eu hunain o fewn fframwaith cenedlaethol. Dynodwyd MDaPh y Dyniaethau yn un o’r chwe maes dysgu a phrofiad ac mae’n cynnwys daearyddiaeth; hanes; CGM; busnes; a gwyddor gymdeithasol. Mae CGM yn ofyniad statudol o Gwricwlwm i Gymru ac mae’n orfodol i bob disgybl rhwng 3 ac 16 oed. Gan fod y disgyblaethau hyn yn aml yn rhannu themâu a chysyniadau cyffredin, bwriad creu maes dysgu a phrofiad y Dyniaethau oedd helpu disgyblion i greu cysylltiadau rhwng ac ar draws y disgyblaethau hyn. Mae cod y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn nodi’r agweddau gorfodol y mae’n rhaid i bob ysgol a gynhelir a lleoliad meithrin a ariennir nas cynhelir seilio eu cwricwlwm arnynt. Mae MDaPh y Dyniaethau yn cynnwys pump o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Ar ôl ymgynghoriad yng ngwanwyn 2021, cryfhaodd Llywodraeth Cymru y datganiadau hyn er mwyn sicrhau bod ‘astudiaethau hanes cymhleth ac amrywiol Cymru yn glir a gorfodol ar gyfer pob ysgol a lleoliad’1Cwricwlwm i Gymru – Rhoi eglurder ynghylch y maes Dyniaethau mewn perthynas â hanes Cymru a’r byd [HTML] | LLYW.CYMRU.

Trwy ein gwaith arolygu yn 2024-2025, canfuom fod ysgolion wedi mabwysiadu ystod eang o ddulliau o roi MDaPh y Dyniaethau ar waith. Roedd effeithiolrwydd y dulliau hyn yn amrywio’n sylweddol ledled Cymru ac roedd profiadau disgyblion yn dibynnu ar ansawdd yr addysgu, cynllunio’r cwricwlwm ac arweinyddiaeth. Mewn ysgolion uwchradd a phob oed, nid oedd disgyblion ym Mlynyddoedd 7, 8 a 9 bob amser yn cael cyfleoedd i astudio disgyblaethau’r dyniaethau yn ddigon manwl. O ganlyniad, nid oedd gan ddisgyblion y medrau angenrheidiol bob tro wrth ddechrau eu cyrsiau TGAU. Yn aml, roedd hyn yn cael effaith negyddol ar nifer y disgyblion a oedd yn dewis pwnc y dyniaethau.

Lle’r oedd MDaPh y Dyniaethau wedi’i roi ar waith yn llwyddiannus, roedd arweinwyr yn sicrhau bod y MDaPh a phynciau perthnasol yn cael eu blaenoriaethu’n briodol a bod digon o amser addysgu wedi’i ddyrannu iddynt. Roedd arweinwyr yn galluogi staff i ddylunio’r cwricwlwm a’i adolygu a’i addasu’n rheolaidd. Roedd hyn yn cynnwys cyfleoedd i athrawon gydweithio ag eraill, ymgymryd â dysgu proffesiynol i ddatblygu addysgeg a chymryd rhan mewn prosesau sicrhau ansawdd. Roedd arweinwyr canol yn glir ynghylch eu maes cyfrifoldeb ac yn gwerthuso eu cwricwla’n rheolaidd i nodi pa mor dda roedd addysgu a phrofiadau dysgu yn cefnogi disgyblion i wneud cynnydd. Roeddent yn addasu darpariaeth yn effeithiol lle’r oedd angen gwelliant.


Negeseuon cyffredinol

Mewn llawer o ysgolion cynradd ac uwchradd, gwelom arfer gref yn y dyniaethau. Yn yr ysgolion hyn, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymgysylltu’n effeithiol yn eu gwersi ac yn gwneud cynnydd cryf yn eu dysgu. Roedd athrawon:

  • mewn ysgolion cynradd yn adeiladu ar yr arfer gref a welwyd mewn lleoliadau nas cynhelir, lle’r oedd ymarferwyr yn meithrin chwilfrydedd plant; roedd hyn yn eu galluogi i ddatblygu eu hymdeimlad o hunaniaeth ac yn eu hannog i archwilio’r byd o’u cwmpas
  • yn dangos llawer o frwdfrydedd ac angerdd tuag at y dyniaethau ac roedd ganddynt ddisgwyliadau uchel o’r hyn y gallai disgyblion ei wneud a’i ddysgu
  • yn canolbwyntio’n gryf ar addysgu effeithiol i gynorthwyo i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau disgyblion sy’n benodol i’r ddisgyblaeth
  • yn ystyried yn union beth roeddent am i ddisgyblion ei ddysgu dros gyfnod ac yn cynllunio’n bwrpasol ar gyfer dilyniant
  • yn datblygu a dyfnhau dealltwriaeth disgyblion, er enghraifft trwy helpu disgyblion i greu cysylltiadau o fewn ac ar draws meysydd a phynciau
  • yn mynd i’r afael â chamsyniadau ac yn holi’n effeithiol i brocio meddwl disgyblion
  • yn defnyddio asesu yn effeithiol i gefnogi anghenion disgyblion a’u camau nesaf; yn yr achosion hyn, roedd athrawon yn sicrhau bod pob disgybl, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a’r rhai o aelwydydd ag incwm isel, yn cael eu cefnogi’n dda
  • yn cynllunio cyfleoedd dilys a pherthnasol i ddisgyblion ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol trwy brofiadau dysgu ystyrlon yn y dyniaethau
  • yn darparu ystod gyfoethog o brofiadau dysgu, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer gwaith maes daearyddol ac ymweliadau addysgol â lleoedd o arwyddocâd hanesyddol, crefyddol a diwylliannol
  • yn dangos ymrwymiad cryf i amrywiaeth a chynhwysiant. Roeddent yn helpu disgyblion i ddeall hanesion a phrofiadau cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ac unigolion LHDTC+
  • yn rhannu gweledigaeth glir ar gyfer y dyniaethau yn eu hysgolion
  • yn cael eu cefnogi gan arweinwyr a oedd yn rhoi blaenoriaeth i ddysgu proffesiynol, yn caniatáu amser i fyfyrio ar addysgeg a chwricwlwm ac yn gwerthuso effaith addysgu yn y dyniaethau yn feddylgar

Mewn ysgolion lle’r oedd datblygu MDaPh y Dyniaethau yn llai effeithiol:

  • nid oedd athrawon yn sicrhau’n ddigon da fod disgyblion yn cael cyfleoedd i wneud cynnydd yn y dyniaethau; nid oeddent yn sicrhau cydbwysedd digonol rhwng datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau disgyblion sy’n benodol i’r ddisgyblaeth
  • nid oedd athrawon yn ystyried addysgeg yn ddigon da; yn aml, roeddent yn dibynnu gormod ar brosesau cam-wrth-gam syml, nad oeddent yn datblygu dealltwriaeth disgyblion yn llawn ac yn caniatáu iddynt gymhwyso eu dysgu yn annibynnol
  • roedd athrawon yn canolbwyntio’n rhy fanwl ar gynnwys y cwricwlwm a ‘rhoi sylw’ i bynciau; yn yr achosion hyn, roedd y cwricwlwm yn dueddol o ‘neidio’ o un pwnc i’r llall heb roi lawer o ystyriaeth i gronoleg na chyfle i greu cysylltiadau ystyrlon rhwng lleoedd neu gyfnodau hanesyddol – yn aml, nid oedd athrawon yn ystyried effaith digwyddiadau penodol ar ddatblygiadau ehangach o fewn ac ar draws y cyfnodau hanesyddol a astudiwyd, ac roedd hyn yn cael effaith negyddol ar ddealltwriaeth disgyblion
  • nid oedd athrawon a oedd yn addysgu y tu allan i’w maes arbenigol yn cael cymorth a dysgu proffesiynol digonol i’w helpu i ddatblygu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u haddysgeg eu hunain
  • nid oedd athrawon yn sicrhau bod themâu trawsgwricwlaidd wedi’u seilio ar gysylltiadau rhesymegol a dilys, gan gyfyngu ar gyfleoedd i ddisgyblion greu cysylltiadau ystyrlon ar draws ac o fewn pynciau
  • roedd gan athrawon ddisgwyliadau isel o’r hyn y gallai disgyblion ei wneud a’i ddysgu ac nid oeddent yn cynllunio’n ddigon da ar gyfer dilyniant yn y dyniaethau; roedd diffyg her mewn gweithgareddau neu roedd disgyblion yn cwblhau tasgau tebyg dro ar ôl tro ar draws grwpiau blwyddyn ac, mewn ychydig o achosion, roedd adnoddau a gynlluniwyd yn wael yn cyfyngu ar gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu a dyfnhau eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r dyniaethau
  • nid oedd athrawon yn cynllunio cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r ardal leol a Chymru yn ddigon da; yn aml, nid oedd athrawon yn helpu disgyblion i greu cysylltiadau pwrpasol rhwng cyd-destunau lleol, Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol
  • nid oedd athrawon yn ystyried amrywiaeth Cymru ac effaith gwladychu yn ddigon da; roedd pynciau wedi’u symleiddio’n ormodol ac yn cael eu haddysgu heb roi ystyriaeth briodol i brofiadau pobl ac, mewn ychydig o achosion, roedd ysgolion yn cynnwys gweithgareddau anaddas ac, yn rhy aml, yn cyflwyno un naratif – roeddent yn colli cyfleoedd i ddangos enghreifftiau o sut roedd pobl a chymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi cyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas

Roedd diffyg dysgu proffesiynol i gefnogi datblygiad manwl y dyniaethau, gan gynnwys datblygu’r medrau disgyblaethol yn y dyniaethau, yn gwaethygu’r meysydd i’w gwella a nodir yma.


Sector meithrinfeydd nas cynhelir

Roedd llawer o leoliadau meithrin nas cynhelir3Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn croesawu ethos y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Roeddent yn cyflwyno plant i elfennau o’r dyniaethau trwy archwilio eu hardaloedd lleol. Trwy’r profiadau hyn, roedd ymarferwyr yn hybu ymdeimlad o berthyn a balchder ymhlith plant, yn dathlu diwylliant amrywiol Cymru gyfoes ac yn cefnogi plant i ddatblygu ymdeimlad o gynefin.

Roedd llawer o arweinwyr yn rhoi cyfleoedd buddiol i blant archwilio eu cymuned leol, gan gynnwys darganfod byd natur ac ymweld â busnesau a safleoedd o ddiddordeb hanesyddol. Roedd y profiadau hyn yn cynnig cyfleoedd ystyrlon i blant ehangu eu dealltwriaeth o’r byd ehangach a datblygu ymdeimlad o ryfeddod a pharchedig ofn.

Yn y rhan fwyaf o leoliadau, roedd ymarferwyr yn cefnogi plant yn dda i ddatblygu eu dealltwriaeth o werthoedd fel gonestrwydd, tegwch a pharch. Fodd bynnag, mewn ychydig o leoliadau, roedd cyfleoedd i ddysgu am fywydau a chredoau pobl o gefndiroedd diwylliannol gwahanol yn gyfyngedig.


Cyfnod cynradd

Roedd mwyafrif yr ysgolion cynradd a arolygwyd wedi addasu eu darpariaeth yn addas wrth ymateb i Gwricwlwm i Gymru. Roeddent yn cydnabod bod y dyniaethau’n cynnig cyd-destunau gwerthfawr i ddatblygu medrau trawsgwricwlaidd. Roedd mwyafrif yr ysgolion yn cynnwys cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu hymdeimlad o gynefin a hunaniaeth. Yn aml, roeddent yn ysgogi dysgu disgyblion gan ddefnyddio ymweliadau lleol ac ymwelwyr i wella eu profiadau. Fodd bynnag, yn rhy aml, nid oedd ysgolion yn ystyried dilyniant yn y dyniaethau yn ddigon da. Er enghraifft, er bod gallu disgyblion i alw digwyddiadau hanesyddol i gof yn briodol, nid oeddent yn cael digon o gyfleoedd i ymgysylltu â ffynonellau hanesyddol i’w helpu i ddechrau ystyried sut gallai’r gorffennol fod wedi’i gynrychioli mewn ffyrdd gwahanol a’i ddylanwadu gan hunaniaeth, profiadau, safbwyntiau a chredoau.

Mewn llawer o ysgolion, roedd MDaPh y Dyniaethau yn dueddol o ganolbwyntio ar hanes, yn bennaf. O ganlyniad, nid oedd disgyblion yn cael digon o gyfleoedd bob amser i ddatblygu eu dealltwriaeth o agweddau fel daearyddiaeth yr ardal leol a sut roedd hyn yn cysylltu â’r byd ehangach. Roedd disgyblion yn cael trafferth creu cysylltiadau yn eu dysgu. Darllenwch sut mae Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn galluogi disgyblion i ddathlu Cymreictod ac amrywiaeth.

Mewn llawer o ysgolion cynradd, roedd y cwricwlwm yn aml yn helpu disgyblion i ddysgu am brif grefyddau’r byd, gan gynnwys dathliadau pwysig fel Diwali, y Pasg ac Eid. Fodd bynnag, nid oedd disgyblion yn cael digon o gyfleoedd i ystyried y byd trwy lens ac is-lensys disgyblaethol CGM5Mae’r rhain yn helpu ysgolion a lleoliadau i ddeall sut gellir edrych ar bynciau a themâu. Mewn CGM, mae’r is-lensys yn cynnwys themâu fel chwilio am ystyr a diben, hunaniaeth a pherthyn, gwerthoedd a moeseg a thaith bywyd. a amlinellir yng Nghwricwlwm i Gymru. Mewn rhai achosion, roedd hyn yn hybu golwg arwynebol ar grefydd ac agweddau ysbrydol. Ym mwyafrif yr ysgolion, roedd cynllunio ar gyfer CGM yn ei gamau datblygu cynnar. Yn gyffredinol, nid oedd ysgolion yn dyrannu llawer o amser i CGM yng nghwricwlwm dyniaethau’r ysgol.

Roedd llawer o ysgolion cynradd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ystyried cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mewn ychydig o ysgolion, roedd staff wedi ymgorffori’r thema drawsbynciol hon yn llwyddiannus, gan sicrhau bod storïau a chyfraniadau pobl a chymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu hystyried yn briodol. Fodd bynnag, yn rhy aml, roedd y bobl a gynrychiolwyd wedi’u cyfyngu i ychydig o fodelau rôl rhyngwladol adnabyddus ac nid oeddent yn adlewyrchu profiadau cyfoethog ac amrywiol Cymru yn ddigon da bob tro. Mewn ychydig o ysgolion, nid oedd darpariaeth i ddatblygu dealltwriaeth ehangach disgyblion o natur amrywiol Cymru gyfoes wedi’i datblygu’n ddigonol. Roedd cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu am ystod eang o ddiwylliannau, hunaniaethau a phrofiadau yn gyfyngedig.

Mewn lleiafrif o ysgolion cynradd, lle gwelwyd arfer gryfach yn y dyniaethau, roedd staff yn elwa ar gyfleoedd dysgu proffesiynol gwerthfawr a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu cwricwlwm y dyniaethau, wrth ystyried dilyniant yn effeithiol. Mewn ychydig iawn o enghreifftiau, roedd ysgolion wedi cydweithio’n effeithiol ag eraill i ddatblygu dealltwriaeth o ddilyniant priodol.


Cyfnod uwchradd

Mewn ysgolion uwchradd, arweiniodd MDaPh y Dyniaethau at ysgolion yn adolygu’r ffordd roeddent yn addysgu disgyblaethau’r dyniaethau. Wrth dreialu’r cwricwlwm yn gyntaf, symudodd mwyafrif yr ysgolion i addysgu’r dyniaethau trwy ddull integredig, gan ragweld manteision posibl mwy o gydweithio ar draws meysydd pwnc. Lle’r oedd hyn yn gweithio’n dda, roedd arweinwyr wedi cynllunio’n fanwl sut byddai disgyblion yn datblygu eu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau ar draws y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Roeddent yn darparu dysgu proffesiynol effeithiol er mwyn sicrhau bod gan bob aelod staff y medrau a’r addysgeg angenrheidiol i addysgu ar draws y dyniaethau. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, gwelom ysgolion uwchradd yn mabwysiadu modelau lle’r oedd disgyblion yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr pwnc mewn gwersi hanes, daearyddiaeth a chrefydd, gwerthoedd a moeseg ar wahân. Yn aml, roedd hyn yn cael ei lywio gan bryder ymhlith arweinwyr nad oedd disgyblion yn datblygu’r wybodaeth, dealltwriaeth a’r medrau arbenigol gofynnol yn ddigon manwl bob tro i gefnogi eu dilyniant a’u paratoi ar gyfer eu hastudiaethau TGAU dan fodel integredig.

Mewn lleiafrif o ysgolion, gwelom arfer effeithiol yn y dyniaethau. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd arweinwyr yn sicrhau bod addysgu o safon gyson uchel ar draws y MDaPh. O ganlyniad, roedd disgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn eu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau sy’n benodol i’r ddisgyblaeth ac roeddent yn gallu creu cysylltiadau ar draws eu dysgu. Roedd arweinwyr yn defnyddio prosesau sicrhau ansawdd cadarn wedi’u seilio ar ystod o dystiolaeth uniongyrchol i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella mewn addysgu a dysgu. Roeddent yn defnyddio’r wybodaeth hon yn ddoeth ac yn bwrpasol wrth gynllunio ar gyfer gwelliant. Roedd gwendidau cyffredinol yn cynnwys:

  • diffyg cyfleoedd i ddisgyblion ymgysylltu ag ystod addas o bynciau’r dyniaethau yn y MDaPh; roedd hyn yn cynnwys cyfleoedd cyfyngedig i ddisgyblion astudio daearyddiaeth ffisegol a datblygu eu medrau daearyddol, gan gynnwys gwaith maes ymarferol
  • dim digon o gyfleoedd i ddisgyblion ystyried astudiaethau achos ac enghreifftiau daearyddol perthnasol diweddar
  • cyfleoedd cyfyngedig i ymweld â lleoedd o ddiddordeb hanesyddol, crefyddol neu ddiwylliannol
  • cynllunio gwan yn arwain at ddisgyblion yn ystyried ystod gyfyngedig o bynciau neu ddigwyddiadau hanesyddol; prin oedd y cyfleoedd yr oedd disgyblion yn eu cael i astudio cyfnodau a safbwyntiau gwahanol, fel agweddau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd neu ddiwylliannol yn fanwl ac, yn aml, roedd hyn yn arwain atynt yn datblygu dealltwriaeth rhy syml o’r byd
  • diffyg cyfleoedd i ddisgyblion ddadansoddi ffynonellau hanesyddol ac ystyried nifer o safbwyntiau a dehongliadau
  • diffyg cyfleoedd i ystyried ystod eang o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol ar bynciau cymhleth ac ymgysylltu â’r is-lensys sydd wedi’u nodi yng nghanllawiau’r cwricwlwm CGM
  • ychydig iawn o gyfleoedd i ystyried busnes ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau ym Mlynyddoedd 7, 8 a 9
  • ychydig iawn o gynllunio i helpu disgyblion i adeiladu ar eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth flaenorol o’r dyniaethau o’u hastudiaethau yn y cyfnod cynradd

Mewn lleiafrif o’r ysgolion a arolygwyd yn 2024-2025, roedd cynllunio athrawon i ddatblygu medrau trawsgwricwlaidd disgyblion yn effeithiol. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd athrawon yn datblygu cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion ddatblygu eu medrau llafaredd, darllen, ysgrifennu a rhifedd yng nghyd-destun y dyniaethau. Roedd y cyfleoedd hyn yn cael eu cynllunio’n effeithiol er mwyn sicrhau eu bod yn cynnig her addas ac yn caniatáu i ddisgyblion wneud cynnydd priodol. Yn y gwersi hanes mwyaf effeithiol, roedd athrawon yn aml yn datblygu uwch fedrau darllen disgyblion, gan ddewis ffynonellau hanesyddol a oedd yn herio disgyblion i ddefnyddio medrau dehongli a dod i gasgliad soffistigedig i ystyried dibynadwyedd a defnyddioldeb ffynonellau. Mewn lleiafrif o ysgolion, roedd disgyblion yn elwa ar gyfleoedd i lunio gwaith ysgrifenedig ystyrlon ar draws disgyblaethau’r dyniaethau. Mae staff yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yn cynllunio’n effeithiol ar gyfer dilyniant disgyblion yn y dyniaethau, gan gynnwys darpariaeth gref i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o hanesion, storïau a chyfraniadau Pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Ym mwyafrif yr ysgolion, roedd diffygion mewn darpariaeth yn golygu nad oedd disgyblion yn datblygu eu medrau rhifedd yn ddigon da ar draws y cwricwlwm. Yn y dyniaethau, roedd tasgau rhifedd weithiau’n brin o berthnasedd a thrylwyredd. Er enghraifft, roedd athrawon yn gofyn i ddisgyblion gyfrifo cylchedd twll tân-belen mewn hanes neu’n cyfyngu ar ddatblygiad rhifedd disgyblion mewn daearyddiaeth trwy ganolbwyntio ar graffiau sylfaenol yn unig. Yn aml, rhoddwyd ychydig iawn o gyfleoedd i ddisgyblion ddadansoddi data’n annibynnol. Yn y dyniaethau, roedd datblygu medrau digidol disgyblion yn aml yn canolbwyntio ar ddefnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i wybodaeth a chreu cynnwys digidol fel cyflwyniadau ac, mewn ychydig o achosion, podlediadau a fideos byr. At ei gilydd, nid oedd darpariaeth i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion yn ddigon effeithiol ym mwyafrif yr ysgolion uwchradd a arolygwyd.

Roedd ychydig iawn o ysgolion uwchradd yn parhau i ganiatáu i ddisgyblion ddewis eu pynciau opsiynau ym Mlwyddyn 8. O ganlyniad, nid oedd pob disgybl yn cael cyfle i ddysgu ar draws yr ystod lawn o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ym Mlwyddyn 9. Ar ben hynny, mewn lleiafrif o achosion, nid oedd arweinwyr yn sicrhau cydbwysedd addas rhwng meysydd disgyblaethol yn y dyniaethau, gyda mwy o amser yn cael ei neilltuo i rai meysydd nag eraill. Weithiau, roedd hyn oherwydd diffyg staff arbenigol a achoswyd gan anawsterau recriwtio, yn enwedig mewn daearyddol a CGM. Gwaethygwyd hyn gan ddiffyg dysgu proffesiynol ar gyfer pynciau arbenigol i helpu staff i ddatblygu eu harbenigedd yn y dyniaethau.

Mae’n rhy gynnar i weld effaith Cwricwlwm i Gymru ar geisiadau arholiadau TGAU. Fodd bynnag, mae nifer y disgyblion sy’n cofrestru ar gyfer cymhwyster TGAU mewn daearyddiaeth wedi gostwng er 2022. Mae nifer y disgyblion sy’n cofrestru ar gyfer TGAU hanes wedi cynyddu rhywfaint dros yr un cyfnod. Er bod nifer y disgyblion sy’n cofrestru ar gyfer cymhwyster astudiaethau crefyddol wedi amrywio rhywfaint dros gyfnod, mae’n adlewyrchu’r ffaith fod pob disgybl mewn ychydig o ysgolion, yn enwedig ysgolion ffydd, yn sefyll cymhwyster yn y pwnc. Cynyddodd nifer y disgyblion a gofrestrwyd ar gyfer TGAU astudiaethau busnes yn sylweddol rhwng 2022 a 2023, cyn gostwng ychydig yn 2024. Mae tabl manwl sy’n dangos nifer y disgyblion sy’n ymgymryd â chymwysterau yn y dyniaethau i’w weld ar waelod yr adroddiad yma


Ysgolion pob oed

Mae’r negeseuon sydd wedi’u cynnwys yn adrannau’r cyfnodau cynradd ac uwchradd yn yr adroddiad hwn yn cael eu hailadrodd yn yr ysgolion pob oed a arolygwyd gennym yn 2024-2025. Roedd ychydig o’r ysgolion pob oed a arolygwyd eleni yn cynllunio i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau disgyblion ar draws yr ystod oedran gyfan yn effeithiol. Roedd hyn yn cynnwys cynllunio athrawon ar gyfer MDaPh y Dyniaethau mewn ychydig iawn o achosion. Roedd disgyblion yn Ysgol Henry Richard yn elwa ar gyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu eu dealltwriaeth o’u treftadaeth trwy brofiadau dysgu cyfoethog.


Addysg Gychwynnol Athrawon

Amlinellodd yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2023-2024 fod nifer y myfyrwyr ar raglenni addysg gychwynnol athrawon yn y dyniaethau wedi gostwng bron i hanner er 2014. Nid oes yr un o’r partneriaethau wedi llwyddo i recriwtio’n unol â’r targedau cyffredinol dros y degawd diwethaf. Mae nifer y myfyrwyr sy’n cael eu recriwtio i bynciau uwchradd yn y dyniaethau, yn enwedig daearyddiaeth a busnes, yn faes sy’n peri pryder.


Cwestiynau i fyfyrio arnynt

  • A yw arweinwyr yn sicrhau bod disgyblion yn cael yr amser sydd ei angen arnynt i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau ym MDaPh y Dyniaethau?
  • Pa mor dda y mae arweinwyr ar bob lefel yn gwerthuso effeithiolrwydd eu cwricwlwm ar gyfer y dyniaethau? A ydynt yn ystyried effaith darpariaeth ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion, gan gynnwys pa mor dda maent yn datblygu eu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau dros gyfnod?
  • A yw arweinwyr yn ystyried ystod o dystiolaeth uniongyrchol wrth wneud eu gwerthusiadau, gan gynnwys arsylwadau o addysgu, craffu ar waith, data a barn disgyblion? Pa mor dda maent yn triongli’r canfyddiadau i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella?
  • Pa mor dda mae arweinwyr yn cynllunio ar gyfer gwella yn y dyniaethau? A ydynt yn nodi meini prawf llwyddiant clir sy’n amlinellu effaith ddymunol unrhyw newidiadau i ddarpariaeth ar gynnydd disgyblion?
  • A yw cwricwlwm y dyniaethau yn ddigon eang a chytbwys? A yw’r cwricwlwm yn ffafrio rhai disgyblaethau dros rai eraill? A yw ysgolion yn ystyried themâu trawsbynciol amrywiaeth a hawliau dynol yn ddigon manwl?
  • Pa mor dda mae athrawon yn datblygu eu dulliau addysgegol i helpu disgyblion i ddysgu yn y dyniaethau? (Er enghraifft, wrth addysgu disgyblion i ddehongli a dadansoddi data mewn daearyddiaeth neu fusnes, wrth ddadansoddi ffynonellau mewn hanes neu wrth ystyried safbwyntiau niferus ar bynciau cymhleth mewn CGM neu’r gwyddorau cymdeithasol.)
  • Pa mor dda mae athrawon yn cynllunio sut byddant yn cyflwyno cysyniadau allweddol ac yn datblygu gwybodaeth eang a dwfn i’w cynorthwyo i wneud cynnydd dros gyfnod?
  • Pa mor dda mae athrawon yn cefnogi disgyblion i ddefnyddio amrywiaeth o fedrau disgyblaethol yn fwyfwy cywir a rhugl? (Mae hyn yn cynnwys sut maent yn helpu disgyblion i ffurfio cwestiynau, defnyddio tystiolaeth i lunio a chefnogi atebion a chynrychioli a dehongli canlyniadau ymholiadau.)
  • Pa mor dda mae athrawon yn cynllunio cyfleoedd i ddisgyblion drosglwyddo eu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau presennol i gyd-destunau newydd ac anghyfarwydd? A yw cwricwlwm y dyniaethau yn caniatáu i ddisgyblion ddyfnhau eu dealltwriaeth?
  • Pa mor dda mae athrawon yn cydweithio â’i gilydd i gynllunio i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau disgyblion yn y dyniaethau yn gynyddol wrth bontio o un cyfnod i’r llall, gan gynnwys o’r cyfnod cynradd i’r cyfnod uwchradd?
  • A yw agweddau ar y cwricwlwm yn cael eu trin yn arwynebol? Er enghraifft, trwy ddewis yr agweddau mwyaf cyffrous heb ddatblygu’r cyd-destunau i ganiatáu i ddisgyblion dyfnhau eu dealltwriaeth?
  • Pa mor dda mae athrawon yn cynllunio ar gyfer cwestiynau ymholi mwyfwy soffistigedig?
  • Pa mor dda mae athrawon yn helpu disgyblion i ddatblygu eu hannibyniaeth (cyfleoedd i ddod o hyd i wybodaeth addas, gwneud rhagfynegiadau a damcaniaethau, llunio barn ynghylch dibynadwyedd a defnyddioldeb neu ddadansoddi data)?
  • Pa mor dda mae athrawon yn helpu disgyblion i:
    • ddeall y medrau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth benodol o ddisgyblaethau yn y dyniaethau?
    • creu cysylltiadau o fewn a rhwng cyfnodau a lleoedd?
    • nodi pethau sy’n debyg ac yn wahanol?
    • nodi newidiadau a pharhad?
    • datblygu dealltwriaeth o gronoleg trwy roi’r cwricwlwm mewn trefn yn ofalus?
    • defnyddio eu dealltwriaeth o gysyniadau i nodi cysylltiadau yn eu dysgu?

Mewn lleiafrif o ysgolion cynradd ac ychydig o ysgolion uwchradd, gwelom arfer gref yn y dyniaethau. Yn yr achosion hyn, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymgysylltu’n effeithiol yn eu gwersi ac yn gwneud cynnydd cryf yn eu dysgu.

Yn yr ysgolion hyn, roedd athrawon:

  • yn dangos llawer o frwdfrydedd ac angerdd tuag at bynciau’r dyniaethau ac roedd ganddynt ddisgwyliadau uchel o’r hyn y gallai disgyblion ei wneud a’i ddysgu
  • yn canolbwyntio’n gryf ar addysgu effeithiol i gynorthwyo i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau disgyblion sy’n benodol i’r pwnc
  • yn cynllunio eu cwestiynau’n effeithiol i helpu disgyblion i ddyfnhau eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth; roeddent yn procio meddwl disgyblion yn dda
  • yn ystyried yn union beth roeddent am i ddisgyblion ei ddysgu dros gyfnod ac wedi cynllunio’n bwrpasol ar gyfer dilyniant
  • yn ystyried camsyniadau posibl ac yn cynllunio sut y gallant fynd i’r afael â’r rhain yn eu haddysgu
  • yn defnyddio asesu yn effeithiol i addasu eu dulliau i gefnogi anghenion a chamau nesaf disgyblion; yn yr achosion hyn, roedd athrawon yn sicrhau bod disgyblion o bob gallu ac angen yn cael eu cefnogi’n dda
  • yn ystyried y drefn yr oedd cysyniadau’n cael eu haddysgu ynddi i ddatblygu a dyfnhau dealltwriaeth disgyblion, er enghraifft ystyried sut gallent helpu disgyblion i greu cysylltiadau o fewn ac ar draws meysydd pwnc a phynciau
  • yn cynllunio cyfleoedd dilys a pherthnasol i ddisgyblion ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol yn gynyddol; roedd y cyfleoedd hyn yn helpu disgyblion i ddatblygu eu medrau pwnc a thrawsgwricwlaidd yn ystyrlon
  • yn ystyried y dysgu a’r profiadau yr oeddent am eu darparu yn ystod gyrfa ysgol disgyblion, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer maes gwaith daearyddol ac ymweliadau addysgol â lleoedd o arwyddocâd hanesyddol, crefyddol a diwylliannol

Mewn ychydig o ysgolion cynradd a lleiafrif o ysgolion uwchradd, nodom feysydd i’w gwella ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau:

  • Nid oedd arweinwyr yn sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd i wneud cynnydd yn erbyn y pum datganiad o’r hyn sy’n bwysig yn y dyniaethau yn ddigon da. Nid oeddent yn sicrhau cydbwysedd digonol rhwng datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau disgyblion sy’n benodol i’r pwnc. Er enghraifft, prin oedd y cyfleoedd a roddwyd i ddisgyblion ddatblygu medrau daearyddol neu nid oeddent yn cael digon o gyfleoedd i ddyfnhau eu dealltwriaeth o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol.
  • Nid oedd athrawon yn ystyried addysgu ac addysgeg yn ddigon da yn y dyniaethau. Yn yr achosion hyn, roedd addysgu’n dibynnu gormod ar ddefnyddio prosesau cam-wrth-gam syml, nad oeddent yn datblygu dealltwriaeth disgyblion yn llawn ac yn caniatáu iddynt gymhwyso eu dysgu yn annibynnol, er enghraifft wrth drafod defnyddioldeb a dibynadwyedd ffynonellau hanesyddol.
  • Roedd themâu trawsgwricwlaidd wedi’u seilio ar gysylltiadau gwan, gan gyfyngu ar gyfleoedd i ddisgyblion greu cysylltiadau ystyrlon ar draws ac o fewn pynciau. O ganlyniad, nid oedd disgyblion yn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn ddigon da ac fe’u gadawyd â chamsyniadau.
  • Roedd cynllunio athrawon yn canolbwyntio’n rhy fanwl ar gynnwys y cwricwlwm a ‘rhoi sylw’ i bynciau. Yn yr achosion hyn, roedd y cwricwlwm yn dueddol o ‘neidio’ o un pwnc i’r llall heb roi llawer o ystyriaeth i gronoleg na chyfle i greu cysylltiadau ystyrlon rhwng lleoedd neu gyfnodau hanesyddol. Er enghraifft, roedd cynlluniau gwaith yn canolbwyntio ar bynciau arwynebol, fel Jack the Ripper a’r Titanic. Yn aml, ychydig iawn o ystyriaeth a roddwyd i’w cyd-destun ac a oeddent yn cael unrhyw effaith ar ddigwyddiadau’r cyfnod.
  • Nid oedd athrawon yn cynllunio cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r ardal leol a Chymru yn ddigon da. Yn aml, nid oedd athrawon yn helpu disgyblion i greu cysylltiadau pwrpasol rhwng cyd-destunau lleol, Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol.
  • Roedd gan athrawon ddisgwyliadau isel o’r hyn y gallai disgyblion ei wneud a’i ddysgu ac nid oeddent yn cynllunio’n ddigon da ar gyfer dilyniant yn y dyniaethau. Roedd tasgau’n brin o her neu roedd disgyblion yn cwblhau tasgau a gweithgareddau tebyg dro ar ôl tro ar draws grwpiau blwyddyn. Mewn ychydig o achosion, roedd taflenni gwaith a llyfrynnau wedi’u dylunio’n wael yn cyfyngu ar gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu a dyfnhau eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ym mhynciau’r dyniaethau.
  • Nid oedd cynllunio athrawon yn ystyried amrywiaeth a dadwladychu yn y cwricwlwm yn ddigon da. Er enghraifft, roedd pynciau fel ymerodraeth wedi’u symleiddio’n ormodol ac yn cael eu haddysgu heb roi ystyriaeth briodol i brofiadau pobloedd brodorol. Mewn ychydig o achosion, roedd ysgolion yn cynnwys gweithgareddau anaddas, fel ysgrifennu dyddiadur caethwas. Yn rhy aml, roedd ysgolion yn cyflwyno un naratif ac yn colli cyfleoedd i ddangos enghreifftiau o sut roedd pobl a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wedi cyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas.

Mae diffyg dysgu proffesiynol i gefnogi datblygiad manwl y dyniaethau, gan gynnwys datblygu’r medrau disgyblaethol yn y dyniaethau, wedi gwaethygu’r meysydd i’w gwella a nodwyd yma.


Niferoedd yn ymgymryd â chymwysterau yn y dyniaethau

Haf 2019 – Haf 2024

TGAU

Pwnc Cofrestriadau 2025 Cofrestriadau 2024 Cofrestriadau 2023 Cofrestriadau 2022 Cofrestriadau 2021 Cofrestriadau 2020 Cofrestriadau 2019
Astudiaethau busnes 3,785 4,155 4,225 3,268 3,046 3,098 2,902
Daearyddiaeth 6,808 6,961 7,016 7,550 7,433 7,294 7,161
Hanes 8,945 9,544 9,390 9,016 8,933 9,343 9,397
Astudiaethau Crefyddol 8,916 10,171 9,687 9,833 10,138 9,708 10,198

Mae nifer y disgyblion a gofrestrwyd ar gyfer pynciau Safon Uwch yn y dyniaethau wedi gostwng yn gyson er 2022, gyda gostyngiad arbennig o nodedig mewn daearyddiaeth yn 2024.

Safon Uwch

Pwnc Cofrestriadau 2025 Cofrestriadau 2024 Cofrestriadau 2023 Cofrestriadau 2022 Cofrestriadau 2021 Cofrestriadau 2020 Cofrestriadau 2019
Astudiaethau busnes 620 678 782 785 762 687 707
Daearyddiaeth 708 741 957 1,042 959 821 941
Hanes 1,223 1,257 1,360 1,614 1,378 1,464 1,661
Astudiaethau Crefyddol 543 503 579 761 734 864 935