Gwasanaethau addysg llywodraeth leol (GALlL)
Adroddiad sector 2024 - 2025
Darparwyr
22
Nifer y darparwyr yn 2025
Arolygiadau craidd ac ymweliadau estynedig Arolygwyr Cyswllt Awdurdodau Lleol (YEAau)
3
Nifer yr arolygiadau craidd
3
Nifer yr YEAau
Nifer mewn categori gweithgarwch dilynol ym mis Medi 2024
Awdurdodau sy’n peri pryder sylweddol: 1
Nifer a dynnwyd yn 2024-2025: 1
Nifer a roddwyd mewn categori gweithgarwch dilynol yn 2024-2025: 1
Cyfanswm mewn categori gweithgarwch dilynol ym mis Awst 2025: 1
Crynodeb
Roedd effeithiolrwydd gwasanaethau gwella ysgolion yn amrywio’n sylweddol ar draws yr awdurdodau lleol a arolygom eleni. Lle’r oedd prosesau gwella ysgolion ar eu cryfaf, roedd swyddogion yn casglu ystod o dystiolaeth uniongyrchol i lywio gwerthuso a chymorth ac yn meithrin perthynas waith gadarnhaol ag arweinwyr mewn ysgolion a lleoliadau. Yn yr enghreifftiau gwannach, roedd arweinwyr a swyddogion yn aml yn dibynnu’n ormodol ar ddulliau anffurfiol o rannu gwybodaeth ac nid oeddent yn monitro ac yn herio ysgolion i wneud gwelliannau’n ddigon da. Nid oedd yr awdurdodau lleol hyn yn canolbwyntio’n ddigon da ar wella ansawdd addysgu a dysgu, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd.
Roedd awdurdodau lleol wedi gweld cynnydd yn y galw am ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) arbenigol ar ôl pandemig COVID-19. Roedd dau o’r tri awdurdod lleol a arolygwyd wedi ymateb yn llwyddiannus i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Roedd cynnydd yn arafach mewn un awdurdod lleol oherwydd newidiadau mewn arweinyddiaeth. Roedd mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yn flaenoriaeth o hyd, gydag awdurdodau lleol yn hybu tegwch trwy ddysgu proffesiynol, cydweithio amlasiantaethol ac ymyriadau targedig. Mewn dau awdurdod lleol, roedd arweinwyr yn canolbwyntio’n gryf ar hybu dwyieithrwydd a hybu’r Gymraeg, wedi’i gefnogi gan Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAau) uchelgeisiol. Roedd datblygu medrau Cymraeg disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn faes i’w ddatblygu ymhellach.
Roedd pwysau ariannol yn amlwg ar draws pob un o’r awdurdodau. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd timau cyllid addysg yn cynnig cymorth gwerthfawr i ysgolion wrth reoli cyllidebau. Mewn dau awdurdod lleol, canfuom nad oedd penderfyniadau wedi lliniaru’n llawn yr heriau cyllidol parhaus yr oedd ysgolion a chyfarwyddiaethau’n eu hwynebu.
Lle’r oedd arweinyddiaeth ar ei chryfaf, roedd gan arweinwyr weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer addysg ac roeddent yn mabwysiadu dull strategol i lywio gwelliannau. Lle’r oedd arweinyddiaeth yn wannach, roedd dulliau craffu ac atebolrwydd yn brin o drylwyredd. Roedd arferion diogelu yn gyffredinol gadarn, er bod angen rhoi sylw i faterion unigryw, fel problemau yn ymwneud â diogelwch safleoedd ysgolion.
Roedd hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yn parhau’n feysydd yr oedd angen eu datblygu, ac nid oedd awdurdodau’n nodi nac yn mynd i’r afael â meysydd i’w gwella yn ddigon manwl bob tro. Adolygwyd nifer o gynigion ad-drefnu ysgolion, gan ganolbwyntio’n bennaf ar gydgrynhoi darpariaeth ac ehangu cymorth arbenigol. Roedd yr argymhellion mwyaf cyffredin ar draws yr arolygiadau yn ymwneud â gwella arweinyddiaeth, gwella prosesau gwella ysgolion, cryfhau goruchwyliaeth ariannol a mireinio arferion hunanwerthuso a chynllunio.
Gwella ysgolion
Mae’r model ar gyfer darparu gwasanaethau gwella ysgolion yn amrywio ledled Cymru ac yn parhau i fod mewn cyfnod o drawsnewid oherwydd adolygiad o rolau a chyfrifoldebau partneriaid a threfniadau addysg. Ar draws y tri awdurdod lleol a arolygwyd, roedd arweinwyr wedi blaenoriaethu’r angen i ddatblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol ag arweinwyr mewn ysgolion a lleoliadau. Roedd swyddogion yng Nghasnewydd a Chastell-nedd Port Talbot wedi datblygu dulliau cydweithredol effeithiol, a oedd wedi meithrin lefelau uchel o barch ac ymddiriedaeth ar y ddwy ochr gydag arweinwyr ysgolion. Canfuom fod swyddogion neu bartneriaid yn ymweld ag ysgolion yn rheolaidd i gasglu gwybodaeth a chynnig cymorth. Yn yr enghreifftiau gorau, roeddent yn casglu ystod o dystiolaeth, fel data yn ymwneud â phresenoldeb a gwaharddiadau, a thystiolaeth uniongyrchol gan ysgolion a lleoliadau i’w helpu i ddeall cryfderau a meysydd i’w gwella. Roedd yr awdurdodau lleol hyn yn defnyddio dulliau strwythuredig i rannu gwybodaeth, triongli canfyddiadau a chytuno ar y camau nesaf. Er enghraifft, roedd Casnewydd yn defnyddio dull targedig a defnyddiol ‘Tîm o Amgylch yr Ysgol’. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn wir bob tro ar draws yr awdurdodau lleol a arolygwyd. Lle nad oedd arweinwyr a swyddogion yn defnyddio tystiolaeth uniongyrchol yn ddigon da, neu lle’r oeddent yn dibynnu gormod ar ddulliau anffurfiol o rannu gwybodaeth, roedd eu gallu i fonitro a herio cynnydd a sicrhau bod ysgolion yn gwneud gwelliannau mewn modd amserol yn gyfyngedig. Yn yr achosion hyn, yn aml, nid oedd swyddogion yn canolbwyntio’n ddigon da ar effaith darpariaeth ar ddysgu neu les disgyblion.
Lle’r oedd prosesau gwella ysgolion yn gryfach, roedd gan awdurdodau lleol brosesau defnyddiol i nodi a rhannu arfer effeithiol ar draws ysgolion. Roedd hyn yn helpu awdurdodau lleol i greu ymdeimlad cryf o arweinyddiaeth gydweithredol ar draws ysgolion. Ar ben hynny, roedd rhai awdurdodau lleol wedi sefydlu rhaglenni cymorth gwerthfawr ar gyfer penaethiaid newydd. Roedd staff ysgolion yn yr awdurdodau hyn yn gallu manteisio ar ystod eang o gyfleoedd dysgu proffesiynol, a oedd yn aml wedi’u teilwra i anghenion ysgolion unigol. Fodd bynnag, lle’r oedd gwella ysgolion yn wannach, nid oedd y cymorth a oedd ar gael yn canolbwyntio’n ddigon da bob tro ar wella ansawdd addysgu a dysgu, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd.
Yn 2024-2025, roedd effeithiolrwydd gwasanaethau gwella ysgolion yn amrywio’n sylweddol ar draws yr awdurdodau lleol a arolygwyd. Roedd deilliannau arolygiadau ar gyfer ysgolion a darparwyr mewn dau o’r tri awdurdod a arolygwyd yn cyd-fynd yn fras â’r hyn a welwyd yn genedlaethol, tra’r oedd cyfran yr ysgolion a roddwyd mewn categori gweithgarwch dilynol mewn un awdurdod lleol yn sylweddol uwch. Yn yr awdurdod hwn, nid oedd ansawdd ac effaith gwaith gwella ysgolion yn ddigon effeithiol.
Anghenion dysgu ychwanegol
Roedd pob un o’r tri arolygiad yn cynnwys cwestiwn arolygu lleol oedd yn canolbwyntio ar ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Ar ôl y pandemig, mae awdurdodau lleol wedi gweld cynnydd yn y galw am ddarpariaeth arbenigol. Canfuom fod dau o’r tri awdurdod lleol a arolygwyd wedi ymateb yn llwyddiannus i roi eu dyletswyddau statudol ar waith er mwyn ymateb i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Mewn un awdurdod lleol, bu cynnydd yn arafach oherwydd diffyg parhad mewn arweinyddiaeth. Canfuwyd yr anghysondeb hwn mewn cynnydd yn ein hadroddiad thematig ar y system ADY, hefyd. Yn yr adroddiad hwnnw, canfuom fod gwaith Swyddogion Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar newydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddarpariaeth, ond nad oedd darpariaeth deg o ran cymorth cyfrwng Cymraeg wedi’i ddatblygu’n ddigonol o hyd.
Lle’r oedd arfer ar ei chryfaf, roedd arweinwyr yn dangos angerdd ac ymrwymiad i hybu arfer gynhwysol yn yr awdurdod lleol. Roeddent yn defnyddiol dull trefnus a chefnogol i ddatblygu darpariaeth i ddysgwyr ag ADY. Roedd hyn wedi’u helpu i ddatblygu ystod eang o wasanaethau gwerthfawr i gefnogi plant a phobl ifanc, eu teuluoedd, ysgolion a lleoliadau. Roedd Casnewydd a Chastell-nedd Port Talbot yn darparu cyngor, cymorth ac arweiniad buddiol ynghylch ADY i ysgolion a lleoliadau. Roedd swyddogion wedi cydweithio’n agos â darparwyr i’w cynorthwyo i gyflwyno ystod eang o wasanaethau gwerthfawr, a oedd yn aml yn canolbwyntio ar feithrin gallu. Er enghraifft, yng Nghasnewydd, roedd arweinwyr wedi defnyddio ysgolion arbennig yn effeithiol i ddatblygu strategaethau arbenigol mewn ysgolion prif ffrwd a dosbarthiadau arbenigol yr awdurdod lleol. Yn yr awdurdodau lleol a arolygwyd, roedd swyddogion yn aml yn cydweithio’n agos ac yn gynhyrchiol gydag ystod o bartneriaid allweddol. Fodd bynnag, nododd ein hadroddiadau ar Dwf Swyddi Cymru+ a rhaglenni medrau byw yn annibynnol mewn colegau fod cynllunio ar y cyd a rhannu gwybodaeth ag awdurdodau lleol i gefnogi pontio ar gyfer dysgwyr ag ADY yn rhy amrywiol.
Gwaith amlasiantaeth i gefnogi datblygu cymorth ADY cyfrwng Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot
Mae grŵp llywio ADY cyfrwng Cymraeg dynodedig yr awdurdod, sef Datblygu Addysg Gymraeg Gynhwysol, yn sicrhau mynediad effeithiol a theg at gymorth i ddysgwyr. Mae’r grŵp amlasiantaethol hwn yn cynnwys seicolegwyr addysg, swyddogion gwella, athrawon arbenigol, ac arweinwyr ysgolion. Mae’r grŵp yn datblygu a rhannu ystod o adnoddau dwyieithog gwerthfawr ac yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol effeithiol, sydd hefyd yn cefnogi nodau Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yr awdurdod i hyrwyddo’r Gymraeg.
Lliniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol
Roedd pob un o’r tri awdurdod yn dangos uchelgais gref i sicrhau tegwch i blant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai y mae tlodi yn effeithio arnynt. Yn aml, roedd swyddogion yn cydweithio’n fuddiol â meysydd gwasanaeth eraill a sefydliadau allanol i liniaru effaith tlodi ar deuluoedd. Er enghraifft, ym Mhowys, mae’r Tasglu Tlodi Plant yn hwyluso ystod o brosiectau defnyddiol. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae swyddogion wedi gweithio i ddarparu dysgu proffesiynol i holl staff ysgolion i gefnogi eu hysgol i ddod yn ‘ymwybodol o dlodi’. Mae hyn wedi helpu i oresgyn rhwystrau sy’n atal disgyblion rhag dysgu ac mae wedi cefnogi gostyngiad nodedig mewn gwaharddiadau a gwelliant ym mhresenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Nododd ein hadroddiad thematig ar effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol mewn addysg gynnar amrywiad yn y modd y manteisiwyd ar addysg gynnar ledled Cymru oherwydd y ffordd yr oedd awdurdodau lleol yn darparu addysg feithrin. Roedd amrywiad o ran cyllid a darparu dysgu proffesiynol ar draws y sectorau nas cynhelir yn ystyriaethau allweddol, hefyd.
Addysg cyfrwng Cymraeg
Mewn dau awdurdod lleol, roedd arweinwyr yn rhoi ffocws cryf ar ddatblygu’r Gymraeg a hybu dwyieithrwydd, wedi’i gefnogi gan Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAau) uchelgeisiol. Yn yr awdurdodau hyn, roedd swyddogion yn cyfleu eu gweledigaeth yn rhagweithiol ac yn nodi ardaloedd daearyddol i hybu a sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ymhellach o’r blynyddoedd cynnar ymlaen. Roedd y tri awdurdod lleol yn datblygu darpariaeth trochi hwyr1Trochi hwyr: darpariaeth i ddysgwyr sy’n ymuno ag ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ffrydiau Cymraeg mewn ysgolion dwyieithog. Gall y dysgwyr hyn fod yn gwbl newydd i’r Gymraeg neu’n ail-ymgysylltu â darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Yn aml, mae darpariaeth trochi hwyr yn cynnwys rhaglen ddwys a strwythuredig sy’n caniatáu i ddysgwyr ymuno â darpariaeth cyfrwng Cymraeg prif ffrwd, yn y pen draw. yn llwyddiannus er mwyn cynyddu cyfleoedd i ddisgyblion drosglwyddo i ysgolion neu ffrydiau cyfrwng Cymraeg. Roedd datblygu medrau Cymraeg disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn aml ar gamau cynharach, a arweiniodd at argymhelliad mewn un awdurdod lleol.
Cwestiynau arolygu lleol eraill
Roedd rhai cwestiynau arolygu lleol yn unigryw i awdurdodau penodol. Roedd gan Gasnewydd gwestiwn arolygu lleol ar ba mor dda yr oedd yn cefnogi dysgu a lles dysgwyr ethnig lleiafrifol a dysgwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Mae’r awdurdod lleol yn gartref i Wasanaeth Addysg Amlieithog Gwent, sef gwasanaeth rhanbarthol sy’n darparu cymorth ac arweiniad defnyddiol i ysgolion. Ar ben hynny, darparodd yr awdurdod lleol becyn cymorth gwerthfawr yn ddiweddar i helpu ysgolion i werthuso eu darpariaeth ar gyfer disgyblion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
Roedd gan Bowys gwestiynau ar ba mor dda y mae’r agenda trawsnewid ysgolion wedi sicrhau bod darpariaeth briodol ar gyfer pob un o’r dysgwyr, gan gynnwys y rhai mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac yn y sector ôl-16, a sut roedd yn cefnogi a herio’i ysgolion i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’u hadnoddau. Mae cynnydd yr awdurdod lleol wrth fynd i’r afael â thrawsnewid cyfrwng Cymraeg wedi cael effaith gadarnhaol ar alluogi disgyblion i fanteisio ar addysg uwchradd yng ngogledd yr awdurdod lleol. Roedd cynnydd wrth fynd i’r afael â thrawsnewid ôl-16 yn rhy araf. Nid oedd yr awdurdod lleol wedi cael digon o effaith ar gefnogi sefyllfaoedd cyllidebol cynaliadwy mewn ysgolion dros gyfnod.
Arwain a gwella
Yn ystod 2024-2025, roedd canfyddiadau ar gyfer maes arolygu 2, sef arwain a gwella, yn amrywio. Lle’r oedd arweinyddiaeth ar ei chryfaf, roedd gan arweinwyr weledigaeth arloesol ar gyfer addysg ac yn defnyddio dull clir, strategol a phwyllog o ysgogi gwelliannau i’r cymorth a her a gynigir i ysgolion a lleoliadau. Roeddent yn modelu ymddygiad proffesiynol rhagorol ac yn datblygu perthnasoedd gwaith cryf â phartneriaid allweddol fel penaethiaid, cadeiryddion cyrff llywodraethol a phartneriaid gwella ysgolion. Yn yr achosion hyn, roedd arweinyddiaeth wedi cael effaith gadarnhaol ar wella deilliannau i blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mewn rhai achosion nid oedd arweinyddiaeth wedi cael digon o effaith ar sicrhau gwelliannau pwysig mewn gwasanaethau addysg dros gyfnod. Mae hyn oherwydd ystod o ffactorau, gan gynnwys yr angen i gynyddu gallu arweinwyr a’r diffyg ffocws parhaus ar addysg mewn cynlluniau corfforaethol.
Mewn dau o’r tri awdurdod lleol a arolygwyd yn ystod 2024-2025, roedd addysg yn flaenoriaeth ganolog yn eu cynlluniau corfforaethol ac roedd wedi’i hategu’n briodol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a blaenoriaethau cenedlaethol. Roedd arweinwyr yn pwysleisio dyheadau uchel ar gyfer plant a phobl ifanc ac yn dangos ymrwymiad cryf i gynnig y dechrau gorau mewn bywyd iddynt. Ar draws y tri awdurdod, roedd arweinwyr yn cydweithio’n bwrpasol ag aelodau etholedig i ddatblygu dealltwriaeth o waith y gyfarwyddiaeth addysg. Fodd bynnag, roedd materion fel ansawdd adroddiadau gan swyddogion a chyfleoedd cyfyngedig i addysg ymddangos mewn blaengynlluniau gwaith wedi llesteirio effeithiolrwydd craffu yn yr awdurdodau lleol a arolygwyd. Nid oedd pwyllgorau craffu yn holi ac yn herio aelodau’r cabinet a oedd yn gyfrifol am addysg yn ddigon da bob tro.
Roedd sefydlu a datblygu diwylliant o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion ac asiantaethau allanol yn nodwedd allweddol ym mhob un o’r tri awdurdod lleol. Mewn dau awdurdod, roedd y perthnasoedd cadarnhaol hyn wedi’u cynnal dros gyfnod estynedig ac wedi arwain at ymdeimlad amlwg o waith tîm. Roedd swyddogion yn cynnig cymorth ymarferol defnyddiol i ysgolion, a oedd yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan staff ysgolion.
Yn gyffredinol, roedd awdurdodau lleol yn cydnabod y pwysau ariannol yr oedd ysgolion yn eu hwynebu, gan gynnwys y sefyllfa a oedd yn gwaethygu o ran eu cronfeydd wrth gefn. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd timau cyllid addysg yn cynnig hyfforddiant gwerthfawr a chymorth strwythuredig i ysgolion i’w helpu i reoli eu cyllidebau’n effeithiol. Er enghraifft, yng Nghasnewydd, roedd y tîm cyllid addysg yn cynnig cymorth a her yn ymwneud â gwargedion uchel a diffygion posibl trwy gytundeb lefel gwasanaeth. Mewn dau o’r tri arolygiad, canfuom nad oedd penderfyniadau strategol wedi lliniaru’n gyfan gwbl yn erbyn yr heriau ariannol cynyddol yr oedd cyfarwyddiaethau ac ysgolion yn eu hwynebu, er enghraifft wrth i awdurdodau lleol wneud diwygiadau sylweddol i fformiwlâu ariannol neu wrth ysgogi cyflymder newid mewn meysydd fel ADY a thrawsnewid darpariaeth ôl-16.
Cymorth effeithiol i helpu ysgolion i reoli cyllidebau yng Nghasnewydd
Mae’r tîm cyllid addysg yn gweithio’n ddwys gydag ysgolion i fynd i’r afael â diffyg posibl mewn cyllidebau. Pan mae ysgolion yn gwneud cais am ddiffyg trwyddedig, caiff hyn ond ei awdurdodi os yw swyddogion yn asesu bod y cynllun i adfer y diffyg cysylltiedig yn briodol a chyflawnadwy. I’r ysgolion hyn, mae’r awdurdod lleol yn gofyn i’r corff llywodraethol llawn fynychu sesiwn hyfforddi gyda swyddogion i amlinellu goblygiadau bod mewn diffyg. Mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd ag ysgolion i fonitro cynnydd yn erbyn cynlluniau adfer diffyg. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd gan bum ysgol ddiffyg, a dim ond un ysgol oedd wedi methu gosod cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Mae’r buddsoddiad yng ngallu’r tîm cyllid addysg a gwaith diwyd swyddogion yn golygu bod hwn yn ddarlun mwy cadarnhaol na’r darlun a oedd yn bodoli ychydig flynyddoedd yn ôl.
Adeg ein harolygiadau, canfuom fod y tri awdurdod lleol yn cynnig cymorth buddiol i ysgolion a darparwyr yn ymwneud â diogelu. Roedd hyn yn cynnwys darparu arweiniad defnyddiol, polisïau a hyfforddiant perthnasol a chyfredol ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant. Roedd awdurdodau’n ymweld ag ysgolion yn rheolaidd hefyd i sicrhau ansawdd eu trefniadau. Mewn un awdurdod lleol, rhoddom argymhelliad i’r awdurdod lleol fynd i’r afael â materion diogelwch ar safleoedd ysgolion ar frys.
Mewn arolygiadau o wasanaethau addysg llywodraeth leol, bu hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella yn faes i’w wella ers sawl blwyddyn. Roedd hyn yn wir eto eleni. Er bod gan y tri awdurdod brosesau priodol i gefnogi hunanwerthuso ac adolygu perfformiad, nid oedd y rhain yn cael eu defnyddio’n ddigon pwrpasol bob tro i gefnogi gwelliant. Er enghraifft, nid oedd prosesau sicrhau ansawdd a hunanwerthuso bob amser yn canolbwyntio’n ddigon da ar yr effaith y mae gwaith y gwasanaeth wedi’i chael ar ddeilliannau disgyblion. O ganlyniad, nid oedd arweinwyr a swyddogion yn nodi meysydd i’w gwella yn ddigon manwl. Yn aml, roedd ein gwerthusiadau o gwestiynau arolygu lleol yn cyfeirio at wendidau mewn hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella mewn meysydd gwasanaeth.
Mewn tri awdurdod, cynhaliom ymweliadau estynedig awdurdodau lleol (YEAau), lle’r oedd tîm bach o arolygwyr yn edrych ar agweddau ar wasanaethau addysg yn fanylach i gefnogi awdurdodau lleol yn ystod eu cylch gwella. Eleni, roedd YEAau yn canolbwyntio ar ba mor dda yr oedd awdurdodau lleol yn cynnig cymorth a her i wella agweddau fel presenoldeb, darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, y cwricwlwm, moderneiddio ac ad-drefnu ysgolion a darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Roedd ethos clir o gydweithio yn nodwedd ar draws y tri awdurdod lleol, tra’r oedd pa mor dda yr oedd swyddogion yn canolbwyntio ar effaith gwaith y gwasanaeth ar ddeilliannau disgyblion yn faes cyffredin i’w ddatblygu ymhellach.
Gweithgarwch dilynol
Ym mis Hydref 2024, tynnwyd awdurdod lleol Torfaen oddi ar restr yr awdurdodau a oedd yn peri pryder sylweddol. Oherwydd y cynnydd nodedig a wnaed ers ei arolygiad craidd, gofynnwyd i’r awdurdod lleol lunio astudiaeth achos yn amlinellu sut roedd arweinwyr wedi sicrhau gwelliannau.
Crynodeb o ddarpariaeth chweched dosbarth yng Nghymru
Rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2025, ymgysylltom ag awdurdodau lleol i gael trosolwg o’r cryfderau a’r heriau y maent yn eu hwynebu o ran darpariaeth chweched dosbarth mewn ysgolion.
Mae darpariaeth chweched dosbarth ledled Cymru yn cyflwyno darlun cymysg o arloesi a heriau parhaus. Mae llawer o awdurdodau lleol wedi croesawu modelau cydweithredol, fel clystyrau ysgolion a phartneriaethau â cholegau addysg bellach (AB), er mwyn ehangu’r cwricwlwm sy’n cael ei gynnig yn lleol a chynnal amrywiaeth o bynciau, yn enwedig mewn ardaloedd â charfanau bach. Mae awdurdodau trefol fel Caerdydd ac Abertawe yn elwa ar ddarbodion maint a rhannu adnoddau, tra mae ardaloedd gwledig a dwyieithog yn aml yn wynebu rhwystrau logistaidd sy’n llesteirio cydweithio. Mae offer dysgu hybrid ac ar-lein fel e-sgol yn cael eu defnyddio i fynd i’r afael â’r bylchau, er bod y defnydd ohonynt yn anghyson. Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi gweld cynnydd mewn rhai ardaloedd trwy bartneriaethau strategol ond, yn gyffredinol, mae’n parhau’n anghyson ledled Cymru, gyda dewis cyfyngedig o bynciau a heriau o ran cyfraddau cadw mewn awdurdodau llai.
Mae cynaliadwyedd darpariaeth chweched dosbarth yn parhau’n bryder dybryd i awdurdodau lleol. Mae chweched dosbarthiadau bach, yn enwedig mewn rhanbarthau gwledig a dwyieithog, yn wynebu heriau o ran hyfywedd ariannol, gostyngiad yn nifer yr ymrestriadau a dewis cyfyngedig o bynciau, yn enwedig mewn pynciau galwedigaethol, ieithoedd tramor modern a cherddoriaeth. Mae cyfraddau cadw o Flwyddyn 11 i’r chweched dosbarth yn isel neu’n amrywio mewn llawer o ardaloedd, gyda llawer o ddysgwyr yn aml yn dewis colegau AB oherwydd llwybrau galwedigaethol ehangach ac ansawdd tybiedig. Er bod rhai awdurdodau lleol wedi sefydlu rhwydweithiau goruchwylio effeithiol a phrosesau sicrhau ansawdd, roedd y rhain yn amrywio o hyd o ran eu hansawdd ac nid oeddent wedi’u datblygu’n ddigonol mewn rhai eraill. At ei gilydd, roedd tirwedd chweched dosbarthiadau yng Nghymru yn adlewyrchu cynnydd a chydweithio, ond yn wynebu pwysau parhaus yn ymwneud â chynaliadwyedd, mynediad cyfartal, parhad cyfrwng Cymraeg a gallu sicrhau ansawdd.
Cynigion ad-drefnu ysgolion
Yn ystod 2024-2025, darparom ymatebion i 33 o gynigion ad-drefnu gan 13 o awdurdodau lleol. Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, nid yw hyn yn rhoi darlun clir o’r newidiadau arfaethedig i ddarpariaeth addysg yng Nghymru, gan fod ychydig o awdurdodau lleol wedi cyflwyno ymgynghoriadau unigol a oedd yn cynnig newid darpariaeth mewn sawl darparwr. Roedd hyn yn ei gwneud yn anodd i ymgyngoreion statudol, fel rhieni, ystyried effaith cynlluniau ar ysgol neu leoliad eu plentyn.
Trosolwg o’r argymhellion
Rhoddwyd o leiaf un argymhelliad i bob un o’r tri darparwr a arolygwyd yn ymwneud â gwasanaethau addysg a’u heffaith. Nodwyd bod Powys yn peri pryder sylweddol a bod angen gweithgarwch dilynol arno:
- Cafodd dau awdurdod lleol argymhelliad i gryfhau ansawdd y cymorth a’r her i ysgolion i wella deilliannau i bob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag ADY, gan gynnwys sut caiff gwybodaeth ei chasglu am ysgolion i gefnogi’r gwaith hwn
- Roedd angen i un ohonynt weithio gyda phartneriaid i ddatblygu a gweithredu model cynaliadwy ar gyfer addysg 16-19 yn gyflym
- Cafodd un ohonynt argymhelliad i gryfhau gwaith i ddatblygu medrau Cymraeg disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
Rhoddwyd o leiaf un argymhelliad i bob darparwr yn ymwneud ag arwain a gwella:
- Roedd angen i ddau awdurdod lleol gryfhau ansawdd ac effaith arweinyddiaeth ar bob lefel, gan gynnwys arweinyddiaeth wleidyddol
- Cafodd dau awdurdod lleol argymhelliad i finiogi prosesau gwerthuso a gwella
- Bu’n rhaid i un awdurdod lleol fynd i’r afael ar frys â materion diogelwch pwysig ar safleoedd ysgolion
- Roedd angen i un awdurdod lleol fynd i’r afael yn strategol â’r heriau ariannol oedd yn wynebu’r gyfarwyddiaeth ac ysgolion