Dysgu oedolion yn y gymuned
Adroddiad sector 2024 - 2025
Partneriaethau
Cyflwynir darpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned gan 13 partneriaeth anstatudol a chan Addysg Oedolion Cymru.
Mae aelodaeth pob partneriaeth yn wahanol o un ardal i’r llall, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys darpariaeth a gynigir gan yr awdurdod lleol, colegau addysg bellach, yn cynnwys Addysg Oedolion Cymru, a sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol.
Mae dysgu oedolion yn y gymuned fel arfer yn cael ei ddarparu mewn lleoliadau fel llyfrgelloedd, canolfannau dysgu cymunedol neu ysgolion. Er bod y rhan fwyaf o gyrsiau’n cael eu cyflwyno wyneb yn wyneb, mae bron pob un o’r partneriaethau’n cyflwyno rhywfaint o’u darpariaeth ar-lein neu mewn ffordd gyfunol.
Er mis Awst 2024, mae Medr yn ariannu partneriaethau trwy’r Grant Dysgu Cymunedol blynyddol i gyflwyno cyrsiau mewn medrau llythrennedd, rhifedd, digidol, Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill (SSIE) a chyrsiau eraill sy’n helpu dysgwyr i gymhwyso a datblygu’r medrau hyn. Yn 2024-2025, cyfanswm y cyllid hwn oedd £6.6m, gyda swm tebyg i Addysg Oedolion Cymru.
Er 2024, mae Medr wedi ariannu Coleg Pen-y-bont yn uniongyrchol i gyflwyno darpariaeth ym mhartneriaeth Pen-y-bont ar Ogwr.
Dysgwyr mewn partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned
Mae’r data swyddogol diweddaraf a gyhoeddwyd ar ddysgwyr cofrestredig a’u gweithgareddau ar gyfer y sector dysgu oedolion yn y gymuned (Medr, 2025) ar gyfer 2023-2024 ac yn dangos mai nifer yr oedolion sy’n ddysgwyr unigryw sy’n ymgymryd â’r ddarpariaeth hon oedd 15,120.
Data Gweithgarwch Dilynol
Nifer mewn categori gweithgarwch dilynol ym mis Medi 2024: 2
Nifer a dynnwyd o gategori gweithgarwch dilynol 2024-2025: 2
Nifer a aeth i gategori gweithgarwch dilynol ar ôl arolygiad craidd 2024-2025: 1
Cyfanswm mewn categori gweithgarwch dilynol ym mis Awst 2025: 1
Cipluniau
Cafodd cipluniau yn amlygu arfer effeithiol neu arloesol eu cynnwys ym mhob un o’r tri arolygiad craidd ac yn yr adroddiad thematig.
Adolygiad thematig
Ymwelom ag wyth partneriaeth hefyd, yn ogystal ag Addysg Oedolion Cymru, yn rhan o adolygiad thematig ynghylch
Medrau llythrennedd, rhifedd a digidolmewn dysgu oedolion yn y gymuned
At ddibenion ein gweithgarwch arolygu, rydym yn cydnabod yr 13 partneriaeth ganlynol, a’r sefydliad addysg bellach dynodedig ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, Addysg Oedolion Cymru:
| Partneriaeth / Darparwr | Ardal awdurdod lleol |
|---|---|
| Addysg Oedolion Cymru | dd/b |
| Pen-y-bont | Pen-y-bont (mae Medr yn ariannu Coleg Pen-y-bont yn uniongyrchol i gyflwyno ar gyfer y bartneriaeth hon) |
| Caerdydd a’r Fro | Caerdydd |
| Caerdydd a’r Fro | Bro Morgannwg |
| Sir Gâr | Sir Gâr |
| Ceredigion | Ceredigion |
| Conwy a Sir Ddinbych | Conwy |
| Conwy a Sir Ddinbych | Sir Ddinbych |
| Gwent Fwyaf | Blaenau Gwent |
| Gwent Fwyaf | Caerffili |
| Gwent Fwyaf | Sir Fynwy |
| Gwent Fwyaf | Casnewydd |
| Gwent Fwyaf | Torfaen |
| Gwynedd a Môn | Gwynedd |
| Gwynedd a Môn | Ynys Môn |
| Merthyr Tudful | Merthyr Tudful |
| Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru | Sir y Fflint |
| Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru | Wrecsam |
| Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Powys-Castell-nedd Port Talbot | Castell-nedd Port Talbot |
| Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Powys-Castell-nedd Port Talbot | Powys |
| Sir Benfro | Sir Benfro |
| Rhondda Cynon Taf | Rhondda Cynon Taf |
| Abertawe | Abertawe |
Crynodeb
Roedd oedolion a oedd yn dychwelyd i ddysgu yn aml yn wynebu rhwystrau, yn cynnwys diffyg hyder a gorbryder ynghylch ‘croesi trothwy’ lleoliadau dysgu ffurfiol. Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr a oedd yn goresgyn y rhwystrau cychwynnol hyn yn gwneud cynnydd cadarn ac yn mwynhau eu dysgu. Roedd athrawon yn ymateb i anghenion dysgwyr yn dda, ond o bryd i’w gilydd, nid oeddent yn addasu eu dulliau i weddu i ddysgwyr unigol. Roedd cymryd rhan mewn dysgu yn magu hyder dysgwyr, yn gwella’u rhagolwg ac yn cefnogi rhyngweithio cymdeithasol buddiol.
Er bod partneriaethau wedi gwneud gwelliannau i’w gwefannau, nid oedd hi bob amser yn hawdd i ddysgwyr ddod o hyd i gynnig llawn y bartneriaeth. Roedd trefniadau partneriaeth yn gwella, ac roedd lleiafrif o bartneriaethau’n dechrau gwerthuso dilyniant dysgwyr dros gyfnod gan ddefnyddio’u data eu hunain. Roedd un bartneriaeth mewn sefyllfa ‘ailosod’ ar ôl cyfnod heb waith partneriaeth effeithiol rhwng darparwyr.
Addysgu a dysgu
Roedd oedolion a oedd yn dychwelyd i ddysgu yn sôn am ystod o rwystrau yr oedd angen iddynt eu goresgyn. I lawer, roedd ‘croesi trothwy’ lleoliad dysgu yn her sylweddol. Rydym yn trafod y rhwystrau hyn, a’r modd y mae partneriaethau a thiwtoriaid wedi ceisio rhagweld a lleihau rhwystrau rhag cymryd rhan, yn ein hadroddiad thematig, Medrau llythrennedd, rhifedd a digidol mewn dysgu oedolion yn y gymuned.
Roedd gan diwtoriaid dysgu berthnasoedd proffesiynol cryf â’u dysgwyr. Roeddent yn adnabod eu dysgwyr yn dda ac yn treulio amser yn deall eu cymhellion dros ddychwelyd i ddysgu a’r rhwystrau y gallent eu hwynebu. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd tiwtoriaid yn addasu eu haddysgu i ddiwallu anghenion dysgwyr unigol yn effeithiol ac yn darparu cymorth un i un buddiol ar gyfer dysgwyr wrth iddynt weithio. Roeddent yn rhoi adborth defnyddiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac roedd dysgwyr yn gwybod beth roedd angen iddynt ei wella. Yn yr achosion prin lle roedd yr addysgu’n llai effeithiol, roedd tiwtoriaid yn dibynnu’n ormodol ar ddulliau taflen waith neu nid oeddent yn gyfarwydd â’r ystod o ffyrdd o addysgu agweddau penodol, er enghraifft lluosi neu strategaethau ar gyfer darllen. Argymhellom y dylid hyrwyddo dysgu proffesiynol yn gryfach – dysgu achrededig ac anachrededig, fel ei gilydd – i gynorthwyo tiwtoriaid i ddatblygu medrau addysgu sy’n benodol i bwnc.
Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cadarn yn eu sesiynau. Dros gyfnod hwy, fel tymor, roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cynnydd addas yn datblygu eu medrau yn erbyn eu mannau cychwyn ac i gyflawni eu nodau cymhwyster. Fodd bynnag, nid oedd mwyafrif y partneriaethau yn gwerthuso’n effeithiol sut mae eu dysgwyr yn gwneud cynnydd dros y tymor hwy, o fewn eu darpariaeth, a’r tu hwnt. Roedd datblygiadau calonogol yn y maes hwn, ac rydym wedi rhoi enghreifftiau o gipluniau o ddau ddarparwr yn ein hadroddiad thematig Medrau llythrennedd, rhifedd a digidol mewn dysgu oedolion yn y gymuned, sy’n egluro bod tua thraean o ddysgwyr sy’n cofrestru ar ddosbarthiadau medrau llythrennedd, rhifedd neu ddigidol wedi cofrestru ar gyrsiau yn y darparwr yn y gorffennol. Argymhellom y dylai partneriaethau a Medr ddatblygu methodolegau ar gyfer gwerthuso dilyniant dysgwyr yn y tymor hir, i fesur effaith dysgu oedolion yn y gymuned ar ddysgwyr a chynllunio darpariaeth yn fwy effeithiol.
Arolygom un bartneriaeth mewn ardal lle mae cryn dipyn o’r boblogaeth leol yn siarad Cymraeg. Galluogodd darpariaeth ddwyieithog effeithiol Partneriaeth Dysgu Cymunedol Gwynedd a Môn fwyafrif y siaradwyr Cymraeg rhugl i fanteisio ar eu darpariaeth naill ai’n ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, hyd yn oed yn y bartneriaeth hon, ar y cyd â’r holl bartneriaethau eraill ar draws y sector, ychydig iawn o ddysgwyr a oedd yn dewis cwblhau asesiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn archwilio rhai o’r rhesymau am hyn yn ein hadroddiad thematig, Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y sectorau ôl-16 (Estyn, 2025).
Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
Roedd dysgwyr yn gwerthfawrogi’n gryf effeithiau lles dysgu, a dywedodd llawer ohonynt eu bod yn teimlo’u bod wedi gwella o ran eu hyder, eu rhagolwg a chymdeithasu, wedi iddynt gymryd y cam cychwynnol i ymgysylltu o’r newydd. Disgrifiodd dysgwyr lawer o effeithiau gwirioneddol y manteision, yn cynnwys helpu yn y gwaith, rhagolygon swyddi gwell, gwaith gwirfoddol, ymgysylltu â gwasanaethau ar-lein, neu’n syml, ‘bod yn rhiant gwell’. Siaradodd dysgwyr sy’n dilyn cyrsiau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill (SSIE) am y modd y mae dysgu’r iaith yn eu helpu i gymathu mewn bywyd bob dydd yn eu cymunedau.
Roedd llawer o ddysgwyr yn elwa ar arweiniad personoledig a chymorth anffurfiol gan diwtoriaid, yn cynnwys cyfeirio at ddysgu pellach, cyngor gyrfaoedd a chysylltiadau ag asiantaethau allanol. Serch hynny, gwelom fod lle i wella o ran y modd mae partneriaethau’n sicrhau bod dysgwyr yn gwybod sut i fynd â’u dysgu ymhellach. Hyd yn oed mewn partneriaethau cryfach, roedd ychydig o ddysgwyr yn ansicr ynglŷn â’u llwybrau dilyniant.
Er bod partneriaethau wedi gwneud gwelliannau i’w gwefannau, nid oeddent bob amser yn glir i’w llywio ac nid oeddent bob amser yn dangos neu’n cysylltu â holl ddarpariaeth partneriaid. Dywedodd ychydig o ddysgwyr hefyd fod gwybodaeth sy’n ddigidol yn unig a phrosesau ymgeisio yn eu rhwystro rhag dod i wybod am ddarpariaeth, neu gofrestru arni.
Mewn llawer o achosion, roedd mecanweithiau cymorth strwythuredig fel cynlluniau dysgu unigol, cynlluniau dysgu digidol, ac offer olrhain cymorth ychwanegol, yn cael eu defnyddio’n dda i fonitro cynnydd a chefnogi datblygiad dysgwyr. Fodd bynnag, gwelom mewn partneriaethau llai effeithiol nad oedd tiwtoriaid yn sicrhau bod dysgwyr yn gwybod beth mae angen iddynt ei wneud i wella yn y tymor byr, ac roedd dysgwyr yn aml yn ansicr ynglŷn â’u targedau tymor canolig a thymor hir.
Arwain a gwella
Pan nad oedd gwaith partneriaeth yn effeithiol, nid oedd cynllunio darpariaeth, hunanwerthuso a chyngor ac arweiniad i ddysgwyr wedi’u datblygu’n ddigonol. Fodd bynnag, ar draws y sector cyfan, roedd cytundebau partneriaeth ffurfiol yn cael eu defnyddio’n fwy effeithiol i egluro rolau a chyfrifoldebau rhwng darparwyr. Roedd hunanwerthuso’n cael ei gynnal yn ddidwyll ac yn onest, ar y cyfan, er ei fod yn gorbwysleisio cryfderau o bryd i’w gilydd, neu’n canolbwyntio ar y darparwr arweiniol heb roi ystyriaeth ddigonol i ddarparwyr eraill yn y bartneriaeth.
Mae partneriaethau’n dechrau gwneud defnydd da o’r ‘offeryn effeithiolrwydd partneriaethau’ a luniwyd ar y cyd (Y Sefydliad Dysgu a Gwaith, 2024) i nodi eu cryfderau a’u meysydd i’w gwella. Mae’r sector yn parhau i elwa ar rwydwaith gwerthfawr i arweinwyr a rheolwyr a diwylliant cydweithredol rhwng ymarferwyr mewn gwahanol bartneriaethau. Mae gwybodaeth yn cael ei chyfnewid yn dda am arfer effeithiol a mynd i’r afael â heriau ar draws y sector.
Mae’r sector wedi gwneud defnydd dychmygus o gyllid ‘Lluosi’ Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatblygu medrau rhifedd oedolion a rhoi cynnig ar wahanol ddulliau i ymgysylltu â dysgwyr newydd. Daeth y rhaglen hon i ben ym mis Ebrill 2025 a gweithiodd partneriaethau’n galed i gynnal rhai o fanteision y rhaglen a’r ddarpariaeth bontio i’w ffrydiau cyllido mwy arferol.
Roedd partneriaethau’n gwneud defnydd da o leoliadau cymunedol ar gyfer darpariaeth i geisio lleihau rhwystrau rhag cyfranogiad dysgwyr. Fodd bynnag, dywedodd partneriaethau fod cynnal costau’r lleoliadau hyn yn gynyddol heriol.
Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau
Rydym wedi cynnal dau arolygiad craidd o bartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned ac un arolygiad craidd o’r coleg addysg bellach ar gyfer dysgu oedolion yng Nghymru. O’r tri arolygiad craidd hyn, arweiniodd un at osod partneriaeth mewn categori gweithgarwch dilynol. Gadawom ddeg argymhelliad i gyd. Rydym hefyd wedi cynnal adolygiad thematig yn gysylltiedig â’r sector, Medrau llythrennedd, rhifedd a digidol mewn dysgu oedolion yn y gymuned.
Cafodd dau ddarparwr (67%) argymhelliad yn ymwneud ag addysgu a dysgu:
- Cafodd y ddau ddarparwr argymhelliad yn ymwneud â chynllunio darpariaeth i fodloni anghenion dysgwyr a chynnig llwybrau ar gyfer dilyniant
Cafodd pob darparwr o leiaf un argymhelliad yn ymwneud â lles, gofal, cymorth ac arweiniad. Roedd dau o’r rheiny ar gyfer y darparwr mewn categori gweithgarwch dilynol:
- Cafodd dau ddarparwr argymhelliad i roi systemau effeithiol ar waith ar draws y bartneriaeth ar gyfer cofnodi a chyfleu anghenion unigol dysgwyr, a darparu’r cymorth sydd ei angen
Rhoddwyd o leiaf un argymhelliad yn ymwneud ag arwain a gwella i bob darparwr. Roedd dau o’r rheiny ar gyfer y darparwr mewn categori gweithgarwch dilynol:
- Cafodd dau ddarparwr argymhelliad i wella gwaith partneriaeth
- Cafodd un darparwr argymhelliad i wella cywirdeb hunanwerthuso
Gweithgarwch dilynol
Yn ystod 2024-2025, arolygwyd partneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned Merthyr Tudful ac roedd angen gweithgarwch dilynol arni. Roedd dwy bartneriaeth a oedd wedi bod mewn categori gweithgarwch dilynol yn y gorffennol, Sir Gâr a Cheredigion, wedi gwneud cynnydd digonol yn erbyn yr argymhellion o’u harolygiadau craidd, a chawsant eu tynnu’n ffurfiol o gategori gweithgarwch dilynol.
Cyfeiriadau
Estyn (2025) Medrau llythrennedd, rhifedd a digidol mewn dysgu oedolion yn y gymuned. Estyn: Caerdydd. [Darllenwyd 18 Medi 2025]
Y Sefydliad Dysgu a Gwaith (2024) Partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned: Offeryn ar gyfer Ymarfer a Darpariaeth Effeithiol. https://www.sefydliaddysguagwaith.cymru/resources/research-and-reports/partneriaethau-dysgu-oedolion-yn-gymuned-offeryn-ar-gyfer-ymarfer-a-darpariaeth-effeithlon/ [Darllenwyd 21 Gorffennaf 2025]