Dysgu yn y sector cyfiawnder
Adroddiad sector 2024 - 2025
Data’r Darparwr
6
Carchardai i oedolion
1
Sefydliadau troseddwyr ifanc
17
Gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid
1
Cartrefi diogel i blant
Adolygiadau Annibynnol o Gynnydd
Mae Adolygiadau Annibynnol o Gynnydd yn cael eu cynnal gan Arolygiaeth Carchardai EF i asesu pa mor dda mae carchardai yn mynd i’r afael â phryderon a nodwyd yn ystod arolygiadau blaenorol, yn enwedig y pryderon a amlygwyd mewn Hysbysiadau Brys neu arolygiadau arbennig o ofidus. Nid yw’r adolygiadau hyn yn arolygiadau llawn ond, yn hytrach, maent yn canolbwyntio ar werthuso cynnydd mewn meysydd penodol o bryder, asesu ymatebion arweinwyr a rheolwyr, a nodi trafferthion sy’n dod i’r amlwg. Yn nodweddiadol, mae adolygiadau annibynnol o gynnydd yn digwydd 8-12 mis ar ôl yr arolygiad cychwynnol ac maent yn cynnwys tîm llai o arolygwyr. Pan fydd Estyn wedi amlygu pryderon, bydd ein harolygwyr yn ymuno â’r adolygiadau.
Nifer yr adolygiadau annibynnol o gynnydd: 1
Gweithgarwch arolygu
Nifer yr arolygiadau craidd:
3 arolygiad craidd, o 4 carchar dynion sy’n oedolion
Cipluniau
Nifer y cipluniau: 4
Crynodeb
Mewn partneriaeth ag Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi, cynhaliodd Estyn arolygiadau craidd o bedwar carchar i oedolion gwrywaidd ac un adolygiad annibynnol o gynnydd mewn sefydliad troseddwyr ifanc.
Roedd arweinwyr wedi gweithio’n effeithiol gyda staff a phartneriaid tuag at sicrhau cwricwlwm amrywiol a deilliannau cryf i ddysgwyr. Roedd nifer o amgylcheddau galwedigaethol yn y carchardai i oedolion yn rhai o ansawdd uchel. Roedd dysgwyr yn rhoi pwys ar weithgareddau datblygu personol a chymdeithasol, ac roedd y rhan fwyaf o garchardai’n gweithio’n galed i ddarparu hyfforddiant, cymwysterau, cyngor a chyfleoedd gwaith cyn rhyddhau. Fodd bynnag, roedd y ddarpariaeth ar gyfer medrau byw’n annibynnol yn anghyson.
Yn gyffredinol, roedd gan ddysgwyr berthnasoedd cadarn â staff ac roeddent yn teimlo’n ddiogel yn ystod gweithgareddau. Fe wnaeth llawer ohonynt gynnydd cadarn ac ennill achrediadau addas, yn enwedig mewn hyfforddiant galwedigaethol. Serch hynny, roedd pryderon yn parhau am ddatblygiad medrau darllen a digidol dysgwyr.
Yn hanner y carchardai i oedolion gwrywaidd, roedd diffyg addysg, hyfforddiant neu waith amser llawn i’r holl garcharorion, gan effeithio ar les a bod yn barod ar gyfer eu rhyddhau. Roedd presenoldeb yn wan yn hanner y carchardai ac roedd rhai dysgwyr yn ymddieithrio oherwydd gwendidau yn y cwricwlwm, mewn addysgu neu mewn dyrannu cyrsiau. Er bod llawer o athrawon yn defnyddio dulliau defnyddiol, nid oedd lleiafrif yn cynllunio’n ddigon da ar gyfer anghenion dysgwyr, gan arwain at gynnydd annigonol i leiafrif o ddysgwyr.
Roedd arweinwyr wedi gwella hunanwerthuso a gweithredu ar ganfyddiadau i wella’r cwricwlwm, er nad oeddent bob amser yn mynd i’r afael â gwendidau mewn ansawdd addysgu.
Roedd y sefydliad troseddwyr ifanc wedi gwneud cynnydd rhesymol ers yr arolygiad craidd. Roedd staffio wedi sefydlogi, roedd cydweithio â’r darparwr addysg wedi gwella, ac roedd gwaith gwerthfawr yn mynd rhagddo i wella’r cynnig i ddysgwyr – gan hybu ethos tîm ac ymgysylltiad dysgwyr. Fodd bynnag, roedd problemau’n parhau ag ansawdd addysgu a’r cwricwlwm.
Addysgu a dysgu
Roedd y rhan fwyaf o athrawon yn meithrin perthnasoedd gwaith ymddiriedus a chadarnhaol â dysgwyr. Roedd bron bob un o’r dysgwyr yn barchus tuag at eu cymheiriaid a’u hathrawon ac roeddent yn gweithio’n dda mewn grwpiau neu yn annibynnol yn ystod sesiynau. Roedd gan lawer ohonynt agweddau cadarn at ddysgu ac roedd y mwyafrif yn cyflawni achrediadau addas. Roedd llawer o ddysgwyr a oedd yn cymryd rhan mewn dysgu galwedigaethol yn gwneud cynnydd cadarn yn gyffredinol wrth ddatblygu’u medrau. Darllenwch sut mae dysgwyr yn CEF Y Berwyn yn Wrecsam yn gwneud cynnydd cryf mewn medrau galwedigaethol.
Mewn lleiafrif o garchardai i oedolion gwrywaidd, roedd dysgwyr yn datblygu medrau llythrennedd a rhifedd perthnasol yn rhan o’u cyd-destunau dysgu galwedigaethol. Fodd bynnag, mewn llawer o’r carchardai i oedolion, nid oedd medrau llythrennedd a rhifedd wedi’u gwreiddio’n ddigonol yn y cyd-destun galwedigaethol. Ni wnaeth y rhan fwyaf o ddysgwyr ar draws yr ystâd ddatblygu’u medrau digidol oherwydd diffyg cyfleoedd dysgu strwythuredig.
Roedd presenoldeb mewn addysg, hyfforddiant a gwaith yn wan yn hanner y carchardai i oedolion a arolygwyd. Ni wnaeth lleiafrif o garcharorion ymgysylltu’n ddigon da â’u dysgu, gan wneud cynnydd annigonol ar y cyfan. Yn gyffredinol, roedd hyn oherwydd gwendidau mewn addysgu neu oherwydd eu bod wedi’u dyrannu i gyrsiau roeddent wedi’u cwblhau’n flaenorol mewn sefydliadau eraill neu nid oeddent wedi mynegi diddordeb yn y cyrsiau.
Defnyddiodd mwyafrif yr athrawon amrywiaeth o ddulliau defnyddiol i ennyn ymgysylltiad dysgwyr a’u symbylu, gan ddarparu esboniadau clir, cynllunio gweithgareddau dysgu addas, a chynnig anogaeth reolaidd ac adborth llafar i gefnogi dysgwyr yn effeithiol mewn gwersi. Mewn ychydig achosion, lle’r oedd yr addysgu’n arbennig o lwyddiannus, fe wnaeth athrawon bersonoli’r ddarpariaeth yn ôl anghenion dysgwyr, ystyried cynnydd, ymgysylltiad a deilliannau dysgu dymuniedig dysgwyr yn dda wrth gynllunio gweithgareddau dysgu, a defnyddio dulliau holi yn effeithiol i ddwysáu dysgu a dealltwriaeth.
Nid oedd lleiafrif o addysgu yn effeithiol wrth sicrhau digon o gynnydd neu ymgysylltiad. Yn yr achosion hyn, nid oedd athrawon wedi:
- ystyried mannau cychwyn neu anghenion dysgwyr yn ddigon da
- datblygu medrau dysgwyr yn gynyddol, gan ganolbwyntio’n rhy gyfyng weithiau ar dasgau ailadroddus, heb her
- cefnogi dysgwyr i wella’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth trwy holi gan yr athro; na
- darparu arweiniad digon clir i ddysgwyr ar sut i wella ansawdd eu gwaith
Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
Dywedodd bron bob un o’r dysgwyr wrthym eu bod yn teimlo’n ddiogel wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu.
Defnyddiodd staff asesiadau gwaelodlin yn briodol i lywio cynlluniau dysgu a gwaith unigol. Yn hanner y carchardai i oedolion gwrywaidd a arolygwyd, gofalodd staff eu bod yn sicrhau bod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn cael gweithgareddau pwrpasol a oedd yn cyfateb yn dda i’w hanghenion a’u dyheadau. Yn y sefydliad troseddwyr ifanc, roedd dysgwyr yn elwa o adolygiadau wythnosol o’u cynlluniau dysgu a gwaith unigol. Yn rhy aml, fodd bynnag, roedd ansawdd y cynlluniau hyn yn anghyson neu nid oeddent yn cysylltu’n ystyrlon â chynlluniau dedfryd y dysgwyr. Yn ogystal, yn hanner y carchardai i oedolion, nid oedd cyngor ac arweiniad yn paratoi carcharorion yn gyson i wneud penderfyniadau gwybodus, gan gyfrannu o ganlyniad at gofrestru rhai dysgwyr ar gyrsiau nad oeddent yn bodloni eu hanghenion.
Roedd gan bob carchar a’r sefydliad troseddwyr ifanc reolwr cymorth niwroamrywiaeth neu gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol. Fodd bynnag, mewn tua hanner y carchardai a arolygwyd, roedd dealltwriaeth staff o sut i gefnogi dysgwyr ag anghenion cymhleth yn amrywio. Lle’r oedd y gwaith hwn wedi esblygu’n dda, roedd y cymorth a ddarparwyd yn arbennig o gryf. Dysgwch sut mae dysgwyr yn CEF Brynbuga a CEF Prescoed yn Sir Fynwy yn elwa o gymorth dysgu targedig.
Fe wnaeth ychydig o ddysgwyr ymgymryd â rolau arwain buddiol, er enghraifft fel mentoriaid cymheiriaid neu gynorthwyo â gweithgareddau galwedigaethol. Yn gyffredinol, roedd pob carchar a’r sefydliad troseddwyr ifanc yn cynnig gweithgareddau datblygu personol, fel gweithgareddau a oedd yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth ariannol, cyflogadwyedd, dinasyddiaeth ac iechyd meddwl. Roedd dysgwyr yn gwerthfawrogi’r rhain. Lle’r oeddent yn cael eu cynnig, fe wnaeth dysgwyr elwa hefyd o weithgareddau lles buddiol, fel celf, cerddoriaeth a drama. Fodd bynnag, roedd darpariaeth annigonol ar gyfer medrau byw’n annibynnol mewn llawer o garchardai dynion.
Darparodd yr holl garchardai i ddynion gyngor ac arweiniad buddiol ar ailsefydlu. Fe wnaeth hyn gynnwys help gydag agor cyfrifon banc, cyfweliadau a sicrhau cyllid i ddarparu offer ar gyfer gwaith. Roedd y mynediad a gafodd carcharorion at gymwysterau a hyfforddiant wedi gwella’u rhagolygon am waith adeg eu rhyddhau. Mewn tua hanner y carchardai i ddynion, sicrhaodd ymagwedd systematig at nodi anghenion adsefydlu fod cymorth cofleidiol yn amserol ac yn cael ei deilwra’n agos i anghenion dysgwyr. Fodd bynnag, nid oedd hanner y carchardai i ddynion yn defnyddio rhyddhau ar drwydded dros dro (ROTL) yn ddigonol. Mewn ambell achos, roedd rhyddhau carcharorion yn gynnar yn rhwystro ymdrechion arweinwyr i sicrhau lleoliadau ROTL addas.
Arwain a gwella
Ar draws yr holl garchardai a’r sefydliad troseddwyr ifanc yr ymwelwyd â nhw yn ystod y flwyddyn, roedd arweinwyr wedi gweithio’n ddiwyd ar eu gweledigaeth i sicrhau deilliannau cryf i ddysgwyr. Fe ddefnyddion nhw ymweliadau targedig â charchardai eraill yn effeithiol i arsylwi a rhannu arfer. Fe wnaeth lleiafrif o’r darparwyr a arolygwyd, a’r sefydliad troseddwyr ifanc, gynnig dysgu proffesiynol gwerthfawr i athrawon gyrfa gynnar i gryfhau eu haddysgu a’u dysgu galwedigaethol.
Cynigiodd yr holl garchardai i oedolion gwricwlwm amrywiol a oedd yn bodloni anghenion galwedigaethol, academaidd neu anghenion datblygiad personol llawer o ddysgwyr yn briodol. Yn gyffredinol, darparodd amgylcheddau dysgu galwedigaethol gyd-destunau dysgu dilys a gwerthfawr, yr oedd rhai ohonynt o safon diwydiant. Roedd strwythur hyblyg y cwricwlwm yn CEF Brynbuga a CEF Prescoed yn gryfder, gan alluogi dysgwyr i gyfuno addysg â lleoliadau gwaith a chyfrifoldebau eraill.
Nid oedd hanner y carchardai i ddynion yn cynnig digon o addysg amser llawn, hyfforddiant neu ddarpariaeth gwaith i’r holl ddysgwyr i’w paratoi’n ddigonol ar gyfer realiti gwaith, hyfforddiant neu addysg adeg eu rhyddhau. Yn ogystal, roedd gwendidau mewn dyraniadau neu darfu ar gyfundrefnau yn effeithio’n negyddol ar les, ymgysylltiad a chynnydd dysgwyr. Mewn lleiafrif o garchardai i ddynion, roedd y cwricwlwm a gynigiwyd i garcharorion bregus yn rhy gyfyng. Yn gyffredinol, roedd darpariaeth y cwricwlwm i ddysgwyr ddatblygu’u medrau digidol yn gyfyngedig.
Cynigiodd hanner y carchardai i ddynion gyfleoedd gwerthfawr i staff a charcharorion ddysgu a gwella’u medrau Cymraeg. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o achosion, nid oedd carchardai’n cefnogi anghenion siaradwyr Cymraeg yn ddigonol nac yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn ddigonol.
Roedd yr holl garchardai i ddynion a’r sefydliad troseddwyr ifanc wedi gweithredu strategaeth ar gyfer datblygu medrau darllen dysgwyr. Roedd hyn yn cynnwys mentrau gwerthfawr a anogodd garcharorion i ddarllen er pleser, er enghraifft darllenydd preswyl a oedd yn hwyluso darllen mewn grŵp a grwpiau drama. Yn y sefydliad troseddwyr ifanc, cafodd dysgwyr â medrau llythrennedd gwan eu hasesu o ran eu gallu i ddarllen ac roeddent yn cymryd rhan mewn ymyriadau priodol. Yn y darparwr hwn, roedd yr holl staff addysg wedi cael rhywfaint o hyfforddiant sylfaenol ar sut i ddarparu cyfleoedd ar gyfer darllen yn rhan o ddysgu trawsgwricwlaidd. Mewn un carchar, roedd staff wedi gwreiddio medrau llythrennedd yn flaengar mewn llwybrau galwedigaethol. Ar y cyfan, fodd bynnag, roedd diffygion yn parhau yn y ddarpariaeth ar gyfer darllen ar draws yr ystâd, neu roedd mentrau’n rhy newydd adeg arolygu i werthuso eu heffaith. Nid oedd digon o ymyriadau ffurfiol i gefnogi’r rhai nad oeddent yn darllen ac eginddarllenwyr i ddatblygu’u medrau darllen, yn enwedig yn yr ystâd i oedolion.
Roedd arweinwyr ar draws yr holl ddarparwyr a arolygwyd wedi gwella’u hystod o ddulliau hunanwerthuso. Fe wnaethant ddefnyddio deilliannau’r gweithgareddau hyn, fel gwybodaeth am anghenion carcharorion a’r farchnad lafur, i gryfhau’r amrywiaeth o gyrsiau a chymwysterau a gynigiwyd. Yn y sefydliad troseddwyr ifanc, roedd arweinwyr wedi cryfhau eu prosesau ar gyfer hunanwerthuso, gan gynnwys eu dulliau gwerthuso addysgu. Roedd bron bob arweinydd wedi gwella’u ffordd o fonitro cynnydd grwpiau penodol a oedd mewn perygl o gael deilliannau andwyol, fel y rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Mewn lleiafrif o achosion, defnyddiodd arweinwyr y wybodaeth hon yn briodol i nodi gwelliannau yn y ddarpariaeth.
Er gwaethaf cryfhau’r trefniadau, roedd amrywiaeth yn parhau yn ansawdd ac effaith hunanwerthuso a chynllunio gwelliant ar draws darparwyr. Fe wnaeth diffygion gynnwys:
- peidio â gwerthuso addysgu neu ymyriadau yn gadarn, gan wobrwyo bodolaeth nodweddion yn aml, yn hytrach na’u heffaith
- methu agweddau pwysig ar y ddarpariaeth
- peidio â gwerthuso’n amserol er mwyn galluogi ymateb cyflym i newidiadau mewn amgylchiadau, er enghraifft rhyddhau carcharorion yn gynnar
- peidio â gwerthuso effaith dysgu proffesiynol i staff, na’i gysylltu’n ddigon da â dulliau rheoli perfformiad
- canolbwyntio’n ormodol ar faterion gweithredol, gan gyfyngu effaith strategol arweinwyr
Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau
Yn ystod blwyddyn academaidd 2024-2025 ac mewn partneriaeth ag Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi, cyflawnodd Estyn dri arolygiad craidd o weithgarwch pwrpasol mewn pedwar carchar i oedolion gwrywaidd ac un adolygiad annibynnol o gynnydd sefydliad troseddwyr ifanc. Daeth nifer o themâu allweddol i’r amlwg o argymhellion y timau arolygu. Roedd y rhain yn ymwneud â gwendidau mewn:
- addysgu
- darpariaeth ar gyfer datblygu medrau darllen
- presenoldeb dysgwyr
- trefniadau ar gyfer dyrannu carcharorion i addysg, hyfforddiant neu weithgareddau gwaith
- diffyg cynnig gweithgarwch pwrpasol amser llawn
- ansawdd ac effaith hunanwerthuso a chynllunio gwelliant