Pob oed
Adroddiad sector 2024 - 2025
Data Ysgolion
27
Nifer yr ysgolion yn 2023
29
Nifer yr ysgolion yn 2024
31
Nifer yr ysgolion yn 2025
Data Disgyblion
30,744
Cyfanswm y disgyblion
1,992
Nifer y disgyblion dan 5 oed
6,398
Nifer y disgyblion rhwng 5 a 10 oed
20,231
Nifer y disgyblion rhwng 11 a 15 oed
2,123
Nifer y disgyblion 16 oed neu’n hŷn
18.3%
Yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (5-15 oed)
2.3%
Saesneg fel iaith ychwanegol A-C (5-15 oed)
29.1%
Yn gallu siarad Cymraeg (5-15 oed)
8.1%
Disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (5-15 oed)
Ffynhonnell: CYBLD – Canlyniadau cyfrifiad ysgolion: Ionawr 2025
Data Gweithgarwch Dilynol
Nifer mewn categori gweithgarwch dilynol ym mis Medi 2024
AE: 3
MA: 1
Nifer a dynnwyd yn 2024-2025
AE: 2
Nifer a roddwyd mewn categori gweithgarwch dilynol ar ôl arolygiad craidd yn 2024-2025
GS: 2
Cyfanswm mewn categori gweithgarwch dilynol ym mis Awst 2025
AE: 1
MA: 1
GS: 2
Gweithgarwch arolygu
Nifer yr arolygiadau craidd: 6, yr oedd gan 6 ohonynt chweched dosbarth
Nifer yr ymweliadau interim: 5
Cyfrwng Cymraeg: 7
Cyfrwng Saesneg: 4
Crynodeb
Parhaodd y sector pob oed yng Nghymru i dyfu o ran nifer. Mae’r ysgolion hyn yn darparu ar gyfer disgyblion o dair neu bedair oed, hyd at 16 oed, ac mae tua hanner ohonynt hefyd yn cynnwys darpariaeth chweched dosbarth. Yn yr achosion cryfaf, roedd arweinwyr yn sicrhau bod dysgu disgyblion yn cael ei gynllunio’n ofalus i ddarparu parhad ar draws yr ystod oedran lawn; roeddent yn adnabod y disgyblion yn dda, yn bodloni eu hanghenion lles yn effeithiol ac yn cynnig cymorth priodol i’w teuluoedd. Nid oedd ysgolion eraill eto wedi gwireddu’r cyfleoedd y mae cyd-destun ysgol pob oed yn eu cynnig. Yn aml, ond nid bob tro, roedd yr achosion hyn lle’r oedd yr ysgol pob oed yn ei dyddiau cynnar. Yn ogystal ag arolygiadau, cynhaliom bum ymweliad interim yn ystod y flwyddyn, hefyd. Roedd y rhain yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i gael trafodaethau proffesiynol ag arweinwyr ysgolion am y cynnydd y mae’r ysgol yn ei wneud wrth fynd i’r afael ag argymhellion o’u harolygiad blaenorol.
Addysgu a dysgu
Ar draws bron pob ysgol, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn ymgysylltu’n barchus â’u cyfoedion a’u hathrawon ac yn ymddwyn yn dda yn ystod gwersi, yn gyffredinol. Ar y cyfan, roedd llawer ohonynt yn gwneud cynnydd digonol o leiaf ac roedd ychydig ohonynt yn gwneud cynnydd cryf. Roedd llawer o athrawon yn sefydlu amgylcheddau cefnogol a chadarnhaol yn yr ystafell ddosbarth, gan greu amodau a oedd yn galluogi’r rhan fwyaf o ddisgyblion i ddysgu’n effeithiol. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o achosion, yn enwedig yn y cyfnodau uwchradd, nid oedd disgwyliadau athrawon yn ddigon uchelgeisiol, a oedd yn arwain at ymgysylltiad cyfyngedig gan ddisgyblion a llai o gynnydd.
Mewn llawer o achosion, roedd athrawon yn cynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu effeithiol. Roedd gan yr athrawon hyn wybodaeth bynciol gref, roeddent yn rhoi esboniadau clir ac yn defnyddio holi’n effeithiol i wirio dealltwriaeth disgyblion. Er gwaethaf y cryfderau hyn, roedd lleiafrif o wersi’n cael eu harwain yn ormodol gan athrawon o hyd, gan gyfyngu ar annibyniaeth disgyblion a’u cyfleoedd i ddatblygu medrau meddwl beirniadol. O ganlyniad, roedd lleiafrif o ddisgyblion yn dod yn orddibynnol ar gyfarwyddyd gan athrawon, yn enwedig yn nosbarthiadau uchaf ysgolion. Ar ben hynny, roedd gorddefnydd o daflenni gwaith wedi’u dylunio’n wael mewn ychydig o achosion yn llesteirio gallu disgyblion i ymgysylltu’n ddwfn â thasgau dysgu a llunio gwaith ysgrifenedig estynedig.
Roedd darpariaeth i ddisgyblion ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol yn gynyddol yn amrywio’n sylweddol. Mewn llawer o achosion, nid oedd ysgolion yn cynllunio’n ddigon cydlynol i ddatblygu medrau’n gynyddol ar draws y cwricwlwm, gan gyfyngu ar gyfleoedd i ddisgyblion gymhwyso ac ymestyn eu medrau’n ystyrlon. O ganlyniad, er bod llawer o ddisgyblion yn caffael medrau llythrennedd a rhifedd sylfaenol yn briodol, roedd cyfleoedd iddynt ddatblygu medrau pellach, fel tasgau rhifedd uwch neu gymhleth yn eu gwaith ar draws y cwricwlwm, yn gyfyngedig. Yn rhy aml, pan roedd ysgolion yn cynllunio cyfleoedd i ddisgyblion gymhwyso eu medrau llythrennedd a rhifedd yn eu gwaith ar draws y cwricwlwm, nid oedd y tasgau hyn yn cynnig her a dilyniant digonol i ddisgyblion. Roedd llawer o ddisgyblion yn caffael medrau digidol sylfaenol priodol, er mai ychydig iawn o ysgolion oedd yn cynllunio’n systemig i ddisgyblion gymhwyso medrau digidol uwch ar draws gwahanol bynciau. Yn yr un modd, mewn llawer o achosion, nid oedd ysgolion yn cynllunio’r cwricwlwm mewn modd cynyddol ar draws y grwpiau oedran. Yr agwedd gryfaf yn hyn o beth oedd bod gan fwyafrif yr ysgolion ddarpariaeth wedi’i chydlynu’n dda i ddatblygu iechyd, lles ac addysg bersonol a chymdeithasol disgyblion ar draws yr ystod oedran. At ei gilydd, roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn llwyddo i ddarparu profiadau cwricwlaidd eang a chytbwys i ddisgyblion.
Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
Roedd bron pob ysgol yn blaenoriaethu lles disgyblion yn effeithiol, gan greu amgylcheddau cynhwysol a gofalgar lle’r oedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu bod yn ddiogel ac yn cael cymorth da. Roedd systemau gofal bugeiliol ac emosiynol yn gryf yn gyffredinol, gyda llawer o ysgolion yn darparu ymyriadau teilwredig effeithiol i fodloni anghenion emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol disgyblion.
Gweithio â’r gymuned i gefnogi lles disgyblion yn Ysgol Henry Richard
Nododd arweinwyr yr angen i sicrhau bod disgyblion a theuluoedd yn cael gwybodaeth am sut i gadw’n ddiogel yn ystod gwyliau’r haf. Trefnodd staff farchnad iechyd a lles werthfawr i deuluoedd o’r enw ‘Llwybrau Lles’. Roedd hwn yn gyfle i deuluoedd ymweld â stondinau gwybodaeth a oedd yn cael eu rhedeg gan ddisgyblion a staff, ynghyd ag ystod o bartneriaid allanol. Rhoddwyd pwyslais ar ddiddordebau disgyblion. Er enghraifft, rhoddwyd gwybodaeth am sut i gadw’n ddiogel ar y traeth, ar-lein ac mewn cyd-destunau amaethyddol. Cyflwynwyd gwybodaeth werthfawr hefyd am fwyta’n iach, iechyd meddwl ac urddas mislif i helpu disgyblion i ddatblygu eu dealltwriaeth o’u hiechyd a lles personol dros gyfnod y gwyliau.
Roedd presenoldeb yn bryder i lawer o ysgolion o hyd. Roedd y mwyafrif ohonynt wedi rhoi systemau monitro cadarn ac ymyriadau targedig ar waith a oedd wedi arwain at welliannau. Roedd llawer ohonynt yn ymgysylltu’n dda â rhieni i dynnu sylw at bwysigrwydd mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Roedd absenoldebau cyson yn her barhaus o hyd, yn enwedig ymhlith disgyblion oed uwchradd, gydag ysgolion yn parhau i ddatblygu strategaethau i fynd i’r afael â hyn. Fodd bynnag, mae presenoldeb islaw’r lefelau cyn y pandemig o hyd a chafodd y rhan fwyaf o ysgolion argymhelliad yn ymwneud â gwella presenoldeb.
Roedd darpariaeth ar gyfer disgyblion ag ADY yn effeithiol, yn gyffredinol. Mewn llawer o achosion, roedd ysgolion yn nodi anghenion disgyblion yn gynnar ac yn cynnig cymorth targedig, buddiol. O ganlyniad, roedd llawer o ddisgyblion ag ADY yn gwneud cynnydd addas neu gryf tuag at eu targedau unigol.
Arwain a gwella
Roedd ansawdd ac effeithiolrwydd arweinyddiaeth ar draws ysgolion yn gymysg, gyda chryfderau clir a meysydd nodedig i’w gwella. Mewn llawer o achosion, roedd penaethiaid yn darparu arweinyddiaeth bwrpasol gyda gweledigaethau a oedd yn cael eu cyfleu’n glir a oedd yn hybu disgwyliadau uchel ymhlith staff a disgyblion. Serch hynny, nid oedd strwythurau a chyfrifoldebau arweinyddiaeth wedi’u diffinio’n glir mewn lleiafrif o ysgolion, nac yn cael eu cymhwyso’n gyson, a oedd yn cyfyngu ar gydlyniad strategol ac atebolrwydd. Roedd y rhain yn ffactorau cyfrannol a oedd yn cyfyngu ar ddatblygu medrau disgyblion yn gynyddol rhwng cyfnodau yn yr ysgolion hynny nad ydynt wedi gwireddu ethos un ysgol pob oed yn llawn hyd yn hyn. Roedd cyfrifoldebau a oedd yn gorgyffwrdd a llinellau rheoli aneglur yn yr achosion hyn yn arwain at aneffeithlonrwydd ac yn lleihau effeithiolrwydd strategaethau gwella.
Mewn llawer o ysgolion, roedd prosesau hunanwerthuso yn rhoi ymwybyddiaeth addas i arweinwyr o gryfderau a meysydd i’w gwella. Fodd bynnag, nid oedd y prosesau hyn yn mesur effaith uniongyrchol darpariaeth ar ddeilliannau disgyblion yn ddigon effeithiol yn gyson. Yn aml, roedd cynllunio gwelliant yn cynnwys targedau perthnasol, ond roedd meini prawf llwyddiant yn aml yn canolbwyntio ar gwblhau camau gweithredu yn hytrach nag effeithiau clir ar ddysgu a chynnydd disgyblion. O ganlyniad, er bod ysgolion yn nodi meysydd i’w gwella yn rheolaidd, roedd effeithiolrwydd a manwl gywirdeb y camau gwella yn amrywio’n sylweddol.
Roedd rheoli adnoddau, gan gynnwys rheoli’r gyllideb, yn her i leiafrif o ysgolion o hyd. Mewn ychydig o achosion, roedd ysgolion yn wynebu diffygion cyllidebol sylweddol oherwydd aneffeithlonrwydd strwythurol a goruchwyliaeth ariannol nad oedd yn ddigon cadarn. Mae mynd i’r afael â’r heriau cyllidebol hyn yn hollbwysig o ran cynnal gwelliant a sicrhau y caiff adnoddau eu defnyddio’n effeithiol i gefnogi deilliannau disgyblion.
At ei gilydd, er bod y rhan fwyaf o ysgolion yn cefnogi agweddau disgyblion at ddysgu a’u lles emosiynol yn effeithiol, roedd cynllunio strategol cydlynol i wella arferion addysgu, presenoldeb, datblygu medrau ac effeithiolrwydd arweinwyr yn rhy amrywiol.
Gweithgarwch dilynol
Cafodd dwy ysgol a oedd yn y categori adolygu gan Estyn o’r flwyddyn academaidd ddiwethaf eu hadolygu mewn panel â’r awdurdod lleol a’u tynnu oddi ar restr y darparwyr y mae angen gweithgarwch dilynol arnynt. Bu un ysgol pob oed yn y categori mesurau arbennig er mis Mai 2022. Mae wedi cael ei monitro bob tymor, lle canfuwyd bod cynnydd yn annigonol ac mae’n parhau i fod yn y categori mesurau arbennig.
Arolygwyd chwe ysgol pob oed eleni. Nid oedd angen gweithgarwch dilynol ar bedair ysgol, ond barnwyd bod angen gwelliant sylweddol ar ddwy ohonynt. Roedd y prif resymau am y lefel hon o weithgarwch dilynol yn ymwneud â diffygion yn yr addysgu, ynghyd â’r effaith gyfyngedig y mae arweinwyr wedi’i chael ar wella darpariaeth.
Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau
Cynhaliwyd arolygiadau mewn chwe darparwr pob oed, gan roi cyfanswm o 23 o argymhellion a rhoi dau ddarparwr mewn categori gweithgarwch dilynol.
Rhoddwyd o leiaf un argymhelliad i chwe darparwr (100%) yn ymwneud ag addysgu a dysgu, a rhoddwyd dau ohonynt mewn categori gweithgarwch dilynol:
- Argymhellwyd y dylai dau ddarparwr wella ansawdd a chysondeb adborth
- Argymhellwyd y dylai un darparwr gynyddu’r defnydd o Gymraeg achlysurol mewn gwersi cyfrwng Saesneg er mwyn annog disgyblion i ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy hyderus
- Rhoddwyd argymhelliad i dri darparwr yn ymwneud â datblygu neu gymhwyso medrau; argymhellwyd y dylai un o’r darparwr mewn categori gweithgarwch dilynol gynnig her ystyrlon, ac argymhellwyd y dylai’r ddau ddarparwr arall sicrhau neu gryfhau darpariaeth i ddatblygu medrau disgyblion
- Rhoddwyd argymhelliad i’r ddau ddarparwr mewn categori gweithgarwch dilynol i wella ansawdd yr addysgu
Cafodd pum darparwr (83%) o leiaf un argymhelliad yn ymwneud â lles, gofal, cymorth ac arweiniad, y rhoddwyd un ohonynt mewn categori gweithgarwch dilynol:
- Argymhellwyd y dylai pob un o’r pump wella presenoldeb (yr oedd un ohonynt mewn categori gweithgarwch dilynol)
- Argymhellwyd y dylai un darparwr mewn categori gweithgarwch dilynol fynd i’r afael â’r materion diogelu a nodwyd yn ystod yr arolygiad
Rhoddwyd o leiaf un argymhelliad i bum darparwr (83%) yn ymwneud ag arwain a gwella, y rhoddwyd dau ohonynt mewn categori gweithgarwch dilynol:
- Rhoddwyd argymhellion i dri darparwr yn ymwneud â hunanwerthuso a chynllunio gwelliant
- Rhoddwyd dau argymhelliad yn ymwneud ag arweinyddiaeth i ddau ddarparwr:
- Argymhellwyd y dylai’r darparwr mewn categori gweithgarwch dilynol gryfhau arweinyddiaeth strategol a darpariaeth i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion yn gynyddol a sefydlu trefniadau rheolaeth linell cadarn a chyson er mwyn sicrhau bod arweinwyr yn dwyn staff i gyfrif am eu gwaith ac yn rhoi ystyriaeth lawn i ddatblygiad disgyblion mewn ysgol pob oed
- Argymhellwyd y dylai’r darparwr arall roi strwythur arweinyddiaeth gydlynol ar waith er mwyn llywio gwella’r ysgol yn effeithiol a chryfhau rheoli adnoddau
- Argymhellwyd y dylai un darparwr, a oedd mewn categori gweithgarwch dilynol, sicrhau ei fod yn bodloni’r gofyniad statudol i ddisgyblion astudio Cymraeg hyd at 16 oed