Meithrinfeydd nas cynhelir – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Meithrinfeydd nas cynhelir

Adroddiad sector 2024 - 2025



Data Ysgolion

526

Nifer y lleoliadau sy’n darparu addysg a ariennir yn 2025


Data Gweithgarwch Dilynol

Nifer mewn categori gweithgarwch dilynol ym mis Medi 2024
AE:1

Nifer a dynnwyd yn 2024-2025:
AE: 1

Nifer a roddwyd mewn categori gweithgarwch dilynol ar ôl arolygiad craidd yn 2024-2025:
AE: 1
Mewn categori gweithgarwch dilynol: 1

Cyfanswm mewn categori gweithgarwch dilynol ym mis Awst 2025
AE: 1
Mewn categori gweithgarwch dilynol: 1

Gweithgarwch arolygu

Nifer yr arolygiadau craidd: 90


Crynodeb

Roedd bron pob lleoliad yn darparu safon uchel o ofal, cymorth a dysgu, gan alluogi plant i wneud cynnydd cryf yn eu datblygiad. Roedd medrau cyfathrebu a llythrennedd plant yn parhau i ddatblygu’n dda, yn enwedig lle’r oedd ymarferwyr yn modelu iaith yn fedrus ac yn ymwreiddio geirfa trwy ryngweithiadau ystyrlon. Mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, roedd cymorth i gaffael y Gymraeg yn effeithiol lle’r oedd ymarferwyr yn integreiddio’r Gymraeg yn hyderus mewn arferion beunyddiol. Mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, roedd plant yn gwneud cynnydd da yn eu medrau iaith pan roedd ymarferwyr yn eu trochi yn yr iaith ac yn fodelau rôl cryf. Fodd bynnag, mewn ychydig o leoliadau, roedd diffyg cysondeb yn y ddarpariaeth yn cyfyngu ar ddatblygiad Cymraeg y plant.

Roedd llawer o ymarferwyr yn datblygu dealltwriaeth fathemategol plant trwy brofiadau ymarferol buddiol a’r defnydd manwl gywir o iaith fathemategol. Roeddent yn cyfoethogi dysgu plant trwy ymgysylltu â’r gymuned leol a phrofiadau wedi’u seilio ar natur a oedd yn gwella ymdeimlad o ryfeddod plant a’u dealltwriaeth o’r byd. Roedd llawer o leoliadau’n coleddu ethos y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, gan ymateb yn hyblyg i syniadau a diddordebau plant a chynllunio cyfleoedd dysgu pwrpasol.

Roedd llawer o ymarferwyr yn sicrhau bod plant yn elwa ar weithgareddau a oedd yn datblygu eu medrau corfforol a chreadigol yn dda. Roedd medrau digidol disgyblion yn cael eu hybu’n effeithiol yn y rhan fwyaf o leoliadau. Yn gyffredinol, roedd llawer o ymarferwyr yn defnyddio arsylwadau ac asesiadau yn dda i lywio eu cynllunio, er, mewn ychydig o leoliadau, nid oeddent yn nodi’r camau nesaf ar gyfer dysgu plant unigol yn ddigon da bob tro. Roedd llawer o ymarferwyr yn cynnig profiadau dysgu wedi’u teilwra’n feddylgar ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gyda chydweithio effeithiol, cynlluniau personoledig ac arferion cynhwysol.

Roedd arweinyddiaeth yn gryf yn y rhan fwyaf o leoliadau, gydag arweinwyr lleoliadau’n mynegi gweledigaethau uchelgeisiol, yn hybu hunanwerthuso myfyriol ac yn meithrin dysgu proffesiynol. Roedd partneriaethau cadarnhaol â rhieni, gofalwyr ac asiantaethau allanol yn cyfoethogi darpariaeth ac yn hwyluso pontio llyfn.


Addysgu a dysgu

Ym mron pob un o’r lleoliadau a arolygwyd, roedd y rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd effeithiol wrth ddatblygu eu medrau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth trwy ddysgu yn seiliedig ar chwarae a oedd wedi’i ystyried yn ofalus. Roedd medrau cyfathrebu llawer o blant yn datblygu’n dda. Mewn llawer o leoliadau, roedd ymarferwyr yn sicrhau bod y medrau hyn yn cael eu meithrin trwy amgylcheddau a oedd yn galluogi rhyngweithio parhaus rhwng oedolion a chyfoedion. Lle’r oedd ymarferwyr yn hybu cariad cynnar at lyfrau ac yn darparu cyfleoedd pwrpasol i wneud marciau, roedd plant yn gwneud cynnydd cryf mewn llythrennedd ac yn deall bod ystyr a swyddogaeth i ysgrifennu.

Mewn llawer o leoliadau cyfrwng Saesneg, roedd ymarferwyr yn cefnogi caffael y Gymraeg yn effeithiol trwy fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i blant glywed a chael profiad o’r iaith. Fodd bynnag, roedd datblygiad Cymraeg plant yn llai effeithiol mewn lleoliadau lle nad oedd medrau Cymraeg ymarferwyr wedi’u datblygu’n ddigonol neu lle’r oedd y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n anghyson yn ystod sesiynau.

Yn y rhan fwyaf o leoliadau cyfrwng Cymraeg, roedd medrau Cymraeg plant yn datblygu’n dda. Roedd ymarferwyr yn cynllunio’n effeithiol ar y cyd i drochi plant yn yr iaith. Roeddent yn modelu patrymau Cymraeg yn effeithiol, gan holi plant yn rheolaidd a’u hannog yn barhaus i ymateb yn Gymraeg.

Roedd y rhan fwyaf o ymarferwyr yn cefnogi datblygiad mathemategol plant yn llwyddiannus trwy ddarparu profiadau dysgu a chwarae pwrpasol ac ymarferol a thrwy fodelu iaith fathemategol yn briodol. Yn yr achosion hyn, roedd plant yn dangos medrau cyfrif cadarn, defnydd effeithiol o iaith fathemategol a hyder wrth archwilio rhif, siâp a mesur trwy chwarae.

Roedd ymarferwyr mewn llawer o leoliadau yn croesawu ethos y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir fwyfwy. Yn yr achosion hyn, roedd ymarferwyr yn addasu eu cynllunio’n rheolaidd er mwyn ymateb i gwestiynau a syniadau plant. Roeddent yn darparu ardaloedd dysgu a gweithgareddau a oedd yn cyffroi ac yn diddori plant, gan sicrhau profiadau dilys a phwrpasol. Roedd hyn yn datblygu eu chwilfrydedd yn dda, yn meithrin eu hannibyniaeth ac yn cefnogi anghenion pob plentyn yn llwyddiannus. Darllenwch sut mae plant ym Meithrinfa Plas Gogerddan, Ceredigion, yn elwa ar sesiynau estynedig, rheolaidd mewn ardal coetir a ddatblygwyd yn bwrpasol. Mewn ychydig iawn o leoliadau, roedd ymarferwyr yn datblygu eu hyder a’u dealltwriaeth o ofynion y cwricwlwm o hyd, gan ymgorffori eu gwybodaeth a’u harfer yn addas.

Roedd llawer o ymarferwyr yn cyfoethogi profiadau plant trwy archwilio eu cymunedau a’u hardaloedd lleol. Roeddent yn ymweld â busnesau ac amwynderau lleol ac yn trochi’r plant mewn natur. Roeddent yn defnyddio’r ymweliadau hyn i ddatblygu gwybodaeth plant am y byd ehangach, gan gynnig cyfleoedd ystyrlon i blant ddatblygu ymdeimlad o ryfeddu a chael eu hysbrydoli.

Roedd y rhan fwyaf o blant yn elwa ar brofiadau corfforol wedi’u cynllunio’n dda a oedd yn cefnogi datblygiad eu medrau echddygol manwl a bras ac yn cyfrannu at eu cydsymud, eu cydbwysedd a’u gwydnwch. Yn y lleoliadau mwyaf effeithiol, roedd ymarferwyr yn meithrin medrau creadigol plant yn effeithiol trwy eu hannog i fynegi eu syniadau trwy gelf, cerddoriaeth, symud a chwarae rôl.

Roedd llawer o ymarferwyr yn gwneud arsylwadau gwerthfawr o chwarae a dysgu plant. Roeddent yn defnyddio’r rhain yn effeithiol i ddarparu asesiadau cychwynnol defnyddiol o ddysgu a datblygiad plant ac yn cynllunio cyfleoedd dysgu pwrpasol. Fodd bynnag, mewn ychydig o leoliadau, roedd hyn yn y camau datblygu cynnar o hyd ac nid oedd arsylwadau bob amser yn canolbwyntio’n ddigon clir ar ddysgu a’r hyn y gallai plant ei wneud. Roedd hyn yn cyfyngu ar allu ymarferwyr i gynllunio’r camau nesaf mewn dysgu plant unigol yn ddigon da.

Yn y rhan fwyaf o leoliadau, roedd ymarferwyr yn datblygu medrau ysbrydol, moesol a chymdeithasol plant yn effeithiol, gan sicrhau bod gan blant ddealltwriaeth ddatblygol o werthoedd fel gonestrwydd, tegwch a pharch. Fodd bynnag, mewn ychydig o leoliadau, roedd cyfleoedd i blant ddysgu am fywydau a chredoau pobl o ddiwylliannau heblaw eu diwylliant eu hunain yn gyfyngedig.


Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Roedd bron pob lleoliad yn darparu gofal, cymorth ac arweiniad cryf i blant o hyd, a oedd yn cael effaith gadarnhaol ar eu lles. Roedd bron pob plentyn yn meithrin perthynas gynnes ac ymddiriedus ag ymarferwyr, a oedd yn eu hadnabod yn dda ac yn bodloni eu hanghenion mewn modd sensitif. Roedd lleoliadau a oedd yn sefydlu trefn gyfarwydd yn helpu plant i ddatblygu ymdeimlad cryf o berthyn a theimlad o sicrwydd. Mae Ysgol Feithrin y Trallwng ym Mhowys yn enghraifft dda o sut mae ymwreiddio system gyfathrebu iaith yn cefnogi cynhwysiant.

Mewn llawer o leoliadau, roedd ymarferwyr yn sicrhau bod plant yn chwarae rôl weithredol wrth lunio eu profiadau. Roeddent yn caniatáu i blant wneud dewisiadau pwrpasol am eu chwarae a’u dysgu. Roedd y rhan fwyaf o blant yn symud yn hyderus rhwng gweithgareddau, gan ddewis adnoddau a oedd o ddiddordeb iddynt. Roeddent yn mynegi eu hunain yn glir, gan wybod bod ymarferwyr yn gwrando arnynt â diddordeb a pharch. Ym mron pob lleoliad, roedd plant yn rhannu adnoddau ac yn cymryd eu tro yn llwyddiannus ac yn dysgu i gydweithredu wrth chwarae. Roedd y rhan fwyaf o blant yn dangos empathi ac yn ystyried teimladau pobl eraill. Roeddent yn cefnogi eu ffrindiau ac yn dathlu cyflawniadau ei gilydd.

Roedd y rhan fwyaf o blant yn ymgysylltu’n frwdfrydig ag ystod eang o brofiadau chwarae pwrpasol. Roeddent yn canolbwyntio ar gyfnodau addas ac yn dyfalbarhau â thasgau. Roeddent yn archwilio’n greadigol, gan arbrofi â deunyddiau gwahanol a mwynhau darganfod yn annibynnol. Roedd llawer o blant yn ymfalchïo yn eu cyflawniadau ac yn ymateb yn dda i anogaeth a chanmoliaeth.

Roedd y rhan fwyaf o ymarferwyr yn hybu medrau dysgu annibynnol plant yn effeithiol. Roeddent yn sicrhau bod plant yn cael cyfleoedd i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu gofal personol. Roeddent yn cynnig cyfleoedd pwrpasol i blant weini eu hunain trwy arllwys diodydd a dewis eu byrbrydau cyn clirio. Roedd llawer o’r plant hyn yn rhoi cynnig ar dasgau yn annibynnol cyn gofyn am gymorth gan oedolyn.

Roedd gan bron pob un o’r ymarferwyr ddealltwriaeth gadarn o’u rolau a’u cyfrifoldebau o ran cadw plant yn ddiogel. Roeddent yn sicrhau eu bod yn cael hyfforddiant diogelu cyfredol, gan sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth glir o faterion diogelu a’u dyletswydd i roi gwybod am bryderon. Roedd y rhan fwyaf o leoliadau yn cadw at weithdrefnau diogelwch ac yn cadw asesiadau risg cywir a theilwredig. Fodd bynnag, mewn ychydig iawn o achosion, nid oedd lleoliadau’n darparu digon o fanylion mewn cofnodion ysgrifenedig o bob digwyddiad a oedd yn digwydd ar y safle bob tro, gan gynnwys nodi camau gweithredu pellach a deilliannau.

Roedd llawer o leoliadau’n darparu profiadau dysgu wedi’u teilwra’n feddylgar i blant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), wedi’u cefnogi gan gydweithrediad amlasiantaethol cryf, gan gynnwys Swyddogion Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar. Roedd y lleoliadau hyn yn sicrhau bod aelodau staff dynodedig yn cael eu hyfforddi ac yn gwbl ymwybodol o’r ddeddfwriaeth a’r gofynion priodol. Roeddent yn cydweithio’n agos â rhieni i lunio proffiliau unigol a oedd yn cynnwys cynlluniau cymorth addysgiadol dros ben, a oedd yn cael eu rhannu â gweithwyr allweddol i sicrhau’r deilliannau gorau i blant. Mewn lleoliadau llwyddiannus, roedd staff yn monitro effaith ymyriadau ar anghenion plant yn ofalus ac yn sicrhau eu bod yn ceisio cyngor gan weithwyr iechyd proffesiynol priodol ac yn ei roi ar waith, yn ôl yr angen. Yn Standing to Grow Playgroup ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae ardal synhwyraidd bwrpasol o’r enw ‘ardal y gwenyn’ yn galluogi plant ag ystod o anghenion dysgu a datblygiadol ychwanegol i nodi eu hemosiynau a hunanreoleiddio, yn ôl yr angen.

Roedd llawer o leoliadau’n dangos arferion cynhwysol trwy bontio wedi’i gynllunio’n dda, darpariaeth bersonoledig a defnydd creadigol o amgylcheddau dan do ac awyr agored. Darllenwch sut mae Montgomery Pre-School ym Mhowys yn rhoi pwyslais cryf ar sicrhau bod plant yn teimlo’n hyderus ac yn sicr wrth iddynt symud i’r ysgol gynradd.


Arwain a gwella

Roedd arweinyddiaeth ar draws llawer o leoliadau yn gryf o hyd. Roedd arweinwyr ar draws y sector yn mynegi gweledigaethau clir ac uchelgeisiol yn gyson, a oedd yn blaenoriaethu lles a chynnydd plant. Yn y lleoliadau hyn, roedd arweinwyr yn meithrin amgylcheddau croesawgar a meithringar yn llwyddiannus, lle’r oedd plant yn ffynnu’n emosiynol ac yn gymdeithasol ac yn gwneud cynnydd da.

Roedd y rhan fwyaf o arweinwyr yn creu timau cydweithredol, cryf lle’r oedd ymarferwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi. Roeddent yn sefydlu diwylliannau cadarnhaol lle’r oedd ymarferwyr yn rhannu cyfrifoldebau ac yn cyfrannu at gynllunio a gwneud penderfyniadau. Darllenwch sut mae arweinwyr yn Beach House Nursery yn y Rhyl wedi cyflwyno prosesau gwella pwrpasol ac arddull arweinyddiaeth effeithiol yn ddiweddar, sy’n cael effaith gadarnhaol ar lawer o agweddau ar ddarpariaeth a lles.

Roedd arweinwyr mewn llawer o leoliadau yn defnyddio prosesau hunanwerthuso pwrpasol yn effeithiol i wella ymhellach. Roeddent yn ystyried ystod eang o dystiolaeth i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella. Roeddent yn defnyddio’r mewnwelediadau hyn yn dda i ddatblygu targedau clir a hylaw. Fodd bynnag, mewn ychydig o leoliadau, nid oedd arweinwyr yn canolbwyntio ar y meysydd pwysicaf i’w datblygu bob tro, na’r camau a fyddai’n arwain at y gwelliant mwyaf. Darllenwch sut mae arweinwyr yng Nghylch Meithrin Llanrhaeadr-ym-Mochnant ym Mhowys wedi sefydlu gweithdrefnau hunanwerthuso trylwyr a chadarn, sydd wedi arwain at ddiwylliant o welliant parhaus.

Roedd llawer o arweinwyr yn sicrhau bod trefniadau rheoli perfformiad yn gadarn ac yn bwrpasol. Roedd prosesau goruchwylio ac arfarnu yn cynnig cyfleoedd ystyrlon i ymarferwyr fyfyrio ar eu harfer a gosod nodau targedig. Fodd bynnag, mewn ychydig iawn o leoliadau, nid oedd y prosesau hyn yn cael eu cyflawni’n ffurfiol ac nid oeddent wedi’u hymwreiddio’n llawn yn arferion y lleoliadau. Roedd hyn yn golygu nad oedd pob ymarferydd yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt na pha gamau yr oedd angen iddynt eu cymryd i sicrhau gwelliannau. Roedd llawer o arweinwyr yn rhoi blaenoriaeth i ddysgu proffesiynol ac yn ei deilwra i anghenion unigol ac anghenion y lleoliad.

Roedd llawer o leoliadau’n parhau i feithrin partneriaethau cryf â rhieni a gofalwyr. Roedd arweinwyr yn meithrin perthynas agored ac ymddiriedus â theuluoedd, gan sicrhau eu bod yn teimlo’n wybodus, yn cael eu cynnwys ac yn cael eu gwerthfawrogi. Roedd llawer o leoliadau’n defnyddio platfformau digidol yn effeithiol. Ar ben hynny, roedd sesiynau aros a chwarae rheolaidd, gweithdai i rieni a sgyrsiau dyddiol anffurfiol yn cryfhau perthnasoedd rhwng y cartref a’r lleoliad. Roedd arweinwyr hefyd yn cynnal partneriaethau gwerthfawr ag ysgolion lleol, sefydliadau cymunedol a’r awdurdod lleol a gwasanaethau ymgynghorol rhanbarthol. Mae Cylch Meithrin Machynlleth yn hynod effeithiol wrth ddatblygu cysylltiadau cymunedol cryf sy’n cefnogi medrau cymdeithasol ac emosiynol plant a’u profiadau ehangach. Roedd y cysylltiadau hyn yn cefnogi trefniadau pontio effeithiol ac yn ehangu profiadau dysgu plant. Darllenwch sut mae arweinwyr yng Nghylch Meithrin y Drenewydd ym Mhowys yn defnyddio cysylltiadau cymunedol cryf i gael effaith gadarnhaol ar brofiadau, cynnydd a lles disgyblion.

Roedd llawer o arweinwyr yn dyrannu adnoddau yn ofalus ac yn sicrhau bod eu gwariant yn cyfateb i’w blaenoriaethau gwella. Roeddent yn defnyddio cyllid grant yn effeithiol i gyfoethogi’r cwricwlwm, hybu cynhwysiant a gwella amgylcheddau ffisegol. Yn yr enghreifftiau cryfaf, roedd arweinwyr yn parhau i ymrwymo i welliant parhaus ac yn dangos ymagwedd fyfyriol a rhagweithiol tuag at ddatblygu darpariaeth. Yng Nghylch Meithrin Bro Alun yn Wrecsam, mae staff wedi addasu eu darpariaeth yn feddylgar i greu amgylchedd dysgu cynaliadwy a difyr dros ben.


Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Arolygwyd cyfanswm o 90 o leoliadau meithrin nas cynhelir yn ystod blwyddyn academaidd 2024-2025. Rhoddwyd o leiaf un argymhelliad i bob darparwr, gan roi cyfanswm o 186 o argymhellion.

Rhoddwyd argymhelliad i 73 o ddarparwyr (71%) yn ymwneud ag addysgu a dysgu:

  • Rhoddwyd argymhelliad i 26 o ddarparwyr (29%) yn ymwneud â defnyddio arsylwadau i gynllunio camau nesaf plant yn eu dysgu
  • Rhoddwyd argymhelliad i 11 o ddarparwyr (12%) yn ymwneud â darparu cyfleoedd i blant ddysgu am wahanol ddiwylliannau neu amrywiaeth o fewn cymdeithas
  • Rhoddwyd argymhelliad i 7 o ddarparwyr (8%) yn ymwneud â darparu neu wella cyfleoedd i blant ddatblygu eu medrau

Rhoddwyd argymhelliad i 10 o ddarparwyr (12%) yn ymwneud â lles, gofal, cymorth ac arweiniad:

  • Roedd pob un o’r argymhellion hyn yn canolbwyntio ar agweddau amrywiol ar les, gofal, cymorth ac arweiniad ac yn cynnwys materion fel darparu digon o fanylder mewn cofnodion ysgrifenedig, cofnodi presenoldeb staff yn gywir a chynnal a chofnodi ymarferion tân yn rheolaidd

Rhoddwyd argymhelliad i 51 o ddarparwyr (57%) yn ymwneud ag arwain a gwella:

  • Rhoddwyd argymhelliad i 16 o ddarparwyr (18%) yn ymwneud â datblygiad staff, gan gynnwys ffurfioli neu wella prosesau gwerthuso a goruchwylio
  • Rhoddwyd argymhelliad i 13 o ddarparwyr (14%) yn ymwneud â hunanwerthuso, gan gynnwys cryfhau gweithdrefnau
  • Argymhellwyd y dylai 7 o ddarparwyr (8%) fynd i’r afael â meysydd o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd yn yr arolygiad
  • Rhoddwyd argymhelliad i 6 o ddarparwyr (7%) yn ymwneud â pharhau â’u harfer dda

Gweithgarwch dilynol

Ym mis Medi 2024, roedd un lleoliad nas cynhelir a oedd yn destun adolygu gan Estyn. Cafodd y lleoliad hwn ymweliad dilynol yn gysylltiedig â’i arolygiad a barnwyd ei fod wedi gwneud cynnydd da o ran y materion allweddol ar gyfer gweithredu. Cafodd ei dynnu oddi ar restr y lleoliadau sydd angen eu monitro ym mis Chwefror 2025. Rhoddwyd un lleoliad yn y categori gweithgarwch dilynol adolygu gan Estyn ym mis Rhagfyr 2024, a bydd Estyn yn ymweld â’r lleoliad i fonitro cynnydd.

Ar ôl trafodaeth ag AGC, cytunwyd y byddai un categori gweithgarwch dilynol yn unig, o’r enw Gweithgarwch dilynol ar y cyd, o fis Ionawr 2025 ymlaen. Mae’r dull hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i Estyn ac AGC gynnal gweithgarwch dilynol yn ôl anghenion penodol lleoliad.

Rhoddwyd un lleoliad arall yn y categori Gweithgarwch dilynol ar y cyd yn ystod tymor y gwanwyn 2025. Bydd Estyn ac AGC yn ymweld â’r lleoliad i fonitro cynnydd.