Gwaith ieuenctid – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Gwaith ieuenctid

Adroddiad sector 2024 - 2025



Darparwyr Gwaith Ieuenctid

Cyflawnom 4 arolygiad craidd o waith ieuenctid, gan gynnwys arolygiad o sefydliad sector gwirfoddol mwy, a chynhaliom ein harolygiad â thema cyntaf o 4 sefydliad sector gwirfoddol llai.

Hefyd, fe wnaethom beilota cynhyrchu fersiynau i bobl ifanc o’n hadroddiadau arolygu, er enghraifft:

Adroddiad Ieuenctid YMCA Abertawe


Nifer y bobl ifanc

Roedd gan ddarpariaeth gwaith ieuenctid statudol 81,293 o aelodau cofrestredig yn 2023-2024. Fodd bynnag, mae miloedd yn rhagor o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cael eu cynnal gan y sector gwirfoddol.

Ffynhonnell: Gwaith ieuenctid | LLYW.CYMRU


Darpariaeth

Mae gwaith ieuenctid yn cael ei ddarparu mewn amrywiaeth eang o leoliadau ar draws Cymru ac mae wedi’i yrru gan anghenion a diddordebau pobl ifanc a medrau gweithwyr ieuenctid. Mae Estyn yn arolygu darpariaeth gwaith ieuenctid mewn lleoliadau sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus, sy’n cael eu cynnal gan y sector gwirfoddol ac awdurdodau lleol.


Astudiaethau achos

Nifer yr astudiaethau achos: dim ond cipluniau a ddefnyddiwyd
18 ciplun

Data Gweithgarwch Dilynol

Nid oes unrhyw ddarparwr wedi’i osod mewn categori gweithgarwch dilynol


Crynodeb

Sut mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial?

Ar y cyfan, datblygodd pobl ifanc amrywiaeth eang o fedrau a dwysáu eu dealltwriaeth o faterion sy’n effeithio ar eu bywyd nhw ac ar fywyd pobl ifanc eraill. Fe wnaeth eu hyder a’u haeddfedrwydd dyfu, gan eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn yn ei dro.

Trwy ddarpariaeth dargedig, cynigiodd llawer o ddarparwyr gyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc ddilyn llwybrau dysgu achrededig, strwythuredig. Fodd bynnag, ni wnaeth ychydig iawn o bobl ifanc elwa o gyfleoedd pellach i ennill achrediad ar gyfer eu gweithgareddau dysgu ffurfiol i’w helpu i symud ymlaen i gamau nesaf eu taith ddysgu, a’u paratoi ar gyfer bywyd oedolyn.

Mewn sesiynau mynediad agored anffurfiol, datblygodd pobl ifanc ddealltwriaeth gryf o berthnasoedd personol a materion cymdeithasol, wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydau creadigol pleserus neu chwarae chwaraeon a gemau. Fe ddysgon nhw i weithio’n dda gyda’u cymheiriaid a dysgu parchu safbwyntiau pobl eraill.

Cymerodd y rhan fwyaf o bobl ifanc ran yn frwdfrydig mewn sesiynau strwythuredig a sesiynau mwy anffurfiol. Roedd ychydig o bobl ifanc wedi datblygu eu rôl fel eiriolwyr dros bobl ifanc eraill mewn fforymau fel cynghorau ieuenctid yn hynod effeithiol. Yn yr enghreifftiau gorau, craffodd pobl ifanc ar waith swyddogion etholedig yn ddiwyd a chynorthwyo â’u dwyn nhw i gyfrif. Aeth ychydig o bobl ifanc ymlaen i rolau arwain a gwirfoddoli o fewn darparwyr. Fe wnaeth y bobl ifanc hyn, yr oedd rhai ohonynt wedi arddangos ymddygiad heriol yn flaenorol, aeddfedu’n oedolion ifanc a fu wedyn yn fodelau cadarnhaol o ymddygiad i bobl ifanc eraill.

Enillodd llawer o bobl ifanc wybodaeth a dealltwriaeth werthfawr o’r problemau y mae pobl eraill yn eu hwynebu, fel pobl ifanc LHDTC+, gofalwyr ifanc a cheiswyr lloches. Tyfodd eu hempathi a’u haeddfedrwydd. Enillodd llawer o bobl ifanc hyder a theimlo eu bod wedi’u grymuso i ymfalchïo ynddynt eu hunain fel unigolion.

Ciplun: Clwb Ni: Powys

Sefydlwyd clwb LHDTC+ ar gyfer pobl ifanc yn Ysgol Bro Hyddgen gan weithiwr ieuenctid ar ôl nodi angen. Esblygodd y clwb hwn i gwmpasu materion amrywiaeth a chydraddoldeb ehangach, gan ddod yn ‘Clwb Ni’. Roedd y bobl ifanc sy’n mynychu’r clwb hwn yn awyddus i wneud mwy dros eu hysgol ac eisiau hysbysu eu cyfoedion am faterion cydraddoldeb. Gyda chymorth gan y gweithiwr ieuenctid, llwyddodd pobl ifanc i ddatblygu a chyflwyno ‘gweithdy undod’ i’r holl bobl ifanc yn yr ysgol. Roedd y gweithdy’n cynnwys ‘adduned undod’ a fabwysiadwyd gan yr ysgol gyfan, yn mynegi ymrwymiad pawb i drin pobl yn gyfartal a dangos caredigrwydd atynt.

Llwyddodd y bobl a oedd yn cyflwyno’r gweithdy i fagu hyder, gwydnwch gwell, a datblygu eu medrau siarad cyhoeddus. Dangosodd y prosiect ystod o egwyddorion gwaith ieuenctid, ac roedd y lefelau cyfranogiad yn eithriadol o dda. Cafodd pobl ifanc sy’n cymryd perchnogaeth o weithdai, ac yn eu cyflwyno i bobl ifanc eraill, effaith gadarnhaol nodedig ar draws cymuned yr ysgol gyfan.

Dros gyfnod, datblygodd llawer o bobl ifanc y medrau a’r agweddau gofynnol i wneud cynnydd mewn dysgu ffurfiol ac anffurfiol, ynghyd â thyfu fel unigolion.

Beth gall pobl ifanc ei ddisgwyl gan ddarpariaeth gwaith ieuenctid

Roedd bron bob un o’r gweithwyr ieuenctid yn llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig iawn yn eu penderfyniad i helpu pobl ifanc i fod y gorau y gallant fod a chyflawni eu potensial unigol. Fe ddarparon nhw fannau diogel i bobl ifanc gyfarfod ag oedolion y gallent ymddiried ynddyn nhw a chymdeithasu â’u cymheiriaid. Fe wnaeth gweithwyr ieuenctid feithrin perthnasoedd cryf â phobl ifanc yn llwyddiannus, gan sicrhau bod y ddarpariaeth yn canolbwyntio ar eu hanghenion. Fe ddarparon nhw fodelau cadarnhaol o ymddygiad i bobl ifanc ac, ar adegau, nhw oedd yr unig fodelau dibynnol o ymddygiad a oedd gan bobl ifanc, gan eu helpu i ddeall natur perthnasoedd iach. Fe wnaeth hyn yn ei dro eu helpu i fyw bywyd iachach a mwy diogel.

Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl (WRYPP)

Y tu hwnt i’r rôl: gweithiwr ieuenctid fel oedolion ymddiriedus

Mae gweithwyr ieuenctid yn WRYPP yn chwarae rôl hanfodol ym mywydau’r bobl ifanc sy’n defnyddio’u gwasanaethau. Mae’r perthnasoedd y maent yn eu meithrin wedi’u gwreiddio mewn gofal a thosturi, tra’n cynnal ffiniau proffesiynol clir. I lawer o bobl ifanc, mae’r gweithwyr ieuenctid hyn yn dod yn oedolion ymddiriedus ac yn fodelau rôl cadarnhaol, sy’n aml yn llenwi bwlch a adawyd gan absenoldeb ffigurau felly yn eu bywydau.

Mae pobl ifanc fregus ag anghenion cymhleth, y rhai sy’n mynd trwy’r system ofal, digartrefedd, neu brofiadau o gamfanteisio, yn aml yn dod o hyd i loches yn WRYPP. Caiff ei ystyried yn ofod sy’n ddiogel yn seicolegol. Mae pobl ifanc yn disgrifio sesiynau galw i mewn Pixel nid fel grŵp ieuenctid, ond fel teulu. Mae’r amgylchedd cefnogol hwn yn eu grymuso i oresgyn trallod ac yn darparu gofod i dyfu, magu hyder, ac ailsefydlu eu hunain mewn cymdeithas.

Mae’r ymddygiadau perthynol sy’n cael eu modelu gan weithwyr ieuenctid yn gosod naws gadarnhaol, gan annog pobl ifanc i wneud ffrindiau newydd, cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, a chymryd rhan mewn cyfleoedd achrededig sy’n eu paratoi ar gyfer eu camau nesaf.
O gynnig cymorth emosiynol a llywio pobl ifanc oddi wrth ymddygiadau peryglus, i’w helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad addysgol a phersonol, a hyd yn oed mynd gyda nhw i apwyntiadau meddygol, mae’r staff yn WRYPP yn dangos y rôl ganolog y mae gweithwyr ieuenctid yn ei chwarae ym mywydau’r bobl ifanc y maent yn eu gwasanaethu.

Fe wnaeth y rhan fwyaf o ddarparwyr gynnig cyfleoedd gwerthfawr yn rheolaidd i bobl ifanc fynegi eu barn a dylanwadu ar gynnig y ddarpariaeth. Yn aml, roedd y ddarpariaeth hon yn cael ei harwain gan y bobl ifanc a’i chreu ar y cyd â gweithwyr ieuenctid. Fodd bynnag, ni wnaeth ychydig bach iawn o ddarparwyr roi cyhoeddusrwydd yn ddigon effeithiol i’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig i bobl ifanc.

Cynigiodd llawer o ddarparwyr gymorth targedig hynod fuddiol trwy weithgareddau i grwpiau o bobl ifanc bregus, ynghyd â thrwy weithgareddau dysgu ffurfiol, gan gynnwys mewn ysgolion. Yn ogystal, fe wnaeth ychydig ddarparwyr awdurdodau lleol gynorthwyo pobl ifanc sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref i gael gwersi Saesneg, anogaeth, arweiniad gyrfaol, a chymorth â gwneud ceisiadau i’r coleg.

Ciplun: Gwasanaeth Ieuenctid a Chwaraeon Casnewydd

Gofod lle gall pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol wneud ffrindiau a datblygu annibyniaeth

Mewn cydweithrediad â’r Tîm Plant Anabl, mae’r gwasanaeth ieuenctid a chwarae wedi sefydlu clwb arbenigol ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae’r clwb ieuenctid a gefnogir yn Y Tŷ Du yn cynnal sesiynau wythnosol ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY rhwng 11 a 25 mlwydd oed.

Nod y clwb yw meithrin perthnasoedd ymddiriedus â’r bobl ifanc a rhoi cyfleoedd iddynt wneud ffrindiau. Mae’r clwb yn cefnogi’r bobl ifanc hyn yn llwyddiannus i ddatblygu eu hyder, eu hunan-barch a’u hannibyniaeth, gyda bwriad i’w galluogi i ymgymryd â darpariaethau ieuenctid prif ffrwd. Mae’r bobl ifanc yn chwarae, yn cymdeithasu ac yn dysgu medrau newydd. Er enghraifft, maent yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, celf a chrefft, a gweithgareddau gemau. Ceir cyfleoedd iddynt ddatblygu medrau byw yn annibynnol pwysig fel gwneud penderfyniadau a thrin arian.

Mae’r bobl ifanc a’u rhieni a’u gofalwyr yn gadarnhaol iawn am effaith y ddarpariaeth hon ar y rhai sy’n mynychu. Maent yn disgrifio’r modd y mae’r ddarpariaeth wedi eu galluogi i wneud cyfeillgarwch cynaliadwy ac wedi gwella’u gwydnwch pan fyddant yn wynebu heriau newydd. Dywed pobl ifanc fod y clwb yn rhoi’r rhyddid iddynt fod yn nhw eu hunain a mynegi eu hunain y tu allan i leoliadau addysg mwy ffurfiol. Mae’n eu galluogi i wneud ffrindiau gyda phobl ifanc eraill o bob cwr o’r ddinas a chael bywyd cymdeithasol. Mae hyn yn helpu eu paratoi ar gyfer trosglwyddo i’r gymdeithas ehangach.

Cynigiodd ychydig ddarparwyr gyfleoedd ystyrlon a gwerthfawr iawn i bobl ifanc ddatblygu a defnyddio’u medrau Cymraeg. Ar y cyfan, mewn llawer o ddarparwyr fodd bynnag, roedd y cyfleoedd i bobl ifanc y mae’r Gymraeg yn ddewis iaith iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn gyfyngedig.

Ciplun: Y Gymraeg

Mae gwasanaeth ieuenctid Castell-nedd Port Talbot wedi mabwysiadu dull rhagweithiol o gysylltu gwaith ieuenctid â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yr awdurdod i hybu ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg. Er enghraifft, mae’n ofynnol i bob clwb ieuenctid ddarparu gweithgaredd ar thema’r Gymraeg neu ddiwylliant Cymru bob mis. Mae gweithwyr ieuenctid yn cynnal gweithgareddau hyrwyddo hynod ddifyr yn ystod digwyddiadau cymunedol i hybu gwerth dwyieithrwydd.

Mae’r gwasanaeth yn cydweithio’n effeithiol â’r fenter iaith leol, sef Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot. Mae mentrau ar y cyd yn cynnwys:

  • cynorthwyo ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg i sefydlu clybiau ieuenctid amser cinio cyfrwng Cymraeg
  • trefnu teithiau i Langrannog, lle gall pobl ifanc ennill achrediad yn y Gymraeg ac arferion trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg
  • cynnig cyrsiau cymorth cyntaf trwy gyfrwng y Gymraeg
  • cynnal un clwb ieuenctid dwyieithog ym Mhontardawe a chlwb ieuenctid cyfrwng Cymraeg yn Nhrebanos fel rhan o gynnig mynediad agored y gwasanaeth

O ganlyniad, mae darpariaeth a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn rhan annatod o’r arlwy prif ffrwd.


Arwain a gwella

Ar y cyfan, roedd gan uwch arweinwyr ddealltwriaeth glir o waith ieuenctid a sut y gall helpu pobl ifanc i ddatblygu a chyflawni eu nodau trwy’r ddarpariaeth maen nhw’n ei chynnig. Fe weithion nhw’n effeithiol gydag amrywiaeth eang o bartneriaid, yn y sectorau statudol a gwirfoddol, i gynllunio’r ddarpariaeth a chyrraedd cynifer o bobl ifanc ag y gallant.

Cynlluniodd arweinwyr mewn llawer o ddarparwyr yn effeithiol i liniaru effaith tlodi ar bobl ifanc, er enghraifft trwy ddarparu mannau cynnes yn ystod y gaeaf, dosbarthu bwyd am ddim, darparu talebau banc bwyd a darparu nwyddau hylendid personol.

Canolbwyntiodd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn fuddiol ar ddarparu cyfleoedd datblygu proffesiynol ystyrlon i staff a gwirfoddolwyr, gan gynnwys hyfforddiant rheolaidd ar ddiogelu. Fe sicrhaon nhw fod staff yn cael cymwysterau proffesiynol cydnabyddedig a chafodd hyn effaith gadarnhaol ar ansawdd y ddarpariaeth.

Roedd angen cyllid grant ychwanegol ar bron bob darparwr i gynnal cynnig eu darpariaeth. Mae hyn yn arbennig o heriol i gyrff sector gyhoeddus, sy’n aml yn dibynnu ar nifer o ffynonellau cyllid byrdymor, a threuliodd arweinwyr lawer o’u hamser yn gweinyddu grantiau un-tro.

Ni wnaeth llawer o ddarparwyr hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella yn ddigon effeithiol, ac nid oedd cydberthynas ddigonol rhwng arfer fyfyriol a dadansoddi data. Ni wnaeth cynllunio gwelliant bob amser nodi blaenoriaethau gyda thargedau seiliedig ar ddangosyddion llwyddiant mesuradwy. Yn yr ychydig o enghreifftiau lle’r oedd hunanwerthuso yn gadarn, cyfunodd darparwyr ddata amrywiol, tystiolaeth a myfyrdod yn effeithiol i addasu a datblygu’r ddarpariaeth.

Ciplun: Hunanwerthuso a chynllunio gwelliant

Mae staff yn YMCA Abertawe yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu a gwerthuso data i lywio arfer. Yn ganolog i hyn y mae’r defnydd o’u system gwybodaeth reoli. Trwy hyn, mae arweinwyr yn casglu a choladu gwybodaeth allweddol sy’n amrywio o wybodaeth am bobl ifanc, manylion a myfyrdodau ar bob sesiwn ddarpariaeth, pellter a deithiwyd ac adborth gan bobl ifanc trwy arolygon. Mae’r data o’r system yn galluogi arweinwyr i lunio adroddiadau gwerthuso effeithiol. Mae’r gallu i olrhain a monitro pobl ifanc unigol trwy’r gwasanaeth yn sicrhau y gall staff addasu cymorth neu ddarpariaeth unigol i weddu orau i anghenion pobl ifanc.


Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Cafwyd pedwar arolygiad craidd yn y sector ieuenctid ac un arolygiad â thema o bedwar sefydliad gwirfoddol. Yn ystod yr arolygiadau craidd, cafodd dau ddarparwr argymhellion o fewn maes arolygu 1 (sut mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial?):

  • Amlinellu strategaeth glir ar gyfer y gwasanaeth ieuenctid a chwarae trwy fapio darpariaeth gwaith ieuenctid ar draws ardal yr awdurdod lleol, a datblygu cynllun i gydlynu’r gwasanaethau ar draws partneriaid mewnol ac allanol yng Nghasnewydd i sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn cael eu diwallu
  • Cynyddu cyfleoedd perthnasol i achredu dysgu pobl ifanc

Cafodd un darparwr argymhelliad o fewn maes arolygu 2 (beth all pobl ifanc ei ddisgwyl o ddarpariaeth gwaith ieuenctid):

  • Cryfhau proses hunanwerthuso’r gwasanaeth ieuenctid a chwarae i gynorthwyo cynllunio gwelliant a mesur a gwerthuso effaith gwaith ieuenctid ar bobl ifanc yn fwy cywir

Cafodd tri darparwr argymhelliad o fewn maes arolygu 3 (arwain a gwella):

  • Argymhellwyd bod dau yn gwella prosesau hunanwerthuso i sicrhau gwelliant neu wella cynllunio strategol
  • Argymhellwyd bod un yn gwella cyfleoedd i bobl ifanc ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt ar lefel sirol
  • Argymhellwyd bod un yn cynyddu cyfranogiad mewn gwasanaethau ieuenctid fel y gall mwy o bobl ifanc fanteisio ar gyfleoedd gwaith ieuenctid

Yn ogystal, argymhellwyd bod un darparwr yn datblygu arlwy rhagweithiol i hybu a hwyluso gwasanaethau i bobl ifanc y mae’r Gymraeg yn ddewis iaith iddynt.

Yn dilyn yr arolygiad thematig, cafwyd un argymhelliad o fewn maes arolygu 2 (beth gall pobl ifanc ei ddisgwyl o ddarpariaeth gwaith ieuenctid):

  • Gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol i wella hygyrchedd i gludiant i alluogi pobl ifanc o ardaloedd gwledig i elwa ar wasanaethau

Cafwyd tri argymhelliad o fewn maes arolygu 3 (arwain a gwella):

  • Gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol a rhanbarthol perthnasol i ffurfio cynnig dysgu proffesiynol cyson, sy’n cael ei ariannu’n briodol ac yn darparu’r capasiti i staff fynychu
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid perthnasol i fanteisio ar ffrydiau cyllido cyson sy’n sicrhau cynaliadwyedd ac yn caniatáu ar gyfer cynllunio strategol manylach
  • Gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol i sicrhau bod staff yn gallu cael cymorth addas ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u lles